Arfer effeithiol Archives - Page 2 of 72 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Pedwar oedolyn wedi ymgasglu o amgylch gliniadur, yn trafod gwaith gyda’i gilydd mewn lleoliad llachar dan do.

Gwybodaeth am y darparwr

Mae Consortiwm B-wbl yn ddarparwr hirsefydledig prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon o ddeg darparwr, sydd ag ethos ar y cyd o welliant parhaus, yn gweithio mewn diwylliant o gydweithio, tryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda gweledigaeth i gyflawni rhagoriaeth. Mae’r bartneriaeth yn cyflwyno prentisiaethau ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch i ryw 4500 o ddysgwyr ar draws ystod o feysydd dysgu. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Sefydlwyd Consortiwm B-wbl, a oedd yn cael ei adnabod o’r blaen fel Academi Sgiliau Cymru (De orllewin), ym mis Awst 2010. Coleg Sir Benfro yw’r darparwr arweiniol, a rheolir y contract gan Dîm Rheoli Consortiwm annibynnol o ddeuddeg, wedi’i arwain gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth yn y coleg.  

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys darparwyr ar hyd a lled de ddwyrain a gorllewin Cymru yn cydweithio i sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf. Mae’r Consortiwm yn aruthrol o falch o’i gynnydd ac yn ddyheadol am ei ddyfodol, ond mae’r ddealltwriaeth ar y cyd o fanteision a gwerth cydweithio i greu diwylliant sy’n anelu am ragoriaeth yn hanfodol i lwyddiant. 

Mae gwaith partneriaeth hynod effeithiol wedi galluogi’r Consortiwm i sefydlu ymdeimlad cryf o ddiben a gweledigaeth ar gyfer cyflawni rhagoriaeth. Mae partneriaid yn cyfrannu’n llawn at sefydlu’r genhadaeth, y weledigaeth a’r strategaeth gan arwain at ethos ar y cyd o welliant parhaus sy’n cynnal ffocws craff ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.  

Mae partneriaid yn gweithio o fewn diwylliant o ddidwylledd, tryloywder, ymddiriedaeth, gonestrwydd ac ansawdd, sy’n eu galluogi i rannu arfer a gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau sy’n codi. Mae strwythur cyfarfodydd sefydledig yn darparu craffu ac atebolrwydd, gyda dull cydweithredol i rannu llwyddiannau a nodi a chefnogi partneriaid i oresgyn heriau.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r gwaith partneriaeth cryf a hynod effeithiol ar draws y Consortiwm wedi arwain at ethos ar y cyd a dull rhagweithiol o welliant parhaus. Yr hyn sy’n allweddol i lwyddiant y bartneriaeth yw’r modd y mae pawb wedi gweithio i greu diwylliant dysgu ar draws y bartneriaeth sy’n cydnabod gwerth a chyfraniad pob partner mewn rhannu eu dulliau i gefnogi’r daith wella. Mae’r dull hwn yn cydnabod gweledigaeth ar y cyd i wella, tra’n dathlu unigoliaeth a chryfderau’r sefydliadau o fewn y bartneriaeth.  

Caiff partneriaid eu cynnwys yn llawn mewn cytuno ar dargedau gwella dyheadol blynyddol a blaenoriaethau allweddol i wella profiadau a deilliannau dysgwyr. Mae’r ymglymiad hwn yn sicrhau diwylliant o dryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth sy’n galluogi’r Consortiwm i gydweithio i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau gwelliant. Gall pob un o’r partneriaid ddefnyddio ystod eang o ddata meincnodi i gefnogi’r diwylliant hwn; gan rannu arfer a dulliau, lle mae angen. Un o nodweddion allweddol sicrhau bod hyn yn effeithiol yw’r pwysigrwydd a roddir i ddysgu oddi wrth ei gilydd a sut caiff pob un o’r partneriaid eu cynnwys mewn datblygu systemau a phrosesau i gefnogi’r daith wella.

Nodweddion allweddol ein dull gweithredu 

  • Strwythur cyfarfodydd sy’n sicrhau bod pob un o’r partneriaid yn cael eu cynnwys yn llawn mewn cefnogi a gyrru’r daith wella. Mae cyfarfodydd yn gofyn dro ar ôl tro i bartneriaid gyflwyno ar agweddau allweddol a rhannu eu dulliau i gefnogi gwelliant. Yn 2025, mae ffocws ar wella cyflawni’n  amserol wedi galluogi pawb i fyfyrio ar ddulliau a dysgu oddi wrth y rhai sydd â deilliannau amserol cryf i gryfhau perfformiad. Bob blwyddyn, mae’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno ar y blaenoriaethau allweddol ar gyfer pob grŵp ac yn cael adroddiadau ar gynnydd. Mae papurau a gyflwynir yn cynnwys holl ddata perfformiad partneriaid ar bob agwedd ar gydymffurfio a sicrhau ansawdd lefel o graffu ac atebolrwydd. Mae’r dull hwn wedi bod yn allweddol wrth alluogi grwpiau i rannu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd a goresgyn heriau o fewn amgylchedd o gydweithio. 
  • Mae pob partner yn cwblhau hunanwerthusiad gan ddefnyddio ystod eang o ddata ansawdd a deilliannau i lywio’u barnau. Wedi iddynt eu cwblhau, mae’r Pwyllgor Rheoli Ansawdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob partner, yn safoni’r dogfennau hyn. Mae hyn wedi cynorthwyo partneriaid i ddatblygu adroddiadau cadarn a chynhwysfawr gyda thargedau clir ar gyfer gwella. Ar ôl cyflwyno dogfennau terfynol, creffir ar y rhain hefyd gan y Bwrdd Gweithredol. 
  • Mae prosesau sicrhau ansawdd cynhwysfawr a chadarn a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phartneriaid yn sicrhau bod prosesau’n darparu ffocws craff a chadarn ar brofiadau dysgwyr a chyflogwyr, dysgu ac addysgu a gwella deilliannau i bawb. Caiff dulliau sicrhau ansawdd a ddefnyddir eu gwerthuso bob blwyddyn gan y Pwyllgor Rheoli Ansawdd i sicrhau bod y deallusrwydd a gofnodir yn cefnogi gwelliant. Mae proses adolygu ansawdd flynyddol, sy’n cael ei meithrin fel dull ffrind beirniadol yn cynnwys adolygwyr ar draws y bartneriaeth yn cwblhau ystod o weithgareddau. Mae gweithgareddau’n cynnwys arsylwadau cymheiriaid, grwpiau ffocws dysgwyr a chyflogwyr, a chyfarfodydd gydag ymarferwyr. Cytunir yn flynyddol ar ffocysau ar gyfer yr adolygiad, a datblygir yr adroddiad a’r cynllun gweithredu ar y cyd. Caiff arfer gref ac effeithiol a meysydd i’w datblygu eu lledaenu trwy ein cynadleddau, ein cyfarfodydd a’n grwpiau gorchwyl a gorffen.  
  • Er 2016, mae cynadleddau ymarferwyr blynyddol wedi canolbwyntio ar ledaenu arfer ac uchelgais ar y cyd ar gyfer rhagoriaeth ar draws ein rhwydwaith. Datblygir yr agenda mewn partneriaeth â’r Pwyllgor Rheoli Ansawdd sy’n adlewyrchu meysydd ffocws o’r broses adolygu ansawdd flynyddol, gwybodaeth am sicrhau ansawdd neu agweddau y ceir manylion amdanynt yn ein cynllun datblygu ansawdd. Cyflwynir y gweithdai gan staff ar draws y bartneriaeth sy’n darparu cyfle rhagorol iddynt ddysgu oddi wrth ei gilydd. Caiff y digwyddiadau hyn eu gwerthuso bob blwyddyn, a chaiff effaith ei mesur trwy brosesau sicrhau ansawdd cynhwysfawr. Mae gweithdai wedi cynnwys datblygu medrau meddwl beirniadol, dulliau i ymestyn a herio, holi effeithiol, ymgorffori themâu trawsbynciol a chefnogi dysgwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae digwyddiadau wedi datblygu adnoddau ar y cyd, hefyd.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cafwyd manteision ac effeithiau amlweddog o’r dull hwn o weithio mewn partneriaeth. Mae hyn wedi galluogi cyflawni deilliannau ar gyfer prentisiaid a oedd i gyd uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol terfynol ar gyfer 23/24, yn gyffredinol, ac ar draws pob lefel. Y tu hwnt i ddeilliannau, mae cydweithredu’n sicrhau bod diwylliant cadarnhaol yn cael ei greu sy’n ceisio gwella profiadau dysgwyr yn barhaus.  

Un o’r nodweddion allweddol fu sut mae partneriaid yn cydweithio i gytuno ar y safonau uchel a ddisgwylir gan ddysgwyr a staff, a’u hyrwyddo, a sut caiff lledaenu a rhannu arfer effeithiol ei sicrhau sy’n ystyrlon ac yn cyd-fynd ag agweddau sydd angen eu gwella. Mae diwylliant dysgu proffesiynol yn golygu bod partneriaid a’u staff yn elwa ar weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r daith wella. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

  • Strwythur cyfarfodydd a chyfarfodydd adolygu contractau  
  • Cynadleddau Ymarferwyr 
  • Astudiaethau achos  
  • Eitemau agenda ar rannu arfer   
  • Grwpiau gorchwyl a gorffen  
  • Proses adolygu ansawdd  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw wedi’i leoli ym mhentref Aberriw ar dir safle Ysgol Gynradd Gymunedol Aberriw. Mae’n lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir gan bwyllgor sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg. Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant ym mhob sesiwn, rhwng dwy a phedair oed, ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00-3.00 yn ystod y tymor yn unig. 

Mae’r lleoliad yn adnabyddus am ei amgylcheddau awyr agored cyffrous a deniadol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n ystyriol dros gyfnod, a diddordebau ac anghenion datblygiadol plant yw’r prif sbardun ar gyfer newid. Mae’r lleoliad yn darparu amgylchedd lle mae plant yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt y rhyddid i archwilio, gwneud dewisiadau a dod yn ddysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol. 

Mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r uchelgais hon. Mae pob ymarferwr yn annog plant i wneud dewisiadau a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu trwy ddilyn arweiniad plentyn ac ychwanegu adegau addysgadwy at eu chwarae. Caiff y lleoliad ei arwain gan reolwr lleoliad ymroddgar a myfyriol, arweinwyr profiadol, ymarferwyr brwdfrydig ac unigolyn cyfrifol ymrwymedig a gefnogir gan bwyllgor gwirfoddol. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal ac angerdd i greu amgylchedd gwresog i blant ei archwilio’n rhydd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Y weledigaeth ar gyfer y lleoliad yw i bob plentyn ddod yn ddysgwyr annibynnol creadigol hyderus. Yn 2022, mynychodd arweinwyr hyfforddiant Awdurdod Lleol ar sgemâu.  

Amlygodd yr hyfforddiant bwysigrwydd darparu cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwarae sgematig. Mae cefnogi chwarae sgematig wedi dod yn rhan allweddol o’u hymagwedd at weithredu eu gweledigaeth i ddarparu’r profiadau datblygiadol gorau posibl ar gyfer pob un o’r plant. 

Mae sgemâu yn batrymau o ymddygiadau ailadroddus y mae plant yn eu defnyddio i drefnu eu profiadau a datblygu dealltwriaeth o’u hamgylchedd. Trwy’r patrymau hyn, mae plant yn gwneud synnwyr o wybodaeth newydd tra’n adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol, hefyd. Mae ymarferwyr yn sylwi bod plant yn aml yn canolbwyntio ar faes diddordeb penodol ac yn ailadrodd camau gweithredu i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth.  

Trwy hyfforddiant, mae oedolion yn gwybod bod yr ailadrodd hwn yn helpu plant i brofi achos ac effaith, datblygu ymwybyddiaeth ofodol a medrau datrys problemau. Trwy arsylwi’r patrymau hyn yn ofalus trwy gydol chwarae plant, mae ymarferwyr yn cynllunio’r amgylchedd galluogi a’r profiadau a gynigir, gan gefnogi dysgu sy’n cyd-fynd â sgema plentyn.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn lleoliad cyn-ysgol Aberriw, mae oedolion wedi croesawu’r cwricwlwm nas cynhelir yn llawn ac yn rhoi pwyslais cryf ar ddiwallu anghenion pob plentyn. Cyflawnir hyn trwy amgylchedd dysgu wedi’i gynllunio’n ofalus, sy’n darparu profiadau difyr gydag oedolyn sy’n galluogi dysgu.  

Mae arweinwyr yn deall bod gan oedolion sy’n galluogi dysgu rôl bwysig, felly mae’n hanfodol trafod a myfyrio fel tîm. Mae’r arweinydd cyn-ysgol yn treulio amser yn ymchwilio i sgemâu ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r tîm yn gyson trwy gyfarfodydd rheolaidd a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae oedolion yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sgemâu a chwarae sgematig. Mae hyn yn sicrhau bod pob oedolyn yn arsylwi plant yn effeithiol ac yn nodi gwybodaeth allweddol am eu chwarae a’u dysgu. Mae oedolion yn cydnabod y mathau o ymddygiadau a ddangosir gan blant ac yn deall beth allai plant fod yn eu harchwilio trwy’r ymddygiadau hyn. 

Er enghraifft, efallai bod plentyn sy’n mwynhau troelli olwynion, reidio beiciau, troi rhubanau neu droi tapiau yn archwilio sgema cylchdro. Trwy’r gweithredoedd hyn, gallai’r plentyn fod yn datblygu ei ddealltwriaeth o symudiad, siâp ac ymwybyddiaeth ofodol.  

Mae pob oedolyn yn arsylwi plant yn agos ac yn nodi sgemâu sy’n dod i’r amlwg. Wedyn, caiff plant eu grwpio yn ôl diddordebau sgematig tebyg. Mae’r wybodaeth hon yn ffurfio sail y cynllunio bob pythefnos. Mae cynllunio’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd dysgu ag adnoddau dilys priodol a chynllunio profiadau difyr sy’n cefnogi’r sgema a nodwyd. Er enghraifft, pan mae oedolion yn nodi bod grŵp o blant yn archwilio sgema cylchdro, maent yn gwella’r amgylchedd ag adnoddau fel chwisgiau, rhubanau, gwlân a driliau cylchdro, peli campfa a throellwyr. Mae oedolion hefyd yn cynllunio profiadau difyr penodol ar draws y pythefnos i ymestyn y dysgu hwn, fel gemau parasiwt, gweithgareddau pobi sy’n cynnwys cymysgu, chwisgo a rholio, ac archwilio paent gan ddefnyddio troellwyr salad a rholeri.  

Caiff yr adnoddau a’r profiadau ychwanegol hyn eu hymgorffori’n gyflym yn narpariaeth chwarae bob dydd y plant, gan eu galluogi i archwilio ac ailadrodd eu diddordebau mewn ffordd ystyrlon a chynaledig. Yn ystod y pythefnos canlynol, mae oedolion yn canolbwyntio ar grŵp arall o blant sydd â diddordeb sgematig gwahanol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod cynllunio yn ymatebol, yn canolbwyntio ar y plentyn ac wedi’i wreiddio mewn arsylwi gofalus, gan alluogi ymarferwyr i gefnogi chwilfrydedd naturiol plant a dyfnhau eu dealltwriaeth.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r newid hwn mewn dull i ganolbwyntio ar gyfleoedd chwarae sgematig yn cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth ar gyfer plant. 

Mae ymarferwyr yn cydnabod bod lefelau sylw a chanolbwyntio plant yn cynyddu pan maent wedi ymddiddori ac wedi ymgysylltu’n ddwfn â chwarae a dysgu. Mae oedolion yn cynllunio’r amgylchedd yn hyderus ar sail anghenion a diddordebau plant. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn yn gallu dysgu mewn ffordd sy’n gweddu i’w arddull unigol. Mae ymarferwyr yn parhau i wneud newidiadau ystyriol, gan ychwanegu adnoddau dilys at ardaloedd craidd y ddarpariaeth i gefnogi diddordebau sgematig plant yn well.  

Mae’r dull sgematig hwn bellach yn cael ei ymgorffori yn ymarferol, gan helpu magu hyder plant a dyfnhau eu dealltwriaeth. O ganlyniad, gall pob un o’r plant ddatblygu eu dysgu mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw. Maent yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen, sy’n annog chwilfrydedd a chreadigrwydd o fewn eu dysgu. Daw plant yn archwilwyr hyderus o’u hamgylchedd.  

Trwy gydnabod a dilyn diddordebau sgematig plant a gwerthfawrogi eu chwarae, mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw yn sicrhau bod pob plentyn yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunanwerth. O ganlyniad, mae lles plant yn eithriadol o uchel. Mae’r dull hwn yn sail i weledigaeth y lleoliad i gynorthwyo plant i ddod yn ddysgwyr annibynnol creadigol hyderus.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn croesawu lleoliadau blynyddoedd cynnar a gweithwyr addysg proffesiynol eraill i arsylwi plant a rhannu arfer dda ar sut maent yn gweithredu diddordebau sgematig, a sut caiff hyn ei ymgorffori mewn cynllunio ac arfer o ddydd i ddydd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Grŵp o blant ifanc ac oedolion yn eistedd ar glustogau mewn ystafell chwarae, yn dal teganau ac yn wynebu’r camera, gyda chyfarpar chwarae lliwgar ar y llawr.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw ym mhentref Aberriw ar dir safle Ysgol Gynradd Gymunedol Aberriw. Mae’n lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir gan bwyllgor sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg. Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant ym mhob sesiwn, rhwng dwy a phedair oed, ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00-3.00 yn ystod y tymor yn unig.  

Mae’r lleoliad yn adnabyddus am ei amgylcheddau awyr agored cyffrous a deniadol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n ystyriol dros gyfnod, a diddordebau ac anghenion datblygiadol plant yw’r prif sbardun ar gyfer newid. Mae’r lleoliad yn darparu amgylchedd lle mae plant yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt y rhyddid i archwilio, gwneud dewisiadau a dod yn ddysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol.  

Mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r uchelgais hon. Mae pob ymarferwr yn annog plant i wneud dewisiadau a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu trwy ddilyn arweiniad plentyn ac ychwanegu adegau addysgadwy at eu chwarae. Caiff y lleoliad ei arwain gan reolwr lleoliad ymroddgar a myfyriol, arweinwyr profiadol, ymarferwyr brwdfrydig ac unigolyn cyfrifol ymrwymedig a gefnogir gan bwyllgor gwirfoddol. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal ac angerdd i greu amgylchedd gwresog i blant ei archwilio’n rhydd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae ymarferwyr yn deall bod yna blant a fyddai’n elwa ar oriau ychwanegol, ond ni all eu teuluoedd ariannu oriau ychwanegol yn y lleoliad. I ymateb i hynny, mae’r lleoliad bellach yn cynnig oriau ychwanegol i ddarparu’r un cyfleoedd ar gyfer pob un o’r plant. Mae hyn i wneud yn siŵr nad yw plant wedi eu nodi yn cael eu rhoi dan anfantais ac yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.  

Mae Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar (GDBC) yn darparu’r adnoddau i’r lleoliad ddiwallu’r angen hwn ac yn darparu cyfle i blant a nodwyd wneud cynnydd gwell a chulhau’r bwlch anfantais. Mae ymarferwyr yn darparu sesiynau aros a chwarae i hyrwyddo perthnasoedd â theuluoedd, gan gynorthwyo rhieni a gofalwyr i ddatblygu dealltwriaeth well o sut mae eu plentyn yn dysgu. Yn ei dro, mae’r dull hwn yn magu hyder ac yn cefnogi’r plant wrth iddynt bontio i’r lleoliad cyn-ysgol. Y nod yw cefnogi teuluoedd dan anfantais i deimlo’u bod wedi eu grymuso i helpu dysgu eu plentyn gartref. Mae’r lleoliad yn ystyried y ffordd orau i gyrraedd teuluoedd ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i alluogi hyn.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae arweinwyr ac ymarferwyr yn defnyddio Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar i dargedu teuluoedd a nodwyd. Defnyddir y grant mewn sawl ffordd i sicrhau eu bod yn cefnogi teuluoedd sydd fwyaf mewn angen. Maent yn sicrhau bod plant a nodwyd yn gallu manteisio ar oriau ychwanegol bob wythnos. Nid yw’r plant hyn yn cymhwyso ar gyfer oriau gofal plant ac maent dan anfantais o gymharu â theuluoedd sy’n cymhwyso ar gyfer yr oriau neu’n gallu ariannu’r oriau eu hunain. Mae’r lleoliad hefyd yn sicrhau bod aelod ychwanegol o staff yn cael ei gyflogi i gefnogi plant a nodwyd i fodelu iaith a chefnogi eu lles. 

Mae’r lleoliad yn rhoi pwysigrwydd mawr i hyrwyddo cariad am lyfrau ac yn cydnabod nad oes gan bob teulu fynediad at y llyfrgell neu efallai nad ydynt yn gallu fforddio llyfrau stori gartref. Maent yn darparu llyfrgell benthyg, a chaiff teuluoedd eu hannog i gymryd llyfrau i’w rhannu gyda’u plentyn gartref. Mae hyn bellach yn cynnwys llyfrau i rieni a gofalwyr eu mwynhau.  

Mae ymarferwyr yn sylweddoli bod cefnogi rhieni yn hanfodol wrth gynorthwyo plant i ddysgu mwynhau llyfrau a darllen. Maent yn gweithio ochr yn ochr â rhieni yn ystod sesiynau aros a chwarae, sy’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i fodelu dysgu a datblygiad iaith. Darperir adnoddau ar gyfer teuluoedd i’w mwynhau gyda’u plant gartref, sy’n datblygu hyder y plentyn ac yn cefnogi ei fedrau.  

Anfonir gwahoddiadau at deuluoedd a nodwyd, ac mae ymarferwyr yn cysylltu â nhw’n unigol i sgwrsio am y sesiynau. Caiff posteri a gwybodaeth gysylltiedig eu harddangos ar yr hysbysfwrdd a’i rhannu o fewn y cylchlythyr wythnosol. Rhennir yr holl wybodaeth hon gyda theuluoedd trwy gyfryngau digidol.  

Darperir mwy o gyfleoedd i deuluoedd fwynhau ymweliadau o fewn yr ardal leol, fel reid ar drên Siôn Corn. Ceir ystod o gyfleoedd i bob un o’r plant fwynhau profiadau cyfoethog a datblygu iaith. Darperir hyn yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd a nodwyd, a chedwir costau’n isel i sicrhau ei fod yn gynhwysol i bawb. Mae’r tripiau yn darparu cyfleoedd i gyfarfod â theuluoedd y tu allan i’r lleoliad ac yn magu hyder rhieni i gyfarfod ag ymarferwyr, teuluoedd eraill a meithrin perthnasoedd cadarnhaol. Mae’r lleoliad yn gwerthuso’r strategaethau hyn wrth iddynt asesu effaith eu dulliau ar hyder a lles plant.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Caiff y dull hwn effaith sylweddol iawn ar ddarpariaeth a safonau plant. Mae teuluoedd yn hyderus i ddod i’r lleoliad, cyfarfod ag ymarferwyr a gofyn cwestiynau am ddysgu a datblygiad eu plentyn. Maent yn hyderus i gefnogi eu plentyn gartref, ac mae’r cymorth hwn yn parhau pan mae eu plentyn yn pontio i’r ysgol. O ganlyniad, mae pob un o’r plant yn gwneud cynnydd da iawn o’r cychwyn cyntaf ar eu taith ddysgu, ac yn gadael y lleoliad yn annibynnol, yn llawn cyffro ac yn hyderus i ddysgu. Yn ei dro, mae hyn yn helpu’r lleoliad i gyflawni ei weledigaeth i greu dysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu’r arfer dda hon trwy ganllawiau Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar. O ganlyniad, mae lleoliadau eraill wedi defnyddio’r grant yn yr un ffordd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Dau blentyn ifanc yn eistedd wrth fwrdd, yn lluniadu mewn llyfrau nodiadau gyda phensys lliw, gyda chyflenwadau celf wedi’u gosod o’u blaenau.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Allsorts yn feithrinfa cyfrwng Saesneg ym mhentref Crucywel, Powys. Mae’r lleoliad cyn-ysgol ar safle Ysgol Gynradd Crucywel ond yn gweithredu’n annibynnol o ran cyllid a rheolaeth. Mae’r lleoliad yn darparu 2 awr o addysg gynnar a ariennir bob dydd (9:00-11:00am), yn ogystal â darpariaeth gofal plant ar gyfer plant 2 a 3 oed.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn rhoi pwyslais cryf ar ymateb i ddiddordebau a syniadau plant i ffurfio profiadau dysgu ystyrlon. Mae ymarferwyr yn arsylwi plant yn agos ac yn defnyddio’r arsylwadau hyn i gynllunio profiadau difyr sy’n hyrwyddo chwilfrydedd, cyfathrebu, a chreu marciau cynnar mewn ffordd naturiol a chymhellol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae stori am y môr, sy’n sôn am neges mewn potel, yn tanio chwilfrydedd plant am sut mae negeseuon yn teithio. Wedyn, mae ymarferwr yn cyflwyno “neges mewn potel” go iawn y daethpwyd o hyd iddi dramor, gan ennyn diddordeb y plant ymhellach, a darparu cyfle i ddilyn llais y plentyn ac ymestyn dysgu ar draws y pum llwybr datblygiadol. 

Wedi i’r plant gael eu cyfareddu gan y neges mewn potel, mae ymarferwyr yn cynllunio ystod o brofiadau penagored yn gysylltiedig â thema’r môr a chyfathrebu. Cyflwynir llyfrau, cerddi, cerddoriaeth a dawns yn gysylltiedig â’r môr, ochr yn ochr â thrafodaethau ynghylch o ble mae’r botel wedi dod a pha mor bell y mae wedi teithio.  

Mae un plentyn yn penderfynu creu ei neges ei hun mewn potel yn annibynnol. Mae ymarferwyr yn ymateb trwy wahodd pob un o’r plant i gymryd rhan, gan ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi creu marciau, tynnu llun ac ysgrifennu cynnar. Caiff poteli eu harchwilio yn yr hambwrdd dŵr hefyd, gan alluogi plant i ymchwilio i arnofio, suddo a symud trwy chwarae. 

Wedyn, mae diddordeb y plant yn datblygu i fod yn drafodaethau am sut mae llythyrau yn teithio, rôl y post, a phobl sy’n dosbarthu llythyrau. Yn sgil hyn, mae plant yn anfon llythyrau gartref ac mae rhieni’n cael eu hannog i bostio atebion i’r lleoliad. I adeiladu ar y brwdfrydedd hwn, mae plant yn dechrau gohebu â phlant mewn lleoliad arall ym Mhowys, yn cyfnewid lluniau, marciau, a negeseuon sydd weithiau’n gysylltiedig â digwyddiadau a rennir fel y Nadolig a’r Pasg. 

Y cam nesaf yw gwahodd y plant i greu capsiwlau amser a fydd yn cael eu cadw hyd nes i’r plant adael yr ysgol gynradd fwydo, a bydd atgofion am eu cyfnod yn y lleoliad yn cael eu rhannu yn ystod gwasanaeth ar gyfer y plant sy’n gadael Blwyddyn 6.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r dull hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth a dysgu plant. Mae plant yn llawn cymhelliant i ymgymryd â chreu marciau fel ffordd ystyrlon o gyfathrebu, gyda chynnydd amlwg yn nifer y plant sy’n dewis gwneud hynny yn annibynnol. 

Mae plant yn dechrau deall bod ystyr i farciau ac ysgrifennu. Mae cyd-destun bywyd go iawn ysgrifennu llythyrau yn cryfhau cysylltiadau rhwng y cartref a’r lleoliad, ac mae rhieni’n mynd ati i gefnogi cyfathrebu. Mae gohebiaeth â lleoliad arall yn ymestyn ymdeimlad plant o ddiben, cyffro a chynulleidfa ymhellach ar eu cyfer wrth iddynt greu marciau cynnar. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad wedi rhannu ei arfer da  trwy  agor  y  ddarpariaeth  i  leoliadau  eraill  ledled  Powys.  Cynhaliodd  ymarferwyr  ddigwyddiad  ‘Rhwydweithio a Sgwrsio’,  yn  gwahodd  cydweithwyr  i  ymweld â’r lleoliad, edrych o gwmpas yr amgylchedd dysgu, cyfarfod â staff, a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol anffurfiol. Rhoddodd hyn gyfleoedd i rannu ymagweddau at ddarpariaeth ac arfer, yn cynnwys y modd y gall dilyn llais y plentyn arwain at brofiadau dysgu ystyrlon a chynaledig. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae dau berson, un oedolyn ac un plentyn, yn eistedd wrth fwrdd yn chwarae gyda blociau adeiladu lliwgar. Maent yn ymddangos yn brysur ac yn hapus wrth iddynt ryngweithio â'i gilydd. Mae'r cefndir yn cynnwys ystafell daclus gyda silff bren.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Chwarae Alphabet yn lleoliad cyn-ysgol sydd wedi’i leoli ar dir Ysgol Gynradd Gwndy. Mae’n lleoliad Saesneg ei iaith yn bennaf, sydd wedi’i gofrestru i ofalu am blant rhwng 2.5 a 4 oed. Mae’r Cylch Chwarae wrth ei bodd yn cyflwyno plant i’r Gymraeg erioed, felly pan gododd y cyfle i gyflwyno iaith newydd y gallai pob plentyn fanteisio arno, croesawyd y cyfle! 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuodd daith iaith arwyddion yn 2018 pan roedd tîm Alphabet yn ddigon lwcus bryd hynny i gael cyfle i gael rhaglen ddwys i ddysgu rhai arwyddion bob dydd nodweddiadol. Mynychodd pob ymarferwr a chael hwyl yn dysgu iaith newydd ar y cyd â’r plant. Roedd staff wedi dechrau trwy gyflwyno arwyddion syml yn ystod ‘amser cylch’ a chroesawyd hyn gan y plant. Roedd pob un o’r plant yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi ac yn falch bod pawb yn dathlu eu gwahaniaethau. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Teimla staff Teimla staff Alphabet bod e’n hynod  galonogol  a  boddhaus  pan  mae  plentyn  a  oedd  yn  y  cyfnod  cyn  siarad  yn  dechrau  cyfathrebu’r  tu  hwnt  i  ystumiau  gydag  ymarferwyr a chyfoedion gan ddefnyddio iaith arwyddion gyfarwydd. Mae ymarferwyr yn defnyddio iaith arwyddion, ble bynnag y gallant. Maent yn ystyried syniadau’r plant ac  yn  cyflwyno  arwyddion  newydd,fel  sy’n  briodol.  Trwy  gydol  sesiynau,  maent  yn  defnyddio  arwyddion  mynych  yn  yr  arferion  bob  dydd.  Maent  yn  gweld  mai’r  adeg  orau  i  ddefnyddio  arwyddion  yw  yn  ystod  chwarae rhydd, gan mai hi yw’r iaith hawsaf i’w dilyn mewn lleoliad prysur a sgyrsiol. Mae staff  yn  cyflwyno  arwyddion  syml  hyd  yn  oed  cyn  i’r  plant  ddechrau  eu  sesiynau,  ychydig  o  gyfarchion syml ar ymweliad cyn dechrau, i blant ddechrau ymgyfarwyddo â’r broses. Maent bob amser yn defnyddio’r arwyddion symlaf gyda phlant newydd, fel “bwyta, yfed, bag, cot a gartref”, i gefnogi eu medrau cyfathrebu cynnar a datblygu eu hyder.   

I annog defnydd y plant o arwyddion, mae’r lleoliad yn arddangos ffotograffau a lluniau o arwyddion ar y wal er hwylustod. Mae ganddynt ffolder o luniau yn y gornel lyfrau, a basged o gardiau arwyddo i’w defnyddio’n rhydd trwy gydol y sesiwn. Mae ymarferwyr wrth eu bodd yn rhannu eu harwyddion â theuluoedd mewn sesiynau canu, unwaith y tymor, lle maent yn arwyddo cyfarchion ac yn arddangos arwyddion trwy ganeuon y maent yn eu canu gyda’i gilydd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cyfathrebu ynglŷn â rhoi a derbyn negeseuon yn llwyddiannus ac mae’n allweddol i’r holl ryngweithio. Mae iaith a sgwrsio yn hanfodol ar gyfer dysgu. Yr effaith yw bod gan y plant iaith ychwanegol i gyfathrebu â hi. Mae ymarferwyr yn gweld plant yn datblygu hyder i gysylltu, gwneud eu hanghenion a’u ceisiadau yn hysbys i bobl eraill a chryfhau eu dealltwriaeth. Maent wedi sylwi bod plant yn datblygu chwilfrydedd i ddysgu arwyddion newydd a chael hwyl yn chwarae â’u hiaith newydd. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Grŵp o ddisgyblion ysgol uwchradd mewn gwisg ysgol yn cerdded ar hyd coridor llachar dan do gyda ffenestri mawr, rhai yn cario bagiau ac un yn dal ffôn.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Croesyceiliog yn ysgol uwchradd gydaddysgol 11-16 oed sydd wedi’i lleoli yng Nghwmbrân ac yn gwasanaethu dalgylch eang ar draws Awdurdod Lleol Torfaen. Mae 1195 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 19% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 5.9% o ddisgyblion ar y gofrestr ADY. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl penodi pennaeth newydd yn hydref 2022, cynhaliodd arweinwyr werthusiad yn cynnwys pob un o’r rhanddeiliaid, a nododd fod angen sefydlu rhesymeg glir ar gyfer gwella lles, ymddygiad a chynhwysiant. Cydnabuont nad oedd cyfrifoldebau arweinyddiaeth yn cael eu dosbarthu’n ddigon da i ddiwallu anghenion disgyblion, yn enwedig o ran lles a chynhwysiant. Cydnabuont hefyd fod arferion gwael a darpariaeth gyfyngedig i gefnogi lles disgyblion yn arwain at ymddieithrio i leiafrif o ddisgyblion yn rhy aml. Cyfrannodd hyn at ddiwylliant gwan ar gyfer dysgu. O ganlyniad, roedd cyfraddau gwaharddiadau yn rhy uchel ac roedd presenoldeb islaw disgwyliadau, yn enwedig ar gyfer y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Cydnabu arweinwyr fod angen alinio dysgu a lles, a chyflwynwyd strategaeth ‘adolygu ac adnewyddu’, yn cynnwys cynllun strategol tair blynedd clir. Cymerodd staff ran mewn ymchwil wedi’i harwain gan ymholi a defnyddiodd arfer orau o leoliadau eraill i gefnogi eu gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu (MGA) eu hunain. Arweiniodd y dull cydweithredol hwn at ddatblygu dull ymddygiad ‘Yn Barod i Ddysgu’ teilwredig a ‘Pholisi Perthnasoedd’, yr oedd y weledigaeth ‘Lles i bawb’ a dysgu’n rhydd o darfu yn sail iddo. 

Erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2023–2024, cefnogwyd y dull newydd gan raglen dysgu proffesiynol ddefnyddiol ar gyfer pob un o’r athrawon a’r staff cymorth. Yn sgil platfform digidol newydd ar gyfer cofnodi ymddygiad ac ymgysylltu, cryfhawyd olrhain, monitro a chyfathrebu â theuluoedd. Yn Hydref 2024,  mireiniwyd strategaethau, prosesau a rolau o fewn y tîm lles ymhellach gan adolygiad Presenoldeb, Ymddygiad a Diwylliant i sicrhau system fugeiliol hynod effeithiol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

O dan  faniffesto  dysgu’r  ysgol,  sef  ‘ceisio DYSGU, disgwyl PARCH, cymeradwyo UCHELGAIS’,  rhoddodd  arweinwyr  lefel uchel o bwysigrwydd i ddiwylliant arferion cadarnhaol ar gyfer dysgu. Fe wnaeth y prosesau monitro a gwerthuso cadarn gynorthwyo arweinwyr i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella a  herio staff i wella. 

I ddechrau, rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth i gynyddu capasiti ac effeithiolrwydd timau lles a chynhwysiant. Cydweithiodd uwch arweinwyr i sicrhau bod yr agwedd hon yn sail i’r holl benderfyniadau strategol a wneir. Mae pennaeth cynorthwyol ar gyfer ymddygiad a diwylliant, a gefnogir gan reolwr ymddygiad, yn sicrhau dull ataliol o ran ymddygiad ac yn hyrwyddo diwylliant dysgu cadarnhaol. Caiff llinellau atebolrwydd clir a rolau wedi’u diffinio’n dda eu cyfleu i rieni, disgyblion a staff.  

Mae’r diwylliant ‘Yn Barod i Ddysgu’ a’r ‘Polisi Perthnasoedd’ yn hyrwyddo disgwyliadau uchel a pherthnasoedd cadarnhaol, gan rymuso staff i arwain dysgu yn  eu  hystafelloedd  dosbarth  o  fewn fframwaith ymddygiad cyson. Mae dysgu proffesiynol a gyflwynir gan y tîm lles yn canolbwyntio ar arferion adferol a meithrin perthnasoedd parchus. Helpodd y gwaith hwn  arweinwyr  i ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus â disgyblion a’u rhieni i’w helpu i ddeall disgwyliadau’r ysgol o amgylch ymddygiad, ymgysylltiad a chynnydd. Roedd hyn yn golygu y gallai cymorth targedig gael ei nodi a’i ddarparu’n gyflym, pan roedd angen.    

Darparodd arweinwyr ddysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff i’w helpu i ddatblygu strategaethau i gefnogi ymgysylltiad disgyblion a sefydlu dulliau cyson i reoli ymddygiad disgyblion. O ganlyniad, mae pob un o’r staff yn dilyn arferion cytûn ysgol gyfan yn hyderus. Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda gan arweinwyr i reoli ymgysylltiad ac ymddygiad disgyblion. Mae hyn wedi helpu sicrhau bod disgyblion yn deall disgwyliadau’r ysgol.  

Mae systemau gwell ar gyfer olrhain lles (Presenoldeb, Ymddygiad, Ymddygiad, Diwylliant) yn galluogi arweinwyr i ddefnyddio data yn effeithiol i nodi anghenion disgyblion a gwerthuso darpariaeth. Mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u presenoldeb a’u hymddygiad trwy olrheiniwr lles amser dosbarth, sy’n meithrin annibyniaeth ac ymreolaeth. Mae deialog reolaidd rhwng disgyblion a’u tiwtoriaid dosbarth yn ystod sesiynau wedi eu hamserlennu yn cefnogi ymgysylltiad disgyblion ymhellach yn y meysydd pwysig hyn. 

Mae’r polisi ffonau symudol ‘O’r Giât i’r Giât’ ar gyfer staff a disgyblion yn rhoi eglurder ar ddefnyddio dyfeisiau ac yn cefnogi arferion dysgu cadarnhaol a diwylliant diogelu. Mae strategaethau ychwanegol, fel y ‘Polisi Toiledau’ a’r dull ‘pum munud yn hwyr’ yn annog hunanreolaeth disgyblion ac yn cynnal ffocws cryf ar ddysgu. 

Caiff darpariaethau o ansawdd uchel i gefnogi disgyblion eu hadeiladu tuag i fyny o angen disgyblion a’u helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys rhaglenni teilwredig sydd wedi eu hanelu at wella ymddygiad, lles ac ymgysylltiad â’r cwricwlwm. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys: 

  •  Mewngymorth (presenoldeb / ymgysylltu â’r ysgol) 
  •  Y Bont (ymddygiad, lles ac ymgysylltu â’r cwricwlwm – darpariaeth amgen) 
  • Turnaround (lles / hunanreoleiddio) 
  • Mentora (ymddygiad) 
  • COMIT (cyfathrebu emosiynol) 

Caiff darpariaeth ei chydlynu trwy’r Panel Darpariaeth Disgyblion i sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth priodol a bod ymyriadau’n cyflawni’r effaith orau posibl a’r gwerth gorau posibl am arian. 

Caiff staff eu hysbysu’n dda trwy fwletinau rheolaidd, ‘Croesy on a Page’ (crynodeb bob pythefnos o ymddygiad, ADY, deilliannau, ymgysylltiad rhieni, a data derbyniadau), cylchlythyrau addysgu a dysgu, a diweddariadau am les. Mae hyn yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn a gwaith tîm, lle mae pob un o’r staff yn rhannu cyfrifoldeb am lwyddiant yr ysgol ac yn eu helpu i adnabod y disgyblion yn dda.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ffocws strategol yr ysgol ar les, ymddygiad a chynhwysiant wedi arwain at welliannau buddiol mewn darpariaeth a deilliannau. Cryfhawyd yr arweinyddiaeth o ran lles a chynhwysiant yn nodedig. Mae cynnwys staff, disgyblion a rhieni mewn creu a datblygu’r systemau ymddygiad, wedi sicrhau bod y rhain yn cael eu deall yn dda. Mae hyder staff mewn rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth wedi cynyddu. Maent yn defnyddio arferion cyson ac yn canmol yn fedrus i sefydlu a chynnal ystafell ddosbarth drefnus ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.  

Mewn gwersi, mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae tarfu wedi gostwng yn sylweddol, ac mae disgyblion yn dangos uchelgais ac ymgysylltiad gwell, gan gyfrannu at y ffaith fod llawer o ddisgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig, o leiaf. Mae darpariaeth yn canolbwyntio ar y disgyblion ac yn ymatebol i anghenion unigol. Mae ymyriadau targedig wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, ymddygiad a lles, gan sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth amserol ac effeithiol. Mae disgyblion yn falch o fod yn aelodau o gymuned yr ysgol.  

Mae cyfraddau gwaharddiadau wedi gostwng yn sylweddol, mae presenoldeb wedi gwella’n dda, a dywed disgyblion fod ganddynt ymdeimlad cryfach o berthyn a lles. Mae’r pwyslais ar berthnasoedd a dulliau adferol wedi cefnogi’r ysgol i symud oddi wrth safiad adweithiol ar ymddygiad i fodel rhagweithiol ac ataliol. Mae’r diwylliant hwn o barch a pherthnasoedd cadarnhaol yn sail i bob agwedd ar fywyd yr ysgol. 

Mae amser dosbarth bellach yn rhan bwrpasol o’r diwrnod ysgol. Mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u lles, eu hymddygiad a’u presenoldeb, sydd wedi cryfhau eu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng ymgysylltiad, presenoldeb a chyflawniad.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

Mae’r ysgol wedi sefydlu ei hun yn arweinydd o fewn yr awdurdod lleol ym meysydd ymddygiad, lles, presenoldeb a chynhwysiant. Mae arweinwyr yn cyflwyno dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion eraill yn rheolaidd ac yn cyfrannu at rwydweithiau lleol a rhanbarthol. 

Mae arweinwyr yn cyflwyno mewn cynadleddau consortiwm a chyfarfodydd rhwydwaith penaethiaid, gan rannu strategaethau ac effaith. Mae’r ysgol wedi datblygu modiwl dysgu proffesiynol ar gyfer rhaglen gymorth yr awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar greu darpariaeth amgen effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn cynnwys cyfweliadau ac astudiaethau achos wedi eu ffilmio sy’n cynnwys arweinwyr, athrawon a disgyblion, sy’n darparu mewnwelediadau ymarferol ar gyfer lleoliadau eraill. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Disgybl mewn ystafell ddosbarth yn defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, gyda disgybl arall gerllaw ac oedolyn yn sefyll wrth ymyl yn pwyntio at y sgrin.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maelor yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-18. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ym mhentref Llannerch Banna yn ne ddwyrain Wrecsam. Mae 777 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys 103 yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 10.7%. Canran y disgyblion sydd ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yw 6%.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Maelor yn rhoi pwyslais cryf ar baratoi disgyblion ar gyfer bywyd mewn byd sy’n gynyddol ddigidol. Ar ôl cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD), cydnabu arweinwyr yr ysgol fod angen sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn datblygu medrau digidol mewn ffordd raddol ac ystyrlon. Amlygodd archwiliad cychwynnol, er bod rhai adrannau’n defnyddio offer digidol yn gywir, fod darpariaeth weithiau’n anghyson. Rhoddodd yr ysgol strategaeth ysgol gyfan ar waith i ymgorffori cymhwysedd digidol yn systematig, trwy gyd-destunau dilys. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r Cydlynydd Cymhwysedd Digidol yn cefnogi pob adran i greu dogfennau cynllunio ac ysgolion dilyniant, gan roi manylion am ddisgwyliadau o ran medrau ym mhob cam. Mae hyn yn sicrhau bod dysgu digidol yn bwrpasol, yn gronnol ac yn briodol i oedran. Cefnogir pob maes pwnc i ddatblygu cyfleoedd digidol sy’n berthnasol ac yn ddilys i’r dysgu sy’n digwydd o fewn y pwnc. 

Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • y dyniaethau – creu a dehongli ffeithluniau i gyflwyno a dadansoddi data hanesyddol 
  • gwyddoniaeth – defnyddio offer dadansoddi data a thaenlenni i fodelu canlyniadau a thueddiadau data arbrofol 
  • y celfyddydau mynegiannol – golygu fideos, cynhyrchu cerddoriaeth, a dylunio graffeg ddigidol i wella deilliannau creadigol 
  • mathemateg a rhifedd – datblygu medrau codio a rhesymu rhesymegol i gefnogi datrys problemau, adnabod patrymau, a thrin data mewn cyd-destunau mathemategol. 

Mae gan bob adran Hyrwyddwr Digidol sy’n cydweithio â’i gilydd, a gyda’r Cydlynydd Digidol. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd sy’n darparu cyfleoedd i gynllunio, datblygu a mireinio cyfleoedd digidol a rhannu arfer dda. Yn ychwanegol, mae Hyrwyddwyr Digidol yn darparu cymorth digidol i gydweithwyr adrannol ac mae arweinwyr wedi darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol buddiol ar gyfer pob un o’r staff. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau hyfforddi sydd wedi eu teilwra i ffocws digidol pob pwnc, sesiynau galw i mewn ‘cymorthfeydd digidol’, a safoni gwaith disgyblion i sicrhau dealltwriaeth gadarn o safonau a chysondeb ar draws pynciau. 

I sicrhau mynediad a thegwch, mae’r ysgol yn defnyddio’i chyllid o Raglen Technoleg Addysg Hwb i brynu Chromebooks ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh). Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan bob adran yr offer sydd ei angen i gyflwyno dysgu digidol o ansawdd uchel. 

I ddathlu a rhannu deilliannau’r gwaith hwn, mae Hyrwyddwyr Digidol wedi datblygu portffolios enghreifftiol a Phortffolio Digidol ysgol gyfan. Mae’r portffolio hwn yn gwasanaethu fel adnodd ar gyfer athrawon, yn blatfform ar gyfer cydnabod cyflawniad disgyblion, ac yn offeryn i ddangos ymrwymiad yr ysgol i ddatblygu cymhwysedd digidol. 

Caiff tasgau digidol eu gwerthuso’n rheolaidd i sicrhau bod tasgau’n briodol. O ganlyniad, mae Hyrwyddwyr Digidol yn gwneud mireiniadau rheolaidd i’w gwaith sydd wedi golygu bod ysgolion dilyniant yn fwy eglur, ac maent wedi datblygu rhestrau gwirio medrau bach i gynorthwyo disgyblion i olrhain eu cynnydd eu hunain. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r fenter wedi arwain at welliannau mesuradwy yng nghymhwysedd digidol disgyblion a mwy o gysondeb ar draws adrannau. Mae tasgau digidol bellach wedi eu hymgorffori ac yn bwrpasol. Er enghraifft, mae prosiectau ffeithluniau Blwyddyn 9 a phrosiectau amlgyfrwng yn dangos creadigrwydd, cywirdeb a meddwl gwerthusol gwell. Mae cyfran disgyblion Blwyddyn 9 sy’n cyflawni disgrifwyr FfCD lefel uwch fel ‘gwerthuso a mireinio cynnwys digidol’ yn cynyddu. Yn ychwanegol, mae adborth llais y disgybl yn dangos hyder ac ymreolaeth gynyddol. 

Mae arolygon staff yn dangos bod hyder athrawon mewn ymgorffori dysgu digidol yn cynyddu’n nodedig, ar ôl cymorth targedig a chydweithio â Hyrwyddwyr Digidol.   

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae dulliau’r ysgol yn sicrhau bod arfer effeithiol yn cael ei hymgorffori’n dda ar draws yr ysgol.  Mae Arweinydd Cymhwysedd Digidol yr ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag arweinwyr ysgol eraill ac wedi cael ei arddangos yng nghyfarfodydd Rhwydwaith yr Awdurdod Lleol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae'r ddelwedd yn dangos murlun lliwgar ar ochr adeilad, yn darlunio dwylo amrywiol o wahanol arlliwiau croen wedi'u casglu o amgylch pêl sy'n tywynnu. O amgylch y dwylo mae elfennau artistig bywiog, gan gynnwys blodau, siapiau haniaethol, a llew. Mae'r olygfa wedi'i gosod yn yr awyr agored o dan awyr rhannol gymylog.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae hyrwyddo’i gwerthoedd craidd, sef Barod, Parchus a Diogel yn ganolog i arfer Olchfa. Mae gweledigaeth yr ysgol yn canolbwyntio ar syniad o ‘Gynefin’, gan ofyn y cwestiwn ‘Beth mae’n ei olygu i berthyn i gymuned Olchfa, byw yn Abertawe, ond gyda gwreiddiau ym mhob cwr o’r byd?’ Y nod oedd datblygu gweledigaeth ac ethos a oedd yn croesawu pob aelod o gymuned yr ysgol trwy strategaeth ymgysylltu eang.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth, sicrhawyd cytundeb cyffredin am beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o gymuned Ysgol Olchfa. Sefydlwyd hyn trwy gyfres o weithdai a grwpiau, yn cynnwys Bwrdd Cynghori’r ysgol sy’n cynrychioli disgyblion a theuluoedd, y Corff Llywodraethol a grwpiau staff amlddisgyblaethol. Bu cyfranogwyr yn ystyried cwestiynau fel ‘Beth ddylai ei olygu i fod yn rhan o gymuned Olchfa?’ a ‘Pa bethau ddylai ein huno ni?’ Cwtogwyd yr adborth yn ddeg gair a datganiadau diffiniol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ffurfio sail gweledigaeth newydd. Mae ‘Cynefin’ Olchfa yn dathlu: plant, Cymreictod, llawenydd, creadigrwydd, perthyn, arweinyddiaeth, positifrwydd, gofal, parch a llwyddiant. Ei nod yw gweledigaeth i bawb, sy’n cynnwys pawb. Rhoddodd arweinwyr yr ysgol flaenoriaeth i arweinyddiaeth hynod weladwy o fewn a’r tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys perthnasoedd gwaith agos ag ysgolion cynradd partner, trwy fentrau strategol fel ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd, Addysgu Gyda’n Gilydd’ ond hefyd trwy bresenoldeb gweladwy’r pennaeth mewn digwyddiadau partneriaid cynradd. Mae ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol a gydag asiantaethau eraill hefyd yn weladwy ac yn cael ei ddathlu.

Roedd blwyddyn dau yn cynnwys ymgorffori’r weledigaeth mewn dwy ffordd allweddol. Un ohonynt oedd atgyfnerthu’r weledigaeth yn rheolaidd trwy hyfforddiant staff, digwyddiadau cyhoeddus a chyhoeddiadau’r ysgol. Un arall oedd datblygu deunyddiau hyrwyddo. Yn sgil cystadleuaeth ddylunio i ddisgyblion, cynhyrchwyd lefelau uchel o ymgysylltu a syniadau. Cymerodd yr enillwyr ran mewn gweithdai gydag arlunydd lleol (a chyn-ddisgybl), yn ymgorffori’r deg gair mewn deunyddiau gweledol trawiadol sy’n cael eu harddangos ar draws y safle. Darn canolog y gwaith hwn oedd creu murlun wal mewn partneriaeth rhwng yr arlunydd a’r disgyblion, yn adlewyrchu ‘Cynefin’ Olchfa, ac yn helpu ei ddyfnhau.

Mae ymrwymiad gan staff, disgyblion a theuluoedd yn sail i’r broses a’r weledigaeth, ac ymrwymiad dwfn i adlewyrchu eu ‘Cynefin’ ym mhopeth a wnânt, gan bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol, beth bynnag yw eu rôl. Mae gan grwpiau llais y disgybl rôl weithredol mewn hyrwyddo’r ymdeimlad hwn o berthyn:

  • Mae’r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi arwain ar hyrwyddo a dathlu’r ystod amrywiol o ddiwylliannau o fewn cymuned yr ysgol trwy drefnu wythnosau diwylliant hynod lwyddiannus.
  • Mae’r ‘Ffair Les’ flynyddol, a drefnir gan grŵp llais y disgybl iechyd a lles emosiynol, yn ddigwyddiad gwerthfawr gan ei fod yn helpu codi ymwybyddiaeth am gymorth sydd ar gael gan elusennau ac asiantaethau yn y gymuned leol.
  • Mae mentoriaid CHAT Blwyddyn 10 (cyfrinachedd (confidentiality), help (help), cyngor (advice) ac ymddiriedaeth (trust)) yn cynnig cymorth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 pan maent yn ymuno â’r ysgol, i sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu hintegreiddio’n llawn yng nghymuned Ysgol Olchfa cyn gynted ag y bo modd.
  • I ymateb i’r twf cyflym yn y chweched dosbarth, mae swyddogion wedi sefydlu dydd Mercher lles i hyrwyddo ymdeimlad o gymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r weledigaeth drosfwaol ar gyfer yr ysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar feysydd allweddol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae presenoldeb wedi cynyddu, mae deilliannau arholiadau yn cyd-fynd yn fras â lefelau cyn Covid, ac me gwaharddiadau wedi disgyn. Mae’r nifer sy’n cofrestru yn y chweched dosbarth ar ei lefel uchaf yn hanesyddol. Mae arweinwyr yn credu bod ‘Cynefin’ Olchfa yn gorwedd yn ei diwylliant, sy’n wresog, yn flaengar ac yn gynhwysol. Mae perthnasoedd ar gyfer dysgu yn gryf. Mae adborth rhieni yn dangos lefelau uchel o foddhad ag ymgysylltu a gwelededd. Mae’r ysgol yn teimlo bod pawb yn cael eu huno y tu ôl i weledigaeth i bawb sy’n rhoi Ysgol Olchfa yng nghanol ei chymuned.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth traws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid.   

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Grŵp o fyfyrwyr mewn stiwdio ddawns yn sefyll mewn llinell gyda breichiau wedi’u codi, yn gwisgo dillad dawns du a llwyd.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Ar ôl cyhoeddi ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ac i baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, llwyddodd Ysgol Olchfa i ennill statws Ysgol Arloesi. Sefydlodd hyn ddiwylliant arloesi o amgylch strwythur a chynllun y cwricwlwm,  gan orffen ag ‘iLearn’, sef cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9. Mae gan arweinwyr weledigaeth ar gyfer eu cwricwlwm fel y ‘profiad bywyd’ a ddylai roi’r wybodaeth, y medrau a’r profiadau i fod yn ddisgyblion uchelgeisiol, creadigol, moesegol a hyderus yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Olchfa, a thu hwnt. 

Cyflwynodd Ysgol Olchfa ‘iExplore’ i ymateb i angen a nodwyd gan ddisgyblion i deilwra a chyfoethogi darpariaeth cwricwlwm ‘iLearn’ ym Mlwyddyn 9, gan gydnabod y byddai’r disgyblion hyn yn gwneud dewisiadau ar gyfer astudio ym Mlwyddyn 10 cyn bo hir. Mae gwersi ‘iExplore’ yn cyfrif am 4 o’r 50 gwers a gaiff disgybl Blwyddyn 9 bob pythefnos. Maent yn darparu cyfle i ddisgyblion ddatblygu medrau a diddordebau newydd, yn ogystal â chryfhau rhai presennol, ochr yn ochr â dysgu parhaus o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) yr oeddent yn gyfarwydd â nhw ym Mlynyddoedd 7 ac 8. 

Bob blwyddyn, mae arweinwyr y chwe MDPh yn cynllunio ystod o gyrsiau ‘dewisol’ i ehangu neu ddyfnhau profiad y cwricwlwm i ddisgyblion Blwyddyn 9. Dylai fod gan bob cwrs ‘iExplore’ y potensial i feithrin angerdd disgybl mewn maes a ddewiswyd, dylent alluogi cymhwyso gwybodaeth bwnc yn ystyrlon mewn cyd-destunau byd go iawn a dilys, neu gynnig llawenydd mewn dysgu rhywbeth newydd, mewn ffordd newydd, gyda phobl newydd.  

Mae’r ysgol yn cynnig 24 o gyrsiau ‘iExplore’ i gyd, ac o’r rhain, mae disgyblion Blwyddyn 9 yn astudio dau gwrs; un yn hanner cyntaf y flwyddyn ac un yn yr ail hanner. Dyma enghreifftiau o gyrsiau ‘iExplore’ a gynhelir: 

  • Fforenseg 
  • Ysgrifennu creadigol 
  • Y Gyfraith a Throseddeg 
  • Arweinyddiaeth Chwaraeon 
  • Chwarae â rhaglennu 
  • Theatr gerddorol 
  • Dod yn ddatryswr problemau 

Mae ‘iExplore’ yn chwarae rhan bwysig mewn cyflawni gweledigaeth yr ysgol ar gyfer ‘Cynefin’ Ysgol Olchfa, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr fod yn arweinwyr arnyn nhw eu hunain a dysgu mwy am ddiwylliant a chefndir Cymru. Mae ‘iExplore’ yn darparu cyfle i astudio rhywbeth yn gysylltiedig â llwybr gyrfa, rhywbeth creadigol neu wreiddiol. Mae’r ysgol yn archwilio’r syniadau hyn gyda dysgwyr wrth iddynt wneud eu dewisiadau ‘iExplore’ ym Mlwyddyn 8. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cynhelir ehangder y cynnig ‘iExplore’ trwy baru pynciau ar draws y flwyddyn i uchafu effeithlonrwydd staffio. Yn ystod Blwyddyn 8, mae dysgwyr yn dewis pum cwrs ‘iExplore’, yn nhrefn eu dewis. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyrennir y cwrs ‘iExplore’ o’u dewis cyntaf a’u hail ddewis i ddisgyblion ac mae arweinwyr yn ymateb trwy gynnal amryfal ddosbarthiadau os oes galw i wneud hynny. Mae’r dull hwn nid yn unig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i arweinwyr ar ddewisiadau pwnc dysgwyr, gan gefnogi cwricwlwm tymor hir a chynllunio staffio, ond hefyd yn sicrhau bod cynnig ‘iExplore’ yn parhau’n gost effeithiol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?  

Mae cofnodion data tair ‘Agwedd at Ddysgu’ yr ysgol dros Flwyddyn 9 yn dangos lefelau arbennig o uchel o ymgysylltu ar draws ystod o bynciau ‘iExplore’. Dywed rhai disgyblion fod ‘iExplore’ yn gyfle i arbenigo mewn pwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, tra bod disgyblion eraill yn croesawu’r effaith gyfoethog a gaiff ar eu profiad a’u lles ym Mlwyddyn 9. Mae’r ffaith fod diwrnodau ysgol yn dod â llawenydd yn ganolog i weledigaeth yr ysgol ar gyfer Olchfa, ac mae adborth gan ddisgyblion a theuluoedd yn awgrymu mai dyna’n union beth mae ‘iExplore’ yn ei wneud ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9. Mae rhai disgyblion yn newid eu dewis o lwybr o Flwyddyn 9 i Flwyddyn 10 o ganlyniad i brofi eu diddordeb mewn pwnc trwy eu dewisiadau cyrsiau ‘iExplore’. Mae llais y disgybl wedi helpu mireinio ‘iExplore’, ac mae Bwrdd Cynghori’r ysgol (grŵp rhanddeiliaid o rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff) wedi gofyn i ‘iExplore’ barhau trwy Flynyddoedd 10–13, sy’n rhywbeth y mae arweinwyr yn ei archwilio erbyn hyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth ar draws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae plant yn eistedd o amgylch bwrdd crwm mewn ystafell ddosbarth lliwgar, yn ymwneud â theganau addysgol. Mae oedolyn yn eistedd gyda nhw, yn gwenu. Mae'r ystafell yn llachar, gyda silffoedd yn llawn teganau a llyfrau amrywiol. Mae un plentyn yn sefyll ger y bwrdd yn dal tegan wedi'i stwffio.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Cae’r Ffair yn Feithrinfa Ddydd sydd wedi’i leoli ym mhentref Gorslas, Sir Gaerfyrddin. Mae’n feithrinfa cyfrwng Cymraeg sy’n darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel i blant ers 22 mlynedd. Mae’r lleoliad yn cynnig amgylchedd cynnes ac ystyriol lle caiff plant eu cefnogi i ddatblygu’n emosiynol, yn gymdeithasol ac yn wybyddol trwy brofiadau chwarae o safon uchel. Mae’r arferion yn seiliedig ar arweinyddiaeth arloesol, perthnasoedd cryf a gwaith tîm effeithiol.  Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal partneriaeth agos â theuluoedd a pherthynas ystyrlon gyda’r gymuned ehangach. Mae’r tîm yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel, ac yn annog plant i archwilio, darganfod a thyfu. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

O dan arweinyddiaeth flaengar a ragweithiol, mae’r lleoliad wedi mabwysiadu dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn. Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ymarfer adlewyrchol a meithrin perthnasoedd cryf a hyderus ar draws y tîm. Mae’r diwylliant hwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu galluogi i ddefnyddio eu barn proffesiynol, gan arbrofi â dulliau ac arferion newydd sy’n seiliedig ar anghenion a diddordebau’r plant.  

Mae’r nod cyfunol yn sicrhau profiadau o ansawdd cyson uchel  sy’n meithrin datblygiad y plant. Mae cydweithrediad agos â rhieni a’r gymuned leol yn cryfhau’r dull hwn, gan greu ymdeimlad clir o bwrpas a pherthyn. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno dulliau newydd o edrych ar ddatblygiad plant a dysgu drwy chwarae, yn ogystal â chryfhau cysondeb ar draws unedau’r feithrinfa trwy arferion, gwerthoedd a chynllunio cydweithredol a rennir. Mae arweinwyr hefyd yn darparu datblygiad proffesiynol wedi’i dargedu i gryfhau hyder, gwybodaeth a medrau ymarferwyr, tra’n meithrin amgylchedd cynhwysol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn annog eu lles a’u datblygiad. Mae ymarferwyr yn ganolog i’r weledigaeth hon, gan ddefnyddio perthnasoedd cryf â’r person allweddol a gweithgarwch adlewyrchol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ystyrlon ac yn ymatebol. Maent yn cydweithio ar draws unedau i gynnal safonau uchel, addasu’r amgylchedd dysgu a rhannu syniadau effeithiol.  

Mae’r lleoliad yn cynnal cysylltiadau cryf ac ystyrlon gyda’r gymuned leol, gan gynnwys partneriaethau ac ysgolion lleol, Gorslas Welfare, elusennau, gwasanaethau brys, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol. Trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd ar y cyd, nid yn unig y mae plant yn archwilio amgylcheddau go iawn, ond maent hefyd yn datblygu medrau ymarferol, hyder cymdeithasol ac ymdeimlad cryf o berthyn, gan gryfhau eu dealltwriaeth o’r byd ac yn cyfoethogi eu profiadau dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dull cyfunnol o arweinyddiaeth arloesol, ymarferwyr medrus, cymorth gan deuluoedd a chysylltiadau cryf â’r gymuned wedi gwella ansawdd y ddarpariaeth yn sylweddol ar draws y lleoliad. O ganlyniad, mae’r plant yn elwa o amgylchedd emosiynol gadarn ac ysgogol, lle caiff eu chwilfrydedd a’u hymrwymiad eu meithrin. Mae’r ymarferwyr yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ysbrydoli, ac mae hyn  yn cael ei adlewyrchu mewn rhyngweithiadau o ansawdd uchel a gweithgarwch ystyriol ac ymatebol.  

Mae plant yn datblygu hyder, gwytnwch, chwilfrydedd ac annibyniaeth trwy brofiadau deniadol a gynllunnir yn effeithiol. Mae teuluoedd yn adrodd eu bod yn teimlo’n rhan o’r lleoliad ac yn cael eu parchu, gan sicrhau cymorth cyson rhwng y cartref a’r lleoliad. Mae cyfranogiad y gymuned yn cyfoethogi dysgu’r plant ymhellach, gan Feithrin empathi, ymwybyddiaeth a synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae bron pob plentyn yn dangos ymdeimlad cryf o les ac maent yn awyddus i archwilio, ymgysylltu ac i ddysgu. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?  

Mae’r lleoliad yn rhannu ei arfer effeithiol yn rheolaidd â rhieni, partneriaid cymunedol a sefydliadau lleol. Trwy gyfathrebu parhaus, digwyddiadau a chyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, mae’r ymarferwyr yn tynnu sylw at fanteision eu dull cydweithredol a chanolbwyntio ar y plentyn. Mae’r lleoliad hefyd wedi rhannu ei arfer rhagorol mewn digwyddiad a drefnwyd gan yr Awdurdod Lleol, oedd yn canolbwyntio ar arfer effeithiol ar draws y sector Blynyddoedd Cynnar mewn lleoliadau ac ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn darparu cyfle i ddangos effaith gadarnhaol ei dulliau i gynulleidfa broffesiynol ehangach. Mae partneriaethau a gwasanaethau lleol ac ysgolion yn cefnogi’r broses o rannu arfer da ymhellach ac yn helpu cryfhau cydweithio a pharhad i blant wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf o’u haddysg.