'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Pam nad yw pobl ifanc yn dweud wrth eu hathrawon am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a pham nad yw ysgolion yn gwybod beth yw’r graddau’r broblem

Share document

Share this

Page Content

Mae’n gymorth i archwilio mewn mwy o fanlylder rhai o’r rhesymau pam nad yw ysgolion yn ymwybodol o gyffredinolrwydd aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gan gynnwys ystyried pam fod pobl ifanc ddim yn dweud wrth staff am eu profiadau.

Mae gormod o ysgolion yn gweithio’n ymatebol o amgylch y broblem hon, ac nid ydynt yn ddigon rhagweithiol o ran eu hymagwedd. Yn ei hanfod, maent yn dibynnu gormod ar aros i ddisgyblion droi at staff yr ysgol i ddweud beth yw eu cwynion neu bryderon. Ym mwyafrif yr ysgolion, pan fydd staff yn ymwybodol o broblem, mae prosesau ar waith i fynd i’r afael â hi, ac ymdrinnir ag achosion yn briodol. Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn siarad am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ddigon agored a rheolaidd i alluogi disgyblion i ddweud eu dweud yn ddiogel. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, ni all staff ddisgrifio unrhyw gamau y mae eu hysgol wedi eu cymryd i hyrwyddo diwylliant yn rhagweithiol ble mae staff a disgyblion yn gwrthbrofi aflonyddu ac yn gwrthwynebu unrhyw agweddau negyddol tuag at rywioldeb neu rywedd. Dywedodd disgyblion yn yr un ysgol wrthym ni gymaint maen nhw eisiau sgwrs agored ac uniongyrchol am hyn er mwyn amlygu problemau a thynnu sylw atynt.

Yn aml, ceir diffyg dealltwriaeth o beth mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ei olygu, a sut mae’n effeithio ar ddisgyblion. Nid yw staff ysgolion bob amser yn meddu ar ddealltwriaeth gyflawn o beth mae’r term aflonyddu rhywiol yn ei olygu, ac nid oes ganddynt amgyffrediad cyson o faterion cysylltiedig ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Hefyd, ceir lefel amrywiol o oddefgarwch am sylwadau sy’n homoffobig neu’n rhywiaethol. Mewn gormod o achosion, mae staff yn anwybyddu achosion neu’n eu diystyru fel rhywbeth llai. Er bod prosesau diogelu ymatebol yn gadarn mewn ysgolion, nid yw’r diwylliant diogelu ehangach i gefnogi disgyblion yn y maes hwn wedi’i ddatblygu’n ddigonol, ar y cyfan. Mae hyn yn atal disgyblion rhag deall sut gall gwerthoedd haniaethol fel ‘caredigrwydd a pharch’ y mae ysgolion yn ymfalchïo ar eu hyrwyddo, gael eu rhoi ar waith ac felly dod yn rhan o strategaethau effeithiol i dynnu sylw at aflonyddu rhywiol a homoffobia.

Nid yw ysgolion yn gwneud defnydd cynhyrchiol ac effeithiol o’r data a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt gategoreiddio a dadansoddi achosion o fwlio ac aflonyddu. Mewn llawer o achosion, nid yw ysgolion yn cofnodi achosion o aflonyddu rhywiol yn systematig. O dan ganllawiau gwrthfwlio statudol 2019 (Llywodraeth Cymru, 2019a), mae gofynion adrodd clir i ysgolion o ran bwlio ac aflonyddu. Mae hyn yn cynnwys adrodd ar nifer yr achosion o fwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn ac achosion o fwlio yn seiliedig ar ryw, rhywedd a rhywioldeb. Mae disgwyliadau i awdurdodau lleol gasglu adroddiadau data tymhorol gan ysgolion. Mae’n ofynnol iddynt fonitro data ar gydraddoldeb, a rhoi gwybod i ysgolion am dueddiadau lleol. Fodd bynnag, yn y dogfennau a welwyd yn ystod ymweliadau, mae’n glir mai prin y mae ysgolion yn adrodd am achosion o fwlio, ac anaml y maent yn rhoi gwybod am aflonyddu i’r awdurdod lleol. Dywedodd arweinwyr wrthym ni nad ydynt yn cael adborth gan swyddogion awdurdodau lleol ynghylch adroddiadau bwlio tymhorol. Ymgysylltom ni â thros draean o’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i ymholi am sut defnyddion nhw’r data i lywio cynllunio. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad statudol i awdurdodau lleol ymateb i’r wybodaeth hon na’i throsglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion sy’n defnyddio system rheoli gwybodaeth ddigidol neu ar-lein i gofnodi achosion a phryderon yn ei defnyddio’n ddigon da i nodi diffygion na phatrymau ymddygiad. Er bod staff ar bob lefel yn gallu defnyddio’r system, ac mewn llawer o achosion, yn ei defnyddio’n dda i rannu gwybodaeth ag arweinwyr perthnasol, nid ydynt yn gwneud defnydd ehangach a mwy cynhwysfawr o’r systemau hyn. Mewn ychydig o achosion, mae dosbarthiad ‘bwlio’ yn rhy eang ac nid yw’n galluogi’r ysgol i gofnodi a gwerthuso achosion o fwlio homoffobig, rhywiaethol neu hyd yn oed fwlio ag iddo gymhelliant rhywiol. Mewn enghreifftiau eraill, er y gallai ysgol fod â chofnod o sawl achos o aflonyddu geiriol, ni all ddatgan faint o’r rhain sy’n gysylltiedig ag aflonyddu rhywiol. Byddai egluro’r diffiniadau o aflonyddu a bwlio yn galluogi arweinwyr i gasglu gwybodaeth werthfawr am dueddiadau a phatrymau ymddygiad, a chynllunio darpariaeth addas i ymateb i ddiffygion. Yn ychwanegol, y camau a gymerir gan ysgolion yn nodweddiadol yw bod disgyblion yn gorfod aros ar ôl yr ysgol neu’n cael eu gwahardd dros dro yn fewnol. Prin yw’r dystiolaeth o ysgolion yn cofnodi eu hymatebion adferol, er y gwyddom fod ysgolion yn darparu hyn, yn aml ar y cyd â phartneriaid allanol. Byddai cynnwys manylion am gymorth ac ymyrraeth ar gyfer y dioddefwr a’r cyflawnwr, fel ei gilydd, yn ddefnyddiol a buddiol. Ymhen amser, byddai dadansoddi llwyddiant darpariaeth o’r fath ymhellach o ran ymddygiad ac agweddau yn galluogi uwch arweinwyr i lunio casgliadau cadarn am ansawdd yr arweinyddiaeth a darpariaeth trwy ei heffaith ar les disgyblion.

Nid yw defnydd ysgolion o adroddiad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gynllunio ar gyfer darpariaeth a gwelliant wedi’i ddatblygu’n ddigonol.  Mae bron pob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru yn cymryd rhan yn arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a gynhelir bob dwy flynedd. Mae arweinwyr bugeiliol yn cydnabod pwysigrwydd yr arolwg ac yn cefnogi ei weinyddu yn dda. Yn ychwanegol at dderbyn adroddiadau cenedlaethol cyhoeddedig, caiff ysgolion ‘Adroddiad ar Iechyd a Lles Myfyrwyr’ unigol sy’n gynhwysfawr, ac yn amlygu cryfderau a meysydd i’w gwella o ran safonau lles disgyblion, yn cynnwys materion yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys dadansoddiadau lefel uchel ac maent yn gyfrwng pwerus i ysgolion ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm ac ymgysylltu â disgyblion a rhieni ar faterion sy’n dod i’r amlwg. Fodd bynnag, at ei gilydd, nid yw’r ysgol yn gwneud defnydd digon effeithiol o’u hadroddiad SHRN i gynllunio ar gyfer darpariaeth a gwelliant. Mewn ychydig o achosion, mae arweinwyr yn cydnabod diffygion a phatrymau ymddygiad ynghylch materion rhywiol yn eu hadroddiad SHRN, ond prin yw’r newidiadau a wnânt i ddarpariaeth.

Share document

Share this