Addysgu Archives - Estyn

Tag: Addysgu


Tag: Addysgu


Close up image of a pupil's hand writing a maths equation on a small whiteboard.

Mae medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod brysur i’r tîm mathemateg yn Estyn. Er nad ydym yn arolygu mathemateg yn bwnc ar ei ben ei hun, mae rhifedd yn rhan allweddol o bob arolygiad. Rydym yn credu’n gryf fod medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel. O’r herwydd, yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion, rydym yn edrych yn fanwl ar ba mor dda mae disgyblion yn gwneud cynnydd mewn gwersi mathemateg a pha mor effeithiol maent yn cymhwyso’r medrau hyn i ddatrys problemau, o fewn mathemateg ac ar draws y cwricwlwm ehangach.

Yn Estyn, mae arbenigedd pwnc yn bwysig. Mae hyn yn ystyriaeth allweddol wrth recriwtio arolygwyr, ac o fewn y tîm uwchradd, mae gennym sawl cydweithiwr sydd â chefndir cryf mewn  mathemateg. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd o ran arbenigedd pwnc ar dimau arolygu, lle bo modd. Er bod ein gwaith arolygu craidd bob amser yn cynnwys ystyriaeth o fathemateg a rhifedd, bu ffocws cynyddol ar addysgu mathemateg yn benodol yn y 18 mis diwethaf.

Darlun cenedlaethol o addysg fathemateg:

Mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent ei wneud mewn mathemateg.

Y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni gynnal arolwg thematig o ansawdd addysg fathemateg ar gyfer dysgwyr rhwng 9 ac 16 oed. Ymwelodd tîm o arolygwyr, dan arweiniad Nicola Thomas AEF, ag ysgolion ledled Cymru, a defnyddiwyd tystiolaeth o arolygiadau craidd i greu darlun cenedlaethol.

Roedd yr hyn a ganfuom yn gymysg. Mewn rhai ysgolion, roedd disgyblion yn amlwg yn mwynhau mathemateg ac yn elwa ar addysgu hyderus a difyr. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn rydym yn ei weld yn aml yn ystod arolygiadau arferol.

Un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr ar yr ymweliadau oedd y cyfle i siarad yn agored ag athrawon a phenaethiaid mathemateg. Roedd y sgyrsiau proffesiynol hyn yn onest ac yn ystyriol, yn enwedig ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael ar gyfer addysgu mathemateg yng Nghymru. Nodom hefyd enghreifftiau o arfer effeithiol y gellid eu rhannu’n ehangach, ac fe wnaethom gynnwys y rhain yn astudiaethau achos manwl yn yr adroddiad terfynol.

Canfyddiadau allweddol ac arfer a rennir:

Mae’r adroddiad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag addysg fathemateg yng Nghymru.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod safonau mewn mathemateg yng Nghymru yn rhy isel, er gwaethaf ymroddiad athrawon. Daeth tri mater allweddol i’r amlwg, sef:

  1. amrywioldeb yn ansawdd yr addysgu,
  2. diffyg disgwyliadau cenedlaethol clir,
  3. a dysgu proffesiynol annigonol yn benodol i fathemateg.

Mae’r adroddiad, sydd ar gael ar ein gwefan, yn amlinellu nodweddion effeithiol a llai effeithiol o ran addysgu mathemateg, ac yn cynnwys astudiaethau achos ymarferol. Fe wnaethom ailymweld â rhai ysgolion i ffilmio enghreifftiau o arfer gref. Mae’r fideos hyn yn dangos strategaethau fel holi diagnostig, defnydd effeithiol o fyrddau gwyn bach, holi pwrpasol i ddyfnhau meddwl, a defnyddio amrywiad i helpu disgyblion i adnabod patrymau a strwythurau.

Parhau â’r sgwrs:

Gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.

Ym mis Rhagfyr, cynhaliom ddigwyddiad Estyn yn Fyw lle bu ysgolion yn rhannu arfer effeithiol mewn addysgu mathemateg, a nodwyd yn ystod arolygu. Fe wnaethom hefyd recordio podlediadau yn Saesneg ac yn Gymraeg gydag athrawon ac arbenigwyr yn trafod negeseuon allweddol yr adroddiad.

Ym mis Chwefror, bydd Nicola a minnau yn arwain digwyddiadau dysgu proffesiynol ledled Cymru ar gyfer athrawon uwchradd a phenaethiaid mathemateg ar ein ‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu. Bydd y sesiynau hyn yn archwilio canfyddiadau’r adroddiad, yn rhannu strategaethau effeithiol ac yn cynorthwyo athrawon wrth werthuso medrau mathemategol disgyblion.

Mae amser o hyd i gofrestru am le os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.

Bu’n gyfnod dwys ond boddhaus. Mae canolbwyntio ar fathemateg wedi atgyfnerthu pa mor hanfodol yw addysgu o ansawdd uchel wrth godi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith o fewn y system i gefnogi ymarferwyr a gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.

Dolenni perthnasol:

Datgloi potensial: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg – Estyn

Adnoddau Fideo Mathemateg – Estyn

‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu

Podlediad Sgwrs: Meddyliau ar addysgu Mathemateg yng Nghymru – Estyn

Estyn yn Fyw: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg

Tag: Addysgu


Pan ddaeth y cyfyngiadau ar y wlad ym mis Mawrth, roedd yn sioc i’r system. Fe wnaeth y rhan fwyaf o ysgolion, colegau a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill atal neu ostwng eu gwaith wyneb yn wyneb gyda dysgwyr dros nos bron, ac yn ei le daeth gweithio o bell a gweithio ar-lein. Rhoesom y gorau i arolygu ar fyr rybudd iawn ac atal ein negeseuon e-bost misol i randdeiliaid a blogiau, a rhoesom y gorau i hybu arfer effeithiol a’r Adroddiad Blynyddol er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid newid y ffordd yr oeddent yn darparu dysgu.

Felly, beth rydym ni wedi bod yn ei wneud ers mis Mawrth?

Yn ei flog nôl ym mis Mehefin, diolchodd ein Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands, i bawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Esboniodd sut rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol i gynnig cyngor ac arweiniad i ddarparwyr ar gefnogi parhad dysgu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hyn wedi cynnwys arweiniad i sicrhau na chaiff yr un dysgwr ei eithrio rhag dysgu, ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio technoleg i barhau ag addysg mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau). Hefyd, cyfrannom at gymorth ar gyfer meysydd pwysig eraill, gan gynnwys:

  • Diogelu
  • Rhieni
  • Ysgolion cyfrwng Cymraeg y mae eu disgyblion yn byw mewn cartrefi Saesneg eu hiaith
  • Iechyd a lles
  • Dysgu cyfunol
  • Cyflwyno Safon Uwch

Trwy gydol y cyfnod clo, rydym wedi cadw mewn cysylltiad â darparwyr addysg a hyfforddiant drwy alwadau ffôn a fideo, a chyfarfodydd gyda rhai o’n grwpiau ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys ein grŵp cyfeirio penaethiaid. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu dechrau creu darlun o sut mae darparwyr ledled y wlad wedi ymateb i’r argyfwng. Mae wedi bod yn arbennig o bwysig i AEM unigol gynnig cymorth bugeiliol i unrhyw ddarparwyr y nodwyd ar hyn o bryd eu bod yn achosi pryder. Mae’r darparwyr hyn yn dweud wrthym fod cael sgwrs ag AEM a sicrwydd ynghylch sut rydym ni’n bwriadu’u cefnogi nhw wrth i bethau fynd nôl i’r arfer yn rhywbeth y gwnaethant ei werthfawrogi’n fawr. Mae ein cyswllt â darparwyr wedi’n helpu i gyhoeddi cyfres o ddogfennau Cymorth i Ddal ati i Ddysgu ar ein gwefan. Mae’r rhain yn cynnig cipolygon defnyddiol i’r ffordd y mae rhai ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr ôl 16 wedi mynd i’r afael â’r heriau a wynebont dros y misoedd diwethaf.

Beth fyddwn ni’n ei wneud o fis Medi?

Gan fod mwy o weithgareddau mewn ysgolion a darparwyr eraill erbyn hyn, rydym ni’n dechrau ailsefydlu ein llais fel y gallwn:

  • Barhau i gynorthwyo ysgolion a darparwyr addysg eraill trwy amlygu amrywiaeth o adnoddau defnyddiol Estyn.
  • Sicrhau rhieni, dysgwyr a’r cyhoedd.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sut mae’r broses o ddychwelyd i ddysgu yn mynd..
  • Parhau’r drafodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.

Yn ystod rhan gyntaf tymor yr hydref, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill trwy alwadau ffôn neu fideo. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu rhagor am eu gwaith dros y misoedd diwethaf a pha mor dda mae dysgwyr a staff yn dod i’r arfer â ffyrdd newydd o weithio. Byddwn yn gofyn i arweinwyr a staff pa mor ddefnyddiol fu’r cymorth a gawsant. Bydd y sgyrsiau hyn yn ein helpu i nodi arweiniad pellach a allai fod yn ddefnyddiol iddynt. Hefyd, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol sut maen nhw wedi bod yn helpu ysgolion ac UCDau i ymateb i’r argyfwng a sut maent yn defnyddio gwersi a ddysgwyd i gynllunio ar gyfer unrhyw argyfwng tebyg yn y dyfodol. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a gasglwn o’r sgyrsiau hyn gyda Llywodraeth Cymru i’w helpu i ddeall yr ymateb cenedlaethol i argyfwng y pandemig.

Yn nes ymlaen yn y tymor, os bydd hi’n briodol, rydym yn gobeithio cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb byr â darparwyr. Os aiff pethau’n dda a bydd y sefyllfa’n parhau i wella, bydd hyd yr ymweliadau hyn yn cynyddu gydag amser. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd ffocws ein sgyrsiau gydag ysgolion ac UCDau yn symud yn raddol o’r ymateb i COVID-19 i’r cwricwlwm. Dyma oedd ein cynllun bob amser ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, fel y gallem ymgysylltu â phob ysgol a gynhelir ac UCD, a’u cynorthwyo nhw i gynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dechrau siarad am hyn eto pan fydd ysgolion ac UCDau yn barod i wneud hynny. Mewn colegau a darparwyr ôl-16 eraill, byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu cyfunol a lles dysgwyr.

Yn ystod tymor yr hydref, byddwn hefyd yn parhau â’n cymorth i ysgolion a darparwyr sy’n destun pryder. Byddwn yn cysylltu â nhw ym mis Medi neu Hydref i weld sut maen nhw’n dod yn eu blaen ac i gynnig ymweliadau bugeiliol yn nes ymlaen yn ystod y tymor. Bydd hyn yn ein helpu i ailymgysylltu â nhw yn anffurfiol a thrafod sut a phryd y byddwn yn dychwelyd i’n hamserlen arferol o ymweliadau dilynol.

Er na fydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn ein gweld ni wyneb yn wyneb am gyfnod, mae rhai eithriadau. Er enghraifft, bydd angen i ni ymweld â rhai ysgolion annibynnol a cholegau arbenigol annibynnol y tymor hwn ar gyfer ymweliadau monitro blynyddol ac ymweliadau cofrestru. Yn achos yr ysgolion hyn, byddwn yn ystyried ceisiadau unigol am newid perthnasol ac yn penderfynu p’un a fydd angen i ni ymweld â’r safleoedd ac ymateb yn unol â hynny. Yn ystod tymor yr hydref, byddwn yn gwerthuso’r posibilrwydd o ailgychwyn arolygiadau craidd ar gyfer pob darparwr heblaw ysgolion a gynhelir ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn nhymor y Gwanwyn. Os nad yw’n bosibl gwneud hyn, byddwn yn parhau â’n rhaglen o alwadau ffôn ac ymweliadau ymgysylltu. Hefyd, mae gwaith statudol i ni ei wneud y tymor hwn ar gyd-arolygiadau addysg yn y sector cyfiawnder.

Felly, fel y gwelwch, fel y mae pob darparwr addysg yn addasu i ffyrdd newydd o weithio ar hyn o bryd, rydym ni’n gwneud hynny hefyd. Rydym yn ateb heriau rhith-gyfarfodydd, ac yn ymgysylltu â chydweithwyr a sefydliadau ledled y wlad ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol ar-lein.

Nawr yw’r amser i ni i gyd weithio gyda’n gilydd. Mae’n gyfle i sicrhau bod dyfodol ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel, er gwaethaf y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Tag: Addysgu


Gwella addysgu a dysgu

Ysgolion sy’n gwella ansawdd addysgu a dysgu yn llwyddiannus ac sy’n buddsoddi’n barhaus yn eu staff.  Maent:

  • yn annog gwerthuso gonest.
  • yn siarad yn agored am eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella.
  • yn annog athrawon i gymryd risgiau rhesymol ac arbrofi gyda dulliau gwahanol, gan gadw’r buddion i ddisgyblion wrth galon unrhyw newid bob amser
  • yn canolbwyntio ar fonitro ansawdd addysgu o ran pa mor dda mae disgyblion yn gwneud dros gyfnod yn hytrach na llunio barnau gor-syml ynglŷn ag ansawdd addysgu trwy raddio gwersi unigol
  • yn defnyddio tystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil i ddatrys problemau addysgu.

Addysgu a dysgu, a’r cwricwlwm newydd

Mae 12 egwyddor addysgegol addysgu a dysgu da yn hanfodol i ysgolion eu hystyried wrth iddynt lunio’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Addysgu a dysgu da