Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Archives - Estyn

Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae staff yn y tîm addysg yng Nghartref Plant Diogel Hillside wedi datblygu dull cryf o weithio mewn partneriaeth â’r tîm preswyl, y tîm clinigol a’r ysgol bartner i ysgogi gwelliannau mewn darpariaeth a chanlyniadau dysgwyr.

Mae cyfathrebu dyddiol cryf rhwng y timau addysg, preswyl a chlinigol. Mae hyn yn sicrhau lefel gyson o gefnogaeth i ddysgwyr ac yn caniatáu i staff addysg addasu sesiynau i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn ymrwymedig.

Ers amser yr arolygiad diwethaf mae gweithio mewn partneriaeth ar draws y ganolfan wedi gwella. Er enghraifft, mae’r timau addysg a phreswyl wedi cydweithio’n llwyddiannus i wella presenoldeb mewn addysg. Mae cydweithio cadarnhaol ar draws y ganolfan i gefnogi dysgwyr o’r adeg y maent yn cyrraedd hyd nes y maent yn gadael.

Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae athrawon yng Nghartref Plant Diogel Hillside yn defnyddio ystod o brofiadau dysgu ymarferol i ymgysylltu dysgwyr yn llwyddiannus yn eu dysgu. Mae’r ganolfan yn elwa o ystod o adnoddau gwerthfawr i gefnogi’r dull hwn gan gynnwys ystafell ddosbarth dylunio a thechnoleg, campfa, ystafell ioga, siop goffi, cegin addysgu, ystafell aml-sgiliau, ystafell gerddoriaeth a salon.

Er enghraifft, mewn gwersi dylunio a thechnoleg mae dysgwyr yn dysgu sut i ysgythru bylchau resin i’w castio mewn piwter. Maent yn dysgu sut i ddefnyddio offer llaw yn hyderus yn ogystal â’r gofynion diogelwch ar gyfer gweithio gyda metel poeth. Gall dysgwyr ddisgrifio’n hyderus sut y gallant wella eu gwaith ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain. Maent yn gwneud cynnydd clir yn natblygiad eu sgiliau ymarferol, o gymalau gwaith coed sylfaenol i electroneg a gwneud gemwaith. Gellir mesur eu cynnydd dros amser trwy ansawdd yr hyn y maent wedi’i gynhyrchu.