'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Canfyddiadau llawn o’r holiadur disgyblion

Share document

Share this

Holiadur ar-lein

Ar ddiwedd y sesiynau grŵp ffocws, gwahoddwyd disgyblion i gymryd rhan mewn holiadur dienw ar-lein. Cawsom tua 1,250 o ymatebion. Fodd bynnag, roedd tua chant o’r rhain yn ymatebion rhannol, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn. Canolbwyntiodd yr arolwg ar brofiad personol disgyblion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a gweld disgyblion eraill yn ei brofi. Gofynnom am ffynonellau cymorth os oedd disgyblion wedi profi aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, neu pe byddent yn ei brofi yn rhagdybiaethol. Gofynnom am farn disgyblion ynglŷn â phryd y dylai’r ysgol ddechrau trafod materion am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ac am awgrymiadau ynghylch beth yn fwy y gallai ysgolion ei wneud i ddelio â’r broblem.

Tabl 1: Ymatebion i'r holiadur, fesul blwyddyn ysgol

Blwyddyn ysgol

Nifer o ymatebion

%

Blwyddyn 7

*

*

Blwyddyn 8

241

21.9%

Blwyddyn 9

230

20.9%

Blwyddyn 10

220

20.0%

Blwyddyn 11

273

24.8%

Blwyddyn 12

75

6.8%

Blwyddyn 13

61

5.5%

Heb ateb

*

*

* Yn dynodi bod nifer yr ymatebion yn llai na phump

Gofynnwyd i ddisgyblion gwblhau gwybodaeth gyd-destunol, ond ni ofynnwyd iddynt am eu henwau nhw nac enw eu hysgol. Gofynnwyd i ddisgyblion ddewis eu hunaniaeth rhywedd o restr, a gallai disgyblion hefyd dicio blwch os oedd yn well ganddynt beidio â dweud, ac ychwanegu disgrifiad pellach mewn blwch testun, os oeddent yn dymuno. Hefyd, gofynnom ni i ddisgyblion a oeddent yn ystyried eu hunain yn rhai sydd ag anabledd. Dim ond 61 o ymatebwyr yr arolwg a ddywedodd fod ganddynt anabledd. Mae hyn yn faint sampl bach iawn, felly mae’n anodd cadarnhau p’un yw unrhyw fân wahaniaethau rhwng disgyblion anabl a’r boblogaeth gyffredinol o ganlyniad i sampl ar ogwydd neu fel arall. Roedd cydbwysedd cyfartal bron rhwng disgyblion gwrywaidd a benywaidd. Dim ond 66 o ddisgyblion a roddodd ateb gwahanol i wryw neu fenyw, ac roedd yn well gan 14 disgybl beidio â dweud. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaethau mewn ymatebion rhwng y grŵp hwn a’r boblogaeth gyffredinol yn llawer mwy na’r rhai ag anableddau, ond dylid bod yn ofalus wrth ddehongli mân wahaniaethau.

Profiad o aflonyddu rhwng cyfoedion

Gofynnom i ddisgyblion am eu profiad o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Yn ôl disgyblion, mae’r math mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion yn digwydd ar-lein. Dywed pedwar deg chwech y cant o’r holl ddisgyblion fod ganddynt brofiad personol o ryw fath o aflonyddu rhywiol, tra bod 76% yn dweud eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn. Mae disgyblion na ddewison nhw ryw neu nad oeddent yn nodi mai gwryw neu fenyw oedd eu hunaniaeth yn dweud bod cyfradd uwch o aflonyddu rhwng cyfoedion, a bod 64% wedi cael profiad personol ohono.

Dywed cyfran uwch o ddisgyblion benywaidd (61%) eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhwng cyfoedion neu’u bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn na disgyblion gwrywaidd (29%). Mae disgyblion sy’n dweud bod ganddynt anabledd yn sôn am gyfraddau ychydig yn uwch o brofiad o aflonyddu (54%) o gymharu â’r holl ddisgyblion (46%), yn enwedig ar-lein, (39% yn erbyn 30%).

Mae yna duedd eglur o ran gweld eraill yn cael profiad o aflonyddu rhywiol, gyda mwy o ddisgyblion yn profi hyn wrth iddynt fynd yn hŷn. (Ffigur 1)

 

Nid yw’r duedd ar gyfer profiad personol o aflonyddu rhywiol mor glir â’r duedd o weld disgyblion eraill yn ei brofi, ond mae’n dal i ddangos cynnydd wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Yn gyffredinol, dywed disgyblion fod ganddynt fwy o brofiad personol o aflonyddu rhywiol o Flwyddyn 10 ymlaen. Disgyblion Blwyddyn 13 yn yr arolwg oedd gyda’r gyfradd uchaf o brofiad personol, sef 56% (Ffigur 2).

 

Math o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gofynnom i ddisgyblion a atebodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn bersonol am y math o aflonyddu yr oeddent wedi’i brofi, a phryd y digwyddodd hyn yn gyntaf hefyd. Rhestrom y mathau canlynol o aflonyddu:

  • Sylwadau neu jôcs rhywiol creulon
  • Sylwadau creulon am gorff rhywun sy’n achosi trallod
  • Sylwadau creulon am ddillad neu olwg rhywun sy’n achosi trallod
  • Anfon negeseuon testun neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys geiriau rhywiol sy’n achosi trallod
  • Rhannu ffotograffau noeth / hanner noeth heb gydsyniad yr unigolyn yn y llun
  • Anfon ffotograffau / fideos rhywiol / cignoeth neu bornograffig at rywun
  • Codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi / iddo
  • Ymosod yn rhywiol, fel cusanu dan orfod, cyffwrdd rhywiol dieisiau

O’r rhai a ddywedodd fod ganddynt brofiad personol, dywed y rhan fwyaf o ddisgyblion fod aflonyddu wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd yn fwy nag yn yr ysgol gynradd. Mae rhai mathau o aflonyddu sy’n cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, anfon neu rannu lluniau, a fideos cignoeth, yn digwydd yn amlach y tu allan i’r ysgol na’r tu mewn. Gwneud sylwadau creulon yw’r math mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol.

Yn gyffredinol, mae llai o ddisgyblion gwrywaidd sy’n dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn adrodd ar bob un o’r categorïau unigol. Mae hyn yn awgrymu bod disgyblion benywaidd yn fwy tebygol o brofi mathau lluosog o’r aflonyddu rhywiol, ac ar gyfradd uwch na disgyblion gwrywaidd. Hefyd, dywed disgyblion gwrywaidd, yn yr un modd â disgyblion benywaidd, fod yr aflonyddu yn dechrau yn yr ysgol uwchradd yn fwy nag yn yr ysgol gynradd.

Dywed y rhai na ddewison nhw ryw neu nad oeddent yn nodi mai gwryw neu fenyw oedd eu hunaniaeth sydd wedi profi aflonyddu eu bod wedi cael mwy o sylwadau creulon ac achosion o aflonyddu rhywiol na disgyblion a ddewisodd eu rhyw.

Tabl 2: Ymatebion i'r cwestiwn “Pa fath o aflonyddu neu gam-drin ydych chi wedi ei brofi yn bersonol, a phryd y digwyddodd hyn y tro cyntaf?"

 

 

Tra yn yr ysgol gynradd

Tra yn yr ysgol uwchradd

Y tu allan i'r ysgol, tra'r oeddwn yn yr ysgol gynradd

Y tu allan i'r ysgol, ers i mi fod yn yr ysgol uwchradd

 

 

 

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

 

Sylwadau neu jôcs rhywiol cas

20%

17%

61%

66%

15%

15%

52%

62%

Sylwadau cas am gorff rhywun sy’n achosi gofid

24%

32%

61%

70%

16%

25%

47%

57%

Sylwadau cas am ddillad neu olwg rhywun sy’n achosi gofid

20%

29%

53%

64%

17%

22%

49%

53%

Anfon negeseuon testun neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys geiriau rhywiol sy'n achosi gofid

4%

8%

38%

41%

9%

11%

52%

59%

Anfon ffotograffau / fideos rhywiol / cignoeth neu bornograffig dieisiau at rywun

3%

6%

28%

29%

5%

7%

44%

51%

Rhannu ffotograffau neu fideo noeth / lled noeth heb ganiatâd yr unigolyn yn y llun

3%

2%

22%

28%

4%

3%

29%

38%

Uwch-sgertio neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi/iddo

3%

4%

10%

22%

3%

2%

13%

14%

Ymosod yn rhywiol fel gorfodi rhywun i gusanu, cyffwrdd dieisiau mewn ffordd rywiol

3%

8%

23%

26%

5%

7%

24%

36%

 

Mae disgyblion sy’n dweud bod ganddynt anabledd yn llawer mwy tebygol o fod wedi cael sylwadau creulon a ddechreuodd y tu allan i’r ysgol pan oeddent yn yr ysgol gynradd na’r boblogaeth gyffredinol.

Gwahoddwyd disgyblion i roi sylwadau ychwanegol, os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Mae’r rhan fwyaf o sylwadau’n ymwneud ag anfon a rhannu negeseuon a delweddau dieisiau ar-lein. Amlygir ymddygiad bechgyn, ynghyd ag ymateb athrawon pan wneir cwynion am ymddygiad o’r fath. Mae disgyblion gwrywaidd a benywaidd fel ei gilydd yn amlygu ymddygiad bechgyn, ond mae mwy o ferched yn cyfeirio at hyn na bechgyn. Mae’r rhai nad ydynt yn eu hystyried eu hunain yn wryw neu’n fenyw yn amlygu ymddygiad bechgyn yn arbennig hefyd.

Yn ychwanegol, merched yn unig sy’n nodi ymateb negyddol athrawon mewn sefyllfaoedd o’r fath. Mae merched yn fwy na bechgyn yn nodi eu bod wedi cael negeseuon, delweddau a fideos dieisiau ar-lein sydd o natur rywiol. Mae bechgyn, merched a disgyblion anneuaidd i gyd yn nodi eu bod wedi cael sylwadau am eu hymddangosiad. Fodd bynnag, mae canran uwch o ddisgyblion gwrywaidd ac anneuaidd yn amlygu’r broblem hon yn fwy yn y blwch sylwadau.

O ran y mathau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y mae disgyblion wedi gweld disgyblion eraill yn eu profi, cael sylwadau creulon yw’r math amlycaf. Gwelir y rhan fwyaf o’r aflonyddu yn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, ac fe gaiff amrywiaeth o gategorïau aflonyddu rhywiol eu gweld gan ddisgyblion. Mae aflonyddu ar-lein yn fwyaf tebygol o gael ei weld y tu allan i’r ysgol ar gyfer disgyblion uwchradd.

Yn gyffredinol, mae disgyblion benywaidd yn fwy tebygol o weld amrywiaeth ehangach o aflonyddu disgyblion na disgyblion gwrywaidd. Mae hyn yr un mor wir am y rhai nad ydynt wedi dewis gwryw na benyw. Mae disgyblion hŷn yn fwy tebygol o fod wedi gweld amrywiaeth o aflonyddu y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol uwchradd.

Tabl 3: Ymatebion i'r cwestiwn “Pa fath o aflonyddu neu gam-drin ydych chi wedi gweld plant / pobl eraill yn ei brofi, a phryd y gwelsoch chi hyn am y tro cyntaf?”

 

 

Tra yn yr ysgol gynradd

Tra yn yr ysgol uwchradd

Y tu allan i'r ysgol, tra'r oeddwn yn yr ysgol gynradd

Y tu allan i'r ysgol, ers i mi fod yn yr ysgol uwchradd

 

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

Bechgyn

Merched

Sylwadau neu jôcs rhywiol cas

19%

19%

64%

77%

14%

14%

55%

62%

Sylwadau cas am gorff rhywun sy’n achosi gofid

23%

29%

61%

76%

17%

21%

49%

63%

Sylwadau cas am ddillad neu olwg rhywun sy’n achosi gofid

22%

30%

54%

72%

18%

20%

45%

61%

Anfon negeseuon testun neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys geiriau rhywiol sy'n achosi gofid

6%

7%

46%

47%

7%

8%

49%

61%

Anfon ffotograffau / fideos rhywiol / cignoeth neu bornograffig dieisiau at rywun

3%

3%

36%

38%

4%

3%

39%

53%

Rhannu ffotograffau neu fideo noeth / lled noeth heb ganiatâd yr unigolyn yn y llun

3%

2%

30%

36%

4%

3%

36%

47%

Uwch-sgertio neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi/iddo

4%

5%

16%

25%

2%

2%

13%

23%

Ymosod yn rhywiol fel gorfodi rhywun i gusanu, cyffwrdd dieisiau mewn ffordd rywiol

7%

8%

24%

36%

4%

6%

27%

39%

Ar sail sylwadau disgyblion, gallwn weld bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn honni eu bod wedi gweld neu glywed rhyw fath o aflonyddu neu ymosodiad rhywiol. I’r rhai sy’n cyfeirio at aflonyddu rhywiol, dywedodd y mwyafrif nad oeddent yn deall ei fod yn ymosodiad ar y pryd. Amlygir ymddygiad bechgyn fel problem benodol yma eto. Mae canran uwch o ferched na bechgyn yn cyfeirio at ymddygiad bechgyn wrth drafod aflonyddu’n rhywiol ar ddisgyblion eraill. Caiff hyn ei amlygu hefyd gan gyfranogwyr anneuaidd. Yn ddiddorol, yn y blwch sylwadau, dim ond merched sy’n disgrifio iddynt brofi sylwadau negyddol am ymddangosiad. 

 

Ffynonellau cymorth ar gyfer disgyblion sydd â phrofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gofynnwyd i ddisgyblion beth wnaethant pan brofon nhw aflonyddu rhywiol gan eu cyfoedion. Roeddent yn gallu dewis nifer o atebion os oeddent yn dymuno. Dywedodd pedwar deg chwech y cant o ddisgyblion a oedd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol eu bod wedi cadw hyn iddyn nhw eu hunain. Mae merched yn fwy tebygol o gadw aflonyddu rhywiol iddyn nhw eu hunain (49%) na disgyblion gwrywaidd (34%) ac yn llai tebygol o ddweud wrth ffigur ag awdurdod na bechgyn. Fodd bynnag, maent yn llawer mwy tebygol o ddweud wrth eu ffrindiau na disgyblion gwrywaidd (68% o gymharu â 36%). Roedd disgyblion na ddewisodd gwryw na benyw a ddywedodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion wedi ei gadw iddyn nhw eu hunain yn fwy na disgyblion eraill. Cadwodd 63% yr aflonyddu rhywiol iddyn nhw eu hunain, a siaradodd 43% â’u ffrindiau hefyd. Dywedodd 22%  o’r holl ddisgyblion wrth athro, a dywedodd 28% wrth eu rhieni neu ofalwyr. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd mwyafrif y disgyblion a oedd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol wedi siarad â’u ffrindiau amdano.

O ran sylwadau disgyblion unigol, teimlai cyfran uwch o ddisgyblion yn fwy cyfforddus yn dweud wrth ffrind am aflonyddu neu gam-drin rhywiol nac yn dweud wrth oedolyn cyfrifol. Nododd ychydig o ddisgyblion eu bod yn rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un o gwbl. Roedd y sylwadau yn cyd-fynd â’r data ansoddol o ran y ffaith fod merched yn fwy tebygol o naill ai ddweud wrth ffrind neu gadw’r digwyddiad iddyn nhw eu hunain, na dweud wrth oedolyn cyfrifol neu aelod o’u teulu. Dywedodd y rhan fwyaf o’r disgyblion a ddewisodd y ddemograffeg rhyw ‘arall’ eu bod wedi dweud wrth ffrind.

Cafodd disgyblion nad ydynt wedi profi aflonyddu yn bersonol eu cyfeirio fel mater o drefn at gwestiwn yn gofyn iddyn nhw beth fyddent yn ei wneud pe byddent yn ei brofi. Dywed y disgyblion hyn y byddent yn dweud wrth rywun amdano yn fwy na disgyblion sydd wedi profi aflonyddu. Dim ond 19% o ddisgyblion nad ydynt wedi profi aflonyddu sy’n dweud y byddent yn ei gadw iddyn nhw eu hunain, o gymharu â 46% o’r rhai sydd wedi profi aflonyddu. Mae disgyblion hŷn nad ydynt wedi profi aflonyddu rhywiol yn fwy tebygol o ddweud y byddent yn ei gadw iddyn nhw eu hunain, ond maent hefyd yn fwy tebygol o siarad â’u ffrindiau. Mae merched nad ydynt wedi profi aflonyddu rhywiol yn fwy tebygol o’i gadw iddyn nhw eu hunain (17% o gymharu â 21%) ac yn llai tebygol o ddweud wrth athro (51% o gymharu â 38%) o gymharu â bechgyn. O’r rhai na ddewisodd gwryw na benyw, ac a ddywedodd hefyd nad ydynt wedi profi aflonyddu rhywiol, dywedodd 28% y byddent yn ei gadw iddyn nhw eu hunain, a byddai 72% yn siarad â’u ffrindiau.

 

Ar gyfer y cwestiwn hwn, ceir tystiolaeth ddiddorol o sylwadau disgyblion. Mae disgyblion nad ydynt wedi profi aflonyddu rhywiol yn credu y byddent yn gwrthwynebu’r broblem pe byddent yn ei hwynebu, neu’n dweud wrth oedolyn cyfrifol. Mae’r canlyniadau hyn yn wahanol iawn i’r rhai sydd wedi profi aflonyddu. Fodd bynnag, disgyblion gwrywaidd ac anneuaidd yn unig sy’n honni y byddent yn gwrthwynebu aflonyddu rhywiol. Mae disgyblion benywaidd yn fwy tebygol o’i gadw iddyn nhw eu hunain na disgyblion gwrywaidd. Byddai disgyblion anneuaidd naill ai’n ei wrthwynebu, yn dweud wrth neb, neu’n dweud wrth ffrind.

Ble mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd fwyaf

Gofynnwyd i ddisgyblion a oedd aflonyddu’n digwydd yn amlach yn yr ysgol, ar-lein, y tu allan i’r ysgol neu i gyd tua’r un fath. Hefyd, cynigiom ni’r posibilrwydd i ddisgyblion roi tic mewn blwch ‘ddim yn gwybod’. Dywedodd mwy o ddisgyblion fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd fwyaf ar-lein (34%) nag unrhyw le arall, tra nododd 24% o’r holl ddisgyblion fod achosion yn debyg ym mhob un o’r tri lle.

 

 

Disgyblion yn aflonyddu ar ddisgyblion eraill

Gofynnom i ddisgyblion a oeddent wedi bod yn gysylltiedig ag achosion o aflonyddu’n rhywiol ar ddisgyblion eraill. Mae un deg tri y cant o ddisgyblion yn cyfaddef eu bod wedi gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol creulon yn yr ysgol uwchradd. Mae merched yn llai tebygol o gyfaddef eu bod wedi gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol creulon na bechgyn yn yr ysgol uwchradd (10% yn erbyn 18%). Dywed y rhai na ddewison nhw ddweud eu bod yn wryw neu’n fenyw eu bod yn aflonyddu ar ddisgyblion eraill yn llai.

Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion a adawodd sylw ar gyfer y cwestiwn hwn eisiau amlygu nad ydynt erioed wedi aflonyddu ar ddisgyblion eraill, tra nododd ychydig ohonynt fod sylwadau rhywiol neu greulon wedi cael eu gwneud yn ystod dadleuon gyda ffrindiau neu fel jôc. Nododd bechgyn a merched fel ei gilydd eu bod wedi gwneud sylwadau o’r fath fel jôc. Nid oes unrhyw blant a phobl ifanc ag anableddau yn honni eu bod wedi aflonyddu’n rhywiol ar unrhyw un. Er bod nifer fach o ddisgyblion gwrywaidd a benywaidd yn honni eu bod wedi gwneud sylwadau negyddol yn ystod dadleuon gyda ffrindiau, mae’r holl sylwadau a wnaed gan ddisgyblion sy’n eu hystyried eu hunain yn anneuaidd yn honni nad ydynt erioed wedi aflonyddu ar ddisgyblion eraill.

Ymatebion ysgolion i gŵynion

Gofynnom ni i ddisgyblion a oedd staff ysgolion yn cymryd cwynion am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif, ac a oeddent yn ymateb yn briodol, yn eu barn nhw. Mae disgyblion sydd wedi profi aflonyddu yn llai tebygol o gredu bod cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif. At ei gilydd, mae merched yn llai tebygol o gredu bod cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif na bechgyn, ond gall hyn fod oherwydd eu bod yn profi aflonyddu rhywiol mwy aml.

 

Mae canran uchel o sylwadau yn datgan bod cwynion am aflonyddu rhywiol yn aml yn cael eu hanwybyddu gan athrawon neu nid ydynt yn delio â nhw’n dda. Fodd bynnag, mae lleiafrif y disgyblion hefyd yn nodi yr eir i’r afael ag aflonyddu rhywiol weithiau mewn gwasanaethau neu wersi, ac mae disgyblion eraill yn datgan eu bod yn cael arweiniad neu gymorth â’r mater. Mae mwy o ferched na bechgyn yn credu bod eu hysgol yn delio’n dda â chwynion am aflonyddu rhywiol. Fodd bynnag, mae mwy o ferched na bechgyn yn nodi hefyd fod cwynion yn aml yn cael eu hanwybyddu, neu nid ymdrinnir â nhw yn briodol. Hefyd, mae merched yn nodi bod diffyg dealltwriaeth am beth yw cam-drin rhywiol, a sut dylai disgyblion wneud cwynion. Mae canran uchel o ddisgyblion anneuaidd yn teimlo bod cwynion yn cael eu hanwybyddu neu nid ymdrinnir â nhw. Hefyd, mae cyfranogwyr anneuaidd yn honni nad ydynt yn gwybod a yw’r ysgol yn delio’n dda â chwynion ai peidio. Mae’r rhai nad ydynt yn dymuno datgelu eu rhyw yn teimlo’n gyffredinol fod materion yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol yn cael eu hanwybyddu neu nid ymdrinnir â nhw yn dda, ond maent hefyd yn cydnabod bod rhywfaint o arweiniad iddynt ar beth i’w wneud ynglŷn â hyn.

Pryd i ddechrau siarad am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gofynnom i ddisgyblion ystyried pryd roeddent yn meddwl y byddai’n briodol dechrau gwersi am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn rhoi’r oedran rhwng Blwyddyn 6 a 7. Dim ond 36% o’r disgyblion na ddewison nhw ddweud eu bod yn wryw neu’n fenyw sy’n credu hyn. Wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, mae canran y disgyblion sy’n meddwl y dylid ei addysgu yn yr ysgol gynradd yn gostwng.

Mae merched yn fwy tebygol o ddewis oedran is na bechgyn. Mae 44% o fechgyn yn meddwl y dylid siarad amdano yn yr ysgol gynradd, o gymharu â 61% o ferched. Mae disgyblion sydd wedi profi aflonyddu rhywiol ychydig bach yn fwy tebygol o feddwl y dylid siarad am aflonyddu rhywiol yn iau. Mae 58% yn credu y dylid siarad amdano yn yr ysgol gynradd, o gymharu â 53% o’r holl gyfranogwyr.

Y rhai na ddewison nhw ddweud eu bod yn wryw neu’n fenyw sydd fwyaf tebygol o feddwl y dylid siarad amdano yn yr ysgol gynradd, ac mae 64% yn credu hynny. Dim ond 18% o’r grŵp hwn o ddisgyblion a oedd yn credu y dylid siarad amdano ym Mlwyddyn 7, 20% ym Mlwyddyn 6 ac roedd 44% yn credu y dylid siarad amdano ym Mlwyddyn 5 neu’n is.

 

 

Mae sylwadau llawer o ddisgyblion yn cynnwys esboniad manwl am eu hateb. Mae cyfran uchel o’r rhain yn cyfeirio at oedran ac aeddfedrwydd, gan gredu bod ychydig o ddisgyblion yn rhy ifanc i ddeall, neu naill ai ddim yn ddigon aeddfed mewn ychydig o achosion, ac yn ddigon aeddfed mewn achosion eraill. Mae’r mwyafrif ohonynt yn credu y dylid cyflwyno’r testun yn yr ysgol gynradd ar yr un pryd ag addysg rhyw. Mae canran uwch o ferched na bechgyn yn credu hyn. Mae cyfran uwch o ddisgyblion anneuaidd yn credu y dylid cyflwyno trafodaethau am aflonyddu rhywiol yn yr ysgol gynradd na grwpiau eraill o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae ychydig ohonynt hefyd yn credu y dylid ei addysgu ym mlynyddoedd cyntaf yr ysgol uwchradd neu y dylid ei wneud yn briodol i oedran yn unol ag aeddfedrwydd.

Barn disgyblion ar beth yn fwy y gall ysgolion ei wneud

Gwahoddwyd disgyblion i gynnig sylwadau pellach, os oeddent yn dymuno, am beth roedden nhw’n meddwl y gallai ysgolion ei wneud i ddelio ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Mae llawer o’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn olaf yn credu y dylai ysgolion addysgu disgyblion am aflonyddu rhywiol yn fwy rheolaidd, yn enwedig mewn gwersi fel Bagloriaeth Cymru ac ABCh. Maent hefyd yn gwneud amod y byddai trefnu mwy o wasanaethau a dod ag ymwelwyr allanol i’r ysgol yn helpu addysgu disgyblion amdano.

Yn ddiddorol, mae mwy o fechgyn na merched yn dweud eu bod yn credu bod ysgolion yn gwneud hynny eisoes. Mae mwy o fechgyn yn datgan y byddai gosod gwybodaeth fel posteri o gwmpas yr ysgol yn ddigon i ddelio â’r mater.

Mae llawer o ddisgyblion, yn enwedig merched, yn cyfeirio at ysgolion yn creu amgylchedd mwy diogel a mwy cyfforddus ble gallant siarad ag athrawon neu aelodau staff am eu profiadau yn ystod gwers benodol. Mae ychydig ohonynt yn awgrymu y dylid gwahanu bechgyn a merched yn ystod y sgyrsiau fel eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus yn trafod y materion. Hefyd, mae llawer o ddisgyblion anneuaidd yn credu y dylid creu amgylchedd mwy diogel ar gyfer trafodaethau.

Hefyd, mae disgyblion yn cyfeirio at newid agweddau staff, gyda llawer o ddisgyblion yn credu y dylai staff gymryd materion yn fwy difrifol, ac y dylid rhoi cosbau llymach ar waith ar gyfer achosion o aflonyddu. Hefyd, mae ychydig o ddisgyblion yn credu bod angen ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol, naill ai o ran staff yn talu mwy o sylw pan fydd aflonyddu rhywiol yn digwydd, neu drwy addysgu’r staff eu hunain am  aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae mwy o ferched na bechgyn yn credu y dylai staff gymryd materion yn fwy difrifol ac y dylid rhoi cosbau llymach. Mae disgyblion anneuaidd a disgyblion yr oedd yn well ganddynt beidio â diffinio eu rhyw neu rywedd yn cyfeirio’n benodol at gynyddu ymwybyddiaeth staff am aflonyddu rhywiol.

Share document

Share this