Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl ar sut mae pob sector yng Nghymru yn perfformio. Gallwch weld trosolwg o bob sector, yn ogystal â themâu allweddol, astudiaethau achos ac adolygiadau thematig
Lansio Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022-2023
Lansiom yr adroddiad blynyddol llawn yn y Senedd ar 31 Ionawr 2024. Daeth ystod o randdeiliaid o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant at ei gilydd i drafod rhai o’r themâu a’r canfyddiadau allweddol â thîm Estyn. Gallwch wylio crynodeb o’r digwyddiad lansio isod:
Mewnweliadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022-2023
Cyn ein Hadroddiad Blynyddol 2022-23, rydym wedi cyhoeddi mewnweliadau cynnar. Mae’r crynodebau hyn sy’n amlinellu’r prif negeseuon yn rhoi mewnwelediad cynnar i ddarparwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd yn ehangach i’r adroddiad blynyddol llawnach, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd.
Ar gyfer pob sector, rydym yn nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ac yn rhoi trosolwg o’r argymhellion mwyaf cyffredin rydym wedi’u rhoi i ddarparwyr ar ôl eu harolygiadau.
Gallwch hefyd weld cyfres gryno o gwestiynau myfyriol sydd â’r nod o helpu darparwyr i ystyried y ffordd orau i wneud cynnydd yn erbyn un o’r meysydd i’w gwella a nodwyd ym mhob sector.
Ffilmiwyd y fideo hwn wrth lansio adran mewnwelediadau cynnar ein hadroddiad blynyddol yn Ysgol Caer Elen ym mis Hydref 2023 ac mae’n esbonio beth ydyn nhw.