Estyn, QAA a Medr – ein rôl yn y system
Mae Medr, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.
Estyn a QAA yw’r cyrff sy’n arolygu neu’n adolygu darparwyr yn y sectorau trydyddol. Mae gwahaniaethau rhwng dulliau’r ddau gorff, ond mae’r ddau ohonynt yn manteisio’n gryf ar brosesau hunanwerthuso, hunanddadansoddi a gwella ansawdd darparwyr.
Credwn, er y gall y prosesau hunanwerthuso sy’n ategu gweithgarwch adolygu ac arolygu amrywio o ran y manylion, fod yr egwyddorion sy’n sail i’r gweithgarwch hwnnw yn gyffredin. Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein camau gweithredu ein hunain yn hybu dulliau effeithiol ar draws y system.
Rydym yn ymwybodol o’n rôl o ran arwain y system ac yn ymwybodol o’r angen i’n gweithredoedd hybu ymddygiad cadarnhaol mewn hunanwerthuso a gwelliant parhaus ar draws y sectorau trydyddol. Yma, rydym yn cynnwys enghreifftiau o sut mae ein gweithredoedd wedi’u bwriadu i gefnogi prosesau hunanwerthuso effeithiol.
Mae Medr, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae cynllun strategol Medr yn nodi ein huchelgais i sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o ansawdd uchel mewn sector sy’n ymdrechu am welliant parhaus.
Yn rhan o’n dull, mae Medr wedi datblygu Fframwaith Ansawdd (Medr, 2026a), wedi’i strwythuro o amgylch set o gonglfeini sy’n nodi arweiniad at sut y gall darparwyr ddangos bod darpariaeth o ansawdd da ac sy’n cefnogi deilliannau cadarnhaol i ddysgwyr. Un o’r conglfeini hyn yw hunanwerthuso, gan gydnabod rôl ganolog arfer fyfyriol a gwelliant sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y system drydyddol.
Yn y cyd-destun hwn, mae Medr yn ystyried yr egwyddorion hunanwerthuso yn offeryn i gefnogi darparwyr i fyfyrio ar eu harfer, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella mewn ffordd gymesur a datblygiadol. Bwriedir i’r egwyddorion gyd-fynd â chylchoedd sefydliadol presennol a lleihau adroddiadau diangen, gyda disgwyliadau clir a chymesur pan fydd angen gwybodaeth ychwanegol. Bydd Medr yn cydweithio â’r sector a phartneriaid i hybu gweithgareddau hunanwerthuso a monitro sy’n ategu prosesau allanol ac yn cefnogi golwg gydlynol ac integredig ar ansawdd. Pan fydd tystiolaeth eisoes wedi’i darparu i Estyn, QAA neu gyrff eraill, bydd Medr yn ceisio dibynnu ar hyn, lle bynnag y bo’n briodol.
Rydym wedi sicrhau bod ein cynllunio blynyddol a’n pwyntiau sicrwydd yn cyd-fynd â chylchoedd y sector, lle bo hynny’n bosibl, fel bod llywodraethu mewnol, cynllunio ariannol a chylchoedd ansawdd yn bwydo ein prosesau’n naturiol. Pan fydd arnom angen i ddarparwyr anfon rhywbeth atom, byddwn yn lleihau gofynion adrodd cymaint ag y gallwn yn rhesymol, gydag amseroedd rhagarweiniol clir ar gyfer unrhyw ddisgwyliadau newydd.
Fel sefydliad sy’n dysgu, bydd Medr yn parhau i adolygu a mireinio ei dull wrth ymateb i adborth gan y sector a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau bod hunanwerthuso yn cefnogi atebolrwydd ac arloesedd ar draws y system drydyddol.
Mae dulliau adolygu QAA yn rhoi pwyslais cryf ar hunanwerthuso fel adlewyrchiad o berchnogaeth sefydliadol o ansawdd a gwelliant.
- Mae llais y dysgwr wrth wraidd dull QAA. Mewn Adolygiadau Gwella Ansawdd (Cymru), mae cynrychiolwyr dysgwyr yn cyfrannu naill ai hunanwerthusiad ar wahân neu ar y cyd â’r darparwr. Mae QAA yn cynnig arweiniad penodol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr i gefnogi’r cyfraniad hwn, sef arfer sy’n cael ei chanmol gan Gymdeithas Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch Ewrop (ENQA).
- Mae arfer fyfyriol wedi’i hymwreiddio yng ngwaith QAA fel asiantaeth. Fel sefydliad sy’n cydymffurfio â’r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG), mae’n ofynnol i QAA ddangos myfyrdod a gwelliant parhaus yn ei weithrediadau ei hun. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch thematig sy’n manteisio ar fewnwelediadau adolygiadau, a chyhoeddi astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at arfer effeithiol a meysydd sydd i’w canmol.
- Ymrwymiad i’r Gymraeg. Mae QAA yn cefnogi hunanwerthuso cynhwysol a sensitif i’r cyd-destun ac mae wedi cyhoeddi’r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o SEG, yn ogystal â chanllawiau ar asesu yn y Gymraeg. Mae hefyd yn archwilio materion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, er enghraifft trwy waith diweddar ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol.
- Nod ymgyrch ‘Barod yn Barod!’ Estyn yw cynnig eglurder ynghylch disgwyliadau a rhannu manylion am drefniadau ymarferol i gefnogi ymarferwyr ac arweinwyr ar draws y sectorau trydyddol. Nid ydym am i ddarparwyr or-baratoi ar gyfer ymweliad arolygu. Y peth pwysicaf i’n timau arolygu yw arsylwi’r hyn sy’n digwydd ar lawr y dosbarth a siarad gyda staff a dysgwyr. Nid ydym am i arolygu fod yn rhy feichus, ond yn brofiad cadarnhaol sy’n rhan naturiol o arfer wella arferol darparwr.
- Yr hyn sydd wrth wraidd proses arolygu Estyn yw addysgu a dysgu. Mae arolygwyr yn arsylwi dysgu pa le bynnag y bydd yn digwydd: mewn dosbarthiadau, gweithdai, canolfannau cymunedol, gweithleoedd, ar-lein. Maent yn siarad ag athrawon am eu harfer ac yn siarad gyda dysgwyr am eu profiadau. Maent yn gwerthuso safonau gwaith dysgwyr, boed mewn hanes Safon Uwch, atgyweirio cerbydau modur neu lythrennedd oedolion; a’r cynnydd a wnânt. Caiff y gwerthusiad uniongyrchol hwn ei driongli â gwerthusiad y darparwr ei hun ac mae’n rhoi mewnwelediad manwl i ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae’r pwyslais ar addysgu a dysgu yn helpu darparwyr i ganolbwyntio eu prosesau gwella ar eu heffaith ar brofiadau uniongyrchol dysgwyr.
- Caiff arolygwyr cymheiriaid eu cynnwys ym mhob arolygiad Estyn o ddarparwyr yn y sector trydyddol. Ymarferwyr neu arweinwyr sy’n gweithio yn y sector yw’r rhain, sydd wedi’u hyfforddi gan Estyn i gymryd rhan lawn yn yr arolygiad. Wrth hyfforddi a lleoli arolygwyr cymheiriaid, ein nod yw dod â chyfredolrwydd, allanoldeb a thryloywder i’r broses arolygu a chynnig cyfleoedd i arolygwyr cymheiriaid ddatblygu eu medrau gwerthuso.