Disgwylir i’r arolwg thematig hwn gefnogi Llywodraeth Cymru trwy gyflawni’r amcanion canlynol:
Canolbwyntio ar heriau a llwyddiannau’r model pob oed
Darparu adroddiad am gyflwr y genedl ar ysgolion pob oed
Mae’r sector ysgolion pob oed yn sector sy’n tyfu, gyda mwy na dwywaith nifer yr ysgolion yn agor yn 2020 o gymharu â 2017. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar dri maes eang, sef:
A1 Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater. Rhan bwysig o hyn yw ei bod yn cynnwys darparu sicrwydd i ddisgyblion y bydd staff ysgol yn cymryd pob achos o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol.
A2 Darparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, cefnogol a galluogol ar gyfer trafodaethau agored a gonest.
A3 Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio. Dylai cofnodion gynnwys manylion am y math o achosion, a’u natur, yr effaith ar y dioddefwr a chamau gweithredu priodol i ymateb i gyflawnwyr a dioddefwyr, fel ei gilydd. Dylai arweinwyr sicrhau eu bod yn adolygu cofnodion yn rheolaidd, ac yn gwerthuso effaith eu gweithredoedd ar les disgyblion.
A4 Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid. Mae hyn yn cynnwys darparu awyrgylch diogel, anogol a chefnogol ar gyfer trafodaethau agored ac onest.
Dylai awdurdodau lleol:
A5 Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr. Yn ychwanegol, cynorthwyo ysgolion i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd i nodi tueddiadau a rhoi trefniadau adferol ar waith.
A6 Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd.
A7 Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Dylai hyn ddigwydd mewn cydweithrediad â’r consortia rhanbarthol lle y bo’n briodol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.
A9 Sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd a llawn gwybodaeth ar arferion gorau ac adnoddau addas sydd ar gael i’w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb
A1 Gynnal adolygiad strwythurol o ddarpariaeth AGA AHO, sy’n ystyried y themâu sy’n dod i’r amlwg a nodir yn yr adroddiad hwn ac anghenion datblygu ehangach y gweithlu
A2 Sicrhau y caiff data sy’n ymwneud â nifer, deilliannau a chyrchfannau hyfforddeion ar raglenni AGA AHO ei gasglu a’i gyhoeddi’n rheolaidd
A3 Brocera cyfleoedd i arweinwyr cyrsiau a staff cyflwyno mewn SABau a SAUau i ddatblygu rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar addysgeg AGA AHO
A4 Datblygu cymhelllion i annog hyfforddeion i addysgu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Dylai darparwyr:
A5 Wella darpariaeth mentora i hyfforddeion AGA
A6 Cynyddu’r cyfleoedd i hyfforddeion ymgymryd â’u profiad addysgu a chwblhau agweddau ar eu rhaglen hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
A7 Sicrhau bod pob hyfforddai yn cael lleoliadau profiad addysgu o ansawdd uchel sy’n cynnig cyfleoedd iddynt arsylwi arfer addysgu gref a datblygu medrau addysgu cynhwysfawr
A8 Sicrhau bod pob rhaglen AGA AHO yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion yr ystod lawn o hyfforddeion
A9 Sicrhau y caiff rhaglenni eu llunio ar y cyd, gan ystyried anghenion hyfforddeion mewn SAUau a SABau, ac mewn ymgynghoriad â chyflogwyr AHO.
Yn dilyn y digwyddiadau yn ystod haf 2020 a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru y dylai’r adolygiad ystyried hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a’r cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ehangach.
Yn achos grantiau tebyg yn y dyfodol, dylai arweinwyr mewn ysgolion a cholegau:
A1 Sicrhau bod ganddynt weledigaeth glir ar gyfer y deilliannau y maent yn dymuno eu cael o wariant ychwanegol
A2 Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu strategaethau i gefnogi cynnydd a lles dysgwyr
A3 Olrhain a gwerthuso’n effaith unrhyw wariant ychwanegol yn aml er mwyn addasu cynlluniau cyfredol lle mae angen, a llywio eu cynllunio dyfodol
A4 Ystyried adeiladu ar newidiadau llwyddianus wnaethon i’w harferion yn ystod y pandemig
A5 Sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg yn flaenoriaeth, ni waeth beth yw cefndiroedd ieithyddol dysgwyr
Dylai consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol:
A6 Olrhain a gwerthuso llwyddiant gwahanol fodelau sy’n darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr ar draws eu hardaloedd, gan gyfeirio at y dangosyddion a awgrymir yn yr adroddiad hwn
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 Sicrhau bod amodau ar gyfer unrhyw wariant o’r grant dal i fyny yn y dyfodol yn briodol hyblyg, ac yn hafal ar gyfer ysgolion a cholegau
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
A1 Dargedu adnoddau i hybu iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol yn ofalus er mwyn osgoi gorlwytho dysgwyr a staff â gormod o wybodaeth
A2 Nodi’n ofalus y dysgwyr hynny sydd â’r risg fwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu gael profiad o broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, a monitro eu lles yn rheolaidd
A3 Blaenoriaethu darparu cymorth yn ôl yr angen i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr y mae angen cymorth brys arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol yn cael cymorth cyn gynted ag y bo modd
A4 Cydweithio mor agos ag y bodd modd ag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth cyffredinol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol mor ddi-dor ag y bo modd a lleihau, neu osgoi yn ddelfrydol, yr angen am nifer o fannau cyswllt
A5 Ei gwneud yn glir sut y gall pob dysgwr fanteisio ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ag isgontractwyr neu ddarparwyr partner
A6 Sicrhau bod yr holl staff cwnsela, ac aelodau staff eraill mewn rolau tebyg, yn cael goruchwyliaeth neu fentora priodol, ac yn ymgymryd â dysgu proffesiynol penodol ar sut i ddarparu cymorth o bell yn effeithiol
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 Sicrhau y caiff deilliannau prosiectau iechyd meddwl a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu gwerthuso’n llawn, a rhannu’r canfyddiadau ar draws pob sector ôl-16
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
A1 Sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu o bell a dysgu cyfunol i sicrhau bod yr holl gyrsiau neu raglenni yn bodloni safon ansawdd ofynnol er mwyn lleihau’r amrywioldeb mewn darpariaeth
A2 Sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn gallu elwa ar ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi datblygiad o ran sut i gynllunio addysgu a dysgu effeithiol o bell a chyfunol, yn ogystal â datblygu medrau addysgegol ac asesu athrawon ymhellach.
A3 Rhannu arfer sy’n dod i’r amlwg ac arfer arloesol o ran dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru, a thu hwnt
Dylai Llywodraeth Cymru:
A4 Barhau i gefnogi’r sector ag arweiniad i alluogi darparwyr i ddatblygu dulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol o ansawdd da, yn enwedig o ran cefnogi’r dychwelyd i addysgu a hyfforddiant uniongyrchol, ac asesu medrau galwedigaethol a thechnegol ymarferol
A5 Comisiynu dysgu proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, sy’n rhad ac am ddim i ddarparwyr ac yn eu helpu i ddatblygu arbenigedd penodol mewn dylunio, addysgu, hyfforddiant a dysgu o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell ar gyfer eu sector i leihau amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth
A6 Galluogi partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a dysgwyr i gael mynediad at blatfform digidol cenedlaethol canolog i ddarparu dysgu o bell a dysgu cyfunol yn haws
A7 Annog a chefnogi darparwyr i rannu arfer sy’n dod i’r amlwg mewn dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru