Adroddiad thematig |

Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol

Share this page

Adroddiad thematig | 02/07/2020

pdf, 1.24 MB Added 02/07/2020

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddulliau hynod effeithiol o addysg gymunedol a ddefnyddir gan ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig.

Argymhellion

I wireddu’r weledigaeth ar gyfer ysgolion cymunedol effeithiol yng Nghymru mewn modd strategol a chynaliadwy:

Dylai ysgolion:

  • A1 Feithrin partneriaethau cryf â theuluoedd fel rhan annatod o wella lles a chyflawniad pob disgybl
  • A2 Cyfeirio’n glir mewn cynlluniau strategol at sut byddant yn cydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid i wella lles a chyflawniad pob disgybl
  • A3 Cyflogi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned i gydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid ehangach
  • A4 Cydweithio â’r awdurdod lleol a phartneriaid statudol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau a defnyddio asedau’r ysgol
  • A5 Gwerthuso effaith strategaethau ysgolion cymunedol

Dylai awdurdodau lleol:

  • A6 Gynnwys camau mewn cynlluniau strategol yn ymwneud â sut byddant yn datblygu mentrau awdurdod cyfan i gynorthwyo ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol
  • A7 Cryfhau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau i gynllunio ffyrdd i leoli ystod o wasanaethau mewn ysgolion
  • A8 Sicrhau bod cynllunio ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am fannau / ystafelloedd sylfaen i deuluoedd a’r gymuned eu defnyddio
  • A9 Cynorthwyo ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys datblygu swydd ddisgrifiad ar gyfer yr aelodau staff hyn
  • A10 Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff cymorth ysgolion, cyrff llywodraethol a phartneriaid strategol i ddatblygu ysgolion cymunedol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A11 Ddatblygu cyfres o nodweddion diffiniol, cytûn ar gyfer ysgolion cymunedol, ac ystyried sut caiff ysgolion eu dosbarthu’n ‘ysgolion cymunedol’ a sut caiff y term hwn ei ddefnyddio i nodi ysgolion penodol
  • A12 Hyrwyddo manteision ysgolion cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
  • A13 Cryfhau’r disgwyliad i gynnwys camau gweithredu ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned mewn cynlluniau strategol ysgolion
  • A14 Adnewyddu arweiniad cenedlaethol ar ysgolion cymunedol, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, a rhoi arweiniad ar sut gall ysgolion werthuso a gwella eu strategaethau ysgol gymunedol
  • A15 Sicrhau bod cynllunio, arweiniad a safonau adeiladu ar gyfer y rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am leoedd y gall teuluoedd a’r gymuned eu defnyddio