Cyfleoedd i gryfhau hunanwerthuso a gwella
Ar sail ein dadansoddiad o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar draws y sectorau trydyddol, dyma’r meysydd sy’n cynnig cyfleoedd i wella arferion hunanwerthuso a gwella ansawdd. Nid yw’r argymhellion a nodir yma wedi’u bwriadu i fod yn ‘statudol’ ac ni fyddant yn berthnasol i bob darparwr, o reidrwydd. Eu bwriad yw cynorthwyo i fyfyrio ar arfer bresennol a chyfeirio at ble y gallai gwelliannau gael yr effaith fwyaf.
Argymhellion traws-sector ar gyfer cryfhau hunanwerthuso a gwella
Sicrhau bod prosesau hunanwerthuso yn rhoi blaenoriaeth i effaith darpariaeth ar ddeilliannau, dilyniant, cyrhaeddiad, lles a chyrchfannau dysgwyr, yn hytrach na disgrifio prosesau neu weithgarwch, yn bennaf.
Sicrhau bod cynlluniau gwella ansawdd yn cynnwys camau gweithredu manwl, cerrig milltir clir, atebolrwydd enwebedig, meini prawf llwyddiant mesuradwy a phwyntiau adolygu diffiniedig.
Ymwreiddio defnydd systematig o dystiolaeth feintiol ac ansoddol, gan gynnwys proffiliau gradd, presenoldeb (cyfranogiad gwirioneddol), dilyniant, cyrchfannau a setiau data allanol a hydredol perthnasol i lywio gwerthuso a herio.
Cryfhau’r diwylliant o werthuso hunanfeirniadol, myfyriol ac wedi’i lywio gan dystiolaeth, gan sicrhau bod barnau wedi’u graddnodi’n dda, bod tystiolaeth agored ohonynt a’u bod yn gallu nodi meysydd y mae angen sylw arnynt yn gynnar trwy gymedroli, triongli a threfniadau adolygu mewnol cadarn.
Sicrhau y caiff camau gweithredu sy’n deillio o hunanwerthuso eu holrhain trwy gylchoedd adolygu strwythuredig, gan gynnal perchnogaeth a pharhad er gwaethaf newidiadau i bersonél neu newid sefydliadol.
Argymhellion ar gyfer sectorau penodol
- Canolbwyntio hunanwerthuso ar effeithiau ar ddysgwyr a dysgu (cynnydd, ennill medrau, dilyniant).
- Cryfhau atebolrwydd y bartneriaeth gyfan mewn adroddiadau hunanwerthuso a chynlluniau gwella ansawdd.
- Gweithredu olrhain cyson o ddilyniant a chyrchfannau dysgwyr.
- Cynyddu trylwyredd wrth nodi tanberfformiad ar lefel cyrsiau a cholegau.
- Sicrhau bod cynlluniau gwella ansawdd yn cynnwys camau gweithredu manwl, cerrig milltir a thargedau (gan gynnwys graddau uwch).
- Ehangu dadansoddi data i gynnwys proffiliau graddau, presenoldeb yn y dosbarth a chyrchfannau.
- Hogi cynlluniau gwella ansawdd gyda chamau gweithredu amserol ac atebolrwydd clir.
- Datblygu strategaethau gwella wedi’u targedu mewn meysydd galwedigaethol gwannach.
- Cryfhau systemau monitro i leihau cyfraddau cwblhau hwyr.
- Sicrhau bod hunanwerthuso’n canolbwyntio ar ddeilliannau a phrofiadau dysgwyr.
- Ymwreiddio mesurau perfformiad ôl-16 a dadansoddiad cadarn o gyrchfannau.
- Meithrin arbenigedd arweinwyr canol wrth werthuso safonau a chynnydd dysgwyr.
- Sicrhau bod hunanwerthuso’n canolbwyntio ar ddeilliannau a phrofiadau dysgwyr.
- Datblygu cynlluniau gwella gyda meini prawf llwyddiant clir a mesuradwy.
- Cynyddu her fewnol i leihau hunanasesu rhy hael.
- Dyfnhau gwerthuso beirniadol o effaith mewn cyflwyniadau Hunanddadansoddiad, gan fynegi’n glir sut mae gweithgarwch gwella yn gwella profiad a deilliannau dysgwyr.
- Cryfhau’r defnydd systematig o setiau data hydredol ac allanol mewn prosesau gwerthuso i gefnogi dadansoddi tueddiadau cyfoethocach a meincnodi cyd-destunol.
- Cydgrynhoi monitro strwythuredig o gamau gwella mewn cylchoedd adolygu parhaus i gefnogi gwelliant a goruchwyliaeth gynaledig.