Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr a staff bugeiliol yn hyrwyddo a chynnal diwylliant cryf o ddiogelu a lles. Yn yr ysgolion hyn, mae staff yn teimlo eu bod yn cael cymorth da ac yn hyderus bod y systemau sydd ar waith yn helpu diogelu pob aelod o gymuned yr ysgol. Yn y mwyafrif o achosion, mae datganiad cenhadaeth yr ysgol yn pwysleisio’n gryf bwysigrwydd canolog gwerthoedd fel parch a charedigrwydd. Mae polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer staff a disgyblion yn cysylltu’n glir â nodau ac amcanion sy’n sicrhau bod lles wrth wraidd gwaith yr ysgol. Bron ym mhob ysgol, caiff staff hyfforddiant diogelu rheolaidd, ac mae gweithdrefnau recriwtio diogel yn gadarn.
At ei gilydd, mae diwylliant o barch yn nodwedd gyffredin mewn ysgolion ag iddynt gymeriad crefyddol hefyd. Mewn un ysgol ffydd, mae ffocws cryf iawn ar urddas a pharch personol disgyblion at ei gilydd, sydd bob amser yn cael ei ategu gan gatecismau Catholig. Mewn cyfarfodydd gydag arolygwyr mewn un ysgol ffydd annibynnol, dangosodd bron pob un o’r staff eu bod yn rhannu gwerthoedd yr ysgol i fod yn gymuned Gristnogol ofalgar a pharchus sy’n disgrifio’i hun fel teulu. Mewn ychydig iawn o achosion, nid yw ysgolion ffydd yn rhoi ymateb cytbwys pan fydd disgyblion yn trafod eu rhywioldeb. Er enghraifft, nid ydynt yn rhoi cymorth a dealltwriaeth briodol i ddisgyblion LHDTC+ pan fyddant yn cwestiynu neu’n datgan eu rhywioldeb.
Mae gan bob ysgol bolisi diogelu ar waith, a bron ym mhob achos, mae ysgolion yn cyflawni’r gofyniad statudol i gwblhau adolygiad a diweddariad blynyddol o’r polisi. At ei gilydd, mae polisïau’n briodol ac mae canllawiau clir a chynhwysfawr i staff ysgolion ar sut i adnabod achosion o gam-drin, bwlio ac aflonyddu, ac ymateb iddynt. Yn y polisïau diogelu gorau, cyfeirir at ystod eang o fathau o fwlio ac aflonyddu, yn cynnwys manylion sylweddol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Cyfeirir at y naw nodwedd warchodedig (gweler yr Eirfa) ac ymrwymiad clir i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn y polisïau diogelu hyn, ceir adran werthfawr hefyd ar y modd y dylai’r ysgol a’i staff weithio mewn modd rhagweithiol i sicrhau bod eu holl ddisgyblion yn ddiogel rhag niwed. Mewn ychydig iawn o ysgolion, mae’r polisi diogelu yn annigonol ac yn anaddas at ei ddiben.
Mewn llawer o ysgolion, ceir ymagwedd gref tîm at ddiogelu. Mae arweinwyr yn blaenoriaethu lles ac yn sicrhau bod digon o staff bugeiliol a staff cymorth yn cael eu cyflogi i gyflawni eu dyletswyddau diogelu. Maent yn darparu arweiniad a hyfforddiant addas i sicrhau bod staff ar bob lefel yn deall eu cyfrifoldebau i ddiogelu plant.
Ym mhob achos a rannwyd ag arolygwyr, roedd ysgolion wedi delio’n dda gyda mater diogelu, sy’n cynnwys gwneud cyfeiriadau priodol at asiantaethau allanol perthnasol fel gwasanaethau plant neu’r heddlu. Roedd tystiolaeth gref hefyd o ysgolion yn darparu ymyriadau addas i helpu cyflawnwyr i sylweddoli difrifoldeb eu gweithredoedd a rhoi cymorth buddiol i ddioddefwyr.
Ymagwedd strategol tîm at ddiogelu
Yn nhymor yr haf, 2021, gwnaeth un uwch dîm arweinyddiaeth benderfyniad strategol i ymateb i’r materion a godwyd trwy wefan Everyone’s Invited. Arweiniodd hyn at benodi ‘Arweinydd Lles Corfforaethol’ nad yw’n addysgu, a phum ‘Hyrwyddwr ABCh’. Gyda’i gilydd, maent wedi creu polisi newydd ar gydberthynas a rhywioldeb ac wedi cynllunio cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant ysgol gyfan trwy gydol y flwyddyn academaidd 2021-2022.
Bron ym mhob un o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae staff yn gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt unrhyw bryder am ddisgybl, ac yn siarad yn hyderus am eu gallu i adnabod arwyddion o gam-drin. Mae ganddynt ddealltwriaeth glir a chywir o beth mae niwed sylweddol yn ei olygu o ran diogelu plant. Mae staff yn dweud wrthym eu bod yn deall sut mae ymddygiad rhywiol niweidiol hefyd yn cael ei ystyried yn fater diogelu ac y byddent yn rhoi gwybod am bryderon am hyn yn yr un ffordd. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion, nid yw athrawon, ac uwch arweinwyr a staff cymorth i raddau llai, yn gwbl ymwybodol o fynychter llawn aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn eu hysgol, fel y dywedodd eu disgyblion wrthym ni, ac nid ydynt yn ymwybodol ei bod yn broblem sylweddol. Mae hyn oherwydd, er ei fod yn gyffredin mewn bywyd ysgol a’r tu allan i’r ysgol, nid yw disgyblion yn rhoi gwybod yn systematig i staff ysgol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Mae gofyniad statudol ar ysgolion i gael unigolyn diogelu dynodedig wedi’i enwi i oruchwylio diogelu ac amddiffyn plant. Ar draws y rhan fwyaf o ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae ansawdd gwaith yr unigolyn diogelu dynodedig o ran ymateb i bryderon ynghylch diogelu yn gryfder. Yn aml, maent yn arweinwyr profiadol sy’n cyflawni eu cyfrifoldebau’n dda. Fel arfer, maent wedi eu hyfforddi’n dda, yn aml gan asiantaethau statudol allanol perthnasol, ac yn wybodus iawn am Weithdrefnau Diogelu Cymru (2020). Fel arfer, cânt gymorth buddiol gan ddirprwy unigolyn diogelu dynodedig sydd wedi’i hyfforddi’n addas a thîm hyfforddedig o arweinwyr bugeiliol neu arweinwyr lles a staff cymorth. Mewn llawer o ysgolion, ceir ymagwedd gref tîm at ddelio â materion diogelu ac mae hyn yn golygu bod disgyblion a staff yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r sawl y gallant droi atynt am gymorth.
Er ei bod yn amlwg bod unigolion diogelu dynodedig ar draws y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cymorth cryf ac ymatebol o ran pryderon ynghylch diogelu, anaml y maent yn cyflawni rôl ragweithiol. Yn y mwyafrif o ysgolion, mae gan yr unigolyn diogelu dynodedig rolau eraill yn cynnwys ymrwymiadau addysgu sy’n ei gwneud yn amhosibl iddynt wneud mwy nag ymateb i bryderon pan fyddant yn codi. Mae’r dyraniad amser i gyflawni rôl unigolyn diogelu dynodedig yn dibynnu ar adnoddau ariannol ac adnoddau dynol yr ysgol.
Mae un ysgol yn trefnu ‘Diwrnodau Enfys’ rheolaidd lle mae staff a disgyblion LHDTC+ yn trefnu cyflwyniadau mewn gwasanaethau rhithwir yn ystod amser dosbarth. Dilynir y rhain gan drafodaethau dosbarth ar faterion amrywiaeth. Mae gan ysgol arall ‘Grŵp Enfys’, sef is-bwyllgor y Cyngor Ysgol sy’n canolbwyntio ar faterion cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae clwb LHDTC+ mewn un ysgol yn gweithredu fel grŵp cyfeirio, yn cynghori staff ar faterion amrywiaeth ac yn rhoi arweiniad ar ddefnyddio termau’n gywir.
Mae un ysgol Yr Eglwys yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod cymuned yr ysgol gyfan, yn cynnwys ysgolion cynradd dalgylchol, yn deall eu gwerthoedd a’u hethos fod amrywiaeth yn normal, ac yn rhywbeth i’w groesawu a’i ddathlu.
Diwylliant o barch
Mae’r ysgol yn mynd ati i hyrwyddo ei diwylliant cryf o barch trwy ei gwaith pontio gyda disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 yn ei hysgolion bwydo. Mae’r ysgol yn cysylltu gwerthoedd y Beibl a’r Efengyl, yn enwedig pwysigrwydd sut rydych chi’n trin pobl eraill yn ei gweithgareddau pontio. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn hyrwyddo parch trwy weddïau dosbarth bob dydd, addoli ar y cyd a chyflwyniadau arbennig. Mae ethos Cristnogol yn treiddio trwy holl waith ABCh yr ysgol, a cheir synnwyr cryf o werth mewn amrywiaeth. Mae disgyblion LHDTC+ yn y chweched dosbarth wedi cael hyfforddiant buddiol gan Dîm Sbectrwm Hafan Cymru, ac yn trefnu gwasanaethau addysgiadol a chefnogol ar gyfer pob grŵp blwyddyn. (Caiff prosiect Sbectrwm ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno sesiynau ar berthnasoedd iach a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) i ysgolion cynradd ac uwchradd).
Ers cyhoeddi’r tystiolaethau ar wefan Everyone’s Invited, mae ychydig o ysgolion wedi adolygu eu polisïau a’u gweithdrefnau ar gyfer diogelu. Newidiodd un ysgol enw ei ‘Pholisi Ymddygiad’ i ‘Polisi Perthnasoedd’ ac mae wedi gwneud addasiadau addas i amlygu ymddygiad ac agweddau derbyniol ac annerbyniol. Cynhaliodd un ysgol archwiliad diogelu gyda chymorth swyddog awdurdod lleol i chwilio am dystiolaeth o waith rhagweithiol ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Helpodd y broses hon yr ysgol i nodi cryfderau a meysydd allweddol i’w datblygu ymhellach. Mae ychydig o’r ysgolion a enwir yn Everyone’s Invited wedi dechrau eu holiadur eu hunain i ddisgyblion, ac erbyn hyn, maent yn gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr allanol i gynllunio newidiadau i’w darpariaeth.
Ymateb cyflym i faterion sy’n dod i’r amlwg
Wrth ymateb i Everyone’s Invited a llofruddiaeth Sarah Everard, gweithiodd un ysgol yn gyflym i gynllunio gweithgareddau ymgynghori gyda disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan. Gweithion nhw gyda phartneriaid allanol i greu holiaduron i ddisgyblion a threfnu grwpiau trafod â ffocws. Erbyn hyn, mae arweinwyr yn cynllunio darpariaeth briodol i ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg a materion gwaelodol sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn ymgynghori â’u disgyblion.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae systemau a phrosesau effeithiol i staff gofnodi pryderon a chamau gweithredu. Mae llawer o ysgolion yn defnyddio system gwybodaeth reoli fasnachol ar-lein i gofnodi achosion, pryderon neu atgyfeiriadau i asiantaethau statudol allanol. At ei gilydd, mae staff yn defnyddio systemau o’r fath yn rheolaidd ac yn dda, ac mae arweinwyr yn ymateb yn gyflym ac yn briodol i wybodaeth newydd am ddigwyddiadau unigol. Ceir amrywiad yn natur y pryderon sy’n cael eu cofnodi gan staff ar y systemau hyn. Mae ychydig o ysgolion yn defnyddio’r system ddigidol i gofnodi pob achos ymddygiad neu pan fydd disgyblion yn arddangos agweddau negyddol tuag at eu gwaith. Mae hyn fel arfer oherwydd bod staff cymorth a lles yn gallu mynd at y system, a disgwylir iddynt ymateb i bryderon athrawon. Mewn ysgolion eraill, defnyddir y system gwybodaeth reoli yn gyfan gwbl ar gyfer pryderon ynghylch diogelu a lles.
At ei gilydd, mae ysgolion yn defnyddio systemau digidol ac ar-lein yn dda hefyd i gofnodi achosion o fwlio ac aflonyddu, ond nid ydynt yn gwneud hynny’n gyson yn erbyn y nodweddion gwarchodedig perthnasol. Mae cofnodion am achosion bwlio a gofnodir gan ysgolion yn amlinellu natur y digwyddiad a’r sgyrsiau rhwng y dioddefwyr, y cyflawnwyr, staff yr ysgol a rhieni. Fel arfer, maent yn darparu naratif am sut mae’r materion hyn wedi datblygu, a sut cawsant eu datrys. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw cofnodion yn cynnwys canlyniadau na llwyddiant y camau a gymerwyd. Mae’r ffactorau hyn yn atal ysgolion rhag cael darlun cywir o effaith eu gwaith neu raddau’r bwlio a’r aflonyddu sy’n cysylltu â gwahanol gategorïau, fel aflonyddu rhywiol.
Pan fydd modd defnyddio systemau gwybodaeth reoli digidol ac ar-lein at ddibenion dadansoddi, er enghraifft i nodi tueddiadau mewn ymddygiad, ychydig o ysgolion yn unig sy’n gwneud hyn. Yn yr ysgolion hyn, mae arweinwyr yn nodi patrymau yn ymddygiad ac agweddau unigolion neu grwpiau o ddisgyblion ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol i gynllunio ymyriadau neu hyfforddiant staff.