‘Popeth, yn llythrennol’ – cyflawni potensial llawn llyfrgell ysgol.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Haberdashers i Fechgyn, Trefynwy, yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol sydd wedi’i lleoli yn Nyffryn Gwy, sydd â hanes cyfoethog yn ymestyn dros 400 mlynedd. Mae 472 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 126 o ddisgyblion preswyl a 171 yn ei Chweched Dosbarth cydaddysgol. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsarïau ar gael i ddisgyblion sy’n ymuno ym Mlynyddoedd 7, 9 a 12, ac mae ceisiadau’n agored i bob ymgeisydd, p’un a ydynt yn ddisgyblion preswyl neu’n ddisgyblion dydd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae llyfrgell Ysgol Haberdashers i Fechgyn, Trefynwy, yn cynnwys gofod adnoddau mawr, dynodedig, cyfeillgar, cynhwysol a phoblogaidd, gyda llyfrgellwyr hyfforddedig yn aelodau staff yno. Mae’r llyfrgell yn cyfuno ymchwil a syniadau’r ddarpariaeth ddiweddaraf o ran adnoddau â gwerthoedd hanesyddol yr ysgol, i greu ardal adnoddau academaidd a hafan les groesawgar ac amlswyddogaethol. Mae nodau’r llyfrgell yn cynnwys hyrwyddo, annog ac ysbrydoli darllen, llythrennedd, astudio, ymchwil, ymlacio a lles ar gyfer cymuned yr ysgol, tra’n cefnogi anghenion academaidd a bugeiliol ehangach, gweithgareddau a mentrau cymuned yr ysgol, hefyd.
Mae’r llyfrgell yn cynnig gofod croesawgar a chyfforddus gydag ardaloedd dynodedig ar gyfer astudio, addysgu, ymlacio, lles, ymchwil yn seiliedig ar TG ac ardaloedd trafod ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol. Mae gofod a dodrefn wedi cael eu dylunio’n ystyriol i fod mor hyblyg ag y bo modd, ac yn ddefnyddiadwy ar gyfer digwyddiadau mwy, yn ôl yr angen. Mae polisi ‘agored i bawb’, ynghyd â pherthnasoedd da ag adrannau academaidd yn sicrhau bod adnoddau ffuglen a ffeithiol yn gweddu i’r cwricwlwm, ac yn cael eu hyrwyddo ymhlith cymuned yr ysgol. Mae defnydd o’r llyfrgell ar gyfer gweithgareddau, gwersi a digwyddiadau gan adrannau a chymuned ehangach yr ysgol yn sicrhau bod hyd yn oed ‘y rhai nad ydynt yn ddarllenwyr’ yn dangos diddordeb yn y llyfrgell yn rheolaidd, ac yn elwa ar ei chyflenwad a’i hadnoddau, gan ei galluogi i gefnogi a chyrraedd cymuned yr ysgol gyfan.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Rhestrir ychydig o’r mentrau a ddarperir gan y llyfrgell isod:
Heriau Darllen, Ysbrydoli a Gwersi Llyfrgell Dynodedig:
Mae’r llyfrgell yn hyrwyddo llythrennedd, darllen er pleser, ymchwil, lles a chymorth academaidd trwy gynlluniau darllen, yn cynnwys:
-
Book Breakout – (SpineCrackers gynt) Mae’n her sy’n annog darllen heb gyfyngu ar ddewis disgybl. Mae canolbwyntio ar themâu yn hytrach na theitlau gosod yn helpu cynnal diddordeb ac ymgysylltiad, tra’n gwella lles, hunanwelliant, cyflawniad personol, meddwl beirniadol, empathi, gwydnwch, ac ati, hefyd.
-
Her Mathemateg a Darllen – (enghraifft o heriau darllen penodol a gynhelir gydag adrannau academaidd) Mae disgyblion yn dewis, yn darllen ac yn adolygu llyfrau gyda thema yn gysylltiedig â mathemateg. Wedyn, caiff adolygiadau eu harddangos yn yr adran a’r llyfrgell i bob disgybl ryngweithio â nhw.
- Her Gwirioni ar Ddarllen – Mae disgyblion newydd Blwyddyn 7 yn derbyn sesiwn ragarweiniol yn y llyfrgell ym Mlwyddyn 6 lle cânt eu herio i fenthyca llyfr i’w ddarllen a’i adolygu mewn lle ‘gwyllt’ – gan annog darllen a llythrennedd tra’n ymlacio er lles.
- Cynhelir Gwersi Llyfrgell Dynodedig – gwersi ‘darllen er pleser’ amserlenedig wythnosol ar gyfer disgyblion Saesneg ym Mlynyddoedd 7 – 9, yn y llyfrgell. Mae’r llyfrgell hefyd yn addysgu medrau ymchwil trwy raglen amserlenedig Blwyddyn 7, yn ogystal â gwersi ymchwil pwrpasol poblogaidd ar gyfer dosbarthiadau pwnc a Chweched Dosbarth ar gais, ac fel rhan o gymhwyster prosiect estynedig (EPQ).
-
Mae Arddangosfeydd Ysbrydoledig ar ddigwyddiadau amserol neu themâu llenyddol (e.e. COP28 ac Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori) yn annog cariad at ddarllen, dysgu a gwybodaeth. Caiff cylchlythyrau rheolaidd y llyfrgell – fersiynau print a fersiynau rhyngweithiol ar-lein, eu mwynhau hefyd.
- Mae Deunyddiau darllen amrywiol – fel ‘Quick Picks’, ‘deunyddiau sy’n addas ar gyfer dyslecsia’ a nofelau graffig, gwahanol adnoddau iaith, ac ati, yn cynnwys e-fersiynau, ar gael i uchafu cynhwysiant.
‘Shelf Help’, ‘Breakout Interact Understand’ and Happy Café:
-
Mae ‘Shelf Help’ yn gasgliad ac ardal adnoddau lles ddynodedig, sy’n cynnwys rhestrau printiedig o adnoddau lles ffeithiol, yn cynnwys ‘Gwrthfwlio’, ‘Cyfeillgarwch’, ‘Hyder’, ‘Amrywiaeth’, ac ati. Mae fersiynau rhyngweithiol ar-lein ar gael, hefyd – mae myfyrwyr yn ‘clicio’ ar lyfr i agor y catalog, gweld manylion neu’i gadw.
- Mae ‘Breakout Interact Understand’ yn llyfryn sy’n cyd-fynd â ‘Shelf Help’ (print ac ar-lein), sy’n cynnwys adnoddau lles ffuglen, hyrwyddo empathi, gwydnwch, a dealltwriaeth well.
- Mae Happy Café, sydd wedi’i leoli ochr yn ochr â ‘Shelf Help’, yn galluogi mynediad uniongyrchol at adnoddau lles ac ardal ymlacio ar gyfer disgyblion os ydynt yn cael pethau’n anodd neu’n ddigalon. Mae hefyd yn fan cyfarfodydd bugeiliol ar gyfer disgyblion, mentoriaid neu staff. Mae oergell ar gael i storio diodydd, a gall staff y llyfrgell gynnig cymorth, os oes angen.
Digwyddiadau eraill:
- Caiff Brecwastau Cyfeillio eu cynnal gan y pennaeth lles yn y llyfrgell. Mae grwpiau dosbarth yn mwynhau teisennau crwst a siocled poeth, yn cyfarfod â myfyrwyr Chweched Dosbarth, yn darllen deunydd ‘Shelf Help’ ac adnoddau llyfrgell neu’n syml yn ymlacio.
- Mae Egwylion Llyfrau Staff yn galluogi staff i bori a benthyca adnoddau a dal i fyny â chydweithwyr dros goffi a chacen.
-
Digwyddiadau eraill – mae noson parti Harry Potter ar gyfer Blwyddyn 7 yn cynnwys arddangosiadau gwyddoniaeth ar gyfer ‘creu diodydd hud’, cwis llythrennedd gyda’r llenyddol, chwaraeon gyda ‘Quidditch’, a ‘helpwyr’ o wahanol grwpiau blwyddyn. Mae’r llyfrgell hefyd yn cynnal ymweliadau gan awduron, llawer o ddigwyddiadau adrannol, yn cynnwys sgyrsiau am ddaearyddiaeth a hanes, dadleuon, perfformiadau’r ysgol a pherfformiadau cyhoeddus, ymhlith pethau eraill.
Cynnig gofod bugeiliol croesawgar i gynorthwyo myfyrwyr a staff:
-
Yn ogystal â gofod astudio ffurfiol, mae chwe soffa gyfforddus yn galluogi disgyblion i swatio a darllen neu ymlacio. Mae’r polisi ‘agored i bawb’ yn golygu bod unrhyw un o’r ‘rhai sy’n teimlo wedi’u llethu’ i ddisgyblion sy’n cael trafferth yn academaidd neu’n emosiynol yn teimlo’u bod yn gallu dod o hyd i hafan ddiogel yn y llyfrgell.
Darparu adnoddau llyfrgell sy’n llawn gwybodaeth, ac ar gael yn hawdd ar-lein:
- Mae Darpariaeth e-lyfrgell yn sicrhau mynediad hawdd at ddeunydd darllen ar-lein (sain ac e-lyfrau). Mae swyddogaethau mewn sawl iaith yn galluogi disgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) i ‘newid’ rhwng iaith eu haelwyd a Saesneg i gynorthwyo’u dealltwriaeth a’u geirfa.
- Oodles – mae’r gronfa ddata llyfrgell ar-lein o gyfnodolion a gwefannau ar gael 24/7. Mae’n cynnwys catalog llyfrgell ar-lein, llyfrgell e-lyfrau, rhestrau darllen a chynghorion a sesiynau tiwtorial ar ymchwilio / astudio.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae cynlluniau darllen wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Mae hyn wedi hybu llythrennedd, darllen er pleser a diddordeb mewn adnoddau llyfrgell ffuglen a ffeithiol, fel ei gilydd. Rhoddwyd dros 30 o wobrau am gwblhau’r heriau efydd, arian ac aur hyd yma, ac mae cannoedd yn fwy o adolygiadau am nifer o lyfrau a ddarllenwyd wedi cael eu cyflwyno. O ganlyniad, mae athrawon wedi gweld effaith gadarnhaol ar ansawdd ysgrifennu creadigol a gwelliannau i eirfa a chywirdeb.
Er 2021, pan gyflwynwyd y cynlluniau darllen hyn, mae cyfraddau benthyca wedi mwy na threblu. Mae’r bechgyn yn benthyca bron cynifer o lyfrau o’r casgliad aml-safle a rennir â merched yn y chwaer ysgol, sy’n wahanol i’r duedd genedlaethol lle mae’r bwlch rhywedd mewn mwynhad o ddarllen wedi “cynyddu deirgwaith rhwng 2020 a 2022” (National Literacy Trust, 2022).
Mae cynnal a darparu digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan, yn cynnwys gwersi a chymorth ar gyfer digwyddiadau academaidd a digwyddiadau eraill, wedi helpu’r ysgol yn fwy effeithiol i amlygu popeth sydd gan y llyfrgell i’w gynnig – yn academaidd ac mewn bywyd yn gyffredinol. Mae hyn yn galluogi disgyblion i ehangu eu gwybodaeth, ymchwilio’n fwy trylwyr, a threulio mwy o amser yn y llyfrgell yn astudio neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gysylltiedig â gwaith.
Trwy ddarparu digwyddiadau lles, adnoddau a gofod diogel, caiff y llyfrgell ei hadnabod fel man cyfeillgar a diogel, sy’n agored i bawb sydd ei angen. Mae adborth rheolaidd ar lafar ar fentrau o bob ardal o gymuned yr ysgol hefyd yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r llyfrgell yn ei chael ar safonau disgyblion a chymorth bugeiliol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae llyfrynnau a mentrau Shelf Help wedi cael eu hamlygu o’r blaen mewn cyhoeddiad ‘arfer dda’ gan Estyn, ac mae staff yn mynychu cyfarfodydd grwpiau proffesiynol i rannu arfer dda a syniadau â llyfrgellwyr ysgol eraill. Enwyd y Pennaeth Llyfrgelloedd yn y rhestr anrhydeddau ar gyfer Gwobr Llyfrgellydd Ysgol y Flwyddyn 2023, gyda chyhoeddusrwydd amrywiol ynghylch arferion y llyfrgell ysgol.