Adroddiad thematig |

Teithiau gwella deuddeg ysgol uwchradd - Rhagfyr 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/12/2013

pdf, 1.07 MB Added 01/12/2013

Dros y blynyddoedd, mae arolygwyr Estyn wedi ymweld ag ysgolion mewn cyfnodau datblygu amrywiol. Mae arolygiadau craidd ac ymweliadau dilynol, yn ogystal ag ymweliadau a gynhelir fel rhan o waith thematig, wedi galluogi arolygwyr i nodi ysgolion sy’n dda neu’n rhagorol neu sy’n gwneud cynnydd da neu ragorol o fan cychwyn isel.Mae’r astudiaethau achos yn Rhan Un yr adroddiad hwn yn disgrifio ysgolion sydd ar eu teithiau gwella eu hunain. Mae’r dewis o astudiaethau achos yn cynrychioli “teithiau” o ystod o fannau cychwyn ac amrywiaeth o gyfnodau datblygu. Maent i gyd yn ysgolion sydd naill ai wedi gwella neu wedi cynnal lefel uchel o berfformiad. Ym mhob achos, mae’r pennaeth oedd â rôl allweddol mewn sicrhau gwelliant yn parhau i fod yn ei swydd.Lluniwyd yr astudiaethau achos gan staff o’r ysgolion eu hunain ac maent yn dal eu naratif a’u harddull eu hunain. I adrodd y stori lawn, mae llawer o fanylion wedi’u cynnwys er mwyn disgrifio ac esbonio’r prosesau dan sylw. Mae’r astudiaethau achos wedi’u hysgrifennu yn llais yr ysgolion eu hunain, ond maent yn dilyn patrwm tebyg, gan ddechrau gyda chyd-destun yr ysgol, gan nodi tri ffactor a gyfrannodd at y gwaith, ac yn olaf, nodi’r strategaethau a’r gweithredoedd hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus.Mae Rhan Dau yr adroddiad hwn yn dwyn ynghyd rhai o nodweddion cyffredinol gwella ysgolion yn llwyddiannus, ar sail yr astudiaethau achos yn Rhan Un.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol