Yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, mae arweinwyr a staff bugeiliol yn cynllunio’n strategol i gefnogi’r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen yn effeithiol. Caiff strategaethau eu llywio gan ymchwil ac arfer orau, ond hefyd trwy arweinwyr a staff sy’n meddu ar wybodaeth leol helaeth am gymuned yr ysgol. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae disgyblion bregus, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn, ac yn ymgysylltu’n gadarnhaol yn yr ysgol, ar y cyfan.
Mae’r tîm bugeiliol wedi sicrhau ymgysylltiad cymunedol cryf. Mae cysylltiadau rhagorol rhwng y cartref a’r ysgol yn sail i gymuned yr ysgol, a pherthnasoedd cadarnhaol yn allweddol i lwyddiant meithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltu. Mae’r ysgol yn cyflogi tri Swyddog Cymorth Bugeiliol (SCB), a’u prif ffocws yw datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u teuluoedd. Mae hyn yn helpu’r ysgol i sicrhau gwelliannau mewn presenoldeb, lles a chyrhaeddiad. Mae’r tîm yn gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion i gyfyngu ar unrhyw rwystrau i’w dysgu. Mae’r Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn cysylltu gyda theuluoedd trwy alwadau ffôn rheolaidd, negeseuon testun, a chyfarfodydd. Pan fydd angen, mae Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn ymweld â chartrefi, ac maent yn allweddol wrth nodi tlodi fel rhwystr rhag dysgu. Mae’r Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn gweithio’n agos gyda Rheolwr Ysgol Cyfnod Allweddol 3, Rheolwr Dysgu Blwyddyn 9 a Rheolwr Ysgol Cyfnod Allweddol 4, sydd i gyd â baich addysgu ysgafn i’w galluogi i gynorthwyo disgyblion a theuluoedd yn ymarferol.
Mae’r ysgol hefyd yn cyflogi Rheolwr Lles sydd â chysylltiadau helaeth gyda’r gymuned ac asiantaethau allanol. Mae’n gweithio’n agos gyda dysgwyr mwyaf bregus yr ysgol a’u teuluoedd. Mae gwybodaeth leol y tîm bugeiliol am y gymuned a’i theuluoedd yn hanfodol i’w lwyddiant. Mae hyn yn helpu’r tîm i nodi a chyfeirio’r teuluoedd hynny sy’n cael trafferth â thlodi yn gynnar, gan ganiatáu ar gyfer cymorth ac ymyrraeth effeithiol.
Mae Cefn Hengoed yn cydweithio’n dda â’i hysgolion cynradd clwstwr a, gyda’i gilydd, maent yn defnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) yn effeithiol i gyflogi Swyddog Cymorth PDG Clwstwr. Mae’r Swyddog Cymorth PDG yn gweithio’n agos gyda phlant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar draws pob un o’r saith ysgol, gan ddileu rhwystrau rhag lles a dysgu disgyblion, yn ogystal â chefnogi pontio.
Mae’r ysgol wedi sefydlu cronfa les i’r ysgol. Mae staff, busnesau lleol a nifer fach o gyn-ddisgyblion sy’n llwyddiannus yn ariannol yn cyfrannu at y gronfa hon. Defnyddir hyn, ynghyd â digwyddiadau rheolaidd i godi arian, i ddarparu hamperi bwyd ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â thalebau tanwydd. Mae’r ysgol hefyd yn cefnogi’r teuluoedd hynny a disgyblion sy’n dioddef o galedi sylweddol oherwydd profedigaeth, trasiedi bersonol neu anaf corfforol. Mae gan y Rheolwr Lles gysylltiadau agos â banc bwyd lleol Eastside a gwasanaeth prydau bwyd ar ôl ysgol Eglwys Sant Thomas. Cyflwynir ‘Slipiau Lles’ bob pythefnos i bob un o’r disgyblion yn ystod gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae hyn yn rhoi cyfle cyfrinachol i ddysgwyr rannu eu gofidiau a’u pryderon â staff bugeiliol sydd wedyn yn gallu nodi materion nid yn unig yn gysylltiedig â thlodi, ond agweddau eraill ar les hefyd. Mae’r strategaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy wrth nodi disgyblion a theuluoedd sydd angen y cymorth mwyaf, ac mae’n allweddol i alluogi’r plentyn i ymgysylltu’n llawn â bywyd ysgol. Er enghraifft, mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys prynu gwisg ysgol, cit addysg gorfforol, offer ysgol, ac mae’n ymestyn i ddarparu nwyddau’r cartref fel dillad gwely a dodrefn mewn rhai achosion.
Mae’r ysgol yn gweithio’n ddiflino gyda’r gymuned leol mewn ymdrech i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau rhag dysgu, yn enwedig oherwydd effaith tlodi. Mae nifer fawr o blant yn byw o drwch blewyn y tu mewn i’r radiws 3 milltir, sy’n golygu eu bod yn methu cael cludiant am ddim, ac mae cerdded i’r ysgol yn her nodedig. I gynorthwyo â hyn, mae’r ysgol yn gweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid cymunedol pwysig, fel cynghorwyr cymuned lleol a darparwyr cludiant lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaeth bws am lai na hanner cost cludiant cyhoeddus. Mae hyn wedi helpu gwella presenoldeb a phrydlondeb disgyblion, yn ogystal â lleihau cost y diwrnod ysgol.
Mae’r ysgol yn parhau i gynnal clybiau brecwast llwyddiannus ar gyfer pob grŵp oedran. Mae Blwyddyn 7 yn derbyn gwasanaeth brecwast pwrpasol trwy bartneriaeth yr ysgol â gwasanaeth arlwyo’r awdurdod lleol, tra bod Blynyddoedd 8 i 11 yn gallu manteisio ar ddarpariaeth brecwast yn yr ysgol. Mae hwn yn gynnig brecwast fforddiadwy sy’n niwtral o ran cost, sy’n galluogi disgyblion i elwa ar fanteision brecwast maethlon. Mae hyn hefyd wedi cefnogi’r ysgol i wella prydlondeb ar ddechrau’r diwrnod ysgol.
Mae’r ysgol yn cynnig gwasanaeth adolygu helaeth y tu allan i oriau ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4. Mae nifer dda o ddisgyblion yn mynychu’r rhain. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 4 yn elwa ar gynigion adolygu dyddiol ar ôl yr ysgol o bynciau craidd a sylfaen fel ei gilydd. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn elwa ar ystod o glybiau gwaith cartref ar ôl yr ysgol, yn ogystal â gweithdai sydd wedi’u hanelu at gefnogi anghenion penodol fel dyslecsia. Mae staff yn yr ysgol yn cydlynu sesiynau adolygu yn ystod y gwyliau yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae hyn yn bennaf ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles a’u deilliannau. Cynhelir nifer o glybiau allgyrsiol ychwanegol hefyd sy’n cael eu mynychu’n dda gan bob grŵp o ddisgyblion.
Mae Siop Gyfnewid (Swap Shop) lwyddiannus yr ysgol i gyfnewid gwisg ysgol yn darparu gwisg ysgol a dillad hanfodol o ansawdd da, wedi’u hailgylchu, fel cotiau, esgidiau a bagiau ysgol. Caiff y Siop Gyfnewid ei hyrwyddo’n llwyddiannus ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac fe gaiff ei chefnogi’n dda gan grwpiau cymunedol lleol. Mae perthnasoedd gweithio cadarnhaol rhwng yr ysgol a’i chymuned leol wedi golygu bod camau sylweddol wedi cael eu cymryd i ddileu’r gwarth sy’n gysylltiedig ag ailgylchu gwisg ysgol, gan hyrwyddo’r Siop Gyfnewid yn hytrach fel menter gadarnhaol i leihau gwastraff a gwariant diangen i deuluoedd.
Mae’r ysgol yn cefnogi dysgwyr sydd wedi eu heithrio’n ddigidol trwy ddarparu Llyfrgell Gliniaduron arloesol wedi’u rhoi gan sefydliad lleol. Mae 75 dyfais ar gael i ddisgyblion o bob grŵp oedran am gyfnodau benthyca o hyd at hanner tymor. Cafwyd llawer o ymgysylltiad, gyda llawer o ddisgyblion yn elwa ar gyfle gwell i ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad disgyblion, ac o ran gwella’u medrau digidol.
Mae’r ysgol yn hyb i’r gymuned ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o’r herwydd. Mae’r rhain yn cynnwys Noson Wybodaeth TGAU Cyfnod Allweddol 4, Noson Helpu’ch Plentyn i Adolygu ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8, a rhaglen effeithiol o ddigwyddiadau pontio Cyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3. Yn ystod y pandemig, datblygodd yr ysgol gyfres arloesol o ddigwyddiadau cymunedol rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau addysgiadol ac addysgol yn archwilio testunau fel iechyd meddwl, aros yn ddiogel ar-lein, ac aflonyddu rhywiol a gorfodaeth. Caiff y rhain eu gwerthfawrogi’n dda gan y gymuned, ac maent wedi parhau i gael eu cynnig ar ôl y pandemig.
Mae arweinwyr yr ysgol wedi gwneud defnydd effeithiol o adroddiad Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gynllunio a thargedu darpariaeth briodol ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno Nosweithiau Diogelu Cymunedol sy’n addysgu disgyblion a’u teuluoedd am agweddau pwysig fel camddefnyddio sylweddau, bwyd iach a gweithgarwch corfforol, cwsg, ac amser sgrin a secstio. Yn ychwanegol, mae’r ysgol wedi cynnal gweithdai llwyddiannus ar gyfer rhieni a gofalwyr yn dangos sut i ddarparu prydau iach ar gyllideb. I gefnogi’r digwyddiadau hyn, mae’r ysgol wedi gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau allanol, fel Barod, YMCA, CAMHS, ei nyrs ysgol a swyddog yr heddlu yn y gymuned leol. Mae’r digwyddiadau yn rhyngweithiol ac yn cael eu cynnal yn ardaloedd defnydd cymunedol yr ysgol, ond maent hefyd yn cael eu recordio ac ar gael yn ddigidol er mwyn iddynt allu cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae’r ysgol yn cydnabod bod ymglymiad rhieni ym mhob agwedd ar addysg eu plentyn yn cael effaith bwerus ar eu cyrhaeddiad a’u lles.