Telerau ac Amodau

Share this page

Gwefan y llywodraeth yw estyn.llyw.cymru sy’n cael ei rheoli gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ('Ni'). Wrth fynd ar ein safle, rydych chi’r defnyddiwr, ('Chi'), yn derbyn ein Telerau a’n Hamodau.

Rydym yn rhoi trwydded nad yw’n gyfyngedig i chi ar gyfer defnyddio’r wefan hon o dan y telerau a’r amodau canlynol. Gallwn derfynu’r drwydded hon ar unrhyw adeg heb rybudd.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 02/08/2021

Eiddo Deallusol

Marciau perchnogol Estyn yw’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n nodi ni. Mae’r deunydd arall a gynhwysir ar y wefan hon, sy’n cynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg, cânt eu diogelu gan gyfreithiau eiddo deallusol, yn cynnwys hawlfraint, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt. Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio logo Estyn a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill neu unrhyw ddeunydd arall a ddefnyddir trwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth flaenorol gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.

Mae’r defnydd o’n logo yn gyfyngedig. Nid ydym yn caniatáu i ysgolion na darparwyr addysg a hyfforddiant eraill ddefnyddio ein logo at ddibenion hysbysebu na chymeradwyo.

Ni ddylai presenoldeb ein logo neu’n henw ar unrhyw wefan, cyhoeddiad neu gynnyrch arall gael ei ystyried yn gymeradwyaeth o unrhyw fath gennym ni.

Os ydych yn cydweithio â ni ar gyhoeddiad neu ddigwyddiad, gallwch geisio caniatâd i ddefnyddio ein logo drwy anfon neges e bost at [email protected].

Gallwch chi weld, defnyddio, lawrlwytho a storio’r deunydd ar y wefan hon at ddefnydd personol a defnydd ymchwil yn unig. Ni chaniateir defnydd masnachol. Gwaherddir ailddosbarthu ac ailgyhoeddi’r deunydd neu drefnu bod y deunydd ar gael ar y wefan hon fel arall. Gallai eich defnydd heb ei awdurdodi o’r wefan hon gychwyn hawliad am ddifrod a/neu fod yn drosedd. 

Hypergysylltu â’n gwefan

Mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y safle hwn ac nid oes rhaid i chi ofyn am ein caniatâd.

Perchnogion porth

Os ydych yn dymuno cynnwys ein tudalennau gwe o fewn safle porthol, yna cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn [email protected].

Dolenni o’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd dolenni at wefannau eraill. Ni fwriedir i unrhyw ddolenni fod yn ardystiadau o’r gwefannau hynny. Efallai na fydd dolenni at safleoedd allanol bob amser yn gweithio, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros hyn. Ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei darparu tra’n ymweld â safleoedd o’r fath, ac ni chaiff safleoedd o’r fath eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw. 

Diogelu rhag feirws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi cynnwys ar bob cam o’r cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar yr holl ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho oddi ar y rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’n gwefannau. 

Ymwrthodiad

Darperir ein gwybodaeth gwefan, cynnyrch a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), 'fel ag y maent'. Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi boed hynny mewn contract, camwedd, (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, adferiad neu fel arall am unrhyw anaf, marwolaeth, difrod neu golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol (y mae pob un o’r tri therm yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled economaidd lwyr, colli elw, colli busnes, dihysbyddu ewyllys da a cholled debyg) ni waeth sut y cafodd ei achosi, yn deillio o ddefnyddio’r wefan hon, neu mewn perthynas â hynny, neu ddefnyddio, gweld, lawrlwytho neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill a gynhwysir ar y wefan hon, gan gynnwys heb gyfyngiad, o ganlyniad i unrhyw feirws cyfrifiadur. 

Nid yw’r termau a’r amodau hyn yn eithrio ein hatebolrwydd (os oes o gwbl) i chi ar gyfer anaf personol neu farwolaeth sy’n deillio o’n hesgeulustod, am dwyll neu am unrhyw fater y byddai’n anghyfreithlon i ni ei eithrio neu geisio’i eithrio o’n hatebolrwydd.

Cytundeb Cyfan

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn cynnwys yr hol.

Awdurdodaeth a Derbyn y telerau a’r amodau hyn

Caiff y wefan hon ei rheoli a’i gweithredu gan Estyn yng Nghymru. Bydd ffurfiant, bodolaeth, adeiladwaith, perfformiad, dilysrwydd ym mhob agwedd pa beth bynnag o’r termau a’r amodau hyn neu o unrhyw ymadrodd o’r telerau a’r amodau hyn neu unrhyw anghydfod mewn perthynas â’r deunyddiau a gynhwysir ar y wefan hon, yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr fel y caiff ei defnyddio yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth neilltuedig i ddatrys unrhyw anghydfod a allai godi yn sgil y telerau a’r amodau hyn neu ddefnyddio’r wefan, neu mewn perthynas â hynny. 

Os bydd anghysondebau rhwng fersiwn Saesneg a fersiwn Gymraeg y telerau a’r amodau hyn a’r datganiad preifatrwydd, y fersiwn Saesneg fydd yn rhagori. Mae eich defnydd parhaus o’r wefan hon yn dangos eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. 
 

Cyfieithiad

Mae'r holl gynnwys ar y wefan wedi ei gyfieithu gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).