Rhieni a gofalwyr

Share this page

Mae’r gair Estyn yn golygu “estyn allan”. Credwn fod gweithio ar y cyd â rhieni a gofalwyr yn cynnig cyfle gwych i yrru a ffurfio ein gwaith.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 06/02/2024

Ein rôl

Rydym yn arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant ac yn cynghori Llywodraeth Cymru am ansawdd a safonau addysg yng Nghymru.

Rydym yn gwneud hyn trwy arolygiadau a thrwy ysgrifennu adroddiadau ar themâu addysgol, sy’n cwmpasu ystod o sectorau a thestunau, fel medrau darllen a’r cwricwlwm. Bwriad ein hadroddiadau yw annog meddwl ehangach a rhannu arfer effeithiol.

Eich rôl mewn arolygiad

Mae safbwyntiau rhieni a gofalwyr ar addysg a’u profiadau ohoni yn bwysig iawn i ni. Cewch gyfle i gyfrannu at y broses pan fydd ysgol eich plentyn yn cael ei harolygu.

Gofynnir i chi lenwi holiadur ar-lein ac fe’ch gwahoddir i fynychu cyfarfod gydag arolygwyr yn rhan o’r broses arolygu. Byddwn hefyd yn siarad â grwpiau o blant yn yr ysgol i ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau ar yr ysgol a’u profiadau ohoni.

Cyhoeddir ein hadroddiadau arolygu ar ein gwefan 45 niwrnod ar ôl i’r arolygiad ddechrau. Mae hyn yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau’r tîm arolygu ac yn amlygu cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella.

Nid ydym yn rhoi graddau crynodol cyffredinol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’ mwyach, ond mae ein hadroddiadau’n cynnwys crynodeb o ganfyddiadau allweddol. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad mwy cryno yn benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr ochr yn ochr â’r adroddiad arolygu llawn.

Ymunwch â’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr!

Rydym bellach yn datblygu Cymuned Rhieni a Gofalwyr newydd ac yn croesawu rhieni a gofalwyr o ystod amrywiol ac eang o gefndiroedd a phrofiadau i ymuno.

Rydym eisiau:

  • Deall profiadau addysg i deuluoedd fel eich teulu chi
  • Cael gwybod beth yw eich barn ar feysydd addysg pwysig fel lles disgyblion, y cwricwlwm newydd a chymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Clywed eich barn ar sut rydym yn arolygu, a rhannu ein canfyddiadau â rhieni a gofalwyr
  • Galluogi rhieni a gofalwyr o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddylanwadu ar ein gwaith.

Bydd aelodau o’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ac/neu ymuno â grwpiau ffocws ar-lein.

Mae eich barn yn bwysig a bydd yn ein helpu ni a darparwyr addysg, fel ysgolion a cholegau, i gynorthwyo disgyblion a’u teuluoedd yn well.

I gofrestru’ch diddordeb, ymunwch â’r Gymuned Rhieni a Gofalwyr, llenwch y ffurflen fer hon:

Amdanoch chi
Amdanoch chi
Ynglŷn â’ch plentyn / plant

Ynglŷn â’ch plentyn / plant

Mewnbynnwch gofnodion lluosog os oes gennych
chi fwy nag un plentyn yn mynychu lleoliad addysg
neu hyfforddiant yng Nghymru.

Ynglŷn â’r darparwr addysg neu hyfforddiant y mae eich plentyn / plant yn ei fynychu

Ynglŷn â’r darparwr addysg neu hyfforddiant y
mae eich plentyn / plant yn ei fynychu

Mewnbynnwch gofnodion lluosog os oes gennych chi
fwy nag un plentyn yn mynychu lleoliad addysg neu
hyfforddiant yng Nghymru.

Where does your child attend: