Canllawiau i leoliadau addysg am gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol gan gyfoedion 2020 (Llywodraeth Cymru, 2020a)
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi offer ymarferol i leoliadau addysg atal ac ymateb i achosion o gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion, sy’n digwydd yn yr ysgol, a’r tu allan. Mae hyn yn cynnwys cam-drin a chamfanteisio digidol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori lleoliadau addysg i ddefnyddio’r canllawiau hyn i roi polisïau clir ar waith er mwyn atal ac ymateb i achosion o gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion, er mwyn i bob plentyn sy’n mynychu lleoliad wireddu ei hawl i fod yn ddiogel a’i hawl i gael addysg.
Mae’r canllawiau’n rhoi enghreifftiau o sut gallai aflonyddu rhywiol a cham-drin ac aflonyddu rhywol digidol ymddangos yn ymarferol. Mae’n disgrifio’r modd y mae gan leoliadau addysg ddyletswydd statudol i ddiogelu plant a phobl ifanc, hyrwyddo eu lles ac ategu eu hawliau. Mae’r canllawiau’n amlygu pwysigrwydd cofio y gall bechgyn a merched arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymatebion lles yn tueddu i gael eu rhoi i ferched, tra bod ymddygiad rhywiol niweidiol bechgyn yn cael ei weld fel mater cyfiawnder troseddol. Dylai plant sydd wedi profi cam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion gael eu cefnogi i ddweud eu dweud, cael eu clywed a gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, mewn lleoliadau addysg a’r tu allan iddynt.
Mae’r canllawiau’n rhannu cyngor am sut i weithredu ymagwedd ysgol gyfan mewn perthynas ag aflonyddu a cham-drin rhywiol, a sut i ymgysylltu â rhieni.
Mae’n cynnwys nodweddion allweddol ymagwedd amlasiantaethol lwyddiannus wrth ymateb i gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion.
Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc ar-lein – Cadw’n ddiogel ar-lein – Hwb (llyw.cymru) (Llywodraeth Cymru, 2020b)
Mae hon yn ddogfen gan Lywodraeth Cymru, wedi’i hysgrifennu’n benodol ar gyfer penaethiaid, arweinwyr diogelu ac uwch dimau arweinyddiaeth mewn lleoliadau addysg. Hefyd, mae canllaw ymarferwyr ar gael i athrawon. Amcan y canllawiau yw cefnogi ysgolion a cholegau addysg bellach wrth ymateb i ddigwyddiadau’n ymwneud â rhannu delweddau noeth neu hanner noeth (cyfeiriwyd at hyn yn flaenorol fel ‘secstio’ ac mae’n cwmpasu pob math o ddigwyddiadau’n ymwneud â rhannu delweddau), a sicrhau bod eu hymateb yn rhan o’u trefniadau diogelu.
Mae’r canllawiau’n datgan pwysigrwydd peidio â throseddoli plant yn ddiangen. Gallai plant ifanc sy’n creu ac yn rhannu delweddau noeth a hanner noeth fod yn rhoi nhw eu hunain a phlant eraill mewn perygl, ond yn aml, mae’n digwydd o ganlyniad i chwilfrydedd naturiol am ryw a’u harchwiliad o berthnasoedd. Mae’r canllawiau’n pwysleisio pwysigrwydd ystyried digwyddiadau fesul achos.
Mae’r adroddiad yn rhannu canllawiau ar ddefnyddio offer asesu fel ‘Continwwm model ymddygiad rhywiol plant a phobl ifanc’ Hackett i ysgolion eu defnyddio wrth asesu achosion o blant yn arddangos ymddygiadau rhywiol. Hefyd, mae’n cynnwys siart llif ymdrin ag ymatebion i roi arweiniad i staff ysgol pan fyddant yn delio ag achosion. Ceir canllawiau i athrawon ar sut i ymdrin â hyn yn ddiogel – gan ystyried materion diogelu, safbwynt y plentyn / person ifanc, hyrwyddo deialog a’u grymuso. Mae’n ei gwneud yn glir y dylid ond defnyddio ymarferwyr allanol i ymestyn darpariaeth lleoliad addysg, ac nid i ddarparu sesiynau annibynnol ar wahân.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: canllawiau i lywodraethwyr | LLYW.CYMRU (2016) (Llywodraeth Cymru, 2016b)
Mae’r canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i lywodraethwyr ysgolion am y materion sy’n amgylchynu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a’r angen i gael polisi priodol ar waith i helpu staff i adnabod arwyddion o gam-drin a sut i gael cymorth iddyn nhw eu hunain, cynorthwyo eu cydweithwyr a’r bobl ifanc yn eu hysgol. Mae’r canllaw’n cynnwys nifer o gamau y gall llywodraethwyr eu cymryd i wneud eu hysgol yn fwy diogel. Mae rhestr wirio i alluogi llywodraethwyr i bennu pa mor dda y mae eu hysgol wedi’i harfogi i gynorthwyo plant a phobl ifanc â materion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r VAW yn amlinellu disgwyliad fod staff ysgol yn cael hyfforddiant perthnasol i’w helpu i nodi a deall trais yn erbyn menywod.
Mae strategaeth pum mlynedd Llywodraeth Cymru ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol VAWDASV: strategaeth 2016 i 2021 | LLYW.CYMRU (Llywodraeth Cymru, 2016c) wrthi’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ac ystyriwyd materion yn ymwneud â phobl ifanc drwyddi draw. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth ddrafft newydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.
Mae grŵp VAWDASV yn Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach ac yn codi ymwybyddiaeth am VAWDASV. Mae Sbectrwm hefyd yn cyflwyno hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr ysgol am ddeall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn hyrwyddo ymagwedd ysgol gyfan at fynd i’r afael â cham-drin domestig.
Cynllun-gweithredu-cenedlaethol-atal-ac-ymateb-i-gam-drin-plant-yn-rhywiol.pdf (llyw.cymru) (Llywodraeth Cymru, 2019)
Cyhoeddwyd y ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru ar atal cam-drin plant yn rhywiol, ac ymateb i hyn, ym mis Gorffennaf 2019. Amcan 2 yw ‘Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir’. Mae’n cynnwys adran ar gam-drin rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion. Mae cyfanswm o bedwar cam i gyflawni Amcan 2. Mae’r ddau gyntaf ar gyfer Llywodraeth Cymru, a’r ddau olaf ar gyfer Byrddau Diogelu:
- Cyhoeddi Canllawiau ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn Ysgolion
- Datblygu ymgyrch poster ar berthnasoedd anniogel ac afiach i blant a rhieni / gofalwyr
- Hyrwyddo gwybodaeth i blant a rhieni / gofalwyr ar berthnasoedd iach / afiach
- Datblygu llwybr cyfeirio clir i blant sy’n arddangos ymddygiad rhywioledig amhriodol i gael asesiad cymorth cynnar
Mae’r ddogfen yn egluro pam mae ymyrraeth a chymorth cynnar yn bwysig i atal niwed i ddioddefwyr a chyflawnwyr, a’u diogelu rhag niweidio neu gam-drin plant eraill ymhellach.
Wedi ei gyhoeddi yn wreiddiol fel y cynnlun diogelu ar-lein ar gyfer plant a phobl ifance yng Nghymru mis Gorffennaf 2018, roedd y cynllun yn gosod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gydag ystod o sefydliadau partner i wella darpariaeth diogelwch ar-lein, polisi ac ymarfer ar draws Cymru. Yn 2020, esblygodd y cynllun gweithredu i adlewyrchu rôl bwysig gwytnwch seibr a diogelwch data wrth sicrhau fod plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae’n rhoi diweddariado gynnydd ar cynlluniau gwreiddiol ac yn nodi manylion 71 gweithred, gan gynnwys 26 llif gwaith newydd sydd o ran Llywodrateh Cymru er mwyn gwella darpariaeth gwytnwch digidol, polisi ac ymarfer yng Nghymru.
Mae rhai gweithredoedd penodol o waith partner, megis NCA-CEOP (gweithred 2.19), Common Sense Education (6.10) and Childnet (gweithred 6.11) yn berthnasol er mwyn sicrhau fod adnoddau dwyieithog diogelwch ar-lein ar gael i ysgolion Cymru trwy Hwb. Gall yr adnoddau hyn gefnogi ymarferwyr i ymdrin â materion aflonyddu rhywiol ar-lein, gan gynnwys rhannu lluniau noeth, a thrafod perthnasoedd iach ac afiach gyda’u dysgwyr.
(Gweler Aflonyddu rhywiol ar-lein – Hwb (gov.wales); Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc ar-lein – Cadw’n ddiogel ar-lein – Hwb (llyw.cymru) (Llywodraeth Cymru, 2020b) Perthnasoedd ar-lein – Hwb (gov.wales); Bwlio ar-lein – Hwb (gov.wales)
Cadw dysgwyr yn ddiogel | LLYW.CYMRU (Llywodraeth Cymru, 2016a)
Canllawiau cynhwysfawr i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol ar drefniadau ar gyfer diogelu plant