Adroddiad thematig |

Arfer dda yn y dyniaethau

Share this page

Adroddiad thematig | 06/10/2017

pdf, 1.44 MB Added 06/10/2017

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn y dyniaethau yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4 mewn ysgolion lle nodwyd arfer dda.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu medrau disgyblion a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gynnwys pwnc
  • A2 Sicrhau bod profiadau dysgu disgyblion yn y dyniaethau yn amrywiol, diddorol, dilyniadol a heriol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4
  • A3 Monitro’r cynnydd a wna disgyblion yn y dyniaethau yn agosach
  • A4 Arfarnu’r cwricwlwm ar gyfer y dyniaethau i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu’r maes newydd dysgu a phrofiad
  • A5 Sefydlu rhwydweithiau lleol arfer dda i rannu adnoddau ac arbenigedd, gan gynnwys gwneud defnydd gwell o ardal yr ysgol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwell ar gyfer athrawon y dyniaethau
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn galluogi athrawon newydd, gan gynnwys athrawon cynradd, i feithrin y medrau angenrheidiol i addysgu’r dyniaethau yn llwyddiannus ac ymateb i’r Cwricwlwm newydd i Gymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol