Cynhyrchwyd y ddogfen Adnoddau Ategol hon i helpu ysgolion i werthuso effeithiolrwydd eu darpariaeth gyfredol ar gyfer addysg perthnasoedd a rhywioldeb a chynllunio ar gyfer gwella. Rydym wedi cynnwys canllawiau perthnasol a phwysig gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, rydym wedi rhannu manylion adnoddau defnyddiol ac wedi darparu dolenni i adroddiadau perthnasol yr ydym wedi'u cyhoeddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd wedi cynnwys negeseuon allweddol sy’n deillio o ymchwil er mwyn helpu ysgolion wrth iddynt gynllunio eu darpariaeth ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles fel rhan o'r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.
Gyda chaniatâd caredig yr Athro Renold, Prifysgol Caerdydd, rydym wedi cynnwys y llyfrynnau disgybl a thiwtor o’r grwpiau ffocws a ddefnyddwyd yn ystod ein hymweliadau inysgolion. Rydym hefyd wedi cynnwys yr holiadur. Mae’r rhain ar gael i ysgolion i’w defnyddio pe dymunent gasglu barn disgyblion fel rhan o’u gwaith hunan arfarnu a chynllunio gwella.
Yn olaf, rydym wedi cynnwys canfyddiadau llawn yr holl weithgareddau grwpai ffocws disgyblion ynghyd a dadansoddiad llawn o’r holiadur i ddisgyblion. Mae’r brif adroddiad yn cynnwys crynhoad o’r ddau.