Datganiad preifatrwydd

Share this page

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu ein polisi ynglŷn â’r modd yr ydym yn cadw ac yn defnyddio gwybodaeth yr ydym wedi’i chael tra rydych chi wedi bod yn defnyddio gwefan Estyn.

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r wefan gyfan.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 06/08/2020

Eich preifatrwydd chi

Mae Estyn wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd. Rydym wedi creu ein gwefan fel nad oes yn rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth bersonol i ddefnyddio ein safle, oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny.

Os byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol i ni, bydd dim ond yn cael ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.

Rydym hefyd yn casglu ac yn storio gwybodaeth ddienw ynglŷn â’r modd yr ydych yn defnyddio ein safle trwy ddefnydd cwcis (ffeiliau yr ydym yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur chi neu ddyfais mynediad arall). Gallwn fynd at y wybodaeth hon pan fyddwch yn ymweld â’n safle.

Ymwadiad

Os byddwch yn cofrestru i gael diweddariadau, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar weinydd diogel, ac ni fydd y data yn cael ei rannu gydag unrhyw sefydliadau y tu allan i Estyn. Bydd dim ond yn cael ei ddefnyddio i roi diweddariadau e-bost i chi ar y testunau rydych wedi gofyn amdanynt.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth yn [email protected]

Defnydd cwcis ar safle Estyn

Ffeiliau testun bach sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw yw cwcis. Cânt eu defnyddio’n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio’n effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle.

Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i gasglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â’r modd y defnyddir ein gwefan. Mae’r wybodaeth hon yn helpu i ni wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell ar gyfer ein hymwelwyr. Yn ychwanegol, mae’r swyddogaeth cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn ei defnyddio yn gosod cwcis hefyd.

Mae mwy o wybodaeth am gwcis ar gael yn http://www.allaboutcookies.org/

Derbyn cwci safle Estyn (Parti 1af)

Defnyddir y cwci hwn i gofnodi os yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan Estyn.

Sesiwn PHP (Parti 1af)

Gosodir y cwci sesiwn hwn pan fydd ymwelydd yn llwytho tudalen i ddechrau. Mae angen cwci ar y dechnoleg waelodol i bweru’r safle a bydd yn para mor hir ag y mae’r ymwelydd ar wefan Estyn ac fe gaiff ei dynnu pan fydd yr ymwelydd yn cau ei borwr. Nid yw’n storio unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr; fe’i defnyddir i gynnal cyswllt unigryw rhwng y porwr a’r safle at ddibenion ceisiadau am wybodaeth a data sesiwn a ddefnyddir gan y safle i reoli mewngofnodion defnyddiwr. Gosodir y cwci hwn heb gadarnhad gan ei fod yn hanfodol i weithrediad sylfaenol y wefan.

Google Analytics (Parti 1af)

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ddienw am y modd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle, o ble y mae ymwelwyr wedi dod at y safle a’r tudalennau y gwnaethant ymweld â nhw.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gasglu adroddiadau a dadansoddi’r modd y gallwn wella gwefan Estyn i sicrhau ei bod yn gyfrwng cyfathrebu effeithiol.

AddThis (3ydd Parti)

Defnyddir y cwci hwn i ddod â’r swyddogaeth ‘rhannu’ i mewn i’r safle; caiff ei lwytho wrth lwytho’r dudalen, nid wrth glicio ar y botwm/y ddolen gyswllt.

Sut i dynnu ac analluogi cwcis

I analluogi storio cwcis a thynnu unrhyw gwcis sydd eisoes wedi’u gosod, ewch i http://www.allaboutcookies.org/.

pdf, 345.15 KB