rhoi seilweithiau ffurfiol ar waith i helpu dysgwyr drefnu’u dosbarthiadau a’u gweithgareddau eu hunain yn eu cymunedau;
gynyddu’r defnydd o strategaethau a gweithgareddau cynnwys dysgwyr er mwyn gwella ansawdd yr addysgu a’r asesu;
cynnig rhaglenni i ddysgwyr sy’n eu helpu i ddatblygu eu medrau dinasyddiaeth ac arweinyddiaeth;
rhoi systemau ffurfiol ar waith i gofnodi a chydnabod ystod y deilliannau personol a chymdeithasol a gyflawnir gan ddysgwyr;
gwneud defnydd cadarn o arolwg Llais y Dysgwr Cymru ar lefel partneriaeth wrth gynllunio gwella ansawdd; a
gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn gwybod am beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i ddarparu’u barnau a’u safbwyntiau, neu beth maent wedi’i newid o ganlyniad i gymryd rhan mewn arolygon neu holiaduron.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
fonitro’n fanylach effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys dysgwyr ar gyfer dysgwyr unigol;
gwella mynediad i weithgareddau cynnwys dysgwyr ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau gwasgaredig yn ddaearyddol; a
gwneud yn siŵr bod pob dysgwr yn gwybod beth yw canlyniadau arolwg Llais y Dysgwr Cymru ar lefel darparwr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
adolygu ei strategaeth cynnwys dysgwyr i roi mwy o bwyslais ar ddatblygu medrau dinasyddiaeth a meithrin gallu dysgwyr i ymgymryd â rolau arwain a threfnu eu dysgu eu hunain.
godi ymwybyddiaeth am fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig gyda disgyblion, rhieni, staff, a llywodraethwyr a defnyddio dull mwy rhagweithiol o atal a lliniaru ei effeithiau (gweler Atodiad 3 am restr wirio);
ymgynghori â disgyblion, rhieni, a phobl eraill i nodi graddau a natur bwlio yn yr ysgol a chytuno ar gynnwys cynlluniau cydraddoldeb strategol;
cynllunio cyfleoedd sy’n briodol i oedran yn y cwricwlwm i drafod materion yn ymwneud â’r nodweddion gwarchodedig a meithrin gallu disgyblion i wrthsefyll bwlio;
sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth glir o raddau a natur y bwlio a allai ddigwydd yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio seiber,
gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod sut i ddelio ag achosion o fwlio a’u cofnodi;
cofnodi a monitro achosion o fwlio mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig a defnyddio’r wybodaeth hon i adolygu amcanion cydraddoldeb strategol; a
gwneud yn siŵr bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff ysgolion i wella eu dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i goblygiadau;
darparu hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr ysgol i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i fonitro cynlluniau ac amcanion cydraddoldeb strategol; a
monitro ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau cydraddoldeb strategol ysgolion yn agosach.
wneud defnydd gwell o ddata presenoldeb i lywio’u dull o wella presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai o grwpiau sy’n agored i niwed, fel absenoldebau parhaus, disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
gwella’r addysgu a’r cwricwlwm a gynigir i ymgysylltu â disgyblion i’r eithaf ac archwilio dulliau fel arfer adferol, canolfannau cymorth i ddisgyblion, mentora cyfoedion a grwpiau anogaeth;
cryfhau’r cysylltiadau gydag asiantaethau neu wasanaethau allanol sy’n cynorthwyo ag ymgysylltu â theuluoedd a’u cefnogi;
ymgysylltu’n fwy â disgyblion mewn datblygu’r polisi neu’r strategaeth presenoldeb, er enghraifft trwy gynghorau ysgolion;
sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant cyfoes ar faterion fel bwlio ac anghenion grwpiau sy’n agored i niwed;
cydymffurfio â’r rheoliadau cofrestru disgyblion wrth gofnodi’n gywir bresenoldeb disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol ac wrth dynnu disgyblion oddi ar gofrestr yr ysgol; a
sicrhau bod mentrau i wella presenoldeb yn cael eu harfarnu’n drylwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
rhoi hyfforddiant i ysgolion ar ddeall a dadansoddi data presenoldeb ac arweiniad clir ar ddefnyddio codau presenoldeb yn gywir;
dadansoddi patrymau presenoldeb i lywio strategaeth gorfforaethol i wella presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai o grwpiau sy’n agored i niwed;
ymchwilio i, a herio’r amrywiad o ran defnyddio codau presenoldeb;
gwella gwybodaeth ysgolion am flaenoriaethau, mentrau a grantiau cenedlaethol perthnasol;
nodi a rhannu arfer enghreifftiol o fewn ffiniau’r consortia a’r tu hwnt; a
sicrhau bod gwasanaethau gwella ysgolion yn ymwybodol o’r wybodaeth sy’n cael ei chadw gan wasanaethau lles addysg, ac yn ei defnyddio.
Dylai Llywodraeth Cymru:
egluro’r cyfrifoldeb am bresenoldeb o fewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol; ac
fel rhan o’r fframwaith dadansoddi presenoldeb, parhau i ddarparu a chyhoeddi dadansoddiadau cynhwysfawr o ddata presenoldeb ar gyfer awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.
sicrhau bod disgyblion yn meistroli medrau rhif pwysig, fel rhannu, gwaith gyda mesurau metrig, canrannau, cymarebau a chyfrannau, mewn gwersi mathemateg;
datblygu medrau rhesymu rhifiadol disgyblion mewn gwersi mathemateg ac mewn pynciau eraill;
ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion o bob gallu ddefnyddio’u medrau rhifedd mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
cynorthwyo staff i ehangu’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o strategaethau i ddefnyddio rhifedd ar draws y cwricwlwm;
gwella asesu ac olrhain medrau rhifedd disgyblion;
cryfhau gweithdrefnau ar gyfer arfarnu darpariaeth rhifedd; a
gweithio’n agosach gydag ysgolion clwstwr i ddatblygu mwy o gysondeb mewn addysgu ac asesu medrau rhifedd disgyblion.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
gynorthwyo ysgolion i helpu staff wella’u gwybodaeth, medrau a hyder wrth ddatblygu medrau rhifedd disgyblion drwy eu pynciau; a
rhannu arfer orau rhwng ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried datblygu system genedlaethol ar gyfer olrhain medrau rhifedd disgyblion.
Er mwyn gwella’r niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, dylai Llywodraeth Cymru barhau i wneud y canlynol:
defnyddio ‘Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau’ i dargedu hyrwyddo prentisiaethau i rieni a dysgwyr o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl, ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau;
mewn partneriaeth â darparwyr DYYG, ysgolion, grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl, Gyrfa Cymu a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, comisiynu ymgyrch farchnata Cymru gyfan i gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo prentisiaethau i grwpiau sydd ar ymylon cymdeithas ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau. Dylai’r gynulleidfa darged gynnwys rhieni, athrawon, dysgwyr a chyflogwyr;
gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt wrth dderbyn prentisiaid ag anghenion cymorth neu ddysgu penodol, gan gynnwys y rheini sydd angen cymorth arnynt i ddatblygu’r Saesneg;
adolygu’r dyraniad presennol o leoedd prentisiaeth er mwyn bodloni’r galw lleol, gan gynnwys annog sefydliadau’r sector cyhoeddus i dderbyn prentisiaid, gyda ffocws ar recriwtio o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr ag anabledd; a
gweithio gyda darparwr DYYG i ddatblygu ymhellach eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u dulliau gweithredu, gan gynnwys rhannu arfer orau.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
weithio’n agosach ag ysgolion, cyflogwyr, arweinwyr cymunedol a sefydliadau sy’n cynrychioli dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl er mwyn gwella ymwybyddiaeth o brentisiaethau;
gweithio’n fwy effeithiol gyda darparwyr addysg lleol ac asiantaethau eraill i wneud yn siŵr bod profiad ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu rhannu i gynorthwyo prentisiaid o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
gweithio gydag arweinwyr cymunedol i nodi cydlynwyr cymunedol sy’n barod i gydlynu camau gweithredu i gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau yn y cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
defnyddio modelau rôl i hyrwyddo prentisiaethau yn y gymuned; a
gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gyflwyno rhai elfennau o gymhwyster ar gyfer dysgwyr ag anableddau.
wella’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno a’i monitro ar draws y cwricwlwm i sicrhau parhad a dilyniant ym medrau TGCh disgyblion;
sicrhau bod pob elfen o’r rhaglen astudio TGCh yn cael ei hastudio’n dda ar draws y cyfnod allweddol;
gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion yn datblygu eu gallu i weithio’n annibynnol ac yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu eu medrau TGCh yn ystod gwersi TGCh ac mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm;
darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol perthnasol a digonol ar gyfer pob un o’r athrawon;
gwella cywirdeb asesiadau athrawon;
cysylltu’n effeithiol â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i sicrhau parhad wrth gynllunio’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno ar draws cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 fel nad yw disgyblion yn ailedrych ar fedrau yn ddiangen a cholli diddordeb mewn gwersi; a
gwella’r cysylltu rhwng yr adran TGCh ac adrannau pwnc eraill fel bod gan ddisgyblion fwy o gyd-destunau i gymhwyso a datblygu eu medrau.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
sicrhau bod cymorth cwricwlwm TGCh ar gael i bob ysgol uwchradd;
monitro safonau a darpariaeth TGCh fel pwnc ac effeithiolrwydd y defnydd a wneir ohoni ar draws y cwricwlwm; a
chynorthwyo ysgolion i wella cywirdeb a dibynadwyedd asesiadau athrawon.
Dylai Llywodraeth Cymru:
rhoi fframwaith statudol perthnasol ar gyfer TGCh o’r Cyfnod Sylfaen i’r sector ôl-16 ar waith ac adolygu gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol i adlewyrchu datblygiadau presennol mewn technoleg; a
chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i fynd i’r afael â’r materion technegol sy’n cyfyngu mynediad at adnoddau TGCh mewn ysgolion uwchradd.
wneud yn siwr bod disgyblion yn datblygu medrau rhif, algebra a datrys
problemau cadarn yng nghyfnod allweddol 3;
gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi mathemateg trwy wneud yn siwr bod:
gwersi wedi’u strwythuro’n dda, yn ddifyr a heriol ac yn cysylltu’n dda â
thestunau a phynciau eraill; a
bod medrau rhif ac algebra yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn
cyd-destunau newydd;;
defnyddio asesiadau i roi gwybod i ddisgyblion sut maent yn gwneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella;
lleihau i’r eithaf nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU mewn mathemateg a sicrhau bod disgyblion yn dilyn cyrsiau astudio sy’n galluogi iddynt gyflawni’r graddau uchaf;
seilio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant ar dystiolaeth o arsylwi safonau disgyblion mewn gwersi mathemateg a chraffu ar eu gwaith; a
rhannu arfer orau mewn ysgolion a rhyngddynt a’i defnyddio i gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
ddarparu cymorth, cyngor a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg, gan gynnwys hyrwyddo rhwydweithiau proffesiynol i rannu arfer orau.
Dylai Llywodraeth Cymru:
gynorthwyo ysgolion a chonsortia rhanbarthol i godi safonau mewn mathemateg ar gyfer pob disgybl; ac
adolygu disgrifwyr lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3 gyda’r bwriad o godi lefelau disgwyliadau ar lefel 5 mewn medrau rhif ac algebra.
sicrhau bod cyfleoedd penodol i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio eu medrau siarad, darllen ac ysgrifennu ar draws y meysydd dysgu ac yn y gwahanol ardaloedd gweithgarwch;
sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng sesiynau ffurfiol i addysgu ac atgyfnerthu medrau iaith a chyfleoedd anffurfiol i’w defnyddio;
datblygu gweithgareddau a chyfleoedd dysgu sy’n sicrhau bod disgyblion o gefndiroedd ieithyddol gwahanol yn gwneud cynnydd priodol o’u man cychwyn;
gosod disgwyliadau clir fydd yn sicrhau bod disgyblion o bob cefndir yn defnyddio’r Gymraeg wrth iddynt ddilyn gweithgareddau anffurfiol, yn arbennig ar ddechrau’r Cyfnod Sylfaen;
gosod disgwyliadau clir ar gyfer ymarferwyr ynglÅ·n â defnyddio’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen fel eu bod yn bwydo a modelu Cymraeg o safon dda i’w disgyblion ar draws y meysydd dysgu;
olrhain cynnydd medrau llafar, darllen ac ysgrifennu disgyblion yn gyson ar hyd y Cyfnod Sylfaen; a
rhoi sylw priodol i ansawdd y ddarpariaeth a safonau yn y Cyfnod Sylfaen fel rhan o brosesau hunanarfarnu a chynllunio gwella ysgolion a lleoliadau.
Dylai awdurdodau lleol a mudiadau sy’n rheoli lleoliadau nas cynhelir:
ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i ymarferwyr ar ddulliau trochi o ddysgu iaith ac i roi arweiniad ar sut y gellir datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg) mewn ffordd sy’n gydnaws ag athroniaeth a methodoleg y Cyfnod Sylfaen;
darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr, i loywi eu Cymraeg, lle bo angen hynny;
rhannu arfer dda o ran datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg) ar draws meysydd dysgu ac ardaloedd gweithgarwch yn y Cyfnod Sylfaen; a
sicrhau bod darpariaeth gefnogol awdurdodau lleol i leoliadau nas cynhelir cyfrwng-Cymraeg ar gael yn Gymraeg.
Dylai Llywodraeth Cymru:
sicrhau bod awdurdodau ac ysgolion yn deall y gyd-berthynas rhwng methodoleg ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.