Lles, gofal, cymorth ac arweiniad Archives - Estyn

Tag: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad


Tag: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad


Mae Estyn yn gyfrifol am wirio safonau ac ansawdd addysg yng Nghymru. Rydym yn arolygu ysgolion ac yn rhoi cyngor rheolaidd ar addysg i Lywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol, i gael gofal priodol a dweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddynt. Mae bwlio yn fater pwysig i ni ac yn un rydym yn ei ystyried yn rheolaidd drwy ein gweithgarwch arolygu neu adroddiadau thematig ac wrth i ni roi arweiniad i Lywodraeth Cymru.

Rydym yn falch o gefnogi’r Gynghrair Gwrthfwlio a hyrwyddo ymgyrch ‘Estyn Allan’ (‘Reach Out’) Wythnos Gwrthfwlio 2022, sy’n cael ei chynnal rhwng 14 a 18 Tachwedd.

Yn ddiweddar, cyhoeddom adroddiad ar fath penodol o fwlio sy’n digwydd rhwng plant a phobl ifanc – sef aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roedd yr adroddiad, Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon, yn edrych ar fynychdra aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oed uwchradd a hefyd yn edrych ar y diwylliant a’r prosesau sy’n helpu i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. 

Dywedodd llawer o’r disgyblion y siaradom â nhw nad ydyn nhw’n ‘ymestyn allan’mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu. Dywedon nhw fod hyn oherwydd ei fod yn digwydd mor aml ei fod wedi dod yn ‘normal’. Fodd bynnag, yn ystod ein 
trafodaethau â grwpiau o ddisgyblion, cawsom ein rhyfeddu gan eu parodrwydd i siarad am y materion hyn. Canfuom fod tua hanner y disgyblion uwchradd yn dweud eu bod wedi cael profiad personol o ryw fath o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gyda dwywaith yn fwy o ferched yn dweud eu bod wedi cael profiad o hyn o gymharu â bechgyn. Dywedodd pobl ifanc wrthym fod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd mwy ar-lein a’r tu allan i’r ysgol nag yn ystod y diwrnod ysgol. Fodd bynnag, yn yr ysgol, y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu yw sylwadau negyddol am y ffordd mae rhywun yn edrych, gofyn am ac anfon lluniau noeth, ac agweddau negyddol cyffredinol tuag at ferched a disgyblion LHDTC+.

Am y tro cyntaf erioed, lluniom adroddiad ar ein canfyddiadau yn benodol i blant a phobl ifanc hefyd. Mae hyn oherwydd y bu cymaint o bobl ifanc yn onest ac yn ddewr wrth siarad â ni am y mater pwysig hwn. Yn ein hadroddiad, Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon, ond mae angen i ysgolion wybod – adroddiad i ddysgwyr, mae adran sy’n annog ac yn helpu pobl i fynd i’r afael â’r materion hyn yn eu hysgolion. Trwy’r adroddiadau hyn, rydym yn gobeithio y gall mwy o bobl ifanc ddod o hyd i’r un dewrder i ‘ymestyn allan’ i helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio. Rydym yn gwybod nad yw ‘ymestyn allan’ mor hawdd ag y mae’n swnio. Ond rydym yn gwybod hefyd fod angen i ni ddal ati i siarad am fwlio. Cyn y pandemig, ysgrifennom flog pwysig ar hyn: Pam mae angen i ni barhau i siarad am fwlio | Estyn (llyw.cymru). 

Mewn adroddiadau eraill rydym wedi’u hysgrifennu, rydym wedi canfod, er mwyn i ddisgyblion deimlo’n ddiogel i ‘ymestyn allan’ am fwlio, mae angen iddynt fod yn fodlon â’r ffordd mae eu hysgol yn ymdrin â honiadau o fwlio (gweler Iach a hapus –effaith yr ysgol ac iechyd a llesiant disgyblion | Estyn (llyw.cymru)). Mae arnynt 
angen i ysgolion beidio â thanamcangyfrif ei fynychdra na gwrthod ac anwybyddu digwyddiadau bob dydd pan fydd disgyblion yn gwneud sylwadau negyddol neu rhywiaethol tuag at ei gilydd. Yn ein trafodaethau â phobl ifanc, canfuom hefyd y byddai pobl ifanc yn croesawu mwy o gyfleoedd i drafod rhywioldeb a pherthnasoedd iach a’u bod yn gofyn am ddarpariaeth well ar gyfer addysg rhyw. 

Rydym bob amser yn ystyried agweddau pwysig lles, diogelwch a bwlio cyn ymweld ag ysgol neu ddarparwr trwy’r holiaduron cyn-arolygiad rydym yn gwahodd pob disgybl, rhiant a gofalwr, aelod staff a llywodraethwr i’w llenwi. Rydym hefyd yn gofyn cwestiynau yn ymwneud â’r agweddau hyn mewn cyfarfodydd â rhieni ac yn ein trafodaethau grŵp gyda disgyblion. Mae darganfod sut mae disgyblion, rhieni a gofalwyr yn teimlo am ba mor dda mae ysgol yn ymdrin ag achosion o fwlio yn dylanwadu ar ein gweithgarwch yn ystod yr ymweliad. Eleni, buom yn treialu dulliau gwahanol yn ein sgyrsiau â disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n gyfforddus wrth siarad ag arolygwyr. Mae’r rhain yn cynnwys gwahodd disgyblion i ddod â ffrind gyda nhw i gyfarfodydd a defnyddio adnoddau creadigol a luniwyd ar y cyd ag academyddion ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn yng Nghymru.

Ers i ni ailddechrau ein harolygiadau ym mis Mawrth 2022, buom yn edrych yn agosach ar y diwylliant diogelu o fewn darparwyr (gweler Arolygu diwylliant diogelu ysgol | Estyn (llyw.cymru)), gan gynnwys pan fydd dysgwyr ar y safle, i ffwrdd o’r safle ac yn dysgu ar-lein. Nid ydym yn ymchwilio i achosion unigol, ond rydym yn ystyried ansawdd gweithgareddau a gynlluniwyd i hyrwyddo lles ac atal ymddygiad ac agweddau negyddol, niweidiol a’r modd y cânt eu cyflwyno. Er enghraifft, trwy edrych ar sut mae darparwyr yn hyrwyddo diogelwch ar-lein, yn cyflwyno addysg bersonol, gymdeithasol a pherthnasoedd ac yn darparu dysgu proffesiynol perthnasol i staff. Rydym hefyd yn siarad â disgyblion a staff am brosesau i’w cadw’n ddiogel ac yn edrych yn ofalus ar ddogfennau ysgolion i ddarganfod a yw trefniadau diogelu’r darparwr yn hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion yn effeithiol. 

Rydym yn cydsefyll â’r Gynghrair Gwrthfwlio ac unrhyw sefydliad arall sy’n herio bwlio ac yn ceisio mynd i’r afael ag ef.

I’r holl bobl ifanc, dywedwn: rhowch wybod i staff yr ysgol, aelod o’ch teulu neu oedolyn rydych yn ymddiried ynddo/ynddi am unrhyw broblem a pheidiwch â bod ofn siarad amdani – beth bynnag ydyw. Ymestynnwch allan er mwyn a datryswch y peth. 

Am fwy o wybodaeth am waith Estyn, ewch i www.estyn.llyw.cymru 

Dilynwch Estyn ar Twitter https://twitter.com/EstynAEM

Tag: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad


Anaml iawn mae arweinwyr ysgolion yn sôn am adeiladu gwydnwch disgyblion fel prif nod neu amcan. Yn aml, mae gwydnwch yn cael ei gryfhau o ganlyniad i waith arall sy’n cael ei wneud i gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o faterion sy’n effeithio ar eu disgyblion, ac maent yn dod yn well am adnabod y rhai y mae angen cymorth arnynt â’u lles a’u hiechyd meddwl.

Mae nifer o achosion o arfer dda yn y maes hwn yn cael eu hamlygu mewn rhai o’n hadroddiadau thematig diweddar, fel Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, Iach a Hapus, a Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed.

Yng Ngorffennaf gyhoeddwyd “Gwydnwch dysgwyr – meithrin gwydnwch mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion”..

Yn gyffredinol, mae’r ffactorau sy’n cefnogi gwydnwch yn ymwneud â:

  • hunan-barch a hunanhyder
  • credu yn ein gallu ein hunain i ymdopi
  • ystod o ddulliau i’n helpu i ymdopi
  • perthynas dda â phobl eraill y gallwn ddibynnu arnynt i helpu

Lles emosiynol a iechyd meddwl

Mae’r ysgolion hyn yn deall bod yr holl staff yn gyfrifol am les emosiynol disgyblion, a bod pob rhyngweithiad ac ymgysylltiad â disgyblion yn effeithio ar eu hymdeimlad o werth. Yn yr ysgolion hyn, mae staff yn gwybod bod eu holl eiriau, gweithredoedd ac agweddau yn dylanwadu ar hunan-barch a hunanhyder disgyblion ac, yn y pendraw, eu lles.

Mae’n bwysig bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i fynegi eu hemosiynau a rhannu eu teimladau yn yr ysgol. Mae gan ysgolion llwyddiannus ddulliau clir ar gyfer gwrando ar bryderon disgyblion a mynd i’r afael â nhw’n gyflym. Maent yn effro i sut mae disgyblion yn teimlo yn ystod y dydd, ac yn cydweithio â disgyblion i nodi aelodau staff penodol y gallant droi atynt, yn ôl yr angen.

Gall dulliau anogol fod yn llwyddiannus iawn o ran helpu i adeiladu gwydnwch disgyblion sy’n cael trafferth ymdopi â’u hamgylchiadau cyfredol. Gall staff hyfforddedig helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol, a gosod sylfeini i adeiladu perthynas gadarnhaol ag oedolion a’u cyfoedion.  Maent yn arfogi disgyblion â’r offer i’w helpu i ddod yn fwy gwydn wrth wynebu heriau gwahanol.

Yr ysgolion sy’n dda am adeiladu gwydnwch eu disgyblion yw’r rhai sydd â gweledigaeth gref yn ymwneud â hybu lles emosiynol ac iechyd meddwl pob un o’u disgyblion.  Yn ogystal â bod ag ymagwedd ysgol-gyfan tuag at les, mae’r ysgolion hyn yn cynnig ymyriadau penodol i ddisgyblion y mae angen cymorth penodol arnynt.  Mae’r ysgolion hyn yn rhoi pwyslais cryf ar les eu staff hefyd.

Presenoldeb

Hefyd, maent yn dueddol o fod ag ychydig iawn o waharddiadau am gyfnod penodedig, os o gwbl, dros gyfnod maith.  Maent yn ymdrechu i ddeall a mynd i wraidd yr hyn sy’n achosi heriau penodol y mae disgyblion yn eu hwynebu, ac yn fodlon rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol i fynd i’r afael â’r problemau.

Disgyblion sy’n agored i niwed

Gall disgyblion sy’n agored i niwed wynebu heriau sy’n effeithio’n benodol ar eu gallu i fod yn wydn.  Mae ysgolion effeithiol yn cydweithio’n agos â’r cartref drwy gynnig gweithgareddau cyfoethogi a gwybodaeth ychwanegol a all atgyfnerthu eu gwaith o ran helpu i adeiladu gwydnwch disgyblion sy’n agored i niwed.  Yn aml, mae’r ysgolion hyn yn cydweithio’n agos i gefnogi teuluoedd disgyblion sy’n agored i niwed.

Defnyddio arbenigedd allanol

Mae ysgolion llwyddiannus yn defnyddio arbenigedd asiantaethau allanol perthnasol i ategu eu gwaith.  Gall yr asiantaethau hyn ddod â medrau a gwybodaeth arbenigol nad ydynt ar gael bob amser mewn ysgolion a, phan fydd y berthynas rhwng pawb dan sylw yn gryf, maent yn cydweithio â’i gilydd er lles pennaf disgyblion, yn cryfhau eu gwydnwch ac yn gwella eu bywydau.

Pontio

Mae cyfnodau pontio, fel symud ysgol, yn gyfnodau pan gall plant ddioddef trallod emosiynol neu ddirywiad yn eu cynnydd a’u hymrwymiad i ddysgu, y gall pob un ohonynt danseilio gwydnwch.  Nod pob ysgol yw hwyluso’r broses bontio i ddisgyblion, yn enwedig ar adegau pontio allweddol.  Mae gan ysgolion sy’n canolbwyntio’n glir ar wydnwch disgyblion strategaethau gwerthfawr i gefnogi disgyblion sy’n symud yng nghanol y tymor, yn enwedig wrth groesawu disgyblion a allai fod wedi cael trafferth yn eu lleoliadau blaenorol.  Maent yn dod i adnabod eu disgyblion newydd yn gyflym ac yn sicrhau bod cymorth ar gael o’r cychwyn cyntaf.

Mae’n amlwg nad oes ffordd hawdd i adeiladu gwydnwch ymhlith disgyblion.  Mae ysgolion llwyddiannus yn deall ei bod yn broses barhaus sy’n mynnu buddsoddiad sylweddol o ran amser, egni ac adnoddau.

Proses barhaus

Mae’n amlwg nad oes ffordd hawdd i adeiladu gwydnwch ymhlith disgyblion.  Mae ysgolion llwyddiannus yn deall ei bod yn broses barhaus sy’n mynnu buddsoddiad sylweddol o ran amser, egni ac adnoddau.

Mae’r pandemig diweddar wedi herio disgyblion fel erioed o’r blaen.  Bu raid i ddisgyblion ymdopi ac addasu i ffyrdd newydd sbon o fyw a dysgu.  Bydd rhai ohonynt wedi ymdopi’n well â’r sefyllfa ddiweddar nag eraill.  Bydd rhai ohonynt wedi ffynnu a dod o hyd i ddiddordebau newydd a ffyrdd newydd o weithio, tra bydd eraill wedi cael trafferth y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus iddynt.

Bydd ysgolion da yn parhau i gynnig cefnogaeth i bob un o’u disgyblion, a bydd angen i bob ysgol nodi’r rhai sy’n cael trafferth ymdopi’n academaidd a’r rhai sy’n ymdrin â thrallod personol.  Bydd angen iddynt gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar y disgyblion hynny i fynd i’r afael â’u hamgylchiadau unigol.

Mae’n bosibl y bydd yr adroddiad ar Wydnwch Dysgwyr yn amlygu syniadau i ysgolion i’w helpu i gefnogi eu disgyblion.

Tag: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad


Canfu astudiaethau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod bron i hanner yr oedolion yng Nghymru wedi cael profiad o drallod o leiaf unwaith yn ystod eu plentyndod, a bod 14% wedi dioddef bedair gwaith neu fwy wrth iddynt dyfu’n hŷn.  Mae’r mathau hyn o brofiadau’n cael effaith negyddol iawn ar iechyd plentyn, gan gynnwys iechyd meddwl, ymgysylltu’n gymdeithasol, ymddygiad a phresenoldeb ysgol. 

Mae cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn sefyllfaoedd anodd yn agwedd bwysig ar waith ysgol.  Roedd ein hadroddiad o fis Ionawr 2020, ‘Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ’, yn archwilio’r effaith mae ysgolion yn ei chael ar ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dweud wrthym fod dylanwadau fel ffrindiau, oedolion dibynadwy, y gymuned a’r ysgol yn helpu plant i fagu gwydnwch ac ymdrin yn well â chaledi difrifol. 

Pam ysgolion?

Staff ysgol yw’r gweithwyr proffesiynol sy’n treulio’r amser mwyaf â phlant a phobl ifanc.  Efallai bod gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd yn gweithio â nhw, ond nid ydynt yn eu gweld bob dydd, yn wahanol i athrawon a staff cymorth.  Mae hyn yn golygu mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i nodi anawsterau, a chefnogi a dylanwadu ar blant a phobl ifanc. 

Gwelwn fod yr ysgolion gorau’n adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda, ac yn gweithio’n gynhyrchiol mewn ffordd nad yw’n eu barnu.  Maent yn defnyddio eu profiad a chanfyddiadau ymchwil a hyfforddiant i gefnogi plant a phobl ifanc i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr ysgol. 

Beth mae’r ysgolion gorau yn ei wneud i gefnogi plant ac adeiladu eu gwydnwch?

Dyma rai o’r gweithgareddau buddiol sy’n digwydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd:

  • Sesiynau maethu i roi amser i ddisgyblion fwyta, cymdeithasu a chwarae gemau gyda’i gilydd cyn ac ar ôl ysgol, ac yn ystod amseroedd egwyl. 
  • Gweithgareddau pwrpasol a buddiol sy’n defnyddio pynciau creadigol, fel cerdd a chelf, i hybu iechyd meddwl cadarnhaol.
  • Clybiau ar ôl ysgol sy’n ennyn diddordeb plant a phobl ifanc, yn eu galluogi i weithio’n gynhyrchiol ag oedolion dibynadwy a’u cyfoedion, ac yn hybu eu gwydnwch.  Mae’r rhain yn cynnwys clybiau coginio, clybiau TGCh a chlybiau chwaraeon. 
  • Polisi ymddygiad cadarnhaol, lle mae staff yn defnyddio iaith sy’n ymgysylltu â disgyblion ac yn cefnogi eu hemosiynau, ac yn ffafrio dulliau adferol yn hytrach na chosbau i newid ymddygiad gwael.
  • Ardaloedd neu ystafelloedd diogel a thawel lle gall disgyblion, yn enwedig rhai hŷn, ymlacio neu gael amser i fyfyrio’n bersonol pan fyddant yn teimlo’n bryderus neu wedi’u gorlethu.
  • Rhaglenni cymorth i grwpiau targedig o blant wedi’u cynnal gan staff hyfforddedig, fel rheoli dicter, hyfforddiant emosiynau, therapi chwarae a meddylgarwch.
  • Dosbarthiadau a grwpiau ymgysylltu â rhieni i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed.  Mae gweithgareddau’n cynnwys gwersi coginio a llythrennedd, dosbarthiadau magu plant, a chynnal gwerthiannau dillad a banciau bwyd.
  • Cyfarfodydd rheolaidd â phartneriaid o’r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cydweithio â’i gilydd er lles teuluoedd y mae angen cymorth arnynt.

Mae pandemig COVID 19 wedi’i gwneud yn anoddach i ysgolion ddarparu’r lefelau cymorth arferol i ddisgyblion sy’n agored i niwed.  Gan  fod disgyblion bellach yn dychwelyd i’r ysgol, mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod wedi’u hamddiffyn, a bod ysgolion yn darparu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a bod ganddynt gefnogaeth.  Mae gan NSPCC lawer o gyngor ac adnoddau defnyddiol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â’u rhieni a gofalwyr.

Sut gall ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ddarparu cymorth gwell?

Mae ein hadroddiad ‘Adnabod eich plant’  yn cynnwys llawer o astudiaethau achos diddorol o arfer dda mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, yn ogystal ag enghreifftiau o waith amlasiantaeth buddiol.  Yn gyntaf, dylai ysgolion sicrhau eu bod yn rhoi ffocws cryf ar feithrin a chynnal perthynas ymddiriedus, gadarnhaol ac agored â theuluoedd.  Yn olaf, dylai ysgolion ddarparu mannau tawel, anogol a chefnogol i blant a phobl ifanc ymlacio a theimlo’n ddiogel pan fyddant yn teimlo dan straen, yn bryderus neu’n drist.