A1 Sicrhau eu bod yn gwerthuso effeithiolrwydd eu strategaethau i wella cyflawniad, cyfnod pontio a phresenoldeb* disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac yn gwneud gwelliannau pan na fydd strategaethau yn ysgogi’r deilliannau dymunol
A2 Sicrhau bod polisïau gwrthfwlio a chydraddoldeb yn ystyried anghenion penodol disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr*
A3 Sicrhau bod ysgolion yn hyrwyddo diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar draws cwricwlwm yr ysgol*
A4 Sicrhau bod disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael cyfleoedd i fynegi eu barn am eu profiadau dysgu
A5 Cydweithio i gyflwyno a gwella gwasanaethau ar gyfer disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
A6 Archwilio ffyrdd o fagu hyder disgyblion a rhieni o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i hunanbennu eu hunaniaeth ethnig yn gywir
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 Ddiweddaru canllawiau 2008 ‘Symud Ymlaen – Addysg i Sipsiwn-Teithwyr’
* Argymhelliad yn adroddiadau Estyn yn 2005 a 2011
A1 Sicrhau bod ganddynt weithdrefnau cadarn i nodi pa rai o’u disgyblion/dysgwyr sydd â rôl ofalu
A2 Cael aelod o staff enwebedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol am ofalwyr ifanc, sy’n gweithredu fel unigolyn cyswllt ar gyfer gofalwyr ifanc, ac yn hyrwyddo eu hanghenion
A3 Codi ymwybyddiaeth staff am anghenion gofalwyr ifanc
A4 Ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol i adolygu a gwella eu darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc
A5 Olrhain a monitro cynnydd a deilliannau ar gyfer gofalwyr ifanc, yn unol â’r drefn ar gyfer grwpiau eraill o ddysgwyr sy’n agored i niwed
A6 Gwerthuso eu darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc gan gyfeirio at y rhestr wirio yn Atodiad 1 neu becynnau cymorth sydd ar gael.
Dylai awdurdodau lleol:
A7 Ganolbwyntio strategaethau gofalwyr ar gynyddu capasiti ysgolion, colegau ac UCDau i nodi a diwallu anghenion gofalwyr ifanc
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Lunio data dibynadwy a gesglir yn genedlaethol i helpu nodi gofalwyr ifanc
A1 Weithio gyda rhanddeiliaid o’r cychwyn i sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer y ffederasiwn, sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion
A2 Datblygu strwythurau arwain ar gyfer y ffederasiwn, gan gynnwys rhywfaint o amser heb addysgu ar gyfer uwch arweinydd ar bob safle, i gefnogi gweithredu effeithiol o ddydd i ddydd a chyfathrebu da o fewn ysgolion, a rhyngddynt
A3 Defnyddio prosesau hunanwerthuso i nodi sut gellir defnyddio medrau ac arbenigedd staff i wella profiadau dysgu ar gyfer disgyblion ar draws y ffederasiwn
A4 Datblygu’r defnydd o TGCh i gefnogi cydweithio gan staff a disgyblion
Dylai ysgolion sy’n ystyried ffedereiddio hefyd:
A5 Werthuso effaith bosibl ffedereiddio ar safonau a lles disgyblion
A6 Nodi graddau ac effeithiolrwydd unrhyw gydweithio sy’n bodoli’n barod
A7 Nodi a gwerthuso effaith bosibl unrhyw rwystrau rhag ffedereiddio effeithiol, fel pellter daearyddol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A8 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer uwch arweinwyr ysgolion ffederal
A9 Adolygu eu trefniadau cyllid er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion ffederal gydgyfrannu eu hadnoddau’n haws
A10 Rhannu arfer dda o ran ffedereiddio effeithiol gydag ysgolion wrth iddynt ystyried ymgymryd â’r broses ffedereiddio
A11 Sicrhau cymorth cyson ar gyfer yr holl ysgolion o fewn ffederasiwn, trwy ddefnyddio’r un ymgynghorydd her ar gyfer pob ysgol, er enghraifft
Dylai Llywodraeth Cymru:
A12 Archwilio trefniadau i helpu ysgolion ffederal i gydgyfrannu eu hadnoddau
Dylai awdurdodau lleol a thimau troseddau ieuenctid:
A1 Asesu’r cynnydd y mae pobl ifanc yn ei wneud wrth ddatblygu medrau meddal, fel hyder, medrau cymdeithasol, a hunanbarch, ac wrth wella eu medrau llythrennedd a rhifedd
A2 Sicrhau bod cydlynydd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth (addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant) penodedig gan yr holl wasanaethau
A3 Sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hawl i addysg mewn modd amserol, ac adrodd i fyrddau rheoli ynglŷn â’r cyfnod amser y mae pobl ifanc yn ei dreulio heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
A4 Datblygu strategaethau effeithiol sy’n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd
A5 Arfarnu ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith eu gwasanaeth yn well er mwyn gwella ansawdd, a llywio cynllunio strategol er mwyn gwella cyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc
A6 Ehangu ystod aelodau anstatudol y bwrdd rheoli i gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant lleol allweddol
A1 Wella deilliannau Safon Uwch, yn enwedig ar lefel UG, ac yn enwedig deilliannau bechgyn
A2 Gwella’r cyngor a’r arweiniad a roddir i ddysgwyr trwy:
a. ystyried lefelau cyrhaeddiad addysgol dysgwyr mewn TGAU yn ofalus wrth roi cyngor ac arweiniad
b. rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddysgwyr am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
c. rhoi cyngor ar y cyfuniadau gorau o bynciau iddynt
ch. datblygu polisi clir ar ddilyniant o UG i Safon Uwch
d. ystyried yn ofalus nifer y cymwysterau a ddilynir gan bob dysgwr, gan ystyried llwybr dilyniant tebygol pob dysgwr
A3 Gwella medrau dysgu annibynnol dysgwyr cyn-16 er mwyn eu paratoi ar gyfer astudiaethau Safon Uwch
A4 Gweithio gyda’i gilydd i wella cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysgu Safon Uwch
A5 Rhoi sylw priodol i ddeilliannau a darpariaeth mewn Safon Uwch ac UG mewn prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A6 Hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â Safon Uwch ar draws ysgolion a cholegau
A7 Helpu ysgolion i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Fonitro llwyddiant y setiau data mesurau cyson newydd ar draws ysgolion a cholegau
A9 Sicrhau bod newidiadau i’r cwricwlwm a chymwysterau yn rhoi parhad a dilyniant
A10 Adolygu’r fformiwla cyllid ar gyfer cyrsiau Safon Uwch mewn ysgolion a cholegau, a’i gymhwyso ar draws awdurdodau, gyda’r nod i ddileu canlyniadau anfwriadol, fel annog dysgwyr nad ydynt yn addas ar gyfer astudio cyrsiau Safon Uwch i wneud hynny
A11 Datblygu ffordd o gyfleu i ddysgwyr a’u rhieni wybodaeth glir am gyrhaeddiad a darpariaeth Safon Uwch mewn canolfannau unigol