'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Argymhellion

Share document

Share this

Page Content

Dylai ysgolion uwchradd:

A1    Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater. Rhan bwysig o hyn yw ei bod yn cynnwys darparu sicrwydd i ddisgyblion y bydd staff ysgol yn cymryd pob achos o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol.

A2    Darparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, cefnogol a galluogol ar gyfer trafodaethau agored a gonest.

A3    Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio. Dylai cofnodion gynnwys manylion am y math o achosion, a’u natur, yr effaith ar y dioddefwr a chamau gweithredu priodol i ymateb i gyflawnwyr a dioddefwyr, fel ei gilydd. Dylai arweinwyr sicrhau eu bod yn adolygu cofnodion yn rheolaidd, ac yn gwerthuso effaith eu gweithredoedd ar les disgyblion.

A4    Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid. Mae hyn yn cynnwys darparu awyrgylch diogel, anogol a chefnogol ar gyfer trafodaethau agored ac onest.

Dylai awdurdodau lleol:

A5    Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr. Yn ychwanegol, cynorthwyo ysgolion i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd i nodi tueddiadau a rhoi trefniadau adferol ar waith.

A6    Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd.

A7    Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Dylai hyn ddigwydd mewn cydweithrediad â’r consortia rhanbarthol lle y bo’n briodol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

A8    Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.

A9    Sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd a llawn gwybodaeth ar arferion gorau ac adnoddau addas sydd ar gael i’w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb

Share document

Share this