Mae arweinwyr a staff yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd pwrpasol a chyson i ddisgyblion ddatblygu, ymestyn a chymhwyso’u medrau ar draws y cwricwlwm. Maent yn cydnabod bod llawer o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol gyda lefelau medrau is na’r disgwyl ar gyfer eu hoedran. Mae arweinwyr yng Nghefn Hengoed wedi buddsoddi amser ac adnoddau yn ofalus i ddarparu dysgu proffesiynol effeithiol i’w staff er mwyn datblygu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion. Caiff pob maes pwnc ei gefnogi’n dda i ddatblygu adnoddau penodol i bwnc.
Mae’r ysgol yn cyflogi Rheolwyr Llythrennedd, Rhifedd, Dwyieithrwydd a Rheolwr y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Pennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am gydlynu medrau trawsgwricwlaidd, i werthuso a chynllunio ymagwedd yr ysgol at ddatblygiad medrau trawsgwricwlaidd. Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’u mapio ar draws holl feysydd y cwricwlwm er mwyn cynllunio ar gyfer datblygiad medrau yn gynyddol ar draws Cyfnod Allweddol 3.
Mae pob maes pwnc yn gweithio’n gydweithredol ac ochr yn ochr â’r Rheolwyr Llythrennedd, Rhifedd, Digidol a Dwyieithrwydd i sicrhau bod cynllunio ar gyfer medrau yn adeiladu’n bwrpasol ar ddysgu blaenorol disgyblion a bod cyfleoedd i gymhwyso medrau yn gynyddol wrth i ddisgyblion symud drwy’r ysgol. Mae ffocws clir ar greu cysylltiadau dilys rhwng y medrau trawsgwricwlaidd a chynnwys pynciau i sicrhau bod gwersi’n ystyrlon ac yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion. Mae cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso a datblygu’u medrau’n cael eu monitro’n agos gan staff ac arweinwyr ac mae hyn yn helpu sicrhau datblygiad cynyddol medrau yn dda. Mae arweinwyr a staff yn adolygu ac yn gwerthuso’r dull hwn yn rheolaidd ac yn rhannu arfer effeithiol yn barhaus.
Yn ogystal, mae’r ysgol yn defnyddio model seiliedig ar ymholi i ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd lle mae pob maes pwnc, ar ôl gwerthuso cryfderau a meysydd i’w datblygu, yn rhoi prawf ar fenter newydd i wella agwedd ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Caiff arfer orau ei rhannu gyda staff addysgu eraill bob tymor ac, ynghyd â’r gwaith arall sy’n cael ei gyflawni, mae’n sicrhau bod datblygiad cynyddol medrau trawsgwricwlaidd yn cael ei gynllunio a’i gydlynu’n dda.
Medrau meddwl critigol
Yn 2019, cwblhaodd yr holl staff addysgu broses hunanwerthuso ar sail y 12 egwyddor addysgegol sydd wedi’u hamlinellu yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Nododd hyn fod angen gwella’r cyfleoedd i ddatblygu medrau meddwl critigol disgyblion. Yn dilyn sesiwn datblygiad proffesiynol, datblygodd pob maes pwnc adnoddau a gweithgareddau gwersi penodol i bwnc i wella’r cyfleoedd i ddatblygu meddwl critigol disgyblion yn gynyddol. Gweithiodd arweinwyr medrau gyda meysydd pwnc unigol i wella’r cynllunio gan athrawon ar gyfer datblygu meddwl critigol disgyblion a’r defnydd o gwestiynu. Fe wnaeth hyn gynnwys creu gweithgareddau cyfoethog ac ysgogol i annog disgyblion i ehangu eu meddwl ac archwilio safbwyntiau gwahanol. Er enghraifft, datblygodd yr Adran Saesneg gwestiwn meddwl critigol cyffredinol ar gyfer pob uned waith. Roedd gweithgareddau meddwl critigol llai, a luniwyd i annog disgyblion i gymryd risgiau yn eu dysgu, yn ategu’r cwestiynau hyn. Fe wnaeth pob maes pwnc werthuso llwyddiant eu dull a rhannu’u canfyddiadau â’r staff ehangach ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer medrau meddwl yn parhau i lunio rhan o gylch rheoli perfformiad yr ysgol.
Medrau llythrennedd a rhifedd
Mae gan yr ysgol ymagwedd gadarn at ddatblygiad cynyddol medrau llythrennedd a rhifedd ar draws pob maes pwnc trwy ddefnyddio ymddygiadau Llythrennedd a Rhifedd. Buddsoddwyd amser sylweddol yn ystod cyfarfodydd staff a HMS mewn datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r ffordd y dylid addysgu medrau darllen, ysgrifennu, llafaredd a rhifedd, a sut gellir datblygu’r medrau hyn mewn meysydd pwnc unigol. Mae’r ymddygiadau’n rhoi dealltwriaeth glir i staff o sut i gynorthwyo disgyblion i gymhwyso a datblygu’u medrau. Er enghraifft, mae ymddygiadau darllen yr ysgol yn helpu sicrhau bod disgyblion yn defnyddio’u gwybodaeth flaenorol, yn delweddu ac yn cwestiynu agweddau ar yr hyn maen nhw wedi’i ddarllen, yn ogystal ag yn datblygu medrau lefel uwch, fel gwerthuso, dadansoddi a dod i gasgliad. Yn yr un modd, mae ymddygiadau rhifedd yr ysgol yn darparu arweiniad clir ar gyfer cynorthwyo disgyblion i ddatrys problemau mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r defnydd effeithiol o Ymddygiadau Llythrennedd a Rhifedd ar draws yr ysgol yn cael ei werthuso trwy gylch sicrhau ansawdd yr ysgol ac mae’n llywio datblygiad proffesiynol i'r staff.
Medrau Cymraeg
I wella safon Cymraeg llafar mewn gwersi Cymraeg ac ar draws yr ysgol, mae adran y Gymraeg wedi datblygu ymagwedd gyffredin at addysgu llafaredd: ‘pwyntio, rhoi sylw, ymhelaethu, cwestiynu’. Mae’r holl athrawon Cymraeg yn ei defnyddio ac mae wedi helpu i wella ansawdd Cymraeg llafar ac ysgrifenedig disgyblion. Mae datblygiad medrau dwyieithog disgyblion y tu hwnt i wersi Cymraeg yn flaenoriaeth ysgol gyfan ac mae arweinwyr wedi cynnal ffocws cyson ar yr agwedd hon ar eu gwaith trwy’r cylch sicrhau ansawdd. O ganlyniad, mae gan bob maes pwnc gynllun gweithredu clir ar gyfer sut y byddant yn datblygu dwyieithrwydd yn eu maes er mwyn annog Cymraeg llafar naturiol a digymell mewn ysgol lle mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r Rheolwr Dwyieithrwydd, ochr yn ochr â phennaeth y Gymraeg, hefyd wedi datblygu ymadroddion defnyddiol sy’n cael eu harddangos ym mhob ystafell ddosbarth ac yn y ffreutur. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae disgyblion wedi defnyddio’r ymadroddion hyn mewn gwersi i gynyddu pa mor aml mae Cymraeg achlysurol yn cael ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt. Mae defnyddio’r ymadroddion hyn yn rheolaidd yn gysylltiedig â phwyntiau Cymreictod a chaiff disgyblion eu gwobrwyo trwy bolisi gwobrau’r ysgol am ddefnyddio Cymraeg llafar cyffredin yn gyson. Mae’r strategaeth hon wedi helpu i wella hyder disgyblion wrth ddefnyddio’u Cymraeg, eu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru ac mae wedi ysbrydoli disgyblion i fod yn frwdfrydig wrth ddysgu Cymraeg.
Gweithio trawsgwricwlaidd a thraws-sector
Mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn gweithio’n agos gyda’i hysgolion cynradd partner ar ymagwedd gyffredin at ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd yn gynyddol. Yn ddiweddar, mae’r Rheolwr Llythrennedd wedi darparu hyfforddiant diweddaru, er enghraifft ar addysgu darllen i ysgolion cynradd y clwstwr. Yn ogystal, mae’r Rheolwr Rhifedd wedi datblygu polisi cyfrifiadau’r clwstwr i hybu cysondeb wrth addysgu mathemateg a rhifedd ar draws y clwstwr. At hynny, mae adran y Gymraeg wedi dechrau gwaith ar brosiect darllen clwstwr gyda dosbarthiadau Blwyddyn 6 a fydd yn llywio addysgu’r Gymraeg ym mlwyddyn 7 y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith o ddatblygu ymagwedd gyson at addysgu llafaredd trwy’r dechneg ‘pwyntio, rhoi sylw, ymhelaethu, cwestiynu’ sy’n cael ei defnyddio’n llwyddiannus gan adran y Gymraeg.