'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Prif ganfyddiadau

Share document

Share this

Disgyblion
  1. Dywed tua hanner yr holl ddisgyblion fod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a dywed tri chwarter o’r holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn. Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall sut gall aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion gael effaith negyddol ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc.
  2. Dywed mwyafrif o ddisgyblion benywaidd (61%) eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhwng cyfoedion ac mae llawer (82%) yn adrodd eu bod wedi gweld pobl eraill yn ei brofi. Mae hyn yn cymharu â chyfran is o ddisgyblion gwrywaidd (29% a 71% yn y drefn honno).
  3. Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fwy cyffredin ar-lein a’r tu allan i’r ysgol nag ydyw yn yr ysgol. Mae gan bobl ifanc brofiad sylweddol o gael eu haflonyddu gan eu cyfoedion trwy ffôn symudol, y cyfryngau cymdeithasol a safleoedd gemau. Mae hyn yn cynnwys:
  • bwlio ar-lein
  • postio sylwadau creulon, yn enwedig am ymddangosiad
  • anfon, rhannu a gofyn am ffotograffau noeth neu hanner noeth
  • swyno trwy dwyll
  • ceisiadau digymell i fod yn ffrind neu ofyn am ffotograffau noeth gan ddieithriaid neu bobl sydd â phroffil ffug ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • agweddau negyddol tuag at ferched mewn gemau digidol
  1. Y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol yw disgyblion yn heclo a gwneud sylwadau cas, gwneud sylwadau homoffobig (tuag at fechgyn yn bennaf), a sylwadau am ymddangosiad.
  2. Yn gyffredinol, nid yw disgyblion yn dweud wrth athrawon pan maent yn profi aflonyddu rhywiol. Mae hyn oherwydd ei fod yn digwydd mor rheolaidd, ac maent aml yn aml naill ai ond yn dweud wrth ffrind neu’n ei gadw iddyn nhw eu hunain. Maent yn teimlo bod hyn wedi dod yn ymddygiad wedi’i normaleiddio ac yn dweud nad yw athrawon yn ymwybodol o raddau’r broblem. Yn ychwanegol, dywed disgyblion fod athrawon yn aml yn wfftio digwyddiadau fel rhai pitw, neu’n annog disgyblion i’w hanwybyddu. Yn ôl bron i hanner y disgyblion a ddywedodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol gan eu cyfoedion, cadwon nhw’r achos o aflonyddu rhywiol iddyn nhw eu hunain.
  3. Mae gan ddisgyblion LHDTC+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu homoffobig geiriol, a dywed llawer ohonynt fod bwlio homoffobig yn digwydd trwy’r amser ac mai dyma’r math mwyaf cyffredin o aflonyddu yn eu hysgol.
  4. Mae llawer o ddisgyblion yn profi effaith negyddol pwysau gan gyfoedion ynghylch disgwyliadau o’r ffordd y dylent edrych a chywilyddio a bwlio rhywun oherwydd ei gorff, os nad yw ei gorff yn cydymffurfio â delwedd benodol o harddwch neu ffitrwydd. Dywed disgyblion fod problemau penodol ynghylch hyd a ffit y sgert ysgol lle caiff merched eu bwlio gan ferched eraill os yw eu sgertiau’n rhy hir, ac fe gânt eu haflonyddu’n rhywiol gan fechgyn os yw’r sgertiau’n rhy fyr.
  5. Mae lleiafrif y bechgyn yn siarad am ymwneud yn bersonol ag aflonyddu’n rhywiol ar eu cyfoedion, yn cynnwys rhoi pwysau ar ferched i anfon ffotograffau noeth. Er eu bod yn cydnabod ei fod yn anghywir, mae llawer o fechgyn yn dweud bod rhannu ffotograffau noeth o ferched ymhlith eu ffrindiau a brolio am nifer y ffotograffau noeth sydd ganddyn nhw yn rhywbeth cyffredin.  
  6. Dywed llawer o ddisgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan nad ydynt wedi cael digon o addysg rhyw a chydberthynas. Dywed disgyblion hŷn mewn llawer o ysgolion nad ydynt wedi cael unrhyw addysg rhyw o gwbl, a’u bod yn awyddus iawn i gael mwy o gyngor ac arweiniad ynghyd â chyfleoedd i drafod rhyw a pherthnasoedd mewn awyrgylch diogel a chyfforddus. Mae llawer o ddisgyblion yn gwerthfawrogi gwersi addysg bersonol a chymdeithasol wedi eu cyflwyno’n dda, ond dywedant nad ydynt yn cael digon o gyfleoedd i drafod materion pwysig fel parch, perthnasoedd iach, ymddygiadau rhywiol niweidiol a hawliau LHDTC+. Dywed llawer ohonynt eu bod eisiau gweld mwy o amser yn cael ei roi i drafod ‘materion bywyd go iawn’ yn yr ysgol.
  7. Mae disgyblion yn ganmoliaethus iawn am gyflwyniadau gan siaradwyr ac arbenigwyr allanol am addysg rhyw a pherthnasoedd iach. Maent yn gwerthfawrogi cael gwersi gan ‘bobl go iawn sy’n siarad am broblemau bywyd go iawn’ ac eisiau gweld mwy o’r math hwn o ddysgu.
Ysgolion
  1. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn hyrwyddo ethos cryf o barch ym mhob agwedd ar eu gwaith. Maent yn blaenoriaethu lles ac yn mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ragweithiol tuag at hyrwyddo a dathlu amrywiaeth. Yn yr ysgolion hyn, mae arweinwyr yn cyflogi staff bugeiliol o safon uchel ac yn gosod disgwyliadau uchel. Mae polisïau, gweithdrefnau ac arweiniad ar gyfer staff a disgyblion yn cysylltu’n glir â nodau ac amcanion sy’n sicrhau bod lles wrth wraidd gwaith yr ysgol.
  2. Mewn llawer o ysgolion, mae ymagwedd gref o fynd i’r afael â diogelu fel tîm. Caiff staff hyfforddiant rheolaidd a phriodol, maent yn deall eu cyfrifoldeb o ran diogelu plant ac yn cyflawni eu dyletswyddau diogelu yn dda. Fel arfer, mae arweinwyr yn ymateb yn briodol i gŵynion ffurfiol gan rieni neu ddisgyblion am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ac yn cynnwys asiantaethau allanol priodol. Mae mwyafrif yr ysgolion yn gweithredu ymagwedd adferol at ymddygiad gwael, bwlio ac achosion hysbys o aflonyddu, ac yn defnyddio asiantaethau allanol yn dda i gefnogi eu gwaith. Mae hyn fel arfer yn cynnwys darparu cefnogaeth addas megis cwnsela i ddioddefwyr.
  3. Ceir anghysondeb cyffredinol ymhlith staff ysgolion am eu dealltwriaeth o beth mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ei olygu, yn cynnwys materion ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a sut maen nhw’n effeithio ar ddisgyblion.
  4. Hyd yn oed o fewn ysgolion, mae anghysondeb yn y ffordd y mae athrawon yn ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol. Yn yr achosion gwaethaf, mae athrawon yn wfftio neu’n anwybyddu achosion o aflonyddu rhywiol geiriol gan ddisgyblion tuag at eu cyfoedion.
  5. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid yw arweinwyr, athrawon a staff cymorth yn ymwybodol o fynychter uchel aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith pobl ifanc gan nad yw disgyblion yn dweud wrthynt amdano yn systematig. Ceir polareiddio llym rhwng yr hyn mae disgyblion yn ei ddweud sy’n digwydd a’r hyn mae staff yn ei wybod. Mae aflonyddu rhywiol yn broblem gymdeithasol nad yw’n unigryw i leoliadau addysg ac mae ysgolion yn aml yn delio gyda phroblemau sydd yn deillio o’r tu allan i’r ysgol. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn ymateb yn briodol i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y cânt wybod amdano, ond nid ydynt yn ddigon rhagweithiol yn eu hymagwedd i’w atal rhag digwydd. Drwyddi draw, nid yw ysgolion yn rhoi digon o gyfleoedd i ddisgyblion siarad am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn agored.
  6. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae systemau a phrosesau addas i staff gofnodi pryderon a gweithredoedd. Yn gyffredinol, mae staff yn defnyddio systemau o’r fath yn rheolaidd, ac mae arweinwyr yn ymateb yn gyflym i wybodaeth newydd. At ei gilydd, mae ysgolion yn defnyddio systemau digidol a systemau ar-lein yn dda i gofnodi achosion o fwlio ac aflonyddu. Yn gyffredinol, mae cofnodion yn amlinellu natur y digwyddiad a naratif o’r modd y mae’r problemau hyn wedi datblygu ac yn cael eu datrys.
  7. Er gwaethaf y ffaith fod ysgolion yn cofnodi digwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad a bwlio at ei gilydd, nid ydynt yn gwneud defnydd cynhyrchiol o’r data a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt gategoreiddio a dadansoddi achosion o fwlio ac aflonyddu rhwng cyfoedion yn ddigon da. Mae hyn yn atal ysgolion rhag cael darlun cywir o raddau gwahanol fathau o fwlio ac aflonyddu, fel aflonyddu rhywiol. Mewn llawer o achosion, nid yw ysgolion yn cofnodi achosion o aflonyddu rhywiol yn systematig, ac yn aml, mae eu dosbarthiad o ‘fwlio’ yn rhy eang ac nid yw’n galluogi’r ysgol i gofnodi a gwerthuso achosion o fwlio homoffobig, rhywiaethol neu fwlio â chymhelliant hiliol.
  8. Oherwydd y materion y manylir arnynt uchod, nid yw llawer o arweinwyr yn defnyddio gwybodaeth am dueddiadau yn ymddygiad disgyblion ac effaith camau dilynol i ddelio â nhw i werthuso effeithiolrwydd eu gwaith. Yn ychwanegol, mewn llawer o ysgolion, nid yw arweinwyr yn gwneud digon o ddefnydd o ganfyddiadau’r ‘Adroddiad ar Iechyd a Lles Myfyrwyr’ (Page et al., 2021) bob dwy flynedd a lunnir gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) i gynllunio darpariaeth.
  9. Mewn tua hanner yr ysgolion, mae arweinwyr wedi cychwyn datblygu darpariaeth addas ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ‘Iechyd a Lles’ (Llywodraeth Cymru 2020a) y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer un grŵp blwyddyn, gan amlaf Blwyddyn 7 neu Flwyddyn 8. At ei gilydd, caiff testunau sy’n cwmpasu perthnasoedd iach ar gyfer y grwpiau blwyddyn hyn eu cynnwys yn ddigonol. Mewn ychydig o ysgolion, mae arweinwyr yn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) ar draws yr ystod oedran gyfan, yn cynnwys ar gyfer disgyblion yn y chweched dosbarth. Mae’r ddarpariaeth hon yn gyfuniad o wersi ABCh dynodedig, gwasanaethau, gweithdai a rhywfaint o ymdriniaeth mewn gwersi pynciau eraill.
  10. Mae gormod o amrywiad yn yr amser a neilltuir ar gyfer ABCh ar draws ysgolion yng Nghymru ac ni roddir digon o ystyriaeth i ba mor eang a manwl y dylid ymdrin â thestunau ABCh wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy’r ysgol. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, yn bennaf o ganlyniad i bwysau’r cwricwlwm presennol, nid oes gwersi ABCh rheolaidd ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 na disgyblion yn y chweched dosbarth. Mae’r pandemig a dysgu o bell wedi cael effaith anghymesur ar y ddarpariaeth ar gyfer ABCh a chafodd darpariaeth gan bartneriaid allanol ei hatal dros dro yn ystod y cyfnodau clo.
  11. Mewn lleiafrif bach o ysgolion, mae arweinwyr yn mynd ati i gael barn disgyblion am faterion personol a chymdeithasol, yn cynnwys aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ac yn ymateb yn dda i broblemau wrth iddynt godi, neu pan fyddant yn cael eu rhannu gan ddisgyblion a staff. Mae enghreifftiau o arferion cryf yn cynnwys gosod blychau ‘pryderon’ mewn ardaloedd addas, ‘Blwch Awgrymiadau am ABCh’ mewn ystafelloedd dosbarth, mentoriaid sy’n ddisgyblion hŷn ar ddyletswydd yn ystod amser egwyl, a grŵp cyfeirio LHDTC+ sy’n darparu cyngor a chymorth i arweinwyr ysgol ar faterion amrywiaeth.
  12. Mae pob ysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chydweithrediad asiantaethau allanol, megis swyddog heddlu’r ysgol a gweithwyr ieuenctid, i ychwanegu at eu darpariaeth ABCh. Fodd bynnag, dywed ysgolion fod y cymorth arbenigol allanol ar gyfer addysg rhyw yn gyfyngedig erbyn hyn. Caiff y diffyg darpariaeth hwn effaith negyddol ar les llawer o ddisgyblion.
  13. Dywed pob ysgol fod angen mwy o hyfforddiant a chymorth arnynt i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys dysgu proffesiynol ysgol gyfan ar sut i ymgysylltu’n rhagweithiol mewn sgyrsiau gyda disgyblion am faterion rhywedd ac aflonyddu rhywiol. Hefyd, mae angen iddynt gael hyfforddiant ar gyfer eu staff ysgol gyfan ar faterion LHDTC+, er enghraifft sut i gefnogi disgyblion sy’n trawsnewid neu ddisgyblion trawsryweddol, gan gynnwys drwy ddefnydd addas o iaith neu ragenwau personol y byddai’n well ganddynt i bobl eu defnyddio.
  14. Mae staff ysgol yn mynegi’n gryf fod angen cydweithio â rhieni, a bod angen eu cydweithrediad wrth ddelio ag achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Yn aml, mae’r achosion hyn yn digwydd ar-lein gyda’r nos ac yn ystod penwythnosau, ond yn effeithio ar les ac ymddygiad disgyblion yn ystod y diwrnod ysgol. Mae’r cydweithio hwn yn cynnwys rhieni’n monitro defnydd plant o gyfryngau cymdeithasol a chyfleusterau sgwrsio yn rheolaidd.
Awdurdodau lleol
  1. O dan Ganllawiau Gwrthfwlio Statudol Llywodraeth Cymru (2019b), mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fonitro’r data tymhorol ar fwlio a chydraddoldeb y mae ysgolion yn ei rannu â nhw, a rhoi cyngor i ysgolion ar dueddiadau lleol. Prin yw’r achosion o fwlio y mae ysgolion yn rhoi gwybod i awdurdodau lleol amdanynt, ac anaml y byddant yn adrodd ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae diffyg cysondeb yn y modd y mae awdurdodau lleol yn casglu, dadansoddi a defnyddio data ar fwlio ac aflonyddu, er enghraifft i gynllunio ymyrraeth neu hyfforddiant i staff.

Share document

Share this