Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad yn nodi dulliau effeithiol i gefnogi gwydnwch disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Gryfhau’r cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu rhagor am opsiynau pwnc newydd, fel pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch, cyn dewis eu pynciau yn derfynol
- A2 Gweithio’n gydweithredol ag ysgolion a cholegau eraill i rannu adnoddau dysgu, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg, a chynyddu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
- A3 Cryfhau’r prosesau monitro a gwerthuso ar gyfer pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch i sicrhau bod athrawon ac arweinwyr yn gallu nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn gysylltiedig ag addysgu, dysgu ac asesu
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A4 Hwyluso mwy o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
- A5 Cynorthwyo ysgolion i werthuso effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch a datblygu cynlluniau gwella targedig
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A6 Fynd i’r afael ag argaeledd cyfyngedig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg Safon Uwch, gan gynnwys gwerslyfrau, yn y pynciau hyn
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Caiff bron pob disgybl gyfleoedd yn yr ysgol i ddysgu sut i reoli eu cyllid, a datblygu eu medrau. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn addysgu disgyblion am gyllid mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Fodd bynnag, nid yw’r gwersi hyn yn ddigonol ar eu pen eu hunain i wneud yn siwr bod gan ddysgwyr y medrau i wneud penderfyniadau ariannol cadarn pan fyddant yn hÅ·n. Yn ychwanegol, mae diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer addysg ariannol.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
I wireddu’r weledigaeth ar gyfer ysgolion cymunedol effeithiol yng Nghymru mewn modd strategol a chynaliadwy:
Dylai ysgolion:
- A1 Feithrin partneriaethau cryf â theuluoedd fel rhan annatod o wella lles a chyflawniad pob disgybl
- A2 Cyfeirio’n glir mewn cynlluniau strategol at sut byddant yn cydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid i wella lles a chyflawniad pob disgybl
- A3 Cyflogi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned i gydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid ehangach
- A4 Cydweithio â’r awdurdod lleol a phartneriaid statudol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau a defnyddio asedau’r ysgol
- A5 Gwerthuso effaith strategaethau ysgolion cymunedol
Dylai awdurdodau lleol:
- A6 Gynnwys camau mewn cynlluniau strategol yn ymwneud â sut byddant yn datblygu mentrau awdurdod cyfan i gynorthwyo ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol
- A7 Cryfhau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau i gynllunio ffyrdd i leoli ystod o wasanaethau mewn ysgolion
- A8 Sicrhau bod cynllunio ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am fannau / ystafelloedd sylfaen i deuluoedd a’r gymuned eu defnyddio
- A9 Cynorthwyo ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys datblygu swydd ddisgrifiad ar gyfer yr aelodau staff hyn
- A10 Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff cymorth ysgolion, cyrff llywodraethol a phartneriaid strategol i ddatblygu ysgolion cymunedol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A11 Ddatblygu cyfres o nodweddion diffiniol, cytûn ar gyfer ysgolion cymunedol, ac ystyried sut caiff ysgolion eu dosbarthu’n ‘ysgolion cymunedol’ a sut caiff y term hwn ei ddefnyddio i nodi ysgolion penodol
- A12 Hyrwyddo manteision ysgolion cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
- A13 Cryfhau’r disgwyliad i gynnwys camau gweithredu ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned mewn cynlluniau strategol ysgolion
- A14 Adnewyddu arweiniad cenedlaethol ar ysgolion cymunedol, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, a rhoi arweiniad ar sut gall ysgolion werthuso a gwella eu strategaethau ysgol gymunedol
- A15 Sicrhau bod cynllunio, arweiniad a safonau adeiladu ar gyfer y rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am leoedd y gall teuluoedd a’r gymuned eu defnyddio