Arolygu diwylliant diogelu ysgol - Estyn

Arolygu diwylliant diogelu ysgol


Beth fyddwn yn ei newid…

  • Bydd ffocws cryfach ar werthuso’r diwylliant diogelu. Bydd hyn yn cymryd blaenoriaeth dros ddarparu tystiolaeth yn unig o roi polisïau priodol ar waith
  •  Bydd arolygwyr yn edrych ar ymddygiad dysgwyr a staff a sut mae hyn yn helpu hyrwyddo diwylliant diogelu cryf 
  • Bydd arolygwyr yn siarad ag ystod ehangach o ddysgwyr sy’n cynrychioli gwahanol grwpiau, mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol, i gael eu barn ar drefniadau diogelu’r darparwr 
  • Bydd yr adroddiad arolygu’n cynnwys mwy o fanylion am ddiogelu, yn cynnwys disgrifio pryd mae arferion diogelu yn arbennig o gryf neu ble mae achosion pryder 
  • Mae diwylliant diogelu effeithiol yn dechrau ag arweinwyr, a byddwn yn myfyrio ar drefniadau diogelu pan fyddwn yn adrodd ar arweinyddiaeth a rheolaeth. 

Beth fydd yn aros yr un fath…

Byddwn:

  • yn dechrau pob arolygiad trwy edrych ar hunanwerthusiad y darparwr o’i drefniadau diogelu 
  • yn ystyried gwybodaeth o’r holiaduron cyn-arolygiad gan staff, rhieni, dysgwyr a llywodraethwyr 
  • yn ystyried y trefniadau ar gyfer nodi a chynorthwyo plant mewn angen neu sydd mewn perygl o niwed sylweddol, a ph’un a yw pob un o’r staff yn gwybod beth i’w wneud ai peidio os bydd ganddynt bryderon am ddysgwr  
  • yn gwirio a yw pob un o’r staff wedi ymgymryd â lefel addas o hyfforddiant diogelu 
  • yn gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio, ac yn gwirio pa mor dda y mae darparwyr yn ymateb i unrhyw achosion honedig yn gysylltiedig â bwlio, yn eu cofnodi ac yn mynd i’r afael â nhw  
  • yn barnu pa mor dda y mae darparwr yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio a chamfanteisio
  • yn ystyried diogeledd cyffredinol yr adeiladau a’r safle, a sut mae arweinwyr yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o risgiau i les disgyblion 
  • yn gwirio gweithdrefnau’r darparwr i sicrhau addasrwydd staff a phobl eraill sydd mewn cysylltiad â dysgwyr 
  • yn parhau i gyfeirio unrhyw bryderon ynghylch diogelu at ein swyddogion diogelu mewnol 
  • yn parhau i gyflwyno llythyr lles i ddarparwr os oes pryderon sylweddol ynghylch agwedd ar iechyd a diogelwch neu ddiogelu.  

Bydd pob aelod o’r tîm arolygu’n casglu gwybodaeth i gefnogi’r farn ar ddiwylliant diogelu’r ysgol. Bydd diogelu’n cael ei drafod yn ystod pob cyfarfod tîm. 

Y camau nesaf

Yng ngwanwyn 2022, byddwn yn peilota’r trefniadau arolygu drafft newydd mewn ystod o wahanol ysgolion ac UCDau ledled Cymru. Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau o’r gwaith hwn i gwblhau’r fframwaith newydd. 

Mae Liz Counsell yn AEM sy’n arbengio mewn addysg gynradd, annibynnol ac awdurdodau lleol. Mae’n swyddog diogelu arweiniol hefyd. Mae wedi gweithio yn y byd addysg ers dros 35 mlynedd, a bu gynt yn bennaeth mewn tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd. Pan na fydd yn arolygu, bydd hi’n gwylio Dinas Caerdydd neu’n chwarae tennis. 

Diogelu ac arolygu

Ym mhob rhan o’n gwaith, rhown ddiogelu plant a phobl ifanc a’u lles uwchlaw’r holl anghenion a buddiannau eraill. 

Rydym wedi gweithio’n agos gydag arolygiaethau eraill ar ein ‘Harolygiad Ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant’, i beilota ffordd newydd ar y cyd o werthuso diogelu mewn ardal awdurdod lleol.

Hefyd, yn ddiweddar, cyhoeddom adroddiad ‘‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon” Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn edrych ar achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu amddiffyn a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Yn yr adnoddau ategol a gyhoeddom gyda’r adroddiad, mae dolenni at ganllawiau a gwaith ymchwil defnyddiol i gefnogi diwylliant effeithiol o ddiogelu. Dogfen arweiniad allweddol yw Cadw dysgwyr yn ddiogel gan Lywodraeth Cymru.

Mae dyletswyddau statudol gan yr holl ddarparwyr addysg, yn cynnwys ysgolion a cholegau annibynnol, i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Yn ystod ein harolygiadau, mae gennym rôl bwysig mewn gwerthuso trefniadau diogelu darparwr. 

Mae ein dull arolygu newydd yn sicrhau bod arolygwyr yn darganfod pa mor dda y mae staff a llywodraethwyr yn hyrwyddo diwylliant diogelu cryf yn eu cymuned, a pha mor dda y maent yn deall ac yn hyrwyddo dulliau diogelu’r ysgol.