Arolygu ar gyfer y dyfodol (2024–2030)

Share this page

Ynglŷn â’r newidiadau

Rydym wedi ymgynghori ag unigolion a sefydliadau yn y sectorau gwasanaethau ieuenctid, ysgolion ac UCDau, ôl-16 (addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a cholegau arbenigol annibynnol), Cymraeg i oedolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.

 

 

 

Ein hymagwedd

Cynnwys

 

  • Eleni, byddwn yn ymgysylltu’n eang â’n holl randdeiliaid a phartneriaid i wneud yn siŵr y caiff eu safbwyntiau eu cynnwys yn y modd y byddwn yn mynd i’r afael ag arolygu o 2024 ymlaen. 
  • Hoffem glywed syniadau pawb am ein cynigion cynnar, a all edrych yn wahanol mewn sectorau gwahanol.


Gwrando
 

  • Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau pawb sy’n gysylltiedig ag addysg a byddwn yn gwrando’n ofalus arnynt – o uwch arweinwyr a phenaethiaid i athrawon, darlithwyr, cynorthwywyr dosbarth, rhieni, dysgwyr a’r gymuned ehangach. 


Arbrofi ac adolygu
 

  • Cyn bo hir, byddwn yn dechrau arbrofi ag ymagweddau ychydig yn wahanol tuag at arolygu gydag ychydig o ddarparwyr ar draws pob sector. Bydd adborth o’r arbrofion hyn yn llywio’r cam datblygu nesaf. 
  • Rydym yn adolygu beth a sut rydym yn arolygu i wneud yn siŵr fod ein gwaith yn mynd bob yn gam â newidiadau yng Nghymru ac yn bodloni anghenion y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.
     

 

Beth fydd yn llywio’r ymagwedd newydd?

  • Yng Nghymru, mae gennym genhadaeth genedlaethol i wella addysg a hyfforddiant i bob dysgwr, lle mae gan bob partner sy’n gysylltiedig â gwella addysg rôl allweddol i’w chwarae.
  • Dysgwyr fydd ein blaenoriaeth o hyd. Mae eu lles pennaf wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Bydd y trefniadau newydd yn fwy cynnil ac yn canolbwyntio mwy ar y meysydd pwysicaf sy’n sbarduno gwelliant.
  • Bydd ein trefniadau’n hylaw i bob darparwr ac yn ategu eu prosesau gwerthuso a gwella eu hunain.
  • Byddwn yn archwilio amrywiaeth ehangach o weithgareddau arolygu i gefnogi gwelliant yn well ar draws darparwyr a sectorau unigol. Bydd hyn yn cynnwys sut rydym yn teilwra gweithgarwch mewn arolygiadau darparwyr unigol, arolygiadau thematig ac ystod o ymweliadau eraill. 
  • Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill yn fwy rheolaidd, gan gynnig adborth mwy cyfredol i rieni a gofalwyr. 
  • Rhan o’n nod yw dod ag arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd. Bydd cydweddiad gwell rhwng y prosesau hyn yn cefnogi gwelliant yn well.
  • Byddwn yn defnyddio’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er enghraifft gyda lleoliadau y mae angen cefnogaeth a monitro arnynt i wella.
     

Sut gall gweithwyr proffesiynol addysg a rhieni gyfrannu at y broses adolygu?

  • Yn ystod tymor yr haf 2023, byddwn yn rhannu arolwg i gasglu myfyrdodau a mewnwelediadau gan ystod o randdeiliaid, a fydd yn cyfrannu at ein cynlluniau wrth i ni benderfynu ar ein trefniadau newydd ar gyfer arolygu.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Diolch i chi am eich ymgysylltiad parhaus i ddatblygu ein trefniadau arolygu newydd.

Roeddem yn falch bod cynifer ohonoch wedi rhoi o’ch amser i ymateb i’n hymgynghoriadau hyd yn hyn a mynegi eich cefnogaeth i’r ymagweddau, yn ogystal â rhannu llawer o syniadau gwych i gyfrannu at y cam datblygu nesaf.

Isod, cewch ganlyniadau’r ymgynghoriadau a wnaed hyd yn hyn. Byddwn yn ychwanegu ymatebion pellach wrth i ni ymgynghori â mwy o sectorau.

Sectorau addysg a hyfforddiant ôl-16

Rydym yn esblygu ein modelau arolygu ôl-16. Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cyfrannu at ein hymgynghoriad diweddar ar ein cynlluniau arfaethedig yn y sectorau addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, a cholegau arbenigol annibynnol.

Rydym yn falch o rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad diweddar fydd yn llywio ein syniadau cyn i ni beilota ein trefniadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni.

Cymraeg i Oedolion - Canlyniadau’r Ymgynghoriad

Wrth i ni ddatblygu ein trefniadau ar gyfer 2024 rydym wedi cynnig cyfres o weithgareddau arolygu gyda'r nod o ysgogi gwelliant yn y sector Cymraeg i Oedolion.

Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a gyfrannodd at ein hymgynghoriad diweddar. Gellir dod o hyd i ganfyddiadau ein hymgynghoriad yma – canfyddiadau fydd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio ein camau nesaf.

Canlyniadau’r Ymgynghoriad – Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL)

Rydym yn datblygu ein modelau arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Rydym yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cyfrannu at ein hymgynghoriad diweddar.

Rydym yn falch o rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad diweddar fydd yn llywio ein syniadau cyn i ni beilota ein trefniadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni.

Ymatebion ysgolion ac UCDau i’r ymgynghoriad

Rydym yn mynd ati’n raddol i ddatblygu arolygu mewn Ysgolion ac UCDau ac rydym eisoes wedi gwneud nifer o newidiadau i’r fframwaith arolygu, sydd wedi cael eu rhoi ar brawf dros y 12 mis diwethaf. Bydd peilota pellach yn dechrau ar ôl hanner tymor yr hydref.

Arolygiadau gwaith ieuenctid - ymateb i'r ymgynghoriad

Bydd ein dull arolygu wedi’i deilwra i’r sector gwaith ieuenctid. Rydym yn bwriadu datblygu model all gael ei gymhwyso i waith ieuenctid a gyflwynir gan awdurdodau lleol ond ar wahân hefyd i fudiadau sector gwirfoddol sy’n darparu gwaith ieuenctid, lle y bo’n briodol.

Byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cyflawni arolygu gyda’r sector a thrwy ymgysylltu â phobl ifanc sy’n manteisio ar waith ieuenctid cyn cynnal peilot yn ystod y flwyddyn.

Rhan o Arolygu