Cynigiodd bechgyn a merched ymatebion cynhwysfawr i ddelwedd y ffôn symudol a’r senarios posibl sy’n gysylltiedig â hi. Yn gyffredinol, roedd ymatebion pob un o’r merched yn debyg iawn i’w gilydd, fel yr oedd barn bechgyn am y problemau sy’n gysylltiedig â’r ffôn. Roedd bron pob un o’r sylwadau ynglŷn â phroblemau a phrofiadau negyddol, a llond llaw o ddisgyblion yn unig a ddewisodd ysgrifennu am fanteision cael ffôn symudol a’r pleser yr oedd yn ei roi iddyn nhw.
Roedd pum prif thema yn gysylltiedig â’r ffôn symudol, fel y nodwyd gan y disgyblion, sef:
- pwysau gan gyfoedion i gael nifer uchel o ‘ffrindiau’ ac arwyddion ‘hoffi’ ar-lein, a sylwadau ar broffiliau
- bwlio ar-lein, postio sylwadau creulon am gyfoedion, yn arbennig sylwadau am ymddangosiad
- bechgyn yn gwrthrycholi ffotograffau o ferched mewn modd rhywiol
- gofyn am ffotograffau noeth neu hanner noeth, eu hanfon a’u rhannu
- swyno trwy dwyll, ceisiadau digymell i fod yn ffrind neu ofyn am ffotograffau noeth gan ddieithriaid neu bobl sydd â phroffil ffug ar y cyfryngau cymdeithasol
- agweddau negyddol tuag at gymeriadau benywaidd ac.neu pan mae Mercherd yn chwarae gemau digidol
Er bod pobl ifanc yn hynod werthfawrogol o’u ffonau symudol, esbonion nhw’n glir y problemau sy’n gysylltiedig â nhw, a sut gall y rhain effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl. Ar sail eu sylwadau, roedd yn glir fod pobl ifanc yn teimlo bod pwysau i bostio sylwadau poblogaidd yn rheolaidd, a chael eu ‘hoffi’ ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd tystiolaeth glir o bobl ifanc yn eu harddegau yn treulio llawer o’u hamser ar gyfryngau cymdeithasol yn postio a chynhyrchu cefnogaeth.
“Rydych chi’n cael eich gwneud i deimlo fel bod rhaid i chi bostio i blesio pobl a chael arwyddion ‘hoffi’. Mae pwysau i bostio bob awr o bob dydd.”
Roeddent yn teimlo bod hyn, ynghyd â’u profiadau o fwlio ac aflonyddu ar-lein, yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, yn niweidio eu hunan-barch a’u hyder. Disgrifiodd y rhan fwyaf o’r merched y brif broblem â ffonau symudol, sef pobl ifanc yn cymharu ymddangosiad corfforol â phobl eraill.
Soniodd llawer o bobl ifanc eu bod wedi cael negeseuon amhriodol a’u bwlio yn gyffredinol ynghylch hyn. Er enghraifft, disgrifiodd llawer ohonynt sut gall merched gael sylwadau negyddol gan ferched eraill yn sgil rhannu llun neis ohonyn nhw eu hunain. Soniodd lleiafrif y merched eu bod dan bwysau i gydymffurfio â disgwyliadau penodol am siâp ac ymddangosiad lle byddai merched ifanc deniadol yn postio lluniau ohonyn nhw eu hunain yn rheolaidd ac yn disgwyl i bobl eraill wneud sylwadau canmoliaethus amdanyn nhw a’r ffordd roeddent yn edrych. Siaradodd ychydig o ferched am fwlio mwy targedig rhwng merched pan fyddant yn rhoi straeon ar led am weithgarwch rhywiol merched eraill, yn eu herio i gael rhyw neu anfon ffotograffau ohonyn nhw eu hunain yn eu dillad isaf. Wedyn, mae merched yn rhannu’r ffotograffau hyn o gwmpas ac yn galw enwau arnyn nhw fel “slag” a “slwten”.
“Mae llawer o fwlio ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn pigo ar bobl eraill oherwydd eu golwg. Gallai hyn gael effaith ar bobl yn feddyliol, yn enwedig os yw rhywun yn galw chi’n ‘hwren’ neu’n ‘slag’.”
Roedd lleiafrif o ferched yn aml yn pryderu am effeithiau bwlio ar-lein, yn dweud y gall hyn arwain at orbryder, iselder a dysmorffia’r corff, a allai hefyd arwain at anhwylderau bwyta a hunangasineb. Siaradodd ychydig iawn ohonynt am ffrindiau benywaidd oedd â phrofiad o rai o’r problemau hyn.
Hefyd, siaradodd bechgyn yn eang am fwlio ar-lein a phwysau gan gyfoedion. Sonion nhw am y pwysau i fod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol, a bod angen cael arwyddion ‘hoffi’ a ‘dilynwyr’. Er eu bod yn cyfaddef gwneud hyn eu hunain, sylweddolodd llawer ohonynt y gallai bod mewn cysylltiad â dieithriaid arwain at broblemau. Roedd ymatebion llawer o fechgyn ynglŷn ag anfon a derbyn sylwadau a negeseuon testun di-chwaeth gan fechgyn eraill, yn aml yn gysylltiedig â chywilyddio rhywun oherwydd ei gorff neu wneud hwyl o bostiadau bechgyn eraill. Roedd bechgyn iau ym Mlwyddyn 8 ac ambell un ym Mlwyddyn 9 yn cysylltu’r ddelwedd hon â bwlio cyffredinol a dweud pethau cas wrth ei gilydd, nid o reidrwydd am eu rhywioldeb, rhywedd na’r ffordd roeddent yn edrych. Roeddent yn ymwybodol o sut y gellir defnyddio ffôn neu gyfryngau cymdeithasol i aflonyddu ar eraill yn rhywiol, ond nid oedd llawer ohonynt wedi gweld unrhyw enghreifftiau eu hunain.
O ran secstio, rhywioli cyfoedion ac anfon ffotograffau noeth, nododd bron pob disgybl o Flwyddyn 10 ymlaen faterion cyffredin. Mae’n amlwg bod pwysau i rannu ffotograffau noeth, colli rheolaeth dros ddelweddau wedi iddynt gael eu rhannu, a phobl ifanc yn cael eu gwneud i deimlo’n euog pan na fyddant yn anfon ffotograffau, yn gyffredin. Dywed y rhan fwyaf o ferched fod bechgyn yn gofyn am ffotograffau ohonynt yn noeth yn digwydd yn rheolaidd, a siaradon nhw am y pwysau parhaus gan fechgyn i anfon ffotograffau – “mae’n digwydd bob dydd – mae’n gyffredin iawn”. Dywedodd ychydig o’r merched hŷn eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond cydymffurfio.
“Mae bechgyn yn gofyn am luniau noeth neu’n parhau i sbamio’ch ffôn.”
Roedd y rhan fwyaf o ferched yn gwybod am beryglon cytuno i anfon ffotograffau trwy neges destun, yn enwedig pan roedden nhw neu’u ffrindiau yn gwisgo bicinis. Roeddent yn ymwybodol iawn fod y bygythiad y byddai unrhyw un yn eu rhannu ymhellach yn real iawn. Dywedodd ychydig o ferched eu bod wedi cael negeseuon yn gofyn am ffotograffau ohonyn nhw eu hunain yn noeth – gan gariadon yn gyffredinol, a dywedon nhw fod pob un ohonynt wedi dod â’r berthynas i ben yn syth ar ôl hynny. Dywedodd pob un o’r merched mai bechgyn yn unig sy’n gofyn am ffotograffau noeth, ond roedd ychydig ohonynt yn beio merched am gydymffurfio “dim ond i blesio bechgyn a chael eu hoffi neu’u caru’n fwy”. Mewn ychydig o grwpiau ffocws, dywedodd merched fod bechgyn yn aml yn postio ar gyfryngau cymdeithasol eu bod wedi cael rhyw â nhw pan nad yw hyn yn wir – yn aml yn creu storïau ac yn brolio am orchestion rhywiol.
Siaradodd dros hanner y bechgyn am fod ynghlwm yn bersonol ag aflonyddu’n rhywiol ar gyfoedion, er enghraifft aflonyddu ar ferched gyda delweddau noeth o ddieithriaid neu ffotograffau neu fideos amhriodol eraill. Hefyd, siaradodd bechgyn am y pwysau gan fechgyn eraill i anfon ffotograffau noeth neu gynnwys rhywiol yn erbyn eu hewyllys. Dywedodd llawer o fechgyn fod rhannu ffotograffau noeth o ferched ymhlith eu ffrindiau a brolio am nifer y ffotograffau noeth oedd ganddynt yn eu meddiant yn gyffredin. Ym mwyafrif yr achosion, cydnabu bechgyn fod hyn yn anghywir ac yn amharchus. Teimlai ychydig o fechgyn fod anfon neu dderbyn negeseuon anweddus yr un mor ddrwg, gan fod y bechgyn hynny oedd yn eu derbyn bron bob amser yn eu rhannu â’u ffrindiau, er eu bod yn gwybod y dylent roi gwybod i rywun am y neges, neu’i dileu. Mewn rhai grwpiau ffocws, dywedodd llawer o fechgyn eu bod wedi anfon sylwadau rhywiol mewn negeseuon testun at eu ffrindiau gwrywaidd a benywaidd, gan ddweud bod hyn yn gyffredin a dim ond yn ychydig o hwyl, “mae pawb yn ei ddisgwyl”.
“Byddwn ni’n aml yn anfon sylwadau at ein gilydd yn beirniadu merched neu fechgyn oherwydd y ffordd maen nhw’n edrych neu byddan nhw’n dweud bod nhw wedi cael rhyw â nhw pan nad yw hyn yn wir.”
Dywedodd lleiafrif y bechgyn hŷn fod porn yn cael ei rannu o gwmpas gan fod “bechgyn eisiau gwneud argraff ar eu ffrindiau”. Dywedodd ychydig o fechgyn fod ffotograffau pornograffig neu anweddus wedi cael eu hanfon atyn nhw, ond nid o ferched maen nhw’n eu hadnabod. Pan ofynnwyd a oeddent yn meddwl bod hyn yn dderbyniol, dywedodd lleiafrif ohonynt ei fod yn “iawn ar yr amod nad ydych chi’n adnabod y merched yn y lluniau”.
At ei gilydd, ychydig o ddisgyblion LHDTC+ yn unig a ddywedodd fod ganddynt brofiad personol o secstio, ond roedd llawer ohonynt wedi clywed am achosion o bobl yn gofyn i ddisgyblion anfon ffotograffau noeth ohonyn nhw eu hunain at gariadon. Dywedodd ychydig ohonynt fod gan aelodau o’r gymuned LHDTC+ fwy o barch at ei gilydd na phobl ifanc eraill.
“Rydyn ni’n fwy preifat, ac yn gofalu am ein gilydd gan nad ydy neb arall. Rydyn ni’n siarad amdano yn y clwb LHDTC+. Does dim byd yn digwydd mewn gwirionedd ar ôl hynny, ond rydyn ni’n cael cyfle i siarad amdano.”
Pan fu arolygwyr yn trafod ffynonellau cymorth ar gyfer aflonyddu rhywiol ar-lein, secstio a materion yn ymwneud ag anfon ffotograffau anweddus, dywedodd disgyblion yn nodweddiadol y byddent yn estyn allan i’w ffrindiau. Nododd ychydig ohonynt eu bod wedi cael rhai gweithgareddau wedi’u harwain gan athrawon i amlygu peryglon secstio, ac wedi cael eu hannog i roi gwybod i’w pennaeth blwyddyn am unrhyw ddigwyddiadau. Er bod llawer o ddisgyblion yn deall bod angen rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar gyfryngau cymdeithasol, ni ddywedon nhw yn nodweddiadol y byddent yn dweud wrth eu hathrawon.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyfeirio at broblemau â ‘swyno trwy dwyll’ lle mae disgyblion yn creu cyfrifon ffug i anfon delweddau digymell ac aflonyddu ar ddisgyblion eraill. Dywedodd disgyblion fod swyno trwy dwyll yn broblem gyffredin ac fel arfer yn cynnwys dynion hŷn yn targedu merched ifanc – dywedodd nifer sylweddol o ferched eu bod wedi cael eu targedu. Nododd lleiafrif y merched eu bod wedi derbyn lluniau a negeseuon testun amhriodol gan ddieithriaid ac nid gan gyfoedion, fel arfer ar gyfryngau cymdeithasol. Cyfeirion nhw at y rhain fel negeseuon dieisiau ac annifyr.
Mae’n glir fod mwyafrif y bobl ifanc yn gwybod sut i adnabod cyfrifon ffug ac yn teimlo eu bod yn gallu eu rhwystro. Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn deall y term ‘rhagbaratoi’ ac yn dweud y byddent yn rhoi gwybod i rywun pe bai’n digwydd iddyn nhw. Ysgrifennodd llawer ohonynt am beryglon cwrdd â phobl dydyn nhw ddim yn eu hadnabod, yn enwedig os gofynnwyd iddynt anfon ffotograffau ohonyn nhw eu hunain. Dywedon nhw na fyddent yn ‘ffrind’ i unrhyw un ar gyfryngau cymdeithasol doedden nhw ddim yn ei adnabod. Siaradodd merched hŷn am dderbyn negeseuon gan ddynion a bechgyn nad ydynt yn eu hadnabod ar Instagram yn gofyn iddynt anfon delweddau ohonyn nhw eu hunain, “yn begian am luniau noeth”. Pan ofynnwyd iddynt beth fyddent yn ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn ac at bwy fyddent yn troi am gymorth, dywedodd llawer o ddisgyblion y byddent yn ‘atal’ (blocio) y cyflawnwr, yn rhoi gwybod i ffrind, athro neu riant am y mater, neu’n gofyn i’r heddlu am gymorth.