'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share document

Share this

Atodiad 1: Methodoleg

Share document

Share this

Page Content

Ymwelom ag o leiaf un ysgol uwchradd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Pan oedd gan awdurdod lleol fwy na 9 ysgol uwchradd, ymwelom ni ag ail ysgol. Yn ychwanegol, dewisom ni nifer gymesur o ysgolion a enwir ar wefan Everyone’s Invited ble mae disgyblion neu gyn-ddisgyblion wedi rhannu tystiolaethau o brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roedd ein sampl yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Ni rannodd arolygwyr gydag ysgolion pam roeddent wedi cael eu dewis, ond rhoesant sicrwydd clir nad oedd ein rôl yn un ymchwiliol. Hefyd, rhoesom sicrwydd i benaethiaid na fyddem yn enwi ysgolion yn yr adroddiad ac y byddai’r holl ganfyddiadau o gyfweliadau, craffu ar ddogfennau, grwpiau ffocws a holiaduron yn ddienw. Mae hyn oherwydd natur sensitif y pwnc, ac er mwyn gwarchod ysgolion, staff a disgyblion.

Roedd ymweliadau ag ysgolion yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • Cyfarfodydd cychwynnol a therfynol gyda’r pennaeth
  • Cyfarfodydd â’r uwch arweinydd sy’n gyfrifol am les, a gyda’r arweinydd diogelu dynodedig
  • Cyfarfodydd â’r arweinydd ysgol sy’n gyfrifol am Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a/neu Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles
  • Cyfarfod â grŵp o athrawon
  • Cyfarfod â grŵp o staff cymorth addysgu
  • Grwpiau ffocws disgyblion un rhyw yn bennaf ar gyfer dau grŵp blwyddyn ar wahân ym mhob ysgol (blynyddoedd 8-13)
  • Holiadur i ddisgyblion
  • Craffu ar ddogfennau ysgol perthnasol i gynnwys adroddiadau am fwlio, sampl o gynlluniau gwaith ABCh, sampl o gyflwyniadau gwasanaeth ysgol gyfan / blwyddyn

Hefyd, cynigiwyd posibilrwydd i ni gynnal sesiynau neu gyfarfodydd grwpiau ffocws penodol gyda grwpiau LHDTC+ gweithgar a sefydledig ysgolion pe bai ysgolion yn dymuno.

Yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion, cynhaliom weithgareddau grwpiau ffocws, a buom yn gweithio gyda disgyblion o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13 ar draws 35 ysgol. Enwebom ddau grŵp blwyddyn gwahanol ym mhob ysgol, a dewis 6 merch a 6 bachgen ar hap ym mhob grŵp blwyddyn. Rhannom yr enwau hyn ag arweinwyr ysgol rhyw wythnos cyn yr ymweliadau ag ysgolion, a gofyn iddynt wirio eu haddasrwydd o ran gwydnwch emosiynol a bregusrwydd. Dewisom ddisgyblion ychwanegol yn lle unrhyw blentyn yr oedd yr ysgol yn ystyried ei fod yn rhy fregus i gymryd rhan. Gofynnom i ysgolion gyfarfod â’r disgyblion a ddewiswyd a gofyn i bob un ohonynt wahodd ffrind. Gallai’r ffrind fod o unrhyw ryw. Dewisodd llawer o ddisgyblion ddod â ffrind o’r un rhyw, a oedd yn golygu bod gennym grwpiau o fechgyn yn bennaf, a merched yn bennaf. Gweithiodd y grwpiau cymysg prin lawn cystal â’r grwpiau un rhyw. Hefyd, estynnom wahoddiad i ysgolion oedd â grŵp disgyblion neu ddisgyblion / staff LHDTC++ gweithgar a sefydledig i ofyn a oedden nhw eisiau cymryd rhan mewn grŵp ffocws penodol. Gwelsom 6 grŵp LHDTC++ i gyd.

Rhoddwyd dalen wybodaeth cyn yr ymweliad i bob disgybl a’i ffrind, a bu ysgolion yn gohebu â rhieni ar ein rhan. Rhoddwyd cyfle i rieni eithrio eu plentyn o’r gweithgaredd grŵp ffocws. Ychydig iawn o rieni yn unig a ddewisodd eithrio eu plentyn o hyn.

Gweithiodd arolygwyr a disgyblion o lyfrynnau papur. Roedd y gweithgareddau grŵp ffocws yn gyfuniad o drafodaethau llafar a gweithgareddau ysgrifennu. Penderfynwyd gwneud hyn i alluogi disgyblion a oedd eisiau siarad i wneud hynny, gan alluogi disgyblion llai hyderus neu fwy mewnblyg i ysgrifennu eu meddyliau ar yr un pryd. Roedd yr holl gyfraniadau gan ddisgyblion yn ddienw. Ni ofynnodd arolygwyr oedd yn ymweld eu henwau nac enw eu hysgol ar y llyfryn. Ar ddiwedd y sesiynau, gofynnwyd i ddisgyblion lenwi holiadur dienw ar-lein.

Ym mhob un o’r gweithgareddau, sicrhaodd arolygwyr nad oeddent yn gofyn cwestiynau arweiniol, ac ni chynigion nhw atebion model mewn gweithgareddau / tasgau chwaith. Rhoesant anogaeth i’r disgyblion feddwl drostynt eu hunain, a doedd dim pwysau ar ddisgyblion i gwblhau pob un, neu hyd yn oed unrhyw un, o’r gweithgareddau, os nad oeddent yn dymuno gwneud hynny. Ar ddechrau’r sesiynau, gwnaeth arolygwyr hi’n glir i ddisgyblion fod ganddynt hawl i adael ar unrhyw adeg ac wedyn fe wnaethant fodelu cydsyniad trwy gydol y sesiynau.

Yn ychwanegol, cawsom drafodaethau gydag ystod o sefydliadau eraill sydd gyda diddordeb yn y maes hwn, gan gynnwys gofyn am adborth cychwynnol gan y rhan fwyaf ohonynt ar ganfyddiadau cychwynnol.  Ymgysylltom gyda:

Yr Athro EJ Renold, Prifysgol Caerdydd

Swyddfa’r Comisiynydd Plant

Cymorth i Ferched Cymru

Yr NSPCC

Rheolwraig Rhaglen heddlu ysgolion Cymru

Tîm Trais yn Erbyn Merched Llywodraeth Cymru

Ofsted

Share document

Share this