'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Negeseuon allweddol o ymchwil

Share document

Share this

Ymddygiad rhywiol niweidiol

Defnyddir y term ‘ymddygiad rhywiol niweidiol’ i ddisgrifio continwwm o ymddygiadau rhywiol, o normal i ddifrïol a threisgar. Ceir amrediad o ymddygiadau cyffredin ac iach ar wahanol gamau datblygiadol. Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn ymddwyn mewn ffyrdd yr ystyrir eu bod y tu allan i’r amrediad hwn, gellir galw eu hymddygiad yn ‘niweidiol’ gan ei fod yn niweidiol iddo’i hun neu bobl eraill.

Mae Hackett (2010) wedi cynnig model continwwm i arddangos amrediad ymddygiadau rhywiol a gyflwynir gan blant a phobl ifanc, a ddylai helpu pobl broffesiynol i nodi pa ymddygiadau sydd o bosibl yn niweidiol, a pha rai sy’n cynrychioli datblygiad rhywiol iach.

Normal

  • Yn ddisgwyliedig o ran datblygiad
  • Yn dderbyniol yn gymdeithasol
  • Cydsyniol, cilyddol, dwyochrog
  • Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Amhriodol

  • Achosion unigol o ymddygiad rhywiol amhriodol
  • Ymddygiad derbyniol yn gymdeithasol mewn grŵp cyfoedion
  • Gallai’r cyd-destun ar gyfer ymddygiad fod yn amhriodol
  • Yn gydsyniol a dwyochrog, ar y cyfan

Problemus

  • Ymddygiadau problemus a phryderus
  • Yn anarferol o ran datblygiad ac yn annisgwyl yn gymdeithasol
  • Dim elfennau erlid amlwg
  • Gallai materion cydsynio fod yn aneglur
  • Gallai fod diffyg dwyochredd neu bŵer cyfartal
  • Gallai gynnwys lefelau o anniwallrwydd

Difrïol

  • Bwriad neu ganlyniad erlid
  • Yn cynnwys camddefnyddio pŵer
  • Gorfodaeth a grym i sicrhau bod y dioddefwr yn cydymffurfio
  • Ymwthgar
  • Diffyg cydsynio gwybodus, neu ni all y dioddefwr gydsynio’n rhwydd
  • Gallai gynnwys elfennau o drais mynegiannol

Treisgar

  • Camdriniaeth rywiol sy’n gorfforol dreisgar
  • Hynod ymwthgar
  • Trais cyfrannol sy’n cyffroi’r tramgwyddwr yn ffisiolegol neu’n rhywiol
  • Sadistiaeth

 

Yn 2011, cyhoeddodd Adran Addysg Llywodraeth y DUadolygiad o fasnacheiddio a rhywioli plentyndod, gan archwilio’r pwysau a roddir ar blant i dyfu i fyny’n rhy gyflym. Mae Letting children be children: Report of an Independent Review of the Commercialisation and Sexualisation of Childhood (Bailey, 2011) yn elwa ar ymchwil gyda phlant a phobl ifanc ac yn nodi sut mae ein diwylliant wedi dod yn gynyddol rywiol a rhywioledig. Gellir gweld tystiolaeth o hyn yn y cynnydd mewn dillad, cynhyrchion a gwasanaethau rhywioledig, ac sy’n seiliedig ar stereoteipiau rhywedd, ar gyfer plant. Yn ychwanegol, mae’r adroddiad yn ystyried y pwysau ar blant o ystod o ffynonellau masnachol fel cwmnïau sy’n ‘gwthio’r ffiniau’ wrth hysbysebu iddyn nhw. Argymhellodd yr adroddiad y dylid diffinio plentyn o dan 16 oed ym mhob math o reoleiddio hysbysebu.

Yn 2013, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru adroddiad a ariannwyd ar y cyd a gafodd ei ddylunio a’i gynnal gan yr Athro EJ Renold o Brifysgol Caerdydd. Mae Bechgyn a Merched yn Codi Llais: Astudiaeth Ansoddol o Ddiwylliannau Rhywedd a Rhywiol Plant (Comisiynydd Plant Cymru, 2013) yn archwilio’r modd y mae rhywioldeb a dysgu rhywiol yn rhan o fywydau bob dydd plant. Mae plant yn mynd ati i drafod a dysgu am y ffyrdd gwrthwynebol y mae rhywioldeb yn ffurfio pwy ydyn nhw, sut maen nhw’n teimlo yn eu cyrff, sut maen nhw’n uniaethu â phobl eraill a sut mae pobl eraill yn uniaethu â nhw. Canfu’r adroddiad nad yw ofnau oedolion am blant ‘yn tyfu i fyny’n rhy fuan’ yn gysylltiedig â phrofiadau’r plant eu hunain. Siaradodd bechgyn a merched a gymerodd ran yn y gwaith am ‘edrych yn hŷn’ neu ‘edrych yn rhywiol’ mewn ffyrdd gwahanol iawn. Anaml yr oedd ‘edrych yn hŷn’ (e.e. gwisgo sodlau uchel neu feithrin ‘six packs’) ynglŷn â ‘bod yn rhywiol’ i blant 10-12 oed. I ychydig o blant, yn enwedig merched, roedd mynd yn hŷn yn ymgais am ymreolaeth gymdeithasol ac awydd i gael mwy o ryddid gan oedolion eraill yn eu bywydau. I blant eraill, roedd edrych yn iau yn beryglus ac edrych yn hŷn ynglŷn ag amddiffyn eu hunain rhag trais gan gyfoedion yn eu cymuned. Siaradodd merched o bob oedran am y ffaith fod eu cyrff yn cael eu barnu a’u hystyried yn barhaus. Yn ychwanegol, dywedodd llawer o ferched eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol geiriol oddi mewn i’w diwylliant cyfoedion eu hunain (bechgyn a merched) a gan fechgyn hŷn, ac yn fwy mewn lleoedd cyhoeddus nac ar-lein. Canfu’r adroddiad fod llawer o blant, er eu bod yn ifanc o hyd, yn flin fod rhaid iddynt fyw mewn diwylliant cyfoedion a chymdeithas rywiaethol.

Yn 2017, cyhoeddodd yr NSPCC ddogfen Impact and evidence series: Children and young people who engage in technology-assisted harmful sexual behaviour. A study of their behaviours, backgrounds, and characteristics (Hollis a Belton, 2017). Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data o wasanaeth Troi’r Dudalen yr NSPCC, sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc 5-18 oed sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae’r adroddiad yn defnyddio carfan o 91 o fechgyn a dynion ifanc. Canfu’r astudiaeth mai’r math mwyaf cyffredin o ymddygiad rhywiol niweidiol wedi’i gynorthwyo gan dechnoleg oedd meddu ar ddelweddau anweddus, neu eu dosbarthu,. Mae hyn yn cynnwys secstio delweddau, defnydd datblygiadol amhriodol o bornograffi, anfon negeseuon testun rhywiol, yn cynnwys secstio heb ddelweddau ac amlygu plant a phobl ifanc eraill i bornograffi.

Yn 2017, cyhoeddodd Stonewall Cymru adroddiad Adroddiad Ysgol Cymru: Profiadau pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ysgolion Cymru yn 2017 (Stonewall Cymru, 2017). Mae’r adroddiad hwn yn canfod bod mwy na hanner y disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol neu’r rhai sy’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd (LHDTC+) yng Nghymru (yn cynnwys 73% o ddisgyblion trawsryweddol) yn cael eu bwlio yn yr ysgol am fod yn LHDT. Mae tri o bob pum disgybl LHDTC+ yn clywed iaith homoffobig ‘yn fynych' neu’n 'aml' yn yr ysgol. Mae naw o bob deg disgybl LHDTC+ yn clywed ymadroddion fel ‘mae hynny mor ‘gay’’ neu ‘rwyt ti mor ‘gay’' yn rheolaidd. Fodd bynnag, nid yw tua hanner y disgyblion LHDTC+ sy’n profi bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig byth yn dweud wrth unrhyw un amdano.

Yn 2018, cyhoeddwyd adroddiad gan y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, Negeseuon allweddol o’r ymchwil ar blant a phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol (McNeish a Scott, 2018). Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn dîm amlddisgyblaethol annibynnol, a ariennir gan y Swyddfa Gartref. Caiff ei chynnal gan elsuen Barnardos, ac mae’r tîm yn gweithio’n agos â phartneriaid allweddol o sefydliadau academaidd, awdurdodau lleol, iechyd, addysg, yr heddlu a’r sector gwirfoddol. Mae’r adroddiad yn datgan nad oes unrhyw ffigurau cywir ar sbectrwm llawn ymddygiad rhywiol niweidiol. Nid yw mwyafrif y plant a’r bobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol yn dod yn droseddwyr rhywiol pan fyddant yn oedolion. Mae ymddygiad rhywiol niweidiol mewn plant cyn y glasoed yn fwy tebygol o fod ar ben ‘amhriodol’ neu ‘broblemus’ y continwwm yn hytrach na bod yn ‘ddifrïol’ neu’n ‘dreisgar’ (McNeish a Scott, 2018, t.2). Gallai plant ifanc fod yn ‘actio’ camdriniaeth maen nhw wedi’i phrofi eu hunain neu’n ymateb i achos arall o drawma ac esgeulustod. Dechrau’r arddegau yw’r cyfnod amlycaf ar gyfer achosion o ymddygiad rhywiol niweidiol, sy’n cael ei arddangos fwyaf gan fechgyn. Ceir rhai gwahaniaethau o ran rhywedd, ac mae merched yn tueddu i fod yn iau pan nodir eu hymddygiad rhywiol niweidiol.

Mae’r adroddiad yn datgan bod yna ymchwil gyhoeddedig gyfyngedig ar ymyriadau effeithiol, yn enwedig ar ben ‘problemus’ y continwwm ymddygiad rhywiol niweidiol. Fodd bynnag, mae consensws cyffredinol fod angen i ymyriadau fod yn gyfannol, canolbwyntio ar y plentyn a chynnwys teuluoedd. Dylai gwasanaethau osgoi stigmateiddio plant a phobl ifanc fel ‘troseddwyr rhyw sy’n oedolion bach’ (McNeish a Scott, 2018, t.2). Mae’r addysg fwyaf effeithiol ar atal yn defnyddio ymagwedd ‘ysgol gyfan’ at berthnasoedd iach, mae’n addysg dros y tymor hwy, ac mae’n cynnwys pobl ifanc mewn datblygu a chyflwyno. Mae Bovarnick a Scott (2016), fel y dyfynnir yn McNeish a Scott (2018, t.7), yn dadlau taw ‘ochr yn ochr â sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, mae’r ysgolion gorau yn ystyried sut maent yn hyrwyddo perthnasoedd iach ar draws y cwricwlwm, yn eu polisïau bwlio a diogelu, yn eu cymorth bugeiliol ac yn y wybodaeth a’r cymorth y maent yn eu rhoi i rieni’.

Yn 2020, archwiliodd yr NSPCC ddiogelwch plant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio 10 dangosydd yn eu hadroddiad, Pa mor ddiogel yw ein plant 2020? (Bentley etal., 2020). Yn y bennod ar ymddygiad rhywiol niweidiol yng nghyfnod y glasoed, mae’r adroddiad yn datgan na chafodd y gyfraith mewn perthynas â throseddau rhywiol byth ei datblygu gydag anghenion plant a phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiadau rhywiol niweidiol mewn cof. Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn ei gwneud yn broses aneffeithiol a difrïol yn aml ar gyfer delio ag achosion o ymddygiad rhywiol niweidiol ymhlith y glasoed. Mae ymchwil yr NSPCC yn dangos y gallai plant dan 18 oed fod yn gyfrifol am o leiaf draean o droseddau rhywiol wedi eu cofnodi yn erbyn plant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig. Caiff mwyafrif helaeth y gamdriniaeth ei chyflawni gan fechgyn, gyda merched yn nodweddiadol yn cael eu gor-gynrychioli ymhlith dioddefwyr. Mae ymddygiad rhywiol niweidiol ymhlith bechgyn yn tueddu i ddigwydd pan fyddant tua 13 i 14 oed, ar gyfartaledd, sy’n cyd-fynd â dechrau’r glasoed.

Mae’r adroddiad yn datgan bod atal plant a phobl ifanc sydd wedi arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol rhag cam-drin mwy o ddioddefwyr yn nod diogelu allweddol. Ond mae angen i bobl ifanc sydd wedi arddangos yr ymddygiadau hyn gael eu hamddiffyn hefyd, ac fel eu dioddefwyr, mae ganddynt hawl i anogaeth, parch, bywyd teuluol, addysg a chynhwysiant cymdeithasol. Mae hynny’n golygu ymgorffori’r hawliau hyn mewn ymatebion ar gyfer pobl ifanc sydd wedi arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol, hyd yn oed pan mae eu gweithredoedd wedi achosi niwed sylweddol i rai eraill.

Dywed yr adroddiad fod angen i bob person ifanc gael cymorth ac arweiniad gan oedolion ymddiriedus, i ateb eu cwestiynau a’u helpu i lywio eu datblygiad rhywiol mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol. Mae angen i bob un ohonynt gael negeseuon cadarnhaol a chyson gan yr oedolion sy’n gyfrifol am eu lles (yn broffesiynol neu fel arall) am ryw a pherthnasoedd, ac am gadw’n ddiogel a bod yn barchus ar-lein ac all-lein.

Yn 2021, yn eu hadroddiad  ‘Dwi’n trystio nhw’ Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru: ffynonellau gwydnwch yn y gymuned: Canlyniadau Arolwg Cymorth i Ferched Cymru, archwiliodd Cymorth i Ferched Cymru (2021b) ffynonellau gwydnwch mewn cymunedau trwy holiadur ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc 13-25 mlwydd oed. Canfu’r adroddiad fod y rhyngrwyd yn cael ei hystyried yn helaeth fel un o’r prif ffynonellau cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc. Dywedodd wyth deg y cant o ymatebwyr eu bod yn chwilio ar y rhyngrwyd am gymorth ac arweiniad. Ni ddywedodd unrhyw un y byddent yn gofyn am gymorth gan yr heddlu. Roedd pobl ifanc 13-17 oed yn llai tebygol o ofyn am gymorth gan ‘addysg’ hefyd. Y rhinweddau cefnogol a oedd yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan bobl ifanc oedd cael cyngor diduedd, bod pobl yn ymddiried ynddynt, teimlo’n ddiogel, a pheidio â chael eu barnu. Y prif rwystr rhag ceisio cymorth oedd diffyg ymddiriedaeth y byddai sgyrsiau’n aros yn gyfrinachol, yn enwedig gweithwyr proffesiynol yn rhoi gwybod i rieni. Roedd rhwystrau eraill yn cynnwys teimlo bod dim croeso iddynt, a’u bod yn ddihyder.

Share document

Share this