Adroddiad thematig |

Arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd - Hydref 2014

Share this page

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn 2013-2014. Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid, staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gallai fod o ddiddordeb hefyd i rieni a staff mewn sectorau eraill ac asiantaethau sy’n gweithio gydag ysgolion i wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu.Prif ffocws yr adroddiad arolwg hwn yw nodi’r modd y mae ysgolion yn defnyddio arsylwi ystafelloedd dosbarth yn y ffordd fwyaf effeithiol i wella safonau cyflawniad disgyblion. Mae’r arolwg hwn yn nodi’r modd y gall arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol helpu athrawon i wella addysgu a dysgu a helpu arweinwyr i wella i gefnogi mentrau a fydd yn gwella datblygiad proffesiynol pob aelod o staff.

Argymhellion

Dylai arweinwyr ysgol:

  • sefydlu diwylliant ar y cyd o wella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol fel bod pob un o’r staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau;
  • sefydlu arferion hunanarfarnu sy’n ystyried ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys arsylwadau ystafelloedd dosbarth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar safonau cyflawniad disgyblion ac ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu;
  • datblygu polisïau ac arferion clir ac eglur ar gyfer arsylwi ystafelloedd dosbarth, y mae pob un o’r staff yn eu deall a’u cymhwyso;
  • cynnal deialog broffesiynol gydag athrawon a staff cymorth yn fuan ar ôl arsylwi ystafell ddosbarth;
  • trefnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer staff, wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwadau ystafell ddosbarth, sy’n cyfateb i flaenoriaethau’r ysgol a blaenoriaethau unigol;
  • ar gyfer arsylwadau ystafell ddosbarth y mae angen barnau ar eu cyfer, datblygu disgrifwyr barn a gweithdrefnau safoni i sicrhau cysondeb; a
  • hyfforddi fel arolygwyr cymheiriaid er mwyn gallu alinio a rhannu eu harfer ag arfer rhai eraill fel arolygwyr.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • helpu ysgolion sydd â diwylliannau cryf o ran gwella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol ac arsylwi ystafelloedd dosbarth i rannu eu harfer ag ysgolion eraill.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi cyfleoedd i ysgolion sydd â diwylliannau cryf o ran gwella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol ac arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol rannu eu harfer ar wefan Dysgu Cymru.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol