Trosolwg o’r Sector Addysg Uwch - Estyn

Trosolwg o’r Sector Addysg Uwch


QAA and Estyn logos

Yn rhan o’r adolygiad o arferion presennol, gwerthuswyd deilliannau Adolygiadau Gwella Ansawdd, Prosiectau Arfer Effeithiol a Gwella Parhaus QAA a phrosesau cyhoeddedig y darparwyr eu hunain ar gyfer cryfderau a chyfleoedd i ddatblygu ymhellach er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus yn gyffredinol. Lle nad oedd gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus, nodwyd tueddiadau cyffredinol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg o enwi darparwyr.

Mae QAA yn arwain Adolygiadau Gwella Ansawdd (Adolygiad GA) o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys prifysgolion a cholegau sy’n cael eu rheoleiddio dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru), yn rhan o gylch chwe blynedd o ymgysylltu. Yn y sector addysg uwch yng Nghymru, mae hunanwerthuso yn arfer sefydledig sydd wedi’i hymwreiddio, gan ffurfio rhan ganolog o ddulliau sefydliadol o sicrhau safonau academaidd a gwella ansawdd y profiad dysgu. Mae Adolygiadau Gwella Ansawdd QAA yn adeiladu ar y gweithgarwch mewnol hwn, gan ddefnyddio prosesau mewnol darparwyr, y mae’n ofynnol iddynt gyd-fynd â Chod Ansawdd y DU, a gwerthusiadau o’u blaenoriaethau gwella yn brif sail ar gyfer adolygiad allanol.

Mae’r Adolygiadau Gwella Ansawdd hyn wedi’u hategu gan God Ansawdd y DU: Cyngor ac Arweiniad QAA (QAA, 2024b) ac maent wedi’u llunio i gefnogi gwelliant sefydliadol a diogelu safonau academaidd. Mae Adolygiadau GA wedi’u seilio ar ddeialog adeiladol ac yn defnyddio cyfuniad o ddogfennau, tystiolaeth ac adolygiad ar y safle i archwilio dulliau’r darparwr o ran ansawdd a gwella. Mae dull adolygu QAA yn wahanol i fodelau sy’n seiliedig ar arolygu, gan ganolbwyntio’n fwy uniongyrchol ar werthuso tystiolaeth, ymgysylltu a deialog â rhanddeiliaid hanfodol, yn hytrach nag arsylwi sesiynau addysgu yn uniongyrchol (gan nodi ei bod yn ofynnol i bob darparwr fod â phrosesau i hwyluso arsylwi gan gymheiriaid). Wrth wraidd y broses hon y mae’r Hunanddadansoddiad, sef dogfen werthuso helaeth sydd cael ei pharatoi gan y darparwr, sy’n gosod y sylfaen ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys amlinellu sut mae’r darparwr yn bodloni safonau gwaelodlin, a’i ddull o wella.

Mae QAA hefyd yn cynnal Adolygiadau Ansawdd Porth ac, er nad yw’r llawlyfr cysylltiedig (Llawlyfr Adolygiad Ansawdd Porth – QAA, 2020) yn cyfeirio’n benodol ar ddogfen “Hunanwerthuso” neu “Hunanasesu”, mae gofyniad penodol am gyflwyniad gan y darparwr cyn yr ymweliad adolygu. Fel yr amlinellir ar dudalen 14 y llawlyfr, mae diben tebyg i’r cyflwyniad hwn, gan gynnig cyfle i’r darparwr gyflwyno tystiolaeth, gwybodaeth gyd‑destunol a throsolwg o sut mae’n bodloni’r gofynion rheoleiddiol sylfaenol. Felly, er nad yw wedi’i enwi felly, mae cyflwyniad y darparwr yn gweithredu fel dogfen hunanwerthuso, i bob diben.

Mae’r Hunanddadansoddiad yn gyfrif yn seiliedig ar dystiolaeth o sut mae darparwr yn sicrhau safonau academaidd ac yn gwella ansawdd y profiad dysgu. Disgwylir iddo fynd i’r afael â thri maes cyffredinol, sef: safonau academaidd, ansawdd a gwella cyfleoedd dysgu; ac effeithiolrwydd prosesau ansawdd. Caiff darparwyr eu hannog i gynnig myfyrdod clir a gonest ar gryfderau, meysydd i’w datblygu a’r camau sy’n cael eu cymryd i wella. Yn unol ag egwyddorion cyffredin hunanwerthuso ar draws y system drydyddol, mae hunanddadansoddiad effeithiol yn rhoi blaenoriaeth i farn werthusol dros ddisgrifio, yn dangos effaith wirioneddol ar ddysgwyr ac yn llywio camau gwella sydd wedi’u mynegi’n glir.

Mae QAA yn gofyn i ddarparwyr ymgysylltu â themâu craidd yr Adroddiad Adolygu, sef: safonau academaidd, y profiad dysgu, gwella, defnyddio data a phwyntiau cyfeirio allanol, a chanfyddiadau’r adolygiad, er y gall y strwythur a’r fformat amrywio yn amodol ar gyd‑destun a blaenoriaethau’r darparwr. Mae’r Hunanddadansoddiad yn gyfle i ddarparwyr esbonio’r hyn sy’n nodedig neu’n nodweddiadol am eu sefydliad, myfyrio ar effaith newid strategol neu sefydliadol, a dangos sut mae polisïau ac arferion yn cyfrannu at ansawdd a gwelliant. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar dystiolaeth ansoddol a meintiol, fel yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) neu Ganlyniadau Addysg Hydredol (data LEO), ac ystyried profiad gwahanol grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys ôl-raddedigion, dysgwyr rhyngwladol, dysgwyr o bell a’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Yn gyffredin â rhannau eraill o’r system drydyddol, mae rhywfaint o amrywioldeb o hyd o ran pa mor hyderus y caiff setiau data tebyg eu dehongli, eu rhoi mewn cyd-destun a’u hintegreiddio ochr yn ochr â thystiolaeth ansoddol i lywio barn werthusol.

Lle bo’n berthnasol, gofynnir i ddarparwyr hefyd ymateb i flaenoriaethau neu fetrigau perthnasol a nodwyd gan Medr, a disgrifio unrhyw berthnasoedd â chyrff dyfarnu neu’r defnydd o bwyntiau cyfeirio allanol y tu hwnt i ofynion gwaelodlin. Fel arfer, cyfeirir at wybodaeth ategol drwy atodiadau neu ddolenni mewnosodedig. Mae QAA hefyd yn mynnu y caiff dysgwyr eu cynnwys yn ystyrlon yn y broses hunanwerthuso, gan atgyfnerthu ymrwymiad ar y cyd i dryloywder a gwella. Disgwylir i’r Hunanddadansoddiad roi blaenoriaeth i farn feddylgar yn hytrach na disgrifio prosesau, gan gynnig cyfrif clir o sut mae’r darparwr yn deall, yn gwerthuso ac yn gwella ansawdd ei ddarpariaeth a phrofiad y dysgwr.

Mae pob darparwr Addysg Uwch yn y DU yn cydymffurfio â Chod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch. Elfen graidd i ddangos tystiolaeth gyson o’r gydymffurfiaeth hon yw prosesau adolygu ac adrodd parhaus, blynyddol a chylchol mewnol sefydledig darparwyr eu hunain. Mae llawer o ddarparwyr wedi symud oddi wrth gylchoedd Adolygiad Cynllunio Blynyddol i gylchoedd gwella parhaus. Mae bron pob un o’r prosesau wedi’u seilio ar ddata, gan ddefnyddio dangosfyrddau data yn effeithiol ar draws sefydliadau. Ar ben hynny, mae’n ofynnol i ddarparwyr yng Nghymru gyflwyno Adroddiad Blynyddol i Medr gan y corff llywodraethol yn sicrhau ac yn dangos tystiolaeth bod prosesau ansawdd yn gweithio’n effeithiol, a bod gan y corff llywodraethol oruchwyliaeth a hyder yn y prosesau hyn. Mae’r adroddiadau hyn wedi’u seilio ar ddata wedi’i feincnodi gan y sector (er enghraifft canlyniadau gradd) ac yn gwerthuso effeithiolrwydd prosesau bob blwyddyn. Yr elfen olaf o hunanwerthuso mewnol o fewn darparwyr yw’r broses adolygu gylchol (a elwir yn aml yn Adolygiad Rhaglen Cyfnodol neu Adolygiad Ansawdd), sy’n aml yn gysylltiedig â’r broses ailddilysu rhaglenni. Gall y rhain weithredu fel Adolygiadau Gwella Ansawdd bach, gan gynnwys Hunanwerthusiad mewnol ar lefel rhaglenni neu ddisgyblaethau i lywio adolygiad y rhaglen. Ym mhob achos, mae myfyrwyr yn cyfranogi’n llawn mewn prosesau ac yn monitro deilliannau a chynlluniau gweithredu.

Mae gan ddarparwyr hefyd systemau datblygedig iawn ar gyfer casglu adborth gan arholwyr allanol a myfyrwyr (gan gynnwys trwy arolygon fel NSS), a dulliau dadansoddi a hunanwerthuso, sy’n aml yn rhan o brosesau gwella parhaus a nodwyd uchod.

Mae cynllunio camau gweithredu ar waith ym mhob darparwr mewn amrywiaeth o fformatau a dulliau, er y cydnabyddir y gall hyn fod yn anghyson o bryd i’w gilydd o fewn darparwyr o ran monitro cwblhad ac effaith. O ganlyniad, mae gan ddarparwyr Addysg Uwch systemau a phrosesau mewnol helaeth a datblygedig iawn ar gyfer hunanwerthuso, sy’n dangos tystiolaeth o lawer o gryfderau y gellir eu rhannu ar draws y system drydyddol, ond mae cyfleoedd o hyd i wella a dysgu o rannau eraill o’r system drydyddol yng Nghymru.

Mae adborth gan adolygwyr QAA wedi nodi’r cryfderau canlynol yn hunanwerthusiadau darparwyr AU:

  • Mae darparwyr yn dangos dulliau aeddfed o hunanwerthuso sydd wedi’u hymwreiddio, wedi’u llunio trwy brosesau ansawdd sefydledig fel Gwelliant Parhaus, Adolygiad Rhaglen Blynyddol, Adolygiad Cyfnodol, Adroddiadau Sicrhau Ansawdd Blynyddol Llywodraethwyr, Hunanddadansoddiad ar gyfer Adolygiadau GA a chyflwyniadau darparwyr ar gyfer Adolygiadau Ansawdd Porth.
  • Fel arfer, mae gweithgarwch hunanwerthuso yn manteisio ar ystod eang o ffynonellau tystiolaeth, gan gynnwys adroddiadau arholwyr allanol, adborth o arolygon myfyrwyr, setiau data allweddol (mewnol ac allanol e.e. data dilyniant a deilliannau) a gofynion cyrff proffesiynol.
  • Yn gyffredinol, mae triongli tystiolaeth yn galluogi darparwyr i nodi meysydd cryf a meysydd i’w datblygu â chywirdeb rhesymol.
  • Mewn rhai darparwyr, mae’n amlwg bod hunanwerthuso’n canolbwyntio ar weithredu a’i fod yn barhaus, gyda chanfyddiadau’n llywio gweithgarwch gwella wedi’i dargedu a chynnydd yn cael ei fonitro dros gyfnod.
  • Mae llawer o ddarparwyr yn defnyddio’r broses yn effeithiol i fyfyrio ar effaith newid strategol neu sefydliadol a mynegi nodweddion nodedig eu darpariaeth.
  • Mae cyfranogiad a phartneriaeth dysgwyr mewn hunanwerthuso, a phrosesau sicrhau a gwella ansawdd yn gyffredinol, yn fwyfwy amlwg, gan helpu i sicrhau bod safbwynt y myfyriwr yn cyfrannu at ddealltwriaeth sefydliadol o ansawdd a gwella ac yn ei llywio.

Mae adborth gan adolygwyr QAA hefyd wedi nodi lle gellid gwella hunanwerthusiadau rhai darparwyr AU ymhellach :

  • Mae anghysondeb ar draws y sector o hyd o ran cwmpas, dyfnder ac ansawdd gwerthusol prosesau hunanwerthuso.
  • Roedd rhai cyflwyniadau’n canolbwyntio gormod ar ddisgrifio prosesau yn hytrach na gwerthuso eu heffaith ar ansawdd cyfleoedd dysgu neu ddeilliannau myfyrwyr.
  • Mae cyfle i ddatblygu mwy o fyfyrio beirniadol o fewn prosesau hunanwerthuso darparwyr a chenedlaethol, gan sicrhau y caiff cyflawniadau a risgiau eu hystyried mewn modd cytbwys.
  • Gallai hunanwerthusiadau ehangu ar y defnydd presennol o setiau data hydredol ac allanol (fel NSS, HESA neu LEO) a’i ddyfnhau, er mwyn rhoi cyd-destun cyson i berfformiad a sicrhau y caiff mewnwelediadau sy’n dod i’r amlwg eu cysylltu’n benodol â thystiolaeth ansoddol.
  • Gallai datblygiad pellach ganolbwyntio ar sicrhau y caiff camau gweithredu sy’n deillio o hunanwerthuso eu monitro’n fwy systematig o fewn cylch parhaus, gan helpu i gynnal eu rôl wrth ysgogi gwelliant.