Dywed disgyblion fod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd mwy ar-lein nag yn yr ysgol. Maent yn siarad yn gynhwysfawr am ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol a safleoedd gemau a’r problemau sy’n gysylltiedig â nhw.
Dyma’r prif themâu sy’n gysylltiedig â gweithgarwch ar-lein fel y nodwyd gan y disgyblion:
- pwysau gan gyfoedion i gael nifer fawr o ‘ffrindiau’ ar-lein, arwyddion ‘hoffi’ a sylwadau ar broffiliau
- bwlio ar-lein, postio sylwadau cas am gyfoedion, yn enwedig sylwadau am ymddangosiad
- gwrthrycholi ffotograffau rhywiol o ferched gan fechgyn
- gofyn am, anfon a rhannu ffotograffau noeth neu hanner noeth
- swyno trwy dwyll, ceisiadau digymell i fod yn ffrind neu ofyn am ffotograffau noeth gan ddieithriaid neu bobl sydd â phroffil ffug ar y cyfryngau cymdeithasol
- agweddau negyddol tuag at gymeriadau benywaidd a/neu pan mae merched yn chwarae gemau digidol
Er bod pobl ifanc yn gweld gwerth bod yn berchen ar ffôn symudol, maent yn deall sut gall y problemau yn gysylltiedig â nhw gael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Ar sail eu sylwadau, mae’n glir fod pobl ifanc yn teimlo bod pwysau i bostio sylwadau poblogaidd yn rheolaidd ac i gael eu ‘hoffi’ ar gyfryngau cymdeithasol.
“Rydych chi’n cael eich gwneud i deimlo fel bod rhaid i chi bostio i blesio pobl a chael arwyddion ‘hoffi’. Mae pwysau i bostio ddydd a nos.”
Mae bechgyn a merched fel ei gilydd yn siarad yn helaeth am bwysau gan gyfoedion ar-lein i fod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol, a bod angen cael arwyddion ‘hoffi’ a ‘dilynwyr’.
Caiff sylwadau cas gan gyfoedion eu gwneud yn amlach ar-lein nag yn yr ysgol. Mae merched, yn enwedig, yn cael sylwadau negyddol gan ferched eraill oherwydd eu bod wedi rhannu llun ohonyn nhw eu hunain ar eu tudalen proffil ar gyfryngau cymdeithasol. Maent yn teimlo dan bwysau i gydymffurfio â disgwyliadau penodol am siâp a golwg gan eu bod yn dirnad bod merched ifanc deniadol yn postio lluniau ohonyn nhw eu hunain yn rheolaidd, gan ddisgwyl i bobl eraill wneud sylwadau canmoliaethus amdanyn nhw a’r ffordd maen nhw’n edrych. Mae bechgyn yn cyfaddef eu bod wedi anfon a derbyn sylwadau a negeseuon testun di-chwaeth gan fechgyn eraill, yn aml yn gysylltiedig â chywilyddio rhywun am fod yn dew neu wneud hwyl o bostiadau bechgyn eraill. Maent yn dirnad bod hyn yn “normal”.
Mewn ychydig o achosion, mae bwlio mwy targedig rhwng merched lle maent yn rhoi straeon ar led am weithgarwch rhywiol merched eraill, yn herio merched eraill i gael rhyw neu anfon ffotograffau ohonyn nhw eu hunain yn eu dillad isaf. Wedyn, mae merched yn rhannu’r ffotograffau hyn o gwmpas ac yn galw enwau arnyn nhw fel ‘‘slag” a “slwten”.
“Mae llawer o fwlio ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn pigo ar bobl eraill oherwydd eu golwg. Gallai hyn gael effaith ar bobl yn feddyliol, yn enwedig os yw rhywun yn galw chi’n ‘hwren’ neu’n ‘slag’.”
Mae lleiafrif y merched yn pryderu am effeithiau bwlio ar-lein, yn dweud y gall hyn arwain at orbryder, iselder a dysmorffia’r corff, a allai hefyd arwain at anhwylderau bwyta a hunangasineb.
O ran secstio, rhywioli cyfoedion ac anfon ffotograffau noeth, mae bron pob disgybl o Flwyddyn 10 ymlaen yn nodi materion cyffredin. Fodd bynnag, nid oedd llawer yn sylweddoli bod hyn yn weithred droseddol. Trwy anfon neu dderbyn llun noeth, gall blentyn gyflawni troseddau sy’n perthyn i greu a rhannu lluniau anweddus o blât o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1978 (sydd yn cynnwys delweddau o’r rhai o 16 a 17 oed trwy adran 45 o’r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003), adran 160 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac adran 62 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009. Gall secstio gan blant hefyd arwain at wneud neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 8 (plentyn dan 13) neu adran 10 (plentyn) o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
Mae’n amlwg fod pwysau i rannu ffotograffau noeth, colli rheolaeth dros ddelweddau wedi iddynt gael eu rhannu, a phobl ifanc yn cael eu gwneud i deimlo’n euog pan na fyddant yn anfon ffotograffau, yn gyffredin ymhlith disgyblion hŷn. Dywed y rhan fwyaf o ferched fod bechgyn yn gofyn am ffotograffau ohonynt yn noeth yn digwydd yn rheolaidd, ac maent yn sôn am y pwysau parhaus gan fechgyn i anfon ffotograffau. Er enghraifft, nododd un ferch, “Mae’n digwydd bob dydd – mae’n gyffredin iawn. Mae bechgyn yn gofyn am luniau noeth neu barhau i sbamio’ch ffôn.”
Mae’r rhan fwyaf o ferched yn ymwybodol o beryglon anfon ffotograffau trwy neges destun a’r bygythiad y bydd unrhyw un yn eu rhannu ymhellach. Dywed pob merch sy’n siarad am ei phrofiad o secstio mai bechgyn yn unig sy’n gofyn am ffotograffau noeth, ond mae ambell un yn beio merched hefyd am gydymffurfio “dim ond i blesio bechgyn a chael eu hoffi neu’u caru’n fwy”.
Mae dros hanner y bechgyn yn siarad am fod ynghlwm yn bersonol ag aflonyddu’n rhywiol ar gyfoedion, er enghraifft aflonyddu ar ferched gyda delweddau noeth o ddieithriaid neu ffotograffau neu fideos amhriodol eraill. Hefyd, mae bechgyn yn siarad am y pwysau gan fechgyn eraill i anfon ffotograffau noeth neu gynnwys rhywiol. Dywed llawer o fechgyn fod rhannu ffotograffau noeth o ferched ymhlith eu ffrindiau a brolio am nifer y ffotograffau noeth sydd ganddynt yn eu meddiant yn gyffredin. Er eu bod yn cyfaddef iddynt wneud hyn, mae mwyafrif y bechgyn yn cydnabod bod hyn yn anghywir ac yn amharchus.
Dywed lleiafrif o fechgyn hŷn fod pornograffi yn cael ei rannu o gwmpas am fod “bechgyn eisiau gwneud argraff ar eu ffrindiau”. Gan amlaf, nid yw’r cynnwys yn lluniau o rywun maent yn ei (h)adnabod. Pan ofynnwyd iddynt a ydyn nhw’n meddwl bod hyn yn dderbyniol – dywed lleiafrif ohonynt ei fod yn “iawn ar yr amod nad ydych chi’n adnabod y merched yn y lluniau”. At ei gilydd, ychydig o ddisgyblion LHDTC+ yn unig sy’n dweud bod ganddynt brofiad personol o secstio, gan ddatgan bod gan aelodau o’r gymuned LHDTC+ fwy o barch at ei gilydd na phobl ifanc eraill. Rhannodd un….
“Rydyn ni’n fwy preifat, ac yn gofalu am ein gilydd gan nad ydy neb arall. Rydyn ni’n siarad amdano yn y clwb LHDTC+. Does dim byd yn digwydd mewn gwirionedd ar ôl hynny, ond rydyn ni’n cael cyfle i siarad amdano.”
Mae llawer o fechgyn yn nodi bod rhagbaratoi (grooming) gan bobl hŷn yn risg sylweddol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys pobl nad ydynt yn eu hadnabod yn cysylltu â bechgyn ac yn anfon ‘ceisiadau i fod yn ffrind’, a dywedant fod hyn yn digwydd yn rheolaidd. Mae lleiafrif y bechgyn yn nodi bod pobl ar hap yn aml yn ymddangos ar-lein a’i bod “yn rhy hawdd cyfathrebu â phobl dydych chi ddim yn eu hadnabod trwy gemau ar-lein.” Mae bron pob un ohonynt yn ymwybodol na ddylent siarad â phobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod ar-lein na derbyn ceisiadau i fod yn ffrind gan ddieithriaid.
Mae disgyblion yn siarad yn wybodus am ‘swyno trwy dwyll’ lle mae disgyblion yn creu cyfrifon ffug i anfon delweddau digymell a phoenydio disgyblion eraill. Maent yn datgan bod swyno trwy dwyll yn broblem gyffredin ac fel arfer yn cynnwys dynion hŷn yn targedu merched ifanc. Dywed nifer sylweddol o ferched eu bod wedi cael eu targedu, fel arfer trwy dderbyn lluniau a negeseuon testun amhriodol gan ddieithriaid ac nid gan gyfoedion ar ap poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae mwyafrif y bobl ifanc yn gwybod sut i adnabod cyfrifon ffug ac yn teimlo eu bod yn gallu eu rhwystro. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn deall y term ‘rhagbaratoi’ ac yn dweud y byddent yn rhoi gwybod i rywun pe bai’n digwydd iddyn nhw. Mae merched hŷn yn siarad am dderbyn negeseuon gan ddynion a bechgyn nad ydynt yn eu hadnabod ar safle cyfryngau cymdeithasol sy’n boblogaidd er mwyn rhannu lluniau yn gofyn iddynt anfon delweddau ohonyn nhw eu hunain, “yn begian am luniau noeth”.
Dywed y rhan fwyaf o fechgyn eu bod wedi chwarae gemau maen nhw’n rhy ifanc i’w chwarae yn gyfreithlon. Dywed bechgyn hŷn eu bod yn chwarae’r gemau hyn yn rheolaidd ac yn eu mwynhau tra bod y bechgyn iau yn dweud eu bod yn cael eu rhoi dan bwysau i regi a “siarad yn fudr” wrth chwarae’r gemau hyn. Mae gan fechgyn yn y chweched dosbarth ymwybyddiaeth resymol o lefel natur wenwynig yr iaith a ddefnyddir mewn fforymau gemau, yn cynnwys y defnydd wedi’i normaleiddio o dermau fel “slwten” a “hwren” wrth gyfeirio at fenywod. Mae merched sy’n siarad am hyn yn nodi problem yn ymwneud â gemau amhriodol yn bennaf sy’n aml yn cywilyddio menywod. Mae merched yn siarad am bortreadu menywod yn rhywiaethol mewn gemau sy’n boblogaidd gyda bechgyn, ble caiff merched eu trin mewn modd bychanol a rhywioledig. Mae ychydig o fechgyn yn efelychu’r dôn hon yn y ffordd y maent yn siarad â merched yn ystod gemau ar-lein,
“Mae bechgyn yn trin menywod yn wahanol gan fod gemau’n portreadu menywod fel pe baen nhw’n israddol i ddynion.”