Erthyglau Newyddion Archive - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


Students in a science laboratory using microscopes at a workbench during a practical lesson. Several pupils are closely examining samples while others observe and prepare equipment, with laboratory apparatus visible in the background.

Mae adroddiad newydd gan Estyn yn amlygu cryfderau pwysig mewn addysg wyddoniaeth ledled Cymru, gan nodi anghysondebau mewn dylunio cwricwlwm, addysgu ac asesu sy’n cyfyngu ar ba mor effeithiol y mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth a rhesymu gwyddonol.

Mae’r adroddiad, Addysgu a Dysgu Gwyddoniaeth: Addysgu ar gyfer dealltwriaeth mewn ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth, yn gwerthuso ansawdd addysgu a dysgu mewn gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed ledled Cymru. Mae’n ystyried pa mor effeithiol y mae ysgolion yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ymholi gwyddonol disgyblion trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg o fewn Cwricwlwm i Gymru.

Canfu arolygwyr enghreifftiau o arfer gref mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, fel ei gilydd, lle mae arweinwyr wedi datblygu cynlluniau cwricwlwm cydlynus, wedi cryfhau arbenigedd pwnc ac wedi cynorthwyo disgyblion i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol dros gyfnod. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae disgyblion yn elwa ar brofiadau ymarferol difyr, cyd-destunau byd go iawn ystyrlon ac addysgu effeithiol sy’n eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth gadarn a chymhwyso’u dysgu yn hyderus.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad fod ansawdd darpariaeth gwyddoniaeth yn rhy amrywiol o hyd. Yn aml, mae gwendidau mewn cynllunio’r cwricwlwm, addysgu ac asesu yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion, yn enwedig wrth ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol a rhesymu gwyddonol. Yn aml, nid yw trefniadau i gefnogi dilyniant rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd wedi eu datblygu’n ddigonol, gan arwain at ailadrodd, bylchau mewn dysgu a lefelau anghyfartal o her.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu heriau sy’n wynebu’r sector, yn cynnwys anawsterau o ran recriwtio a chadw athrawon gwyddoniaeth arbenigol, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, a’r angen am gydweithio cryfach rhwng ysgolion i gefnogi dilyniant mewn dysgu.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:

“Mae gan wyddoniaeth rôl hanfodol mewn helpu pobl ifanc i ddeall y byd o’u cwmpas a’u paratoi ar gyfer astudio a chyflogaeth yn y dyfodol. Er ein bod ni wedi gweld enghreifftiau calonogol o arfer effeithiol mewn ysgolion ledled Cymru, mae gormod o ddisgyblion yn cael profiad o gwricwlwm gwyddoniaeth anghyson nad yw’n meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ddigon systematig dros gyfnod.

“Mae lle i ysgolion gryfhau cynllunio’r cwricwlwm, addysgu ac asesu mewn gwyddoniaeth a gweithio gyda’i gilydd yn agosach i gefnogi dilyniant o addysg gynradd i addysg uwchradd. Ar yr un pryd, bydd buddsoddiad parhaus mewn dysgu proffesiynol ac arbenigedd yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael addysg wyddoniaeth o ansawdd uchel.”

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion gryfhau gwybodaeth bwnc addysgegol athrawon, gwella cynllunio’r cwricwlwm i gefnogi dilyniant mewn dealltwriaeth a rhesymu gwyddonol, a gwella prosesau arweinyddiaeth fel bod arweinwyr yn gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar ddysgu disgyblion yn fwy effeithiol.

Mae Estyn hefyd yn galw ar awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion a Llywodraeth Cymru i ddarparu dysgu proffesiynol cryfach sy’n benodol i wyddoniaeth, gwella cydweithio rhwng ysgolion, cefnogi darpariaeth gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg a mynd i’r afael â phrinderau parhaus o athrawon gwyddoniaeth arbenigol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Archives: Erthyglau Newyddion


Grŵp o bump o bobl amrywiol yn gwenu, gyda thestun uwchben yn darllen 'Rhaglen Arweinwyr Lleiafrifoedd Ethnig' ar gefndir oren.

Yn 2023, lansiwyd rhaglen ddatblygu newydd i leihau’r rhwystrau sy’n wynebu gweithwyr addysg o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Ar ôl llwyddo i recriwtio tair carfan o arweinwyr gwych, rydym nawr yn agor ein cylchred nesaf.

Mae’r broses recriwtio ar gyfer ein rhaglen Arweinwyr Lleiafrifoedd Ethnig bellach yn fyw ac yn agored i’r rheini sy’n gweithio yn y sector cynradd sydd am gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r rhaglen hefyd yn gobeithio hybu profiadau a gyrfaoedd y rhai sy’n cymryd rhan a chynyddu amrywiaeth mewn arweinyddiaeth addysg.

Dywedodd Owen Evans, PAEF:

“Mae’r rhaglen hon yn rhan bwysig o’r gwaith rydym yn ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth ar draws pob lefel o arweinyddiaeth a’r gronfa o arolygwyr rydym yn gweithio gyda nhw, fel bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.”

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor ar hyn o bryd. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn lleoliad cynradd yng Nghymru ar hyn o bryd, bod ag o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu a bod yn gyfrifol am ddatblygu dysgu, addysgu neu les.

Y dyddiad cau yw canol dydd, dydd Iau 2 Gorffennaf 2026.

Archives: Erthyglau Newyddion


Portread o berson yn erbyn cefndir glas dywyll gyda dyluniad cylchol, gyda logo Estyn wedi’i arddangos yn y gornel uchaf.

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 25 Mehefin 2026 am adolygiad o’r cylch arolygu prentisiaethau.

Archives: Erthyglau Newyddion


Oedolyn a disgybl mewn cegin ddosbarth yn paratoi cymysgedd mewn powlen, gyda disgyblion eraill yn gweithio yn y cefndir.

Mae gan arweinwyr canol rôl hanfodol mewn llunio profiadau dysgu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae eu gwaith wrth wraidd ansawdd addysgu, datblygu’r cwricwlwm a chynnydd dysgwyr.

Mae Hanfodion Estyn yn ymgyrch newydd a ddatblygwyd i gefnogi arweinwyr canol, athrawon a staff cymorth trwy ddarparu mewnwelediad clir a hygyrch i waith Estyn — a sut gellir ei ddefnyddio i gryfhau arfer mewn ysgolion ac UCDau.

Deall arolygu yn ymarferol

Weithiau, gall arolygu deimlo’n frawychus, yn enwedig ar gyfer arweinwyr canol sy’n cydbwyso cyfrifoldebau arwain ochr yn ochr ag addysgu o ddydd i ddydd. Nod Hanfodion Estyn yw chwalu dirgelwch y broses arolygu trwy esbonio sut beth yw arolygu yn ymarferol, ar beth mae arolygwyr yn canolbwyntio, a sut caiff sgyrsiau am arolygu eu cynnal.

Mae arolygu wedi’i seilio ar dystiolaeth, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar welliant. Mae arolygwyr yn awyddus i ddeall y gwaith a wna arweinwyr canol, gan gynnwys sut maent yn gwerthuso’u darpariaeth, yn cefnogi staff, ac yn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Arweinwyr canol yn y canol

Mae gwybodaeth arweinwyr canol am eu pwnc, eu sector neu’u maes cyfrifoldeb yn hanfodol yn ystod arolygiad. Mae Hanfodion Estyn yn amlygu rôl bwysig arweinwyr canol a sut beth yw arweinyddiaeth effeithiol ar draws gwahanol gyd-destunau.

Trwy rannu arweiniad ac enghreifftiau clir, mae Hanfodion Estyn yn cynorthwyo arweinwyr canol i ddisgrifio’u heffaith yn hyderus a defnyddio hunanwerthuso fel offeryn ystyrlon ar gyfer gwella.

Defnyddio adnoddau Estyn i gryfhau arfer

Mae Hanfodion Estyn yn dangos sut gall arweinwyr canol ddefnyddio adborth arolygu, adroddiadau thematig, arweiniad ac ystod gyfan o adnoddau Estyn i lywio cynllunio, dysgu proffesiynol a datblygiad pwnc.

Gall defnyddio tystiolaeth genedlaethol helpu addysgwyr i fyfyrio ar eu harfer eu hunain, nodi cryfderau a chynllunio’r camau nesaf gyda diben.

Dysgu gyda’n gilydd

Mae Hanfodion Estyn yn rhannu myfyrdodau gonest gan ysgolion ac UCDau ledled Cymru, gan amlygu heriau cyffredin a dulliau effeithiol. Mae dysgu oddi wrth bobl eraill yn helpu cryfhau’r system addysg gyfan ac yn cefnogi gwelliant parhaus ar gyfer dysgwyr.

Trwy Hanfodion Estyn, ein nod yw darparu offer ymarferol, sicrwydd a mewnwelediad ar gyfer arweinwyr canol — gan gefnogi arweinyddiaeth hyderus a gwelliant ystyrlon ar draws pob sector.

Gallwch ddysgu mwy yma:

Hanfodion Estyn: Pecyn cymorth i athrawon ar gyfer ysgolion ac UCDau

Archives: Erthyglau Newyddion


Bydd Estyn yn arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno ddydd Gwener 12 Mehefin, gan gynnig cyfle i weithwyr proffesiynol addysg ddysgu mwy am ehangder ein gwaith a’r cymorth sydd ar gael i ddarparwyr ledled Cymru.

Gall ymwelwyr ddod o hyd i dîm Estyn ar Stondin 60, lle bydd cydweithwyr ar gael trwy’r dydd i drafod ein dull presennol ar gyfer arolygiadau ac ymweliadau interim, ein ffocws manylach ar ddarllen, a’r ystod eang o adnoddau gwella sydd ar gael i gefnogi arweinwyr canol ac ymarferwyr.

Y rhan o’r digwyddiad, bydd Estyn yn cyflwyno seminar a fydd yn para 50 munud am ein gwaith, gan dynnu sylw at sut gall ein gweithgarwch arolygu a’n hadnoddau gefnogi gwelliant ar draws y sector addysg.

Mae Arolygydd Ei Fawrhydi Tristan Roberts yn un o dîm o arolygwyr a fydd yn cynrychioli Estyn ar y diwrnod. Dywedodd ef:

“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i Estyn glywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr am eu dealltwriaeth o’n gwaith, sut maent yn ymgysylltu â ni, a pha mor ddefnyddiol y mae ein hadnoddau iddynt o ran cefnogi eu harfer.

“Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chynrychiolwyr yn y sioe a pharhau â sgyrsiau am gefnogi gwelliant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.”

Archives: Erthyglau Newyddion


QAA and Estyn logos

Nod adnodd ar y cyd newydd gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Uwch (QAA) yw cefnogi darparwyr ar draws system addysg drydyddol Cymru i gryfhau eu harferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus.

Mae’r microwefan newydd, Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru, yn dwyn ynghyd canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan Medr dan arweiniad Estyn a QAA. Mae’n darparu set o egwyddorion a rennir, cwestiynau myfyriol, mewnwelediadau sector ac argymhellion i helpu darparwyr i werthuso eu gwaith yn fwy effeithiol a gwella canlyniadau i ddysgwyr.

Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar draws yr ystod amrywiol o ddarparwyr o fewn system drydyddol Cymru, gan gynnwys colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, darparwyr prentisiaethau, partneriaethau dysgu oedolion, chweched dosbarth ysgolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.

Nododd y prosiect 12 egwyddor allweddol ar gyfer hunanwerthuso effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar y dysgwr, bod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael ei arwain gan effaith, yn canolbwyntio ar weithredu a bod yn dryloyw. Bwriad yr egwyddorion yw cefnogi darparwyr i fyfyrio’n feirniadol ar eu harfer a chryfhau eu dulliau o wella, gan gydnabod y gwahanol gyd-destunau y mae darparwyr yn gweithredu ynddynt.

Gan ddefnyddio tystiolaeth arolygu, adolygiadau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil ryngwladol, canfu’r prosiect fod gan lawer o ddarparwyr brosesau hunanwerthuso wedi’u sefydlu. Mae cryfderau cyffredin yn cynnwys ymgysylltu cryf â dysgwyr, defnydd effeithiol o dystiolaeth a threfniadau sicrhau ansawdd clir. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gryfhau arfer, yn enwedig drwy ganolbwyntio’n fwy manwl ar effaith y ddarpariaeth ar ddysgwyr, gwella ansawdd cynllunio gwelliant a gwneud defnydd gwell o ddata.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae hunanwerthuso fwyaf effeithiol pan fydd yn arwain at welliannau ystyrlon ym mhrofiadau a chanlyniadau dysgwyr. Mae’r adnodd hwn yn darparu fframwaith a rennir a all helpu darparwyr ledled Cymru i fyfyrio’n onest ar eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu, gan gydnabod amrywiaeth y system drydyddol.

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â QAA a Medr ar y prosiect pwysig hwn. Drwy ddod ag arbenigedd o bob cwr o’r sectorau ynghyd, rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn cefnogi darparwyr i gryfhau eu prosesau gwella ansawdd a pharhau i godi safonau i ddysgwyr ledled Cymru.”

Dywedodd Maureen McLaughlin, Pennaeth Cymru, Gogledd Iwerddon a Goruchwyliaeth Addysgol, QAA:

“Mae ein cydweithrediad ag Estyn ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle cyffrous a chynhyrchiol i rannu a dysgu o arfer effeithiol ar draws sector trydyddol Cymru. Rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cynnig adnodd gwerthfawr i hyrwyddo a chryfhau gwerthuso a gwella darpariaeth ar draws ein sector cyfan yma yng Nghymru – a bydd hefyd o ddiddordeb a defnydd i’n cydweithwyr ledled y DU a thu hwnt.”

Mae’r microwefan newydd hwn yn adnodd cyntaf o’i fath wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Estyn a QAA. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad a rennir i gefnogi darpariaeth o ansawdd uchel a gwelliant parhaus ar draws y system addysg drydyddol yng Nghymru.

Bydd y microwefan yn parhau i ddatblygu dros amser, gydag astudiaethau achos ychwanegol, enghreifftiau o arfer effeithiol ac adnoddau eraill yn cael eu hychwanegu i gefnogi darparwyr i ymgorffori prosesau hunanwerthuso a gwella ansawdd effeithiol.

Bwriedir i’r adnodd fod yn offeryn ymarferol i gefnogi myfyrio a deialog broffesiynol. Nid yw’n cyflwyno gofynion statudol nac yn rhagnodi un dull o hunanwerthuso. Yn hytrach, ei nod yw annog darparwyr i ddatblygu dulliau sy’n gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddysgwyr.

Mae’r microwefan Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru ar gael yma.

Archives: Erthyglau Newyddion


Portread o unigolyn proffesiynol gyda logo Estyn ar y dde uchaf, wedi'i osod yn erbyn cefndir deuol o wyrdd a gwyn.

Trwy gydol blwyddyn academaidd 2026/27, byddwn yn cynnal digwyddiadau Estyn yn Fyw misol – gan rannu gwybodaeth am ystod o bynciau allweddol a gwahodd rhanddeiliaid i ymuno â’n trafodaeth â darparwyr wrth iddynt ganolbwyntio ar lwyddiannau a heriau.

Cofrestrwch os hoffech gael gwybod pan fydd cofrestru’n agor: Cofrestrwch i gael diweddariadau – Estyn

  • Prif negeseuon Estyn ar gyfer ysgolion arbennig ac UCDau – Medi (Dydd Llun 14)
  • Prif negeseuon Estyn ar gyfer ysgolion uwchradd a phob oed – Medi (Dydd Mawrth 15)
  • Prif negeseuon Estyn ar gyfer ysgolion cynradd – Medi (Dydd Mercher 16)
  • Ffocws thematig: Perthnasoedd iach mewn ysgolion – Hydref (Dydd Iau 15)
  • Ffocws thematig: Presenoldeb a chyfranogiad ôl-16 – Tachwedd (Dydd Iau 26)
  • Ffocws thematig: Gwyddoniaeth a Thechnoleg – December (Dydd Iau 10)
  • Ffocws ar Ddarllen: Ymgorffori darllen yn flaenoriaeth ar gyfer athrawon uwchradd – Ionawr (Dydd Iau 21)
  • Adroddiad blynyddol PAEF: negeseuon allweddol – Chwefror (Dydd Iau 4)
  • Ffocws thematig: Datblygu medrau a chymwyseddau digidol dysgwyr – Mawrth (Dydd Iau 18)
  • Ffocws thematig: Cefnogi ADY yn addysg y blynyddoedd cynnar – Ebrill (Dydd Iau 29)
  • Ffocws thematig: Gwrth-hiliaeth mewn ysgolion ac UCDau – Mai (Dydd Iau 27)
  • Sut mae ysgolion yn gweithio i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles, gyda ffocws ar effaith y cwricwlwm ac addysgu – Mehefin (Dydd Iau 24)
  • Ffocws thematig: Adolygiad o’r MDaPh: Iechyd a Lles – Gorffennaf (Dydd Iau 8)

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae pump o bobl yn eistedd ar stôl uchel lliwgar ar lwyfan o flaen cefndir glas yn ystod trafodaeth panel. Mae un dyn yn siarad i mewn i feicroffon tra bod y lleill yn gwrando, pob un yn dal potel ddŵr neu nodiadau.

Ymunodd Estyn â phartneriaid addysg o bob cwr o Gymru yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn eleni ar gyfer trafodaeth banel yn canolbwyntio ar ddarllen a llythrennedd.

Cynhaliwyd y sesiwn holi ac ateb ar stondin Dysgu ar y Maes, pan ddaeth cynrychiolwyr ar draws y sector addysg ynghyd i drafod pwysigrwydd darllen a dulliau cydweithredol i gefnogi llythrennedd ledled Cymru.

Roedd y panel yn cynnwys:

  • Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Estyn
  • Meurig Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Proffesiynol, Dysgu
  • Huw Davies, Pennaeth, Ysgol Gyfun Llangefni
  • Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni, Adnodd

Hwyluswyd y drafodaeth gan Dyfed Williams, Arweinydd Cymraeg Craidd, Dysgu.

Roedd y sesiwn yn gyfle i amlygu ffocws Estyn ar ddarllen dros y blynyddoedd i ddod ac arddangos y cydweithio sy’n digwydd rhwng sefydliadau cenedlaethol, ysgolion a’r sector addysg ehangach i gefnogi medrau darllen dysgwyr, a’u mwynhad o ddarllen.

Dywedodd Owen Evans, PAEF: “Mae darllen yn fedr gydol oes sy’n agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol, a thrwy ein ffocws manylach ar ddarllen, ein nod yw cynorthwyo dysgwyr yn well i wneud cynnydd ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a chael cyfleoedd bywyd gwell.

“Roedd yn ddefnyddiol myfyrio ar sut gallwn ni annog diwylliant darllen cadarnhaol ar y cyd, a gyrru safonau trwy ddysgu proffesiynol ac addysgu a gwerthuso effeithiol.

Pobl yn sefyll y tu allan i babell Dysgu mewn digwyddiad awyr agored, yn gwylio trafodaeth banel sy’n cael ei chynnal y tu mewn. Mae’r babell las a gwyn â brand Dysgu yn cynnwys siaradwyr yn eistedd ar lwyfan bach tra bod mynychwyr yn ymgynnull yn yr haul.

Archives: Erthyglau Newyddion


Bydd Estyn yn cynnal gweithdy rhyngwladol yng Nghaerdydd yr wythnos hon, gan ddod ag arolygiaethau addysg o bob cwr o Ewrop a thu hwnt ynghyd i archwilio rôl deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg.
 
Bydd Gweithdy SICI Cymru 2026, Llywio’r Daith Deallusrwydd Artiffisial, yn cael ei gynnal o 22 i 24 Ebrill ym Mae Caerdydd. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Chynhadledd Ryngwladol Sefydlog yr Arolygiaethau (SICI), bydd y digwyddiad yn croesawu cynrychiolwyr o 25 o wledydd i rannu arbenigedd a chryfhau cydweithio rhyngwladol.
 
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ganlyniadau prosiect ar y cyd rhwng arolygiaethau yng Nghymru, Norwy a’r Alban, gan archwilio sut y gall AI gefnogi gwaith arolygu. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau ymarferol a gweithdai cydweithredol, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut y gellir defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg mewn modd cyfrifol ac effeithiol o fewn systemau addysg.
 
Cynhelir y brif gynhadledd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, gan ddarparu lleoliad deinamig ar gyfer trafodaethau ar arloesedd technolegol. Bydd y brif araith yn cael ei thraddodi gan Dr Madiha Khan, ymchwilydd AI a gwyddonydd data, fydd yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau y mae AI yn cyflwyno i addysg.
 
Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i arddangos Cymru a’i diwylliant. Bydd cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn taith dywys o amgylch Bae Caerdydd ac yn mynychu cinio gala yn y Gyfnewidfa Lo, gyda pherfformiadau gan bobl ifanc sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, gan ddathlu iaith a diwylliant Cymru.
 
Drwy gynnal y gweithdy rhyngwladol hwn, mae Estyn yn cyfrannu at sgyrsiau byd-eang am ddyfodol addysg ac arolygu. Mae’r digwyddiad yn adlewyrchu ymrwymiad Estyn i archwilio sut y gall AI wella eu gwaith, gwella effeithlonrwydd a chefnogi canlyniadau gwell i ddysgwyr yng Nghymru.