Gweithgarwch dilynol Archives - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i gefnogi ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) sydd wedi cael eu gosod mewn categori statudol. Mae’n darparu arweiniad ar beth sy’n digwydd pan fydd ysgol neu UCD yn mynd i gategori statudol, beth mae’n rhaid i’r ysgol neu’r UCD a’r awdurdod lleol ei wneud ar ôl yr arolygiad, beth gallent ei wneud a beth i’w ddisgwyl gan Estyn. Gellir defnyddio’r arweiniad hwn ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’ sydd i’w ganfod ar ein gwefan. Mae’r arweiniad hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ysgolion ac UCDau a gynhelir ac nid yw’n berthnasol i ysgolion annibynnol.


Gall cael ei gosod mewn categori statudol ar ôl arolygiad craidd fod yn brofiad heriol iawn i’r ysgol neu’r UCD. Mae’n heriol i gymuned gyfan yr ysgol neu’r UCD, ond gall fod yn heriol i unigolion hefyd, yn enwedig arweinwyr, ar lefel bersonol.


Mae’r arweiniad hwn yn darparu ystod o ystyriaethau a syniadau ar sut gellir cefnogi ysgolion / UCDau trwy’r broses hon. Fodd bynnag, mae cyd-destun pob darparwr yn wahanol ac ni fydd pob un o’r syniadau neu’r ystyriaethau yn y ddogfen hon yn briodol dan yr holl amgylchiadau.


Gallai hefyd fod yn fuddiol edrych ar ddogfen ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar Ysgolion sy’n achosi pryder.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer holl arolygiadau ar y cyd Estyn ac ACG a gynhelir o fis Ionawr 2025.

Mae’r arweiniad yn disgrifio’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i gytuno ar weithgarwch dilynol priodol.


Mae’r arweiniad hwn yn hyblyg gan fod angen iddo fod yn ymatebol i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n digwydd mewn lleoliadau wrth iddynt wella ar ôl arolygiadau craidd ar y cyd. Mae Estyn ac AGC yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i ddiwallu anghenion lleoliadau penodol.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer pob arolygiad ôl-16 craidd, a gynhelir o 26 Chwefror 2024.

Mae’r arweiniad yn nodi’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i ymgymryd â gweithgarwch dilynol.

Mae un lefel o weithgarwch dilynol ar gael i arolygwyr ôl-16. Fodd bynnag, mae’r gweithgarwch monitro yn hyblyg ac wedi’i deilwra i fodloni orau yr argymhellion a nodwyd yn yr arolygiad craidd.

Mae’r arweiniad hwn yn hyblyg, gan fod angen iddo fod yn ymatebol i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n digwydd mewn darparwyr wrth iddynt wella ar ôl arolygiadau craidd. Mae Estyn yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i ddiwallu anghenion darparwyr penodol.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


O dan ofynion Adran 39 Deddf Addysg 2005 ac Adran 40 Deddf Addysg 2005, lle rhoddwyd ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn y categori angen gwelliant sylweddol neu mewn mesurau arbennig, mae’n ofynnol i gorff llywodraethol ysgol, gan weithio gyda’r awdurdod lleol, lunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad (CGOA). Mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), mae’r pwyllgor rheoli’n ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn. Yn y sector nas cynhelir, er nad yw hyn yn ofyniad cyfreithiol, os caiff lleoliad ei roi mewn categori gwelliant â ffocws, mae Estyn yn gofyn bod yr unigolyn cofrestredig neu’r unigolyn sy’n gyfrifol yn llunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad.

Rydym wedi canfod bod cynlluniau gweithredu ôl-arolygiad yn fwyaf llwyddiannus lle mae’r ysgol / UCD / lleoliad yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i greu cynllun sengl unedig sy’n debygol o ysgogi’r gwelliannau angenrheidiol. Mae cynllun sengl yn egluro rolau a chyfrifoldebau pawb wrth ysgogi’r gwelliannau mewn modd amserol. Mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu canllawiau ar ‘ysgolion sy’n peri pryder’ yn 2024, i’r perwyl hwn.

Fel rhan o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014, mae gofyniad i gyrff llywodraethol ailedrych ar gynllun datblygu ysgol yn dilyn arolygiad. Gallai’r cynllun gweithredu ôl-arolygiad (CGOA) fod o fewn cynllun datblygu’r ysgol neu uned cyfeirio disgyblion, a dylai ffurfio rhan annatod o flaenoriaethau gwella uniongyrchol yr ysgol neu uned cyfeirio disgyblion. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd CGOA ar ei ben ei hun yn bodloni gofynion llawn y rheoliadau.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Diben y papur briffio hwn yw atgyfnerthu’r egwyddorion allweddol a fydd yn ategu penderfyniad arolygwyr ynghylch p’un a yw awdurdod lleol wedi gwneud cynnydd digonol i gael ei dynnu o
gategori gweithgarwch dilynol. Mae gwneud y penderfyniad hwn bob amser yn her i arolygwyr, ond mae’r sefyllfa ddigynsail sydd wedi wynebu awdurdodau lleol er mis Mawrth 2020 yn debygol
o’i gwneud hyd yn oed yn anoddach. Foddbynnag, rydym yn dymuno rhoi sicrwydd i CCAC y byddwn yn ymdrin â’n gwaith gweithgarwch dilynol gydameddylfryd cadarnhaol a chwbl resymol.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer pob arolygiad craidd a gynhelir o Fedi 2019.

Mae’r arweiniad yn nodi’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i nodi pa lefel gweithgarwch dilynol sy’n fwyaf priodol. Bydd yn ddefnyddiol i ysgolion ddeall y gweithdrefnau hyn a’r ffactorau fydd yn cael eu hystyried gan dimau arolygu wrth benderfynu ar y lefel gweithgarwch dilynol mwyaf priodol.

Fodd bynnag, mae’r arweiniad hwn yn hyblyg oherwydd mae angen iddo allu ymateb i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n codi mewn ysgolion wrth iddynt wella yn dilyn arolygiadau craidd. Mae Estyn yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i fodloni anghenion ysgolion penodol.

Math o Arweiniad Arolygu: Gweithgarwch dilynol


Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer pob arolygiad ar y cyd gydag Estyn ac AGC a gynhelir o Ionawr 2019.

Mae’r arweiniad yn nodi’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i nodi pa lefel gweithgarwch dilynol sy’n fwyaf priodol.

Fodd bynnag, mae’r arweiniad hwn yn hyblyg gan fod angen iddo fod yn ymatebol i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n digwydd mewn lleoliadau wrth iddynt wella yn dilyn arolygiadau craidd. Mae Estyn ac AGC yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i fodloni anghenion lleoliadau penodol.