A1 Hyrwyddo’r ddogfen ‘Rheoli Presenoldeb Gweithlu Ysgolion yn Effeithiol’ yn ehangach
A2 Rhoi arweiniad i ysgolion ac awdurdodau lleol ar fonitro, cofnodi ac arfarnu effaith absenoldeb staff o ganlyniad i weithgareddau heblaw salwch, fel hyfforddiant, cynadleddau a chymorth o ysgol i ysgol
A3 Darparu arweiniad ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol
A4 Sicrhau yr eir i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg wrth adolygu’r strategaeth gweithlu athrawon
Dylai awdurdodau lleol:
A5 Sicrhau bod hyfforddiant ar reoli presenoldeb gweithlu ar gael i bob pennaeth a’i fod yn ffurfio rhan o becyn ymsefydlu ar gyfer yr holl benaethiaid newydd a benodir
A6 Darparu data meincnodi rheolaidd i ysgolion ar bresenoldeb staff yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru
Dylai ysgolion:
A7 Fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd a sicrhau bod pob disgybl yn parhau i wneud cynnydd priodol pan fydd eu hathro dosbarth arferol yn absennol
A8 Rhoi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad
A9 Sicrhau bod athrawon cyflenwi yn gallu mynd at ddogfennau cynllunio athrawon bob amser
A1 Ddysgu o’r arfer orau sy’n cael ei disgrifio yn yr adroddiad hwn
A2 Gwneud yn siŵr bod digon o gyfleoedd mewn gwersi i ddisgyblion mwy abl ymestyn eu dysgu
A3 Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhifedd, lle y bo’n briodol, mewn gwersi celf
A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau celf yn gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd i greu gwaith celf sy’n datblygu cymwyseddau digidol disgyblion
A5 Arfarnu perfformiad disgyblion yn fanwl, ac felly hefyd y cryfderau a’r meysydd i’w datblygu mewn addysgu yn y celfyddydau, i lywio cynllunio adrannol
A6 Dadansoddi cyfraniad adrannau celf at fedrau disgyblion a datblygu strategaethau ar gyfer dysgu creadigol ar draws yr ysgol
A7 Gwneud defnydd gwell o’u cyllid grant i gefnogi disgyblion difreintiedig yn y celfyddydau creadigol
A8 Datblygu darpariaeth ac arfer yn y celfyddydau er mwyn cyfrif am argymhellion Dyfodol Cynaliadwy
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A9 Ddarparu mwy o gymorth i ysgolion ddatblygu hunanarfarnu effeithiol a chynllunio effeithiol ar gyfer gwella yn y celfyddydau
A10 Cynnig profiadau dysgu proffesiynol i athrawon ac arweinwyr pwnc yn y celfyddydau
A11 Cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio cyllid grant yn effeithiol i gefnogi disgyblion difreintiedig a gweithio gydag asiantaethau’r celfyddydau ac ymarferwyr y celfyddydau
A12 Helpu ysgolion i adolygu datblygiad a dyluniad eu cwricwlwm gyda’r nod o fodloni argymhellion Dyfodol Llwyddiannus
A1 Ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer ysgolion i sicrhau cysondeb yn y barnau ar gyfer llafaredd, digonolrwydd sail y dystiolaeth, cymhwyso’r dull ‘gweddu orau’ yn well, a chymedroli gwaith sydd ar y ffin rhwng lefelau
A2 Adolygu eu rôl mewn sicrhau safonau cyson ar draws clystyrau, awdurdodau a rhanbarthau
Dylai ysgolion:
A3 Ystyried ystod eang o waith disgyblion wrth asesu a chymedroli lefelau
A4 Rhoi ystyriaeth briodol i lefel y cymorth, y prosesau drafftio, effaith marcio athrawon a digonolrwydd y dystiolaeth wrth ddyfarnu lefel derfynol
A5 Canolbwyntio ar waith disgyblion sydd ar ffin is lefelau wrth gymedroli mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr
A6 Gwneud yn siŵr bod yr holl lefelau’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n briodol ar ôl cymedroli mewnol a chymedroli clwstwr a chyn cyflwyno lefelau terfynol
A7 Cyfeirio at ddeunyddiau safonedig wrth asesu, cymedroli a safoni mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr
A2 cael prosesau systematig ar waith i fesur y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
A3 gweithio gydag ysgolion i esbonio wrth ddisgyblion a rhieni beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg a dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
A4 gweithio gydag ysgolion i osod targedau i gynyddu cyfran y disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 sy’n parhau i astudio Cymraeg fel mamiaith ac yn dilyn meysydd sy’n benodol i bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
A5 gwneud defnydd effeithiol o’u fforymau addysg cyfrwng Cymraeg i helpu i ddatblygu eu CSCA a monitro cynnydd
A6 arfarnu eu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg i nodi unrhyw fylchau
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 sicrhau bod y targedau y cytunwyd arnynt yn y CSCAau yn adlewyrchu’r dyheadau yn eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg
A8 sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn rhoi digon o bwysigrwydd strategol i gyflawni’r targedau yn y CSCAau