Adroddiad thematig |

Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 - Hydref 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/10/2013

pdf, 439.42 KB Added 01/10/2013

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. Mae’r adroddiad yn archwilio safonau mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4. Mae trosglwyddo o gyfnod allweddol 4 i’r sector ôl-16 y tu allan i gwmpas yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau.

Argymhellion

Dylai adrannau mathemateg:

  • wneud yn siwr bod disgyblion yn datblygu medrau rhif, algebra a datrys
    problemau cadarn yng nghyfnod allweddol 3;
  • gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi mathemateg trwy wneud yn siwr bod:
    • gwersi wedi’u strwythuro’n dda, yn ddifyr a heriol ac yn cysylltu’n dda â
      thestunau a phynciau eraill; a
    • bod medrau rhif ac algebra yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn
      cyd-destunau newydd;;
  • defnyddio asesiadau i roi gwybod i ddisgyblion sut maent yn gwneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella;
  • lleihau i’r eithaf nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU mewn mathemateg a sicrhau bod disgyblion yn dilyn cyrsiau astudio sy’n galluogi iddynt gyflawni’r graddau uchaf;
  • seilio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant ar dystiolaeth o arsylwi safonau disgyblion mewn gwersi mathemateg a chraffu ar eu gwaith; a
  • rhannu arfer orau mewn ysgolion a rhyngddynt a’i defnyddio i gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • ddarparu cymorth, cyngor a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg, gan gynnwys hyrwyddo rhwydweithiau proffesiynol i rannu arfer orau.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gynorthwyo ysgolion a chonsortia rhanbarthol i godi safonau mewn mathemateg ar gyfer pob disgybl; ac
  • adolygu disgrifwyr lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3 gyda’r bwriad o godi lefelau disgwyliadau ar lefel 5 mewn medrau rhif ac algebra.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol