Barod yn Barod!

Share this page

Rydym yn cydnabod y pwysau y gall arolygiad ei greu, ond hoffem fod yn glir nad ydym am i ddarparwyr orbaratoi ar gyfer ymweliad arolygu.

Mae pob diwrnod ym myd addysg yn bwysig. Rydych chi’n barod yn barod!

Y peth pwysicaf i’n timau arolygu yw gweld beth sy’n digwydd ar lawr yr ystafell ddosbarth a siarad â disgyblion, staff ac arweinwyr.

Nid ydym am i arolygu fod yn faich, ond yn brofiad cadarnhaol sy’n rhan naturiol o’ch proses wella arferol. Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu mwy am ein hymagwedd a’r gwir y tu ôl i’r chwedlau cyffredin am arolygu.

Gwrandewch ar Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn ac Osian Jones, Pennaeth Ysgol Plas Coch, Wrecsam yn trafod Barod yn Barod ar: 

BBC Radio Cymru Dros Ginio
 

test

 

Ysgol Gynradd Alexandra, Wrecsam

Mae’r fideo hwn yn cynnwys Arolygydd Estyn, Richard Lloyd, ynghyd â staff addysgu o Ysgol Gynradd Alexandra yn Wrecsam – Lisa Roberts, Pennaeth, Kelly Walker, Arweinydd Cynhwysiant Lles, a Jane Roberts, Cynorthwyydd Addysgu. 

Gwyliwch i glywed myfyrdod gonest ar brofiadau diweddar yr ysgol o arolygiad. 

Chwedlau arolygu – a’r ffeithiau

  • Chwedl 1: Mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer arolygiad – Anghywir!
    Y ffeithiau: – Rydyn ni eisiau gweld sut olwg sydd ar eich ysgol o ddydd i ddydd. Rydyn ni eisiau amlygu beth rydych chi’n ei wneud yn dda ac archwilio’r meysydd y gellir eu gwella. Nid ydym am i leoliadau newid yr hyn maent yn ei wneud oherwydd ein bod ni’n ymweld â nhw.

    Felly – peidiwch â pharatoi ar gyfer arolygiad!
     
  • Chwedl 2: Mae angen i chi greu adnoddau a pholisïau’n benodol ar gyfer yr arolygiad – Anghywir!
    Y ffeithiau: Rydym yn gofyn am ychydig iawn o ddogfennau cyn yr arolygiad. Nid oes angen i chi lunio dogfennau ar gyfer wythnos yr arolygiad yn benodol – ac nid oes angen i chi dacluso unrhyw ddogfennau. Rydym yn gwybod bod dogfennau mewn ysgolion yn ddogfennau gweithio.
     
  • Chwedl 3: Rhaid i athrawon lunio cynlluniau gwersi i’w rhoi i arolygwyr – Anghywir!
    Y ffeithiau: Rydyn ni eisiau gweld eich ysgol fel y mae mewn gwirionedd ac mae ein harsylwadau gwersi’n canolbwyntio’n bennaf ar gynnydd dysgwyr, ansawdd yr addysgu a pha mor dda y mae dysgwyr yn ymateb. Nid oes angen cynlluniau gwersi unigol arnom.
     
  • Chwedl 4: Mae arolygu’n ymwneud â barnau yn unig – Anghywir!
    Y ffeithiau: Rydym am i arolygu gyfrannu at wella addysg. Rydym wedi dylunio arolygu â llawer o gyfleoedd ar gyfer trafodaethau â darparwyr sy’n canolbwyntio ar wella. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar ansawdd cyflwyno a’r effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr. Rydyn ni yma am yr un rheswm â chi – i helpu dysgwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn yr ysgol.

Barod yn Barod – Chwalu’r chwedlau ac ateb eich cwestiynau

Gwyliwch ein AEM yn trafod y chwedlau cyffredin yn ymwneud ag arolygu gydag arweinwyr ysgolion ac yn ateb cwestiynau cyffredin am beth mae arolygu’n ei gynnwys.

Y gwir

Bydd ein timau arolygu:

  • Yn gofyn am ychydig iawn o ddogfennau cyn yr arolygiad a byddant yn glir ynghylch pa rai ydynt
  • Yn gofyn bod dogfennau allweddol presennol, fel polisïau ysgol gyfan, cofnodion y corff llywodraethol, cofnodion o waith adrannau a chofnodion o gyfarfodydd pwysig ar gael
  • Yn arolygu pob agwedd ar ddarparwr
  • Yn gofyn bod yr holl ohebiaeth sy’n cael ei hanfon gan Estyn cyn arolygiad yn cael ei rhannu y tu hwnt i’r UDRh gyda phob un o’r cyflogeion.

Nid yw ein timau arolygu:

  • Yn ffafrio ymagwedd benodol tuag at strwythur gwers neu’r modd y caiff ei chyflwyno – rydym yn barnu yn ôl effaith
  • Yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon lunio cynlluniau gwersi i’w rhoi i’r arolygwyr
  • Yn disgwyl neu eisiau i ddarparwyr lunio unrhyw ddogfennau at ddibenion yr arolygiad yn unig
  • Yn cadw eu canfyddiadau iddyn nhw’u hunain. Byddant yn eu rhannu ag uwch arweinwyr a’r enwebai yn ystod yr arolygiad ac yn ystod adborth ar yr arolygiad.

Rydym am i chi wybod:

  • Bod ein timau arolygu wedi’u hyfforddi i ofyn y cwestiynau cywir, deall sefyllfa pob darparwr a chynnig mewnwelediad ar sail gwerthusiad teg, tryloyw a chadarn.
  • Bod ein harsylwadau gwersi’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd dysgu a pha mor dda mae dysgwyr yn ymateb i’r profiadau dysgu.
  • Ein bod yn deall bod llawer o ddogfennau allweddol yn ddogfennau gweithio ac nad ydym yn disgwyl nac eisiau i ysgolion ailddrafftio/diweddaru/tacluso dogfennau ar gyfer arolygiad yn unig.
  • Nad oes angen i wasanaethau gwella ysgolion gynnal arolygiadau ffug neu adolygiadau cyn ymweliad gan Estyn.

Cwestiynau cyffredin am arolygu

  • Cwestiwn:
    Sut olwg sydd ar arolygiad Estyn?

    Ateb:
    Mae gennym wybodaeth fanwl, gan gynnwys dolenni i esboniadau ar gyfer arolygiadau yn eich sector chi ar ein tudalen Esbonio Arolygu.
     
  • Cwestiwn:
    Sut ydw i’n gwybod pa ddogfennau y bydd angen i’r tîm arolygu eu gweld?

    Ateb:

    Byddwch yn cael rhestr lawn o’r dogfennau gofynnol pan fydd yn cael eich hysbysu am yr arolygiad trwy borth ein Hystafell Arolygu Rithwir - 

    Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sicrhau bod y dogfennau canlynol ar gael i’r tîm arolygu tra y bydd ar y safle: 
    Initial Contact Form (ICF)  

  1. Ffurflen Cyswllt Cychwynnol (FfCC)  
  2. Data CYBLD/FfCC ar gyfer yr ysgol
  3. Cynllun Datlygu’r Ysgol (CDY) neu Gynllun Gwella’r Ysgol (CGY)  
  4. Amserlenni: Amserlenni dosbarthiadau ar gyfer cyfnod yr ymweliad 
  5. Rhestr lawn o enwau disgyblion i wneud trefniadau i grŵp o ddysgwyr gyfarfod ag arolygwyr
  6. Gwybodaeth am staff (enwau, cyfrifoldebau a chymwysterau)
  7. Map o’r ysgol
  8. Polisi Diogelu/Amddiffyn Plant
  9. Adroddiad Hunanwerthuso (AH) Diogelu wedi’i lenwi (gellir defnyddio templed yr awdurdod lleol, y templed cenedlaethol neu dempled Estyn)
  10. Rhestr o wiriadau DBS staff (CRB gynt) sy’n cynnwys rhifau’r gwiriadau, y dyddiad cyhoeddi a lefel y gwiriad a gwblhawyd e.e. manylach â’r rhestr gwahardd. 

 

  • Cwestiwn:
    Beth sydd wedi digwydd i’r system raddau?

    Ateb:

    Nid ydym yn rhoi graddau crynodol ar ôl cwblhau arolygiad, mwyach. Yn hytrach, bydd ein hadroddiadau’n rhoi gwerthusiad manwl o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella. Yn ystod arolygiad, byddwn yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol sy’n cefnogi gwella. 

    Bydd pob agwedd ar ddarpariaeth yn cael ei hystyried, ond bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r prif gryfderau a meysydd i’w gwella.

    Trwy gydol yr arolygiad, bydd arolygwyr yn rhoi adborth manwl. Bydd yr adroddiad terfynol yn rhoi cipolwg ar beth sy’n gweithio’n dda ac unrhyw feysydd y mae angen eu gwella. Rydym hefyd yn cyhoeddi fersiwn fwy cryno o’r adroddiad i rieni a gofalwyr.
     

  • Cwestiwn:
    Beth mae arolygwyr yn edrych arno yn ystod arolygiad?

    Ateb:

    Mae’r fframwaith cyfredol yn cynnwys: Dysgu; Lles ac agweddau at ddysgu; Addysgu a phrofiadau dysgu; Gofal, cymorth ac arweiniad; Arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae arolygwyr yn edrych ar beth sy’n gweithio’n dda a pha feysydd y mae angen eu gwella. Mae arolygwyr eisiau gweld sut brofiad y mae dysgwyr yn ei gael o ddydd i ddydd.

    Hoffem weld wythnos ysgol arferol – nid ydym yn disgwyl i bopeth fynd yn berffaith yn ystod arolygiad ac nid ydym am i ddarparwyr orbaratoi na gwneud pethau’n wahanol i’r arfer yn ystod wythnos arolygiad – bydd disgyblion yn aml yn dweud wrthym os bydd hynny’n digwydd!
     

  • Cwestiwn:
    A all darparwyr siarad ag arolygwyr cyn yr arolygiad?

    Ateb:
    Bydd yr arolygydd arweiniol yn trefnu cyfarfod rhithwir â’r pennaeth yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr arolygiad. Mae hwn yn gyfle i gadarnhau’r trefniadau, codi unrhyw bryderon a thawelu unrhyw nerfau.

 

  • Cwestiwn:
    A yw arolygwyr am weld cynlluniau a strwythurau gwersi?

    Ateb:
    Nid yw arolygiad Estyn yn ymwneud â gwaith papur – bydd arolygwyr yn edrych ar effaith dysgu. Rydym yn canolbwyntio ar drafodaeth agored a gonest a deialog broffesiynol. Mae hyn yn golygu gweld eich lleoliad fel y mae – nid oes angen cynlluniau gwersi unigol arnom.   

 

  • Cwestiwn:
    Sut mae arolygwyr yn gwneud penderfyniadau yn eu hadroddiad?

    Ateb:

    Mae arolygwyr yn ystyried cyd-destunau a heriau gwahanol y mae pob darparwr yn eu hwynebu ac yn teilwra eu hymagwedd. Maent yn triongli tystiolaeth i ddod i gasgliadau cadarn, gan ystyried ystod o dystiolaeth wahanol. Yn y pen draw, dysgwyr sydd wrth wraidd arolygu – ac mae arolygwyr yn canolbwyntio ar ansawdd addysgu a dysgu i weld beth sy’n gweithio’n dda, yn ogystal â meysydd i’w gwella.

    Mae ein hymagwedd yn un hyblyg. Rydym yn addasu i bob darparwr, gan ddefnyddio methodolegau wedi’u teilwra sy’n ystyried y darlun cyflawn.
     

  • Cwestiwn:
    Sut gall darparwyr baratoi orau ar gyfer arolygiad Estyn?

    Ateb:

    - Byddwch yn agored ac yn onest ac yn barod i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol.
    - Byddwch yn glir ynghylch eich blaenoriaethau i wella deilliannau i ddysgwyr a sut rydych wedi penderfynu ar y rhain.
    - Meddyliwch am sut rydych wedi gwneud gwahaniaeth i’ch dysgwyr eisoes a sut gallwch ddangos tystiolaeth o hyn yng ngwaith disgyblion.

    Os nad oes gan eich ysgol Arolygydd Cymheiriaid – efallai yr hoffech ystyried gwneud cais i ymgymryd â’r hyfforddiant. Mae’n ddysgu proffesiynol gwych ac yn helpu i gael gwared ar ddirgelwch y broses arolygu.

  • Cwestiwn:
    Beth yw bwriadau Estyn ar gyfer y broses arolygu?

    Ateb:
    Ein nod yw dod ag arolygu a threfniadau gwerthuso ysgolion eu hunain yn llawer nes at ei gilydd.
    Mae ein hymagwedd sy’n esblygu yn gam cadarnhaol ymlaen, gan symud oddi wrth raddau un-gair i adborth manylach a sgyrsiau dwy ffordd sy’n hybu deialog broffesiynol rhwng arolygwyr a darparwyr sy’n mynd at wraidd unrhyw faterion y mae angen eu datrys.

    Ein nod yw lleihau rhywfaint o’r dyblygu yn y fframwaith cyfredol a chanolbwyntio ar yr hyn sydd o’r pwys mwyaf, a chynnig camau y gall darparwyr eu cymryd i wella eu canlyniadau – gan sicrhau’r deilliant gorau i ddysgwyr yn y pen draw.

    Mae ein hadroddiadau manwl yn ein galluogi i rannu profiadau o bob rhan o Gymru i gefnogi gwelliant ar draws y wlad.
     

Dolenni defnyddiol

Dysgwch fwy am sut mae ein hymagwedd at arolygu yn parhau i esblygu ac am ein hymgynghoriadau â darparwyr:

Dysgwch fwy am sut y caiff arolygiadau eu cynnal:

Dysgwch fwy am swyddogaethau’r Arolygwyr yma: 

 

Lawrlwythwch asedau’r ymgyrch Barod yn Barod i helpu i reoli disgwyliadau eich cydweithwyr. Lledaenwch y neges – rydych chi’n Barod yn Barod!

Adnoddau

Barod yn Barod Graffigau cyfryngau cymdeithasol

Barod yn Barod Graffigau cyfryngau cymdeithasol
Barod yn Barod Graffigau cyfryngau cymdeithasol

Ready Already Social Media graphic

Ready Already Social Media graphic
Ready Already Social Media graphic
Rhan o Arolygu