Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i estyn.llyw.cymru. Estyn sy’n cynnal y wefan hon. Rydym ni eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
• newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
• chwyddo mewn i hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar ochrau’r sgrin
• symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
• gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Hefyd, rydym wedi gwneud i destun y wefan fod mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Nid oes testun amgen ar gael gan ddelweddau mewn un ddogfen PDF neu fwy.
Mae teitl y dudalen ar goll o rai dogfennau PDF.
Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.
Adborth a gwybodaeth cysylltu
Os bydd angen gwybodaeth arnoch o’r gwefannau hyn mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 2 ddiwrnod.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen cysylltwch â ni, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom i gael cyfarwyddiadau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r gwefannau hyn
Rydym ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y gwefannau hyn. Os cewch unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected]
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Mae Estyn yn ymroi i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Nid yw’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid oes testun amgen ar gael gan ddelweddau mewn un ddogfen PDF neu fwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun) WCAG.
Mae teitl y dudalen ar goll o rai dogfennau PDF. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.2 (Tudalen â theitl) WCAG.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac eraill
Nid yw penawdau gweledol mewn rhai o’n dogfennau pdf wedi’u pennu’n rhaglennol ac nid ydynt yn bodloni safonau hygyrchedd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) WCAG.
Nid yw capsiynau caeedig ar gael ar gyfer rhai fideos. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) WCAG.
Mae priodoleddau teitl ar goll o fideos YouTube ymgorfforedig sy’n golygu efallai na fydd rhai defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn gallu cael gwybod beth yw eu cynnwys na’u diben. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.4.2 (Teitl Tudalen) a 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) WCAG.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at y fideos hyn oherwydd fe’u cyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 ac maent wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw fideos newydd a gyhoeddir yn cynnwys capsiynau caeedig.
Beth rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Cynhaliom archwiliad hygyrchedd ym Mawrth 2023 a chwblhau gwaith datrys erbyn Mehefin 2023. Rydym yn gweithio i amlygu a datrys y diffyg cydymffurfio sydd wedi’i amlygu uchod. Bydd yr holl drwsiadau technegol yn cael eu cwblhau erbyn diwedd 31 Rhagfyr 2023.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Ionawr 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 9 Awst 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Mawrth 2023. Gwnaed y prawf gan Digital Accessibility Centre.
Defnyddiom y dull hwn wrth benderfynu ar sampl o dudalennau i brofi teithiau defnyddwyr gwahanol ar draws pob math o gynnwys ar y safle a’n holl dudalennau chwilio: