Uncategorized Archives - Estyn

Category: Uncategorized


Category: Uncategorized


Mae nifer o blant yn sefyll y tu allan ar laswellt, yn cydweithio i bentyrru blociau ewyn mawr coch a glas yn dŵr uchel. Mae ffens bren a phanel addurnol melyn llachar i’w gweld y tu ôl iddynt.

Blog gan Jon Wright, AEF

Yn Estyn, rydym yn gwybod bod gwelliant ystyrlon mewn addysg yn digwydd trwy fyfyrio, cydweithio a deialog broffesiynol barhaus. Dyna pam rydym, er mis Medi 2024, wedi cyflwyno ymweliadau interim ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed, yn ogystal ag unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ledled Cymru.

Mae ymweliadau interim yn ymweliadau â ffocws sy’n cael eu cynnal rhwng arolygiadau craidd. Er nad ydynt yn arolygiadau ac nid ydynt yn arwain at argymhellion, maent yn darparu cyfle pwysig i ni ymgysylltu ag ysgolion yn fwy rheolaidd a deall profiadau arweinwyr, ymarferwyr a dysgwyr yn well.

Yn bwysicaf, mae ymweliadau interim wedi eu cynllunio i gefnogi ysgolion ar eu taith hunanwerthuso a gwelliant eu hunain.

Yn ystod ymweliad, mae Arolygwyr Ei Fawrhydi yn treulio amser yn siarad ag arweinwyr ysgolion, staff a dysgwyr am themâu penodol neu feysydd penodol i’w datblygu; fel arfer yr argymhellion o’r arolygiad craidd diwethaf. Mae’r sgyrsiau hyn yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu harfer, dathlu’r hyn sy’n gweithio’n dda ac ystyried y camau nesaf ar gyfer gwella. Mae’r broses yn gydweithredol, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar welliant.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi clywed adborth cadarnhaol gan ysgolion am werth yr ymweliadau hyn. Mae arweinwyr wedi siarad am fanteision cael amser dynodedig ar gyfer trafod a myfyrio proffesiynol, yn ogystal â chyfle i archwilio’u blaenoriaethau gwella mewn amgylchedd cefnogol.

I helpu codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o ymweliadau interim, rydym yn lansio ymgyrch newydd sy’n cynnwys myfyrdodau gonest gan ddarparwyr. Trwy gyfres o fideos byr, mae penaethiaid ac athrawon yn rhannu eu profiadau o’r broses ymweliadau interim ac yn trafod sut y cefnogodd yr ymweliadau ddysgu proffesiynol a gwella’r ysgol o fewn eu lleoliadau.

Rydym yn gobeithio y bydd y storïau hyn yn helpu rhoi darlun cliriach o’r hyn y mae ymweliadau interim yn ei gynnwys ac yn atgyfnerthu natur gefnogol a chydweithredol y broses.

Gallwch archwilio’r fideos a dod o hyd i fwy o wybodaeth ac adnoddau ar ein tudalen we ymweliadau interim.

Category: Uncategorized


QAA and Estyn logos

Mae Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Uwch (QAA), wedi’i ariannu gan Medr, wedi lansio adnodd ar-lein newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant parhaus ar draws system addysg drydyddol Cymru.

Mae’r microwefan, Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru, yn tynnu ynghyd ymchwil, mewnwelediadau sector ac offer ymarferol i helpu darparwyr i gryfhau eu dulliau o wella ansawdd a chanlyniadau dysgwyr.

Beth yw’r microwefan?

Mae’r microwefan yn adnodd ar-lein newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi darparwyr i ddatblygu arferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus effeithiol.

Mae’n cynnwys 12 egwyddor a rennir ar gyfer hunanwerthuso effeithiol, cwestiynau myfyriol i gefnogi trafodaeth broffesiynol, mewnwelediadau ac argymhellion penodol i’r sector, a gwybodaeth am rôl Estyn, QAA a Medr wrth gefnogi ansawdd ar draws y system drydyddol.

Mae’r adnodd wedi’i ddatblygu trwy brosiect ar y cyd rhwng Estyn a QAA wedi’i gan Medr ac wedi’i lywio gan dystiolaeth arolygu, adolygiadau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil ryngwladol.

Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae’r adnodd wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ar draws system addysg drydyddol Cymru, gan gynnwys:

  • Colegau addysg bellach
  • Sefydliadau addysg uwch
  • Darparwyr prentisiaethau
  • Partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned
  • Chweched dosbarth ysgolion
  • Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Bydd hefyd o ddiddordeb i arweinwyr, llywodraethwyr, rheolwyr ansawdd, ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

Pam mae’r prosiect hwn yn bwysig?

Mae hunanwerthuso effeithiol yn ffactor allweddol sy’n sbarduno gwelliant. Mae hunanwerthuso cryf yn helpu darparwyr i ddeall effaith eu gwaith, nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu a gwella canlyniadau a phrofiadau i ddysgwyr.

Er bod darparwyr ledled Cymru eisoes wedi sefydlu dulliau sicrhau a gwella ansawdd, nododd y prosiect hwn gyfleoedd i gryfhau arfer ymhellach. Yn benodol, mae’r prosiect yn tynnu sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar effaith, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol, ymgysylltu â dysgwyr yn ystyrlon a sicrhau bod cynllunio gwelliant yn arwain at newid mesuradwy.

Mae’r microwefan yn darparu fframwaith a rennir a all gefnogi myfyrio a gwella ar draws yr ystod amrywiol o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, gan gydnabod nad oes un dull a fydd yn gweithio i bob sefydliad.

Beth fydd defnyddwyr yn ei gael ar y wefan?

Bydd ymwelwyr â’r microsafle yn dod o hyd i:

  • 12 egwyddor hunanwerthuso effeithiol
  • Cwestiynau myfyriol i gefnogi deialog broffesiynol a chynllunio gwelliant
  • Dadansoddiad o arferion hunanwerthuso cyfredol ar draws sectorau addysg drydyddol yng Nghymru
  • Enghreifftiau o gryfderau a meysydd i’w gwella a nodwyd trwy weithgarwch arolygu ac adolygu
  • Argymhellion traws-sector a phenodol i sectorau
  • Gwybodaeth am rolau Estyn, QAA a Medr wrth gefnogi ansawdd a gwelliant parhaus
  • Adolygiad llenyddiaeth a darllen pellach ar hunanwerthuso effeithiol

Bydd yr adnodd yn parhau i dyfu dros amser, gydag astudiaethau achos newydd, enghreifftiau o arfer effeithiol a deunyddiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i gefnogi darparwyr ar draws y system drydyddol.

Darganfyddwch yr adnodd

Ewch i’r microwefan Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru i gael mynediad at yr adnodd llawn a’r deunyddiau ategol.

Category: Uncategorized


Delwedd agos o berson yn defnyddio gliniadur wrth bwyntio at ryngwyneb digidol gyda dewisiadau y gellir eu dewis wedi’u harddangos dros y sgrin.

Blog gan Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol

Cyn pob arolygiad, rydym yn casglu adborth gan ddysgwyr, staff, rhieni neu ofalwyr a grwpiau allweddol eraill am eu profiad o ddarparwr. Gallwch weld y cwestiynau rydym yn eu gofyn ar ein gwefan – Holiaduron arolygu – Estyn.

Mae’r holiaduron hyn yn ymdrin ag ystod o faterion sy’n ein helpu i ddeall beth mae pobl allweddol yn ei werthfawrogi am ddarparwr a beth allai fod angen ei wella, yn eu barn nhw. Cyn arolygiad, mae arolygwyr yn edrych ar yr atebion a roddwyd ac yn defnyddio’r rhain i helpu meddwl am gwestiynau y gallent eu gofyn yn ystod arolygiad. Defnyddir yr adborth mewn holiaduron ochr yn ochr â thrafodaethau gyda dysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni / gofalwyr fel rhan o’n sail dystiolaeth ar gyfer arolygiad. Rydym yn edrych ar ystod o dystiolaeth arall.

Newidiom y cwestiynau a ddefnyddiwyd pan ddiweddaron ni ein trefniadau arolygu yn 2024, felly 2024-2025 oedd y flwyddyn gyntaf i ni ddefnyddio’r cwestiynau newydd. Ym mis Ionawr, cyhoeddom y darlun cenedlaethol o ddeilliannau o’r holl ymatebion gan ddysgwyr a rhieni / gofalwyr ar draws pob un o’n harolygiadau yn ystod y flwyddyn honno, lle roedd gennym ddigon o arolygiadau i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i’r deilliannau cenedlaethol yma Ymatebion Cenedlaethol i Holiadur Cyn-Arolygiad i Ddysgwyr a Rhieni – Adroddiad Blynyddol. Rydym yn defnyddio’r ymatebion cenedlaethol hon fel meincnod ar gyfer ymatebion i holiadur darparwyr unigol, er bod cyd-destun pob darparwr yn wahanol. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr ystyried yr ymatebion cenedlaethol hyn os ydynt yn cynnal holiaduron tebyg gyda’u dysgwyr.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dechreuom gasglu gwybodaeth ddemograffig hefyd am y dysgwyr a oedd yn llenwi ein holiaduron. Mae’r wybodaeth hon ar wahân i’r prif gwestiynau ac nid yw’n cael ei rhannu â’r tîm arolygu ar gyfer yr arolygiad unigol hwnnw. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ystyried unrhyw batrymau cyffredinol yn yr ymatebion ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr ledled Cymru i’n helpu i ddeall eu profiadau dysgu yn well. Byddwn yn cyhoeddi’r data hwn ochr yn ochr â’n hymatebion cenedlaethol cyffredinol yn y dyfodol pan fyddwn yn hapus ag ansawdd y data.  

Category: Uncategorized



Mae ffoneg yn sylfaen allweddol ar gyfer dysgu darllen. Mae’n gweithio orau pan fydd plant yn barod a phan fydd wedi’i gysylltu ag ystyr. A yw ffoneg yn cael ei haddysgu’n systematig ac ar y cam cywir i ddisgyblion?

Sylwch ar:

  • addysgu’r berthynas rhwng seiniau a llythrennau yn glir
  • disgyblion sy’n asio’n hyderus
  • oedolion yn gwirio cywirdeb a dealltwriaeth pan fydd disgyblion yn darllen

Gofynnwch i chi’ch hun:

‘A yw addysg ffoneg yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau darllen geiriau?’

  • Ledled Cymru, yr her fwyaf i ysgolion yn aml yw dealltwriaeth disgyblion o’r hyn maent yn ei ddarllen. Sut mae oedolion yn cynorthwyo disgyblion i ddeall yr hyn maent yn ei ddarllen?

Edrychwch am addysgu sy’n cefnogi’r canlynol:

  • datblygu geirfa
  • gallu disgyblion i ddehongli (‘darllen rhwng y llinellau a’r tu hwnt iddynt’), gwerthuso a gwerthfawrogi’r hyn maent yn ei ddarllen
  • cysylltu testunau â gwybodaeth a phrofiad disgyblion
  • trafod ystyr, yn hytrach na datgodio geiriau yn unig

Gofynnwch i chi’ch hun:

‘A all y disgybl esbonio, yn eu geiriau eu hun, yr hyn mae wedi’i ddarllen?’

  • Mae’r ysgolion cryfaf yng Nghymru yn trin darllen yn rhan ganolog o bob dysgu. A yw darllen yn cael ei blethu trwy brofiadau dysgu disgyblion, yn hytrach na chael ei gyfyngu i un sesiwn addysgu?

Edrychwch am:

  • ddisgyblion yn manteisio ar destunau o ansawdd uchel ar draws y cwricwlwm
  • athrawon yn modelu sut i ddarllen diagramau, siartiau, delweddau a ffynonellau eraill
  • darllen sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol, er enghraifft
  • disgyblion yn cymhwyso strategaethau a medrau darllen yn annibynnol i gefnogi eu gwaith

Gofynnwch i chi’ch hun:

‘A yw disgyblion yn darllen i ddysgu ac yn dysgu i ddarllen ar draws y cwricwlwm?’

Plant ysgol mewn llyfrgell

Category: Uncategorized



Reflective prompts:

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ystyried yr awgrymiadau myfyriol canlynol wrth edrych ar ddarpariaeth ar gyfer darllen neu pan fyddwch chi’n arsylwi darllen yn ystod eich profiadau ysgol gynradd:


  • Mae darllen cryf yn dechrau gyda llafaredd cryf. Pa fathau o brofiadau iaith y mae disgyblion yn eu cael?

Edrychwch a gwrandewch am:

  • sgwrs gyfoethog yn yr ystafell ddosbarth
  • adrodd storïau a thrafod
  • oedolion yn modelu geirfa ac yn cyflwyno geirfa a strwythurau iaith newydd i ddisgyblion
  • disgyblion yn esbonio ac yn cyfiawnhau eu syniadau a’u safbwyntiau

Gofynnwch i chi’ch hun:

‘A yw disgyblion yn datblygu’r iaith lafar sydd ei hangen arnynt i ddeall yr hyn y byddant yn ei ddarllen yn ddiweddarach?’

  • Ym mlynyddoedd cynnar addysg gynradd disgybl, mae medrau cyn darllen yn bwysig. Sut mae oedolion yn sicrhau bod gan ddisgyblion sylfeini cadarn ar gyfer darllen, cyn dechrau addysgu darllen yn ffurfiol?

Edrychwch am:

  • gemau a gweithgareddau gwrando
  • chwarae ag odl, rhythm a sain
  • mwynhau storïau a cherddi ar y cyd
  • sut mae disgyblion yn datblygu eu sylw, eu gwrando, cymryd tro a siarad
  • sut mae disgyblion yn datblygu eu medrau corfforol

Gofynnwch i chi’ch hun:

‘Sut mae oedolion yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygu darllen disgyblion?’

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth lachar yn gweithio gyda'i gilydd wrth ddesgiau, gyda dau yn y blaendir yn cydweithio ar dasg tra bod eraill yn sgwrsio ac yn dysgu yn y cefndir.

Category: Uncategorized


Mae grŵp o fyfyrwyr mewn ystafell ddosbarth yn gweithio'n ddwys ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith. Maent yn gwisgo gwisgoedd ysgol, sy'n cynnwys crysau gwyn a thei streipiog melyn. Mae'r ystafell wedi'i goleuo'n dda gyda ffenestri mawr yn y cefndir.

Blog gan Mamta Arnott, AEF

Mae offeryn hunanwerthuso ar-lein newydd bellach ar gael i ysgolion ledled Ewrop yn rhad ac am ddim i gefnogi arfer gynhwysol. Enw’r offeryn yw STESSIE, ac mae’n helpu ysgolion i werthuso, cryfhau a myfyrio ar ba mor werthusol ydynt. Mae’r offeryn, a ddatblygwyd trwy ddwy raglen Erasmus+, yn ddarn arwyddocaol o gydweithio Ewropeaidd – a chafodd Estyn rôl bwysig yn ffurfio’i sylfeini.

Beth yw STESSIE?

Mae STESSIE yn offeryn hunanwerthuso ar-lein, sydd hefyd ar gael fel ap, sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i adolygu a gwella’u harweinyddiaeth, eu diwylliant ysgol a’u hinsawdd ystafell ddosbarth gynhwysol. Fe’i datblygwyd trwy ddau brosiect olynol Erasmus+, sef: BIBESOIN (2018–2021) a STESSIE (2022–2025).

Yn ystod BIBESOIN, bu Estyn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid rhyngwladol i gynllunio’r fframwaith sy’n sail i’r offeryn. Adeiladodd y rhaglen STESSIE ddiweddarach ar y sylfaen hon, gan arwain at ddatblygu a lansio’r platfform digidol llawn. Yn bwysig, mae’r offeryn ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion ledled Ewrop.

Cynhwysiant fel cyfrifoldeb ysgol gyfan

Mae egwyddor glir wrth wraidd STESSIE: mae cynhwysiant yn ddull ysgol gyfan. Nid cyfrifoldeb un tîm neu arbenigwr mohono, ond ymrwymiad ar y cyd yn cynnwys arweinwyr, athrawon, staff cymorth, teuluoedd a dysgwyr.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar fentrau ynysig, mae’r offeryn yn annog ysgolion i fyfyrio ar sut mae gwerthoedd cynhwysol yn ffurfio penderfyniadau, perthnasoedd a phrofiadau ystafell ddosbarth bob dydd. Mae’n ystyried sut mae arweinyddiaeth yn gosod cyfeiriad, sut mae diwylliant ysgol yn hyrwyddo perthyn, a sut mae arfer ystafell ddosbarth yn ymateb i anghenion amrywiol. Mae’r dull cyfannol hwn yn cefnogi gwelliant cynaledig, cydlynus yn hytrach nag atebion tymor byr.

Gwrando ar gymuned yr ysgol gyfan

Un o gryfderau allweddol STESSIE yw ei allu i ddwyn ynghyd safbwyntiau staff, rhieni a myfyrwyr o fewn yr un ysgol. Trwy archwilio’r safbwyntiau hyn ochr yn ochr, mae ysgolion yn ennill dealltwriaeth gyfoethocach o sut caiff cynhwysiant ei brofi ar draws eu cymuned.

Gallai amgyffredion alinio â’i gilydd – neu gallent fod yn wahanol. Mae’r naill fewnwelediad a’r llall yn werthfawr. Mae’r myfyrio hwn ar y cyd yn helpu symbylu deialog broffesiynol, yn cryfhau perchnogaeth ar y cyd ac yn nodi camau nesaf ystyrlon.

Partneriaeth Ewropeaidd gref

Daeth y prosiect ag arolygiaethau, gweinyddiaethau, prifysgolion ac ysgolion ynghyd o bob cwr o Ewrop, o dan arweiniad y Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau (SICI). Sicrhaodd y bartneriaeth eang hon fod yr offeryn yn adlewyrchu systemau a phrofiadau addysg amrywiol.

Rhestrir partneriaid y prosiect isod:

  • SICI – Y Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau (sefydliad arweiniol)
  • Onderwijsinspectie – Arolygiaeth Addysg, Yr Iseldiroedd
  • IH2EF – Sefydliad Astudiaethau Uwch mewn Addysg a Hyfforddiant, Ffrainc
  • Gweriniaeth Estonia – Y Weinyddiaeth Addysg ac Ymchwil
  • Estyn – Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
  • Llywodraeth Malta – Y Weinyddiaeth Addysg, Chwaraeon, Ieuenctid, Ymchwil ac Arloesi
  • IES Monastil (IESM) – Sefydliad Addysg Uwchradd, Elda, Sbaen
  • Yr Arolygiaeth Addysg Genedlaethol, Bwlgaria
  • Yr Arolygiaeth Canolfannau Addysg, Hyfforddiant Athrawon a Chymorth a Llywodraeth Y Basg – Adran Addysg (Sbaen)
  • OEDE – Sefydliad Arolygwyr Addysg Gynradd, Groeg
  • Yr Adran Addysg, Gwyddoniaeth a Phrifysgolion – Cymuned Madrid, Sbaen
  • Y Sefydliad Ansawdd a Gwerthuso Addysg, Serbia
  • Prifysgol Ghent, Gwlad Belg

Cefnogi gwelliant tymor hir

Mae STESSIE wedi’i gynllunio ar gyfer defnydd parhaus. Gall ysgolion fynd yn ôl at yr offeryn dros gyfnod i olrhain newidiadau o ran amgyffredion, gwerthuso effaith y camau a gymerwyd a mireinio’u blaenoriaethau. Mae’n darparu fframwaith ymarferol ar gyfer datblygiad strategol cynaledig.

Trwy annog myfyrio a rennir a chyfrifoldeb ar y cyd, mae STESSIE yn cynnig cyfle gwerthfawr i ysgolion gryfhau cynhwysiant – gan gefnogi perthyn, tegwch a llwyddiant ar gyfer pob dysgwr.

Mae bellach yn bosib ychwanegu “Cymru” fel gwlad wrth gofrestru ar gyfer STESSIE.

Category: Uncategorized


Plentyn mewn gwisg ysgol yn dal llyfr i fyny mewn llyfrgell, gyda phlentyn arall a silffoedd llyfrau yn llawn llyfrau yn y cefndir.

Blog gan AEF Anthony Jones.

P’un a ydych chi’n gweithio mewn ysgolion neu wedi bod yn dilyn y newyddion, byddwch yn gwybod bod gwella medrau darllen yn flaenoriaeth allweddol ledled Cymru. O’r blynyddoedd cynnar, hyd at addysg ôl-orfodol, mae darllen yn hollbwysig i wella cyfleoedd bywyd a llwyddiant pobl Cymru ac mae’n rhan annatod o’n gwaith yn Estyn. 

O’n gwaith arolygu, rydym yn gwybod bod arfer effeithiol ym mhob sector, ond mae amrywioldeb mewn darpariaeth yn golygu bod gormod o ddysgwyr nad ydynt yn ddarllenwyr rhugl neu’n ddarllenwyr uwch erbyn iddynt afael yr ysgol neu addysg bellach.  

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod hyn yn effeithio ar fywyd unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, gan gynnwys: 

  • Caledi economaidd hirdymor 
  • Mwy o risg o ymglymiad â’r system cyfiawnder troseddol 
  • Rheoli iechyd yn waeth 
  • Parhau â’r cylch tlodi 
  • Colli annibyniaeth ac ymgilio’n gymdeithasol 
  • Atal cynnydd ym mhob cyfnod addysg 

Mae Estyn wedi ymrwymo i chwarae rôl weithredol mewn gwella safonau darllen ac, o fis Medi 2026 ymlaen, bydd ganddo ffocws manylach tair blynedd ar ddarllen.  

Beth mae Estyn yn ei wneud yn wahanol yn y ‘ffocws manylach tair blynedd’? 

I gefnogi Cymru ac addysg i dorri’ch cylchred hwn, mae Estyn wedi addasu ein gweithgareddau yn y ffyrdd canlynol: 

  1. Mae darllen yn flaenoriaeth ym mhob arolygiad craidd ar gyfer bron pob darparwr 

Mae Estyn wedi ystyried ansawdd darllen yn y sectorau gwahanol rydym yn eu harolygu erioed, a byddwn yn parhau i edrych yn ofalus ar y cynnydd mae dysgwyr yn ei wneud ym mhob cyfnod. Byddwn yn gwella’r ffordd rydym yn edrych ar hyn ac yn datblygu gweithgareddau arolygu i’n cynorthwyo i gasglu tystiolaeth ac adrodd yn gliriach ar safonau medrau darllen plant a phobl ifanc.  

  1. Bydd ffocws craffach ar ansawdd darpariaeth ar gyfer darllen 

Rydym yn deall bod yr enghreifftiau mwyaf effeithiol o addysgu a dysgu mewn darllen yn cynnwys ystod o fethodolegau gwahanol. Yn sgil hyn, bydd ein ffocws manylach yn edrych ar y dulliau y mae darparwyr wedi’u dewis i ddatblygu darllen a pha mor dda mae’r rhain yn cael eu cefnogi mewn gwersi Cymraeg a Saesneg ac ar draws y cwricwlwm. Byddwn yn edrych ar ba mor dda y mae darparwyr yn hybu a chefnogi diwylliant o ddarllen er pleser a llwyddiant.   

  1. Byddwn yn ystyried pa mor dda mae arweinwyr yn sicrhau gwelliannau i’r ddarpariaeth ar gyfer darllen a safonau darllen 

Byddwn yn cael trafodaethau ag arweinwyr am sut maent wedi blaenoriaethu a chynllunio i wella darllen a byddwn yn ystyried yr effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar wella darpariaeth a safonau.   

  1. Amlygu arfer gref a chymorth i wella darllen 

Ochr yn ochr â gweithgarwch arolygu, bydd Estyn yn rhannu mewnwelediadau o’r hyn sy’n gweithio ledled Cymru ac yn parhau i gyhoeddi deunyddiau, podlediadau, canfyddiadau o adroddiadau thematig ac enghreifftiau o arfer effeithiol i gynorthwyo darparwyr i wella. 

Felly beth sy’n gweithio hyd yn hyn i wella darllen? 

Lle gwelwn arfer gref ar gyfer darllen wrth arolygu:  

Mae arweinwyr… 

  • Yn rhoi blaenoriaeth i wella agweddau penodol ar ddarllen ar sail anghenion eu disgyblion 
  • Yn gwerthuso darpariaeth ar gyfer darllen ar sail ei heffaith ar ddysgwyr 
  • Yn targedu ac yn addasu adnoddau a chamau gweithredu dilynol ar y meysydd y mae angen eu gwella fwyaf 
  • Yn canolbwyntio’n gryf ar wella addysgu darllen mewn Cymraeg, Saesneg a meysydd perthnasol ar draws y cwricwlwm 
  • Yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn helpu athrawon i ddatblygu medrau darllen dysgwyr 
  • Yn hybu diwylliant cadarnhaol o ddarllen er pleser ac er mwyn dysgu 
  • Yn sicrhau bod yr holl staff yn deall eu cyfrifoldeb wrth ddatblygu darllen 

Mae athrawon… 

  • Yn cynllunio cyfleoedd dilys a phwrpasol i ddysgwyr ddatblygu a gwella eu medrau darllen 
  • Yn defnyddio deunyddiau darllen heriol a pherthnasol sy’n cefnogi datblygiad pynciol a medrau 
  • Yn defnyddio ystod o ddulliau darllen gwahanol sydd wedi’u haddasu yn ôl anghenion eu dysgwyr 
  • Yn cynorthwyo i ddatblygu diwylliant darllen cadarnhaol trwy fodelu llawenydd darllen 

Mae’r ffactorau hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd mewn darllen a bod gan staff ddealltwriaeth gref o ddulliau addysgu effeithiol sy’n cyfateb i anghenion unigol. Bydd Estyn yn parhau i rannu diweddariadau ac enghreifftiau o hyd yn y dyfodol.  

Parhau â’r sgwrs – ble nesaf? 

Darllen yw sylfaen pob dysgu ac mae Estyn wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a lleoliadau â hyn. Gallwch ymweld â’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymagwedd Estyn at ddarllen a defnyddio deunyddiau gwahanol i wella eich ymagweddau tuag at ddarllen. 

Dolenni defnyddiol 

Podlediad – Goresgyn heriau wrth addysgu darllen 

Estyn yn Fyw – Y daith ddarllen yn y sector cynradd

Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned – Estyn  

Cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol – Estyn  

‘Popeth, yn llythrennol’ – cyflawni potensial llawn llyfrgell ysgol – Estyn   

Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd (Estyn, 2021)   

Caffael yr iaith Gymraeg (Estyn, 2021)   

Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed (Estyn, 2023)   

Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed (Estyn, 2024)   

Category: Uncategorized


Close up image of a pupil's hand writing a maths equation on a small whiteboard.

Mae medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod brysur i’r tîm mathemateg yn Estyn. Er nad ydym yn arolygu mathemateg yn bwnc ar ei ben ei hun, mae rhifedd yn rhan allweddol o bob arolygiad. Rydym yn credu’n gryf fod medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel. O’r herwydd, yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion, rydym yn edrych yn fanwl ar ba mor dda mae disgyblion yn gwneud cynnydd mewn gwersi mathemateg a pha mor effeithiol maent yn cymhwyso’r medrau hyn i ddatrys problemau, o fewn mathemateg ac ar draws y cwricwlwm ehangach.

Yn Estyn, mae arbenigedd pwnc yn bwysig. Mae hyn yn ystyriaeth allweddol wrth recriwtio arolygwyr, ac o fewn y tîm uwchradd, mae gennym sawl cydweithiwr sydd â chefndir cryf mewn  mathemateg. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd o ran arbenigedd pwnc ar dimau arolygu, lle bo modd. Er bod ein gwaith arolygu craidd bob amser yn cynnwys ystyriaeth o fathemateg a rhifedd, bu ffocws cynyddol ar addysgu mathemateg yn benodol yn y 18 mis diwethaf.

Darlun cenedlaethol o addysg fathemateg:

Mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent ei wneud mewn mathemateg.

Y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni gynnal arolwg thematig o ansawdd addysg fathemateg ar gyfer dysgwyr rhwng 9 ac 16 oed. Ymwelodd tîm o arolygwyr, dan arweiniad Nicola Thomas AEF, ag ysgolion ledled Cymru, a defnyddiwyd tystiolaeth o arolygiadau craidd i greu darlun cenedlaethol.

Roedd yr hyn a ganfuom yn gymysg. Mewn rhai ysgolion, roedd disgyblion yn amlwg yn mwynhau mathemateg ac yn elwa ar addysgu hyderus a difyr. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn rydym yn ei weld yn aml yn ystod arolygiadau arferol.

Un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr ar yr ymweliadau oedd y cyfle i siarad yn agored ag athrawon a phenaethiaid mathemateg. Roedd y sgyrsiau proffesiynol hyn yn onest ac yn ystyriol, yn enwedig ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael ar gyfer addysgu mathemateg yng Nghymru. Nodom hefyd enghreifftiau o arfer effeithiol y gellid eu rhannu’n ehangach, ac fe wnaethom gynnwys y rhain yn astudiaethau achos manwl yn yr adroddiad terfynol.

Canfyddiadau allweddol ac arfer a rennir:

Mae’r adroddiad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag addysg fathemateg yng Nghymru.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod safonau mewn mathemateg yng Nghymru yn rhy isel, er gwaethaf ymroddiad athrawon. Daeth tri mater allweddol i’r amlwg, sef:

  1. amrywioldeb yn ansawdd yr addysgu,
  2. diffyg disgwyliadau cenedlaethol clir,
  3. a dysgu proffesiynol annigonol yn benodol i fathemateg.

Mae’r adroddiad, sydd ar gael ar ein gwefan, yn amlinellu nodweddion effeithiol a llai effeithiol o ran addysgu mathemateg, ac yn cynnwys astudiaethau achos ymarferol. Fe wnaethom ailymweld â rhai ysgolion i ffilmio enghreifftiau o arfer gref. Mae’r fideos hyn yn dangos strategaethau fel holi diagnostig, defnydd effeithiol o fyrddau gwyn bach, holi pwrpasol i ddyfnhau meddwl, a defnyddio amrywiad i helpu disgyblion i adnabod patrymau a strwythurau.

Parhau â’r sgwrs:

Gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.

Ym mis Rhagfyr, cynhaliom ddigwyddiad Estyn yn Fyw lle bu ysgolion yn rhannu arfer effeithiol mewn addysgu mathemateg, a nodwyd yn ystod arolygu. Fe wnaethom hefyd recordio podlediadau yn Saesneg ac yn Gymraeg gydag athrawon ac arbenigwyr yn trafod negeseuon allweddol yr adroddiad.

Ym mis Chwefror, bydd Nicola a minnau yn arwain digwyddiadau dysgu proffesiynol ledled Cymru ar gyfer athrawon uwchradd a phenaethiaid mathemateg ar ein ‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu. Bydd y sesiynau hyn yn archwilio canfyddiadau’r adroddiad, yn rhannu strategaethau effeithiol ac yn cynorthwyo athrawon wrth werthuso medrau mathemategol disgyblion.

Mae amser o hyd i gofrestru am le os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.

Bu’n gyfnod dwys ond boddhaus. Mae canolbwyntio ar fathemateg wedi atgyfnerthu pa mor hanfodol yw addysgu o ansawdd uchel wrth godi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith o fewn y system i gefnogi ymarferwyr a gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.

Dolenni perthnasol:

Datgloi potensial: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg – Estyn

Adnoddau Fideo Mathemateg – Estyn

‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu

Podlediad Sgwrs: Meddyliau ar addysgu Mathemateg yng Nghymru – Estyn

Estyn yn Fyw: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg

Category: Uncategorized


A headshot photo of Nick Hudd

Ar ôl cwblhau fy arolygiad Estyn cyntaf o wasanaethau ieuenctid awdurdod lleol yn ddiweddar fel Arolygydd Cymheiriaid, rwyf wedi treulio amser yn myfyrio ar yr hyn a oedd yn brofiad heriol, ysbrydoledig a chyfoethog yn broffesiynol.

Ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol i arolygwyr cymheiriaid, roeddwn yn teimlo’n hyderus yn fy nealltwriaeth o’r broses, yn enwedig o ran sut i adolygu tystiolaeth yn yr Ystafell Arolygu Rithwir cyn yr ymweliad. Roedd y cipolwg cynnar hwn yn amhrisiadwy wrth i mi symud i’r cyfnod ar y safle, lle daeth cyfarfodydd, trafodaethau ac ymweliadau arsylwi â’r data’n fyw a’n galluogi i roi cyd-destun i’r ddarpariaeth yn ymarferol.

A minnau’n ymarferydd gwaith ieuenctid â thros 20 mlynedd o brofiad, roeddwn yn falch o ganfod bod fy nghyd-arolygwyr yn cydnabod gwerth fy ngwybodaeth am y sector a’m mewnwelediad o’r rheng flaen. Gweithiodd y tîm arolygu ar y cyd ac roeddwn wir yn teimlo fy mod yn cael fy mharchu fel cymar a bod fy nghyfraniad yn cryfhau’r broses arolygu gyffredinol.

Roedd yr arolygiad ei hun yn drylwyr, yn dryloyw ac wedi’i strwythuro’n dda. Rhaid cyfaddef, roeddwn i’n nerfus i ddechrau ynglŷn â llywio’r agweddau gweinyddol yn gywir, ond roedd y gefnogaeth a’r arweiniad gan dîm cyfan Estyn yn glir ac yn anogol. Cefais fy sicrhau’n gyson nad fy rôl i oedd dod yn AEF, ond yn hytrach i ddod â’m safbwynt fel ymarferydd i’r gwaith. Roedd hyn yn rhywbeth a wnaeth y profiad yn hylaw ac yn ystyrlon.

Credaf fod rôl Estyn mewn arolygu darpariaeth gwaith ieuenctid nid yn unig yn fuddiol ond yn hanfodol. Mae’n cefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau, yn gwella ansawdd darpariaeth i bobl ifanc ac yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i ymarferwyr.

Yn bersonol, fe wnaeth y profiad ddyfnhau fy nealltwriaeth fy hun o waith ieuenctid mewn cyd-destunau gwahanol, ehangu fy safbwynt proffesiynol ac atgyfnerthu grym cydweithio ac arfer fyfyriol o ran sbarduno newid cadarnhaol. Byddwn yn argymell yn frwd i unrhyw ymarferydd profiadol sy’n ceisio gwneud cyfraniad ehangach i’n maes ddod yn arolygydd cymheiriaid.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch ymweld â’n gwefan i gofrestru eich diddordeb mewn rowndiau recriwtio yn y dyfodol sy’n berthnasol i’ch profiad?

Dysgwch fwy yma.

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yn y sector gwaith ieuenctid yma.

Category: Uncategorized


Yn yr olaf yn ein cyfres o weminarau’n edrych ar y canfyddiadau o’r adroddiad thematig a oedd yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion pob oed, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, edrychodd awduron ein hadroddiad ar sut mae ysgolion yn treialu ac yn gwerthuso gweithgareddau a phrofiadau dysgu newydd. Rhannwyd rai canfyddiadau o’n hymweliadau ymgysylltu diweddar ag ysgolion hefyd.