Trosolygon Estyn o'r sector - Estyn

Trosolygon Estyn o’r sector


QAA and Estyn logos

Mae Estyn yn arolygu’r sectorau addysg bellach (AB), prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned (DOG) a chweched dosbarthiadau mewn ysgolion. Fel arfer, caiff pob ysgol, darparwr neu bartneriaeth ei harolygu unwaith mewn cylch chwe blynedd. Mae sefydliadau addysg bellach (SABau), darparwyr arweiniol prentisiaethau a phartneriaethau DOG hefyd yn cael ymweliadau cyswllt blynyddol gan arolygwyr. Ymweliadau un neu ddau ddiwrnod yw’r rhain, sy’n canolbwyntio ar bedair neu bum thema sy’n berthnasol i’r sector. Nid oes gan ymweliadau cyswllt adroddiadau cyhoeddedig ar lefel y darparwr, ond maent yn llywio adroddiadau ‘mewnwelediadau’ pynciol ac adroddiad blynyddol Estyn.

Caiff chweched dosbarthiadau mewn ysgolion eu harolygu yn rhan o’u harolygiad ysgol gyfan ac adroddir arnynt yn rhan o adroddiad arolygu’r ysgol gyfan. Mae ysgolion yn cael ymweliad cyswllt interim hanner ffordd drwy’r cylch arolygu. Mae gan awdurdodau lleol oruchwyliaeth strategol o’r ysgolion a’r chweched dosbarthiadau yn yr ardal a chânt eu hariannu trwy Medr ar gyfer y ddarpariaeth hon. Mae Estyn yn arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL) pob awdurdod ac yn cynnal ymweliadau blynyddol gan arolygwyr cyswllt. 

Caiff arolygiadau Estyn eu cynnal gan ddefnyddio fframweithiau arolygu (‘Beth rydym yn ei arolygu’ a ‘Sut rydym yn arolygu’), sydd wedi’u teilwra ar gyfer pob sector. Gweler tudalen we adnoddau arweiniad arolygu Estyn (Estyn, 2025a) am fanylion am fframwaith bob sector. Mae effeithiolrwydd prosesau hunanwerthuso a gwella yn agwedd ar fframwaith bob sector a chaiff ei ystyried wrth arolygu (gweler maes arolygu 3.2 y ddogfen ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer addysg bellach, fel enghraifft).

Mae arolygiadau Estyn yn benodol i’r sector, sy’n golygu y gellir arolygu sefydliad dan fwy nag un fframwaith arolygu. Mae i hyn y fantais o roi golwg gynhwysfawr a manwl ar bob sector, ond mae’n golygu y bydd rhai sefydliadau, yn enwedig sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth mewn prentisiaethau neu ddysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal ag addysg bellach, yn cael eu harolygu dan bob un o’r sectorau hynny. Bydd SABau sy’n darparu addysg uwch hefyd yn destun adolygiad gwella ansawdd gan QAA.

Mae’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella sy’n benodol i’r sector a nodwyd yn yr adran hon yn deillio o’n cronfa ddata o dystiolaeth arolygu, ymweliadau cyswllt â darparwyr a thrafodaethau â ffocws gyda darparwyr a gynhaliwyd yn rhan o’r prosiect hwn.

Trosolwg o’r sector DOG

Mae’r sector dysgu oedolion yn y gymuned (DOG) yn cynnig cyfleoedd dysgu gydol oes i oedolion. Caiff darpariaeth ei chyflwyno gan bartneriaethau anstatudol. Mae Medr yn ariannu’r darparwyr sy’n cyfrannu at bartneriaethau DOG i gyflwyno cyrsiau:

  • i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
  • mewn Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)
  • ar gyfer dysgwyr hŷn, gan hybu ymgysylltiad cymdeithasol
  • sy’n datblygu medrau cyflogadwyedd
  • a chyrsiau eraill sy’n helpu i ennyn diddordeb oedolion mewn dysgu

Mae tair ar ddeg o bartneriaethau DOG, ynghyd ag Addysg Oedolion Cymru, sef y sefydliad addysg bellach dynodedig ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Mae aelodaeth pob partneriaeth yn amrywio o un ardal i’r llall, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys darpariaeth sy’n cael ei chynnig gan yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, a sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.

Fel arfer, mae dysgu oedolion yn y gymuned yn digwydd mewn lleoliadau fel llyfrgelloedd, canolfannau dysgu cymunedol neu ysgolion.

Arfer hunanwerthuso yn y sector DOG

Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau’n defnyddio fframwaith arolygu Estyn i strwythuro eu hadroddiad hunanwerthuso, sydd fel arfer yn cael ei gyflwyno ar ffurf dogfen wedi’i llunio mewn rhaglen prosesu geiriau neu daenlen. Mae mwyafrif yr adroddiadau hunanwerthuso partneriaethau yn cyfeirio’n uniongyrchol at y dystiolaeth ategol sy’n cyfrannu at yr adroddiad, yn aml gyda hyperddolenni i’r dystiolaeth. Mae ychydig ohonynt hefyd yn gwneud defnydd da o’r offeryn effeithiolrwydd partneriaethau DOG (Y Sefydliad Dysgu a Gwaith, 2024). Mae ychydig o bartneriaethau dan arweiniad awdurdodau lleol yn defnyddio templedi cynllunio hunanwerthuso a gwella eu hawdurdodau lleol, a all bwysleisio agweddau ychydig yn wahanol ar waith y darparwyr nag wrth ddefnyddio fframwaith arolygu Estyn.

Her benodol i’r sector hwn yw llunio dull hunanwerthuso a gwella ansawdd cydlynol sy’n cynnwys y bartneriaeth gyfan ac yn berthnasol iddi. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r sector wedi ymateb yn dda i ganfyddiadau arolygu Estyn sy’n nodi gweithio mewn partneriaeth, cynllunio darpariaeth, dulliau i gyfleu darpariaeth y bartneriaeth i ddarpar ddysgwyr a chynllunio a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn feysydd i’w gwella.

Cryfderau mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector DOG

  • Mae prosesau hunanwerthuso yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth (arsylwi gwersi, arolygon a fforymau dysgwyr, dadansoddiad o ddata perfformiad)
  • Fel arfer, mae prosesau hunanwerthuso yn gylchol ac yn llunio adroddiad hunanwerthuso a chynllun gwella ansawdd blynyddol
  • Fel arfer, mae cysylltiad da rhwng amcanion cynllunio gwelliant a’r meysydd i’w gwella a nodwyd yn yr adroddiad hunanwerthuso
  • Mae’r sector wedi cyd-lunio offeryn effeithiolrwydd partneriaeth defnyddiol, sy’n helpu partneriaethau i ganolbwyntio ar y materion allweddol ar gyfer y sector
  • Mae fforwm defnyddiol i bartneriaethau dynnu sylw at bryderon sector cyfan a rhannu arfer dda. Mae diwylliant defnyddiol o gydweithio a chymorth proffesiynol yn y sector
  • Ar y cyfan, mae adroddiadau hunanwerthuso partneriaethau yn onest ynghylch eu meysydd i’w gwella

Meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector DOG

  • Yn aml, mae adroddiadau hunanwerthuso yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a phrosesau darparwyr ac nid ydynt yn rhoi digon o sylw i’w heffaith ar ddysgwyr
  • Mae adroddiadau hunanwerthuso a chynlluniau gwella ansawdd ar lefelau partneriaethau yn dueddol o ganolbwyntio ar y prif ddarparwr ac nid ydynt yn rhoi digon o ystyriaeth i ddarparwyr eraill yn y bartneriaeth
  • Nid yw dadansoddi data wedi canolbwyntio digon ar y ffyrdd y mae dysgwyr yn symud i mewn i ddarpariaeth y bartneriaeth, o fewn y ddarpariaeth honno a’r tu hwnt iddi
  • Nid yw cynlluniau gwella ansawdd wedi cael yr effaith hirdymor ddisgwyliedig oherwydd newidiadau i bersonél neu ddiffyg perchnogaeth dros gamau gweithredu

Trosolwg o’r sector addysg bellach

Ar hyn o bryd, mae 12 o golegau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Mae gan lawer ohonynt nifer o safleoedd ar draws ardal ddaearyddol eang, gan bontio ardaloedd sawl awdurdod lleol. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig ystod eang o raglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol a chyffredinol. Mae ychydig o golegau hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chweched dosbarth ysgolion lleol.

Mae mwyafrif y colegau AB yn gweithredu dan strwythur grŵp, gan gynnal hunaniaethau colegau ar wahân ar gyfer safleoedd unigol neu glystyrau safleoedd rhanbarthol. Mae ychydig o golegau’n gweithredu fel is-gwmnïau sy’n perthyn yn llwyr i sefydliadau addysg uwch. Mae llawer ohonynt hefyd yn cynnig prentisiaethau dysgu yn y gwaith a rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned, naill ai fel darparwr arweiniol neu aelod o gonsortiwm neu bartneriaeth. Mae rhai ohonynt hefyd yn darparu rhaglenni Cymraeg i oedolion a/neu ddarpariaeth yn y sector cyfiawnder.

Caiff y gwahanol feysydd darpariaeth hyn eu harolygu gan Estyn dan y trefniadau arolygu perthnasol ar gyfer pob un o’r sectorau hyn. Gallai colegau AB gynnig cyrsiau addysg uwch hefyd, naill ai’n uniongyrchol neu drwy drefniadau partneriaeth â sefydliadau addysg uwch. Caiff y rhain eu hadolygu dan drefniadau sicrhau ansawdd a gynhelir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA).

Arfer hunanwerthuso yn y sector AB

Fel arfer, mae colegau AB yn cynnal ystod o weithgareddau hunanwerthuso, gan gynnwys:

  • Arsylwi gwersi
  • Teithiau dysgu neu deithiau campws
  • Dadansoddi data mewnol ac allanol, gan gynnwys meincnodi, lle bo hynny’n briodol
  • Craffu ar waith dysgwyr
  • Arolygon a fforymau trafod llais y dysgwr
  • Arolygon a fforymau trafod staff

Er nad yw Estyn yn nodi gofyniad na fformat dewisol i golegau lunio adroddiad hunanwerthuso (AHW), mae’r rhan fwyaf o golegau’n dewis defnyddio fframwaith arolygu Estyn i strwythuro AHW eu coleg. Fel arfer, caiff ei gyflwyno ar ffurf dogfen wedi’i llunio mewn rhaglen prosesu geiriau neu, mewn ychydig o achosion, ar ffurf taenlen. Mae ychydig o golegau’n strwythuro eu prosesu hunanwerthuso a chynllunio gwelliant o amgylch eu nodau strategol, yn hytrach na fframwaith arolygu Estyn. Fel arfer, caiff cynlluniau gwella ansawdd (CGAau) eu cyflwyno ar ffurf taenlen. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr hidlo cynnwys, fel y bo’n briodol. Mae’r rhan fwyaf o golegau’n gweithredu cylch ansawdd blynyddol, gan ddiweddaru a monitro bob tymor.  

Mae’r rhan fwyaf o golegau hefyd yn llunio AHWau a CGAau atodol, naill ai ar gyfer meysydd pwnc y cwricwlwm neu feysydd cyfrifoldeb, fel y’u diffinnir gan eu strwythurau sefydliadol. Mae llawer o golegau wedi symud oddi wrth ddefnyddio barnau neu raddau crynodol yn eu prosesau hunanwerthuso. Fodd bynnag, mae llawer ohonynt yn nodi’n ddefnyddiol unrhyw raglenni dysgu neu feysydd cyfrifoldeb sy’n tanberfformio ac yn rhoi cymorth targedig ar waith i helpu i hwyluso gwelliant. Fel arfer, caiff cyrff llywodraethol colegau eu cynnwys mewn prosesau hunanwerthuso hefyd, gan gynnwys cymedroli neu gymeradwyo AHWau a CGAau, yn ogystal â monitro cynnydd yn barhaus. Mae llawer o golegau hefyd yn rhwydweithio â cholegau eraill ar draws y sector i gefnogi arferion hunanwerthuso ei gilydd.        

Cryfderau mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector AB

  • At ei gilydd, mae gan golegau AB brosesau hunanwerthuso cylchol sefydledig a systematig sy’n effeithiol o ran nodi’r rhan fwyaf o’u cryfderau allweddol a’r mwyafrif sylweddol o feysydd allweddol i’w gwella. Fel arfer, caiff adroddiadau hunanwerthuso eu llunio’n flynyddol a chaiff cynlluniau gwella ansawdd eu monitro’n rheolaidd.
  • Mae gan y rhan fwyaf o golegau haenau o hunanwerthuso, gyda chyrsiau neu raglenni’n cynnal eu hunanwerthusiad eu hunain ac yn datblygu cynlluniau gwella cyrsiau neu feysydd rhaglenni. Mae’r prosesau hyn yn helpu i hybu perchnogaeth ar lefel cyflwyno.
  • Mae’r rhan fwyaf o golegau wedi datblygu systemau defnyddiol ar gyfer monitro ac adrodd ar ddata. Er enghraifft, mewn llawer o achosion, gall staff fanteisio bellach ar adroddiadau data neu ddangosfyrddau personoledig sy’n olrhain presenoldeb, cynnydd a deilliannau dysgwyr mewn amser real, yn hytrach na bod rhaid i staff ddibynnu ar adroddiadau cyfnodol.
  • Mae gan y rhan fwyaf o golegau drefniadau llais y dysgwyr sefydledig ac effeithiol ar waith, gan gynnwys cynrychiolwyr dysgwyr, rhaglenni llysgenhadon, grwpiau ffocws, arolygon dysgwyr, cymdeithasau/cynghorau dysgwyr a dysgwyr-lywodraethwyr.
  • Mae adroddiadau hunanwerthuso yn defnyddio ystod gynhwysfawr o dystiolaeth feintiol ac ansoddol ac maent yn destun prosesau cymedroli a chymeradwyo priodol.
  • Mae cynlluniau gwella ansawdd yn destun gweithdrefnau parhaus ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd, gyda chyfranogiad priodol gan uwch arweinwyr a goruchwyliaeth gan y corff llywodraethol.

Meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector AB

  • Mewn lleiafrif o achosion, nid yw arweinwyr colegau’n nodi meysydd allweddol i’w gwella yn ddigon cadarn. Lle mae hyn yn wir, mae adroddiadau hunanwerthuso adrannol neu goleg cyfan yn rhy gadarnhaol ac mae arweinwyr yn colli cyfleoedd i nodi a mynd i’r afael â meysydd pwysig i’w gwella.
  • Nid yw cynlluniau gwella ansawdd yn nodi camau gweithredu, cerrig milltir a thargedau gwella yn ddigon manwl bob tro ac, o ganlyniad, nid yw trefniadau monitro cynnydd yn gwbl effeithiol. 
  • Nid yw mwyafrif y colegau’n canolbwyntio digon ar gyrraedd graddau uwch, yn enwedig wrth ystyried deilliannau ar raglenni galwedigaethol. Er enghraifft, mae data deilliannau dysgwyr cymwysterau galwedigaethol mewn adroddiadau hunanwerthuso yn aml yn canolbwyntio’n gyfan gwbl neu’n rhy drwm ar gyfraddau cwblhau, yn hytrach na defnyddio proffiliau graddau’n llawn.
  • At ei gilydd, nid yw trefniadau ar gyfer monitro presenoldeb a phrydlondeb yn ddigon cadarn na chyson ar draws y sector AB. Er enghraifft, mae gormod o ffocws ar brif gyfraddau presenoldeb sy’n cynnwys absenoldebau wedi’u hesbonio, heb ystyried presenoldeb gwirioneddol yn y dosbarth yn ddigon manwl, hefyd.
  • Ar draws y sector, nid yw casglu a defnyddio gwybodaeth gadarn am gyrchfannau dysgwyr wedi’i ddatblygu’n ddigonol o hyd.

Trosolwg o’r sector prentisiaethau

Ar hyn o bryd, mae deg darparwr arweiniol dan gontract gyda Medr i ddarparu prentisiaethau yng Nghymru. Mae chwech o’r contractau dan arweiniad colegau addysg bellach a phedwar ohonynt dan arweiniad darparwyr hyfforddiant annibynnol. Mae’r deg darparwr hyn yn gweithio gydag ystod o ddarparwyr hyfforddiant eraill gan ddefnyddio trefniadau partneriaeth ac is-gontractio i ddarparu hyfforddiant ar gyfer rhaglenni ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch. Mae gan ddarparwyr arweiniol gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau ansawdd unrhyw ddarpariaeth sy’n cael ei chyflwyno dan eu contract. Mae bron pob un o’r darparwyr yn cyflwyno rhaglenni ar draws ardal ddaearyddol eang ac, mewn ychydig o achosion, ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn darparu ystod eang o raglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol a chyffredinol. Gall darparwyr hefyd ddarparu rhaglenni dysgu yn y gwaith eraill, fel Twf Swyddi Cymru Plws.

Arfer hunanwerthuso yn y sector prentisiaethau

Ar draws y sector, mae gweithdrefnau hunanwerthuso a sicrhau ansawdd yn aeddfed ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i adolygu perfformiad a phennu camau ar gyfer gwella. Ar draws pob darparwr, maent yn ceisio tystiolaeth uniongyrchol drwy:

  • Arsylwi sesiynau yn y gwaith
  • Arsylwi sesiynau i ffwrdd o’r gwaith
  • Teithiau dysgu yn ystod gweithgareddau i ffwrdd o’r gwaith
  • Dadansoddi data perfformiad dysgwyr, gan gynnwys y rhai sy’n cwblhau eu rhaglenni’n hwyr
  • Meincnodi data yn erbyn y sector
  • Data olrhain dysgwyr presennol
  • Craffu ar waith dysgwyr
  • Adolygu cynlluniau dysgu unigol (CDUau) dysgwyr
  • Arolygon llais y dysgwr
  • Arolygon staff
  • Adborth gan gyflogwyr

Gellir hunanwerthuso yn y ffordd y mae’r darparwr yn teimlo sydd fwyaf priodol i’w sefydliad gan nad oes gan Estyn fformat dewisol. Fodd bynnag, ar draws y sector, mae pob darparwr yn dewis defnyddio fframwaith arolygu Estyn i strwythuro eu hadroddiad hunanwerthuso. Fel arfer, dogfen gynhwysfawr yw hon sy’n cynnwys ystod eang o wybodaeth. Mae pob darparwr yn llunio cynllun gwella ansawdd (CGA) wedi’i seilio ar ganfyddiadau eu hadroddiad hunanwerthuso. Mae pob darparwr yn ymgymryd â gweithgareddau hunanwerthuso a gwella ansawdd yn flynyddol, gan gynnal ystod eang o weithgareddau sicrhau ansawdd o fewn cylch ansawdd diffiniedig ac wedi’i gyfyngu gan amser.

Er nad yw’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn defnyddio barnau na graddau crynodol i lywio eu prosesau hunanwerthuso, mae pob un ohonynt yn nodi’n glir feysydd dysgu sy’n tanberfformio a meysydd allweddol eraill i’w gwella. Mewn darpariaeth prentisiaeth colegau addysg bellach, mae cyrff llywodraethol colegau fel arfer yn rhan o gymedroli adroddiadau hunanwerthuso a chynlluniau gwella ansawdd.

Cryfderau mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector prentisiaethau

  • Gweithdrefnau hunanwerthuso aeddfed a sefydledig.
  • Mae gweithdrefnau’n ddigon cadarn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.
  • Caiff ystod eang o ddata ei ddefnyddio i lywio adroddiadau. Erbyn hyn, caiff data perfformiad dysgwyr byw ei ddefnyddio’n eang, gan ganiatáu i staff ar bob lefel fonitro cynnydd yn erbyn targedau.
  • Arolygon sefydledig llais y dysgwr.
  • Mae hunanwerthuso’n defnyddio ystod eang o dystiolaeth uniongyrchol, gan gynnwys archwilio ansawdd a dangosyddion perfformiad ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau.
  • Mae’r cylch ansawdd blynyddol yn cynnwys ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys adolygu camau gwella yn erbyn targedau.
  • Yn yr achosion gorau, mae darparwyr yn pennu targedau heriol ar gyfer gwella.

Meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector prentisiaethau

  • Mewn ychydig iawn o achosion, nid yw darparwyr yn canolbwyntio digon ar leihau nifer y dysgwyr sy’n cwblhau eu rhaglenni’n hwyr.
  • Mewn ychydig o achosion, mae dogfennau’n rhy ddisgrifiadol ac nid yw meysydd allweddol i’w gwella yn ddigon clir.
  • Er bod camau ar gyfer gwella yn cael eu nodi, nid ydynt yn cynnwys camau digon clir a chraff. Yn aml, nid ydynt yn cynnwys cerrig milltir ac amserlenni manwl i wirio cynnydd yn erbyn camau gweithredu.
  • Nid yw ychydig o ddarparwyr yn canolbwyntio’n ddigon craff ar sut byddant yn gwella darpariaethau, fel mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Trosolwg o’r sector chweched dosbarth ysgolion

Ar hyn o bryd, mae 205 o ysgolion uwchradd neu ysgolion pob oed, y mae gan tua dwy o bob tair ohonynt chweched dosbarth. Mae chweched dosbarth ysgolion yn amrywio’n sylweddol o ran eu maint, gan amrywio o lai na 50 i dros 400 o ddisgyblion. Mewn llawer o achosion, yn enwedig lle mae’r niferoedd yn gymharol fach, caiff darpariaeth chweched dosbarth ei chefnogi gan drefniadau partneriaeth ag ysgolion eraill a cholegau lleol. Nid oes gan ychydig o awdurdodau lleol, fel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, chweched dosbarth mewn ysgolion. Fel arfer, mae dysgwyr yn yr ardaloedd hyn yn mynychu’r coleg addysg bellach lleol.

Caiff ysgolion uwchradd a phob oed eu harolygu gan y fframwaith a nodir yn ‘Beth rydym yn ei arolygu’ (Estyn, 2024a). Caiff y chweched dosbarth ei werthuso’n rhan o’r broses arolygu gyfan, gydag arweiniad atodol ar arolygu chweched dosbarth ysgolion (Estyn, 2025b). Mewn adroddiadau arolygu, mae Estyn fel arfer yn rhoi sylwadau penodol ar y chweched dosbarth ym Maes Arolygu 1 (addysgu a dysgu) a Maes Arolygu 2 (lles, gofal, cymorth ac arweiniad).

Arfer hunanwerthuso yn y sector chweched dosbarth ysgolion

Fel arfer, mae ysgolion yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau hunanwerthuso, gan gynnwys:

  • Arsylwi gwersi
  • Teithiau dysgu (ymweld â dosbarthiadau am tua 20-30 munud)
  • Craffu ar waith disgyblion
  • Dadansoddi data mewnol ac allanol
  • Trafodaethau neu arolygon llais y disgybl
  • Arolygon rhieni
  • Arolygon staff

Er nad yw Estyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyflwyno adroddiad hunanwerthuso (AHW) i’r tîm arolygu, mae gan bron pob ysgol AHW o hyd, sydd fel arfer yn cael ei ddiweddaru bob tymor neu’n flynyddol. Yn aml, caiff yr AHW ei lunio o amgylch tri maes arolygu Estyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae adrannau pwnc neu feysydd dysgu a phrofiad (MDaPhau) yn cwblhau eu hadroddiad hunanwerthuso eu hunain yn rheolaidd. Fodd bynnag, anaml iawn y mae gwerthusiad ar wahân o ddarpariaeth chweched dosbarth. Fel arfer, caiff safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth y chweched dosbarth eu hystyried yn rhan o werthusiadau ysgol gyfan ac adrannol.

Cryfderau mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector chweched dosbarth ysgolion

  • Yn gyffredinol, mae gan ysgolion galendr hunanwerthuso neu sicrhau ansawdd addas sy’n nodi’r gweithgareddau gwerthuso i’w cynnal ar lefel ysgol gyfan ac adrannol.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ysgolion yn ymgymryd ag ystod briodol o weithgareddau hunanwerthuso, gan gynnwys arsylwi gwersi, craffu ar waith disgyblion, dadansoddi data a cheisio adborth gan ddisgyblion.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae’r gweithgareddau hyn yn galluogi arweinwyr i nodi’n fras y prif gryfderau a meysydd i’w gwella.
  • Mewn ychydig o ysgolion arbennig o effeithiol, mae arweinwyr yn canolbwyntio’n fanwl ar effaith darpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion, sy’n eu galluogi i gynllunio ar gyfer gwella yn fanwl gywir.
  • Mewn ysgolion sydd â chweched dosbarth, mae adroddiadau hunanwerthuso yn aml yn cynnwys manylion sylweddol am ddata a deilliannau disgyblion. Yn aml, mae hyn wedi’i seilio ar becynnau masnachol fel Alps (2025). Mewn lleiafrif o ysgolion, caiff y data hwn ei ddadansoddi’n briodol i werthuso deilliannau’r chweched dosbarth.

Meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector chweched dosbarth ysgolion

  • Yn aml, nid yw trefniadau i sicrhau ansawdd trefniadau partneriaeth yn ddigon cadarn na chydlynol.
  • Yn hanesyddol, cryfhau prosesau ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliant fu’r argymhelliad mwyaf cyffredin yn deillio o arolygiadau craidd yn y sectorau uwchradd / pob oed. Bob blwyddyn, mae tua dwy o bob tair i dri chwarter o ysgolion yn cael argymhelliad yn ymwneud â’r agwedd hon ar eu gwaith.
  • Mae’r diffygion mwyaf cyffredin ym mhrosesau hunanwerthuso ysgolion yn cynnwys:
    • Diffyg ffocws ar effaith darpariaeth ar ddeilliannau disgyblion
    • Gormod o bwyslais ar gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r ysgol
    • Diffyg trylwyredd, sy’n arwain at farn rhy hael am effeithiolrwydd
  • Peidio â thriongli gwahanol fathau o dystiolaeth uniongyrchol yn ddigonol
  • Yn gyffredinol, nid yw ysgolion yn defnyddio’r mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 yn ddigonol, gan ddibynnu’n aml ar becynnau gwerth ychwanegol masnachol yn lle hynny.
  • Nid yw ysgolion yn defnyddio data ar gyrchfannau yn ddigon da i werthuso effeithiolrwydd eu darpariaeth chweched dosbarth. Yn aml, maent yn rhoi gormod o bwyslais ar ddangosyddion fel cyfraddau cadw o Flwyddyn 11, heb ystyried yn ddigonol pa mor dda y maent wedi cefnogi disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau yn y dyfodol.
  • Nid oes gan arweinwyr canol ddigon o hyder nac arbenigedd bob tro i werthuso’n gadarn safonau yn y pynciau Safon Uwch sy’n cael eu darparu yn eu hadrannau/MDaPhau.

Trosolwg o’r sector gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL) yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan un awdurdod lleol, yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill. Mae’r model ar gyfer darparu gwasanaethau gwella ysgolion yn amrywio ledled Cymru ac mewn cyfnod o drawsnewid o hyd oherwydd adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid a threfniadau addysg.

Mae gweithgarwch Estyn yn y sector yn cynnwys arolygiadau craidd o’r gwasanaethau a’r oruchwyliaeth a ddarperir gan yr awdurdod, ynghyd ag ymweliadau cyswllt i gynnig cyswllt amlach. Mae arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys cwestiynau arolygu lleol sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar ddarpariaeth. Er enghraifft, roedd yr arolygiad diweddar o GALlL Powys yn cynnwys cwestiwn am ba mor dda roedd yr agenda trawsnewid ysgolion yn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y rhai mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn y sector ôl-16.

Mae Medr yn goruchwylio rhai elfennau o waith gwasanaethau addysg llywodraeth leol (er enghraifft chweched dosbarth ysgolion neu ddysgu oedolion yn y gymuned a ariennir drwy’r grant dysgu cymunedol), ond nid rhai eraill (addysg ysgol orfodol).

Arfer hunanwerthuso yn y sector GALlL

Mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol, bu hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn faes i’w wella ers nifer o flynyddoedd. Er bod gan awdurdodau lleol brosesau priodol yn aml yn cefnogi hunanwerthuso ac adolygu perfformiad, nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio’n ddigon pwrpasol bob tro i gefnogi gwelliant. Er enghraifft, nid yw prosesau sicrhau ansawdd a hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon da bob tro ar yr effaith y mae gwaith y gwasanaeth yn ei chael ar ddeilliannau disgyblion. O ganlyniad, nid yw arweinwyr a swyddogion yn nodi meysydd y mae angen eu gwella yn ddigon manwl. Yn aml, mae gwerthusiadau Estyn o gwestiynau arolygu lleol yn cyfeirio at wendidau mewn hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella mewn meysydd gwasanaeth. Yn 2024-2025, rhoddwyd argymhelliad i ddau o’r tri awdurdod lleol a arolygwyd i hogi prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

Cryfderau mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector GALlL

  • Mae arweinwyr yn casglu ystod o dystiolaeth, gan gynnwys data ac adborth gan randdeiliaid. Er enghraifft, maent yn casglu barn penaethiaid mewn fforymau sector penodol. Mae hyn yn helpu i lywio eu dadansoddiad yn addas.
  • Mewn ychydig o achosion, mae awdurdodau lleol yn defnyddio ystod o dystiolaeth yn dda i werthuso eu gwaith.
  • Mewn ychydig o awdurdodau lleol, caiff swyddogion gyfleoedd rheolaidd i gyflwyno adroddiadau monitro a gwerthuso am waith eu timau. Mae hyn yn eu helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella eang yn eu meysydd gwaith.
  • Yn yr ychydig enghreifftiau gorau, mae cynlluniau gwella’n cynnwys meini prawf llwyddiant clir ac yn amlinellu amserlenni ar gyfer gwella. Gwneir cysylltiadau clir ag amcanion yng nghynlluniau corfforaethol yr awdurdod lleol.

Meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso a gwella ansawdd yn y sector GALlL

  • Yn aml, mae meini prawf lwyddiant mewn cynlluniau gwella yn rhy eang ac nid ydynt yn cyfeirio at y dangosyddion effaith perthnasol.
  • Yn aml, nid yw gwerthusiadau’n canolbwyntio’n ddigon da ar effaith darpariaeth ar ddeilliannau disgyblion.
  • Yn aml, mae prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio gormod ar fonitro’r camau a gymerwyd. O ganlyniad, mae awdurdodau lleol yn rhy hael wrth werthuso eu gwaith.
  • Nid yw awdurdodau lleol yn nodi digon o feysydd y mae angen eu gwella yn ddigon manwl.