Gynllunio dilyniant o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion er mwyn iddynt gael profiad o ehangder y celfyddydau creadigol a datblygu’u medrau creadigol wrth iddynt symud drwy’r ysgol
Cefnogi athrawon i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r hyder i addysgu’r celfyddydau creadigol yn dda
Monitro cyflawniadau disgyblion yn y celfyddydau creadigol
Gweithio’n agosach ag ysgolion eraill i rannu arfer orau ac adnoddau yn y celfyddydau creadigol
Dylai awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol:
Gynnig cyfleoedd i athrawon ddatblygu’u medrau a’u hyder wrth addysgu un neu fwy o bynciau’r celfyddydau creadigol
Darparu hyfforddiant i ysgolion i’w helpu i nodi, datblygu a rhannu arfer orau mewn addysgu ac asesu yn y celfyddydau creadigol
Dylai Llywodraeth Cymru:
Barhau i gynorthwyo ysgolion i wneud defnydd o gyllid penodedig i alluogi disgyblion o deuluoedd tlotach i ddysgu chwarae offerynnau cerdd ac i gymryd rhan lawn yn y celfyddydau creadigol
Cyhoeddi deunyddiau sy’n dangos y safonau disgwyliedig yn y celfyddydau creadigol
ddatblygu diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff ar bobl lefel yn eu hysgol
gwella cynllunio olyniaeth a throsglwyddo gwybodaeth gorfforaethol
nodi potensial arwain staff yn gynnar a chefnogi datblygu’u gyrfa
sicrhau bod strwythurau rheoli perfformiad yn talu sylw priodol i ddatblygu arweinwyr posibl y dyfodol
defnyddio’r safonau arweinyddiaeth fel y sail ar gyfer arfarnu’u medrau arwain eu hunain ac ar gyfer datblygu staff fel arweinwyr y dyfodol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
ddarparu arweiniad i arweinwyr ysgol profiadol ar ddatblygu’u staff fel arweinwyr y dyfodol
darparu cyfleoedd i uwch arweinwyr ddatblygu’u medrau mewn meysydd allweddol fel herio tanberfformiad, defnyddio strategaethau i wella addysgu, a rhoi mentrau newydd ar waith
darparu neu gael hyfforddiant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg effeithiol i arweinwyr ar bob lefel
hyrwyddo’r defnydd o’r safonau arweinyddiaeth a’r adolygiad arweinyddiaeth unigol i’r holl arweinwyr ysgol
Dylai Llywodraeth Cymru:
weithredu strategaeth ar gyfer datblygu medrau arwain i ddarpar uwch arweinwyr ac uwch arweinwyr profiadol
cynnwys datblygu medrau arwain fel trywydd yn y safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, athrawon ac arweinwyr canol
osod targedau i gynyddu’r gyfran o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sydd yn dal i astudio Cymraeg iaith gyntaf ac yn dilyn eu cyrsiau drwy’r Gymraeg;
ehangu’r arlwy o gymwysterau maent yn eu cynnig drwy’r Gymraeg;
esbonio manteision dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg i ddisgyblion a rhieni a sicrhau bod rhieni yn cael eu cynnwys fwy yn addysg eu plant;
cydweithio gydag ysgolion eraill i gynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg, ac i drafod a rhannu strategaethau addysgu dwyieithog;
sicrhau bod datblygu medrau Cymraeg disgyblion yn flaenoriaeth ysgol-gyfan a chynllunio’n fwriadus er mwyn hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg;
annog athrawon ar draws y pynciau i hyrwyddo defnydd disgyblion o’r Gymraeg yn y gwersi a thu hwnt; a
sicrhau bod athrawon ar draws y pynciau yn talu sylw i gywirdeb ac ansawdd mynegiant disgyblion yn y Gymraeg.
Dylai awdurdodau lleol:
olrhain fesul ysgol y cyfrannau o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sy’n dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg a gosod targedau i gynyddu hyn yn ôl amcanion eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg; a
cynorthwyo ysgolion i drafod, datblygu a rhannu’r strategaethau addysgu dwyieithog mwyaf effeithiol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
sicrhau bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel Cymraeg ar gael ym mhob pwnc ar yr ‘Hwb’;
codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd ac o barhau i astudio pynciau drwy’r Gymraeg; a
sicrhau bod byrddau arholi yn cyhoeddi dogfennau arweiniad a chynlluniau marcio i athrawon yn y Gymraeg ac yn paratoi cwestiynau mewn ieithwedd glir yn eu papurau arholiadau cyfrwng Cymraeg.
ddarparu lefel addas o her ar gyfer lleoliadau a sicrhau bod ymweliadau a hyfforddiant yn canolbwyntio ar wella safonau plant
parhau ag arweinyddiaeth a rheolaeth gefnogol ond gwneud mwy i fodelu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a rhannu syniadau newydd gydag ymarferwyr
cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn addysg sy’n effeithio ar leoliadau
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
ddarparu 10% o amser athrawon ymgynghorol ar gyfer pob lleoliad a sicrhau bod athrawon ymgynghorol yn ymweld â lleoliadau yn rheolaidd
gwneud yn siŵr bod lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn cael cymorth a hyfforddiant yn yr iaith y maent yn gweithredu ynddi
monitro gwaith athrawon ymgynghorol a sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi yn cael eu nodi a’u bodloni
gweithio gyda’i gilydd a gyda sefydliadau gwirfoddol i sicrhau bod lleoliadau’n cael cymorth cynhwysfawr a chysylltiedig, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol a diogelu
dwyn sefydliadau gwirfoddol a ariennir i gyfrif am ansawdd eu cyngor a’u harweiniad
sicrhau bod cynifer o ymarferwyr nas cynhelir ag y bo modd yn gallu mynychu hyfforddiant
ystyried penodi athrawon ymgynghorol am gyfnod penodol i adfywio’r gwasanaeth y gallant ei gynnig
Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried clustnodi cyllid i wneud yn siŵr bod bob lleoliad yn cael 10% o gymorth gan athro cymwys a hyfforddiant yn ychwanegol i hyn
creu rhwydwaith i athrawon ymgynghorol rannu gwybodaeth ac arfer orau
gynllunio ar gyfer y tymor canolig i sicrhau dull strategol o wella ysgolion
sicrhau bod cynlluniau’n cynnwys camau gweithredu sy’n benodol a mesuradwy, gyda thargedau, costau a cherrig milltir priodol ar gyfer cyflawni
cofnodi, rhannu a defnyddio data (o lefel disgybl i fyny) yn effeithlon ac yn effeithiol
monitro cynnydd disgyblion ac ysgolion yn rheolaidd
defnyddio dull mwy trylwyr o nodi risgiau a’u rheoli
hunanarfarnu eu cryfderau a’u diffygion yn realistig
rheoli perfformiad unigol eu staff yn dynn
Sicrhau cysondeb gwell yn ansawdd arfarniadau ymgynghorwyr her o ysgolion, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu ac arweinyddiaeth
Datblygu strategaethau cliriach i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysg a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu yn gydlynus i’r perwyl hwn
Gwella ansawdd ac ystod y cymorth ar gyfer ysgolion, ac yn benodol:
datblygu strategaethau cliriach ar gyfer gwneud y mwyaf o botensial cymorth o un ysgol i’r llall
darparu neu frocera cymorth gwell ar gyfer addysgu a dysgu mewn meysydd pwnc nad ydynt yn rhai craidd
Cynnwys awdurdodau esgobaethol yn effeithiol wrth gynllunio ac arfarnu gwasanaethau rhanbarthol yn strategol
Dylai awdurdodau lleol:
Gefnogi eu consortiwm rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau busnes tymor canolig a sicrhau bod yr holl gynlluniau’n ystyried anghenion eu hysgolion lleol
Datblygu perthnasoedd gweithio ffurfiol rhwng pwyllgorau craffu yn eu consortiwm er mwyn craffu ar waith ac effaith eu consortiwm rhanbarthol
Dylai Llywodraeth Cymru:
Wella’i strategaeth i ddatblygu uwch arweinwyr a rheolwyr ar gyfer addysg ar lefel awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol
Cydweithio’n fwy â chonsortia ac awdurdodau lleol i gytuno ar gynlluniau busnes tymor byr a thymor canolig a lleihau ceisiadau i newid ac ychwanegu at gynlluniau yng nghanol blwyddyn
Sicrhau bod categoreiddio ysgolion yn cael ei safoni’n drylwyr ar draws y consortia
Datblygu dealltwriaeth ar y cyd rhwng athrawon, ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru am ddiben targedau cyrhaeddiad a’r defnydd a wneir ohonynt
Ymgysylltu’n fwy effeithiol ag awdurdodau esgobaethol i ddatblygu eu strategaeth ar gyfer gwella ysgolion
Sicrhau bod consortia, awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol yn glir ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau priodol ar gyfer ysgolion yn rhaglen Her Ysgolion Cymru
roi dull trawsgwricwlaidd dilyniannol a chydlynus ar waith o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion, yn unol â disgwyliadau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
olrhain a monitro’r dilyniant ym medrau llythrennedd disgyblion yn erbyn disgwyliadau diwedd blwyddyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
annog arbenigwyr pwnc Cymraeg a Saesneg i arwain mewn gwella cysylltiadau rhwng pynciau i gefnogi dull cyson a dilyniannol o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion;
darparu cyfleoedd a chymorth da ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion wella eu hysgrifennu, gan gynnwys ei gywirdeb technegol; a
monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella medrau llythrennedd disgyblion.
Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:
egluro rolau awdurdodau lleol, consortia a’r partneriaid cymorth cenedlaethol ar gyfer hyfforddi a chynorthwyo ysgolion i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar waith; a
gwella’r defnydd o gyfarfodydd clwstwr pontio i sefydlu dull cyson o addysgu medrau llythrennedd.
Dylai Llywodraeth Cymru:
drefnu bod deunyddiau cymorth i ysgolion ar gael cyn datblygu’r fframwaith ymhellach;
gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn gallu manteisio ar ddeunyddiau cymorth yn hawdd; a
rhoi arweiniad clir i ysgolion ar asesu a chynnig enghreifftiau o safonau llythrennedd disgwyliedig ar draws pob pwnc.
gyhoeddi arweiniad pellach i helpu sefydliadau ddatblygu eu gweithdrefnau cwynion dysgwyr, gan gynnwys diffiniadau o fathau arbennig o gŵynion
sicrhau bod yr arolwg blynyddol Llais y Dysgwr Cymru yn cipio profiadau dysgwyr o wneud cwynion, a’u boddhad â’r broses, yn ddigonol
gweithio gyda’r sector i ystyried ymarferoldeb corff apeliadau allanol ar gyfer dysgwyr AB ôl-16 yng Nghymru, gyda phwerau i adolygu cwynion myfyrwyr a’u canlyniadau
Dylai sefydliadau:
ddwyn yn eu blaen y materion a nodwyd gan UCM yn eu hadroddiad 2011 ar gŵynion myfyrwyr
gwneud yn siŵr fod yr holl ddeunyddiau am sut i wneud cwyn ar gael yn rhwydd drwy’r adrannau o’u gwefannau ar gyfer y cyhoedd, a’u bod hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
mynnu bod uwch reolwyr yn gwirio pa mor gyson a thrylwyr y cynhelir ymchwiliadau i gŵynion gan bob un o’u staff, ac ar draws pob safle campws
hyfforddi pob aelod o staff a chynrychiolwyr dysgwyr i reoli gweithdrefnau cwynion y sefydliad
gwneud yn siŵr bod mecanweithiau yn eu lle i wahaniaethu rhwng cwynion lefel isel a chwynion mwy difrifol, ac i gofnodi pob cwyn, p’un a gafodd ei gwneud yn llafar neu’n ysgrifenedig
defnyddio’r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys adborth dysgwyr, i lywio’r dadansoddiad manwl o ansawdd y polisi a’r gweithdrefnau cwynion, yn ogystal â’r patrymau, tueddiadau a rhesymau sylfaenol ar gyfer cwynion er mwyn llywio systemau ansawdd a chynllunio strategol
wella dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau mwy cymhleth ADCDF a nodwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â hunaniaeth a diwylliant;
cynllunio ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r saith thema ADCDF ar draws y cwricwlwm yn raddol, ac asesu ac olrhain datblygiad disgyblion;
cynllunio ar gyfer ADCDF i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion;
darparu amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol i gefnogi ADCDF;
nodi aelodau o staff i fod â chyfrifoldeb am gydlynu a datblygu ADCDF ar draws yr ysgol;
darparu hyfforddiant priodol ar gyfer athrawon ac aelodau eraill o staff i’w helpu i gyflwyno ADCDF yn fwy effeithiol, gan gynnwys ei chysyniadau mwy cymhleth; a
sicrhau bod llywodraethwyr yn cael hyfforddiant i’w galluogi i gefnogi a herio’r ysgol wrth gyflwyno ADCDF.
Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:
sefydlu cyfeirlyfr o ddarparwyr sydd ag arfer dda mewn ADCDF, y gellir ei rannu ag ysgolion; a
darparu hyfforddiant i lywodraethwyr i’w galluogi i gefnogi a herio ysgolion yn briodol o ran ADCDF.
sefydlu diwylliant ar y cyd o wella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol fel bod pob un o’r staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau;
sefydlu arferion hunanarfarnu sy’n ystyried ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys arsylwadau ystafelloedd dosbarth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar safonau cyflawniad disgyblion ac ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu;
datblygu polisïau ac arferion clir ac eglur ar gyfer arsylwi ystafelloedd dosbarth, y mae pob un o’r staff yn eu deall a’u cymhwyso;
cynnal deialog broffesiynol gydag athrawon a staff cymorth yn fuan ar ôl arsylwi ystafell ddosbarth;
trefnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer staff, wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwadau ystafell ddosbarth, sy’n cyfateb i flaenoriaethau’r ysgol a blaenoriaethau unigol;
ar gyfer arsylwadau ystafell ddosbarth y mae angen barnau ar eu cyfer, datblygu disgrifwyr barn a gweithdrefnau safoni i sicrhau cysondeb; a
hyfforddi fel arolygwyr cymheiriaid er mwyn gallu alinio a rhannu eu harfer ag arfer rhai eraill fel arolygwyr.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:
helpu ysgolion sydd â diwylliannau cryf o ran gwella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol ac arsylwi ystafelloedd dosbarth i rannu eu harfer ag ysgolion eraill.
Dylai Llywodraeth Cymru:
roi cyfleoedd i ysgolion sydd â diwylliannau cryf o ran gwella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol ac arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol rannu eu harfer ar wefan Dysgu Cymru.