Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion |
Ymddygiad parhaus a dieisiau o natur rywiol gan blentyn tuag at blentyn arall sy’n gallu digwydd ar-lein, ac oddi ar-lein. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o: amharu ar urddas plentyn, a/neu wneud iddo deimlo dan fygythiad, yn israddol neu wedi’i fychanu a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, tramgwyddus neu rywioledig. (Yr Adran Addysg, 2021) |
Mynegi gwawd neu feirniadaeth am rywun y bernir ei fod yn dew neu dros ei bwysau |
|
Cywilyddio corff |
Beirniadu rhywun ar sail siâp, maint neu ymddangosiad ei gorff |
Dysmorffia Corfforol |
Mae dysmorffia corfforol yn gyflwr iechyd meddwl lle mae person yn treulio llawer o amser yn poeni am ddiffygion y neu hymddangosiad. Mae’r diffygion hyn yn aml yn ddisylw i eraill. |
ELSA |
Cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cymorth emosiynol ar gyfer plant a phobl ifanc |
Heclo |
Gweiddi neu alw allan sylwadau rhywiol aflonyddol neu sylwadau dirmygus awgrymiadol ar rywun yn gyhoeddus |
Rhagbaratoi |
Pan fydd rhywun yn meithrin perthynas, ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol gyda phlentyn neu berson ifanc er mwyn gallu ei gamddefnyddio, camfanteisio arno a/neu’i gam-drin |
Secstio (rhannu delweddau noeth) |
Ysgrifennu a rhannu negeseuon neu ddelweddau cignoeth gyda phobl (Llywodraeth Cymru, 2020c) |
Swyno trwy dwyll |
Pan fydd rhywun yn creu persona ffug neu broffil ffug ar blatfform cyfryngau cymdeithasol, fel arfer gyda bwriad i hudo pobl eraill i berthynas |
Y nodweddion gwarchodedig |
Y naw nodwedd warchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (Prydain Fawr, 2010) |
Ymddygiadau rhywiol niweidiol |
Gellir diffinio Ymddygiadau Rhywiol Niweidiol fel a ganlyn: ymddygiadau rhywiol a fynegir gan blant a phobl ifanc o dan 18 oed sy’n ddatblygiadol amhriodol, y gallent fod yn niweidiol tuag atyn nhw eu hunain neu blant a phobl ifanc eraill neu fod yn cam-drin plentyn neu berson ifanc arall neu oedolyn. Mae’r diffiniad hwn o Ymddygiadau Rhywiol Niweidiol yn cynnwys ymddygiadau trwy gyffwrdd neu heb gyffwrdd fel rhagbaratoi, arddangosiaeth, sbecian a secstio neu recordio delweddau o weithredoedd rhywiol trwy ffonau clyfar neu gymwysiadau cyfryngau cymdeithasol. (Gweithdrefnau Diogelu Cymru, 2020) |
'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru
Document options
Atodiad 2: Diffiniadau a Geirfa
Atodiad 2: Diffiniadau a Geirfa
Niferoedd – meintiau a chyfrannau
bron pob un = |
gydag ychydig iawn o eithriadau |
y rhan fwyaf = |
90% neu fwy |
llawer = |
70% neu fwy |
mwyafrif = |
dros 60% |
hanner = |
50% |
tua hanner = |
yn agos at 50% |
lleiafrif = |
islaw 40% |
ychydig = |
islaw 20% |
ychydig iawn = |
llai na 10% |