Uncategorized Archives - Page 2 of 5 - Estyn

Category: Uncategorized


Category: Uncategorized


Amserol a pherthnasol

Er mwyn sicrhau bod ein negeseuon mor gyfredol â phosibl, bydd dau gam eleni i’r broses o gyhoeddi canfyddiadau ein Hadroddiad Blynyddol.

Fel cam cyntaf, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau interim yn gynnar yn nhymor yr hydref. Bydd hyn ar ffurf crynodebau byr o’r negeseuon allweddol o’n gweithgarwch ymgysylltu ac arolygu. Byddant yn darparu darlun clir ac amserol i randdeiliaid o’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei wella ar draws pob sector ac ar draws y dirwedd addysg ehangach yng Nghymru.  

Ym mis Ionawr, fel ail gam, byddwn yn cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol llawn. Bydd hyn yn adeiladu ar y canfyddiadau interim a bydd ar ffurf adroddiad manylach sy’n disgrifio’r ‘sefyllfa sydd ohoni’ mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac yn cynnig ffyrdd ymlaen.

Dweud eich dweud

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y datblygiadau hyn a chlywed eich syniadau am ffyrdd eraill y gallwn wneud yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn ein hadroddiad blynyddol yn fwy perthnasol a defnyddiol i chi. Isod, mae dolen i Arolwg ‘Smart Survey’ lle gallwch gofnodi eich barn. Mae’r arolwg ar agor tan 8 Gorffennaf 2022. 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/AdroddiadBlynyddolAnnualReport/

Category: Uncategorized


Ymateb i heriau

Roedd arweinwyr yn hyblyg ac yn greadigol yn ystod y pandemig, gan ymaddasu o hyd mewn ffyrdd arloesol. Defnyddiant arweiniad a chyngor gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau ambarél, a ganiataodd iddynt ailagor a gweithredu’n ddiogel.

Manteisiodd arweinwyr hefyd ar y defnydd uwch o dechnoleg rithwir. Gwnaeth hyn eu helpu i deimlo’n llai ynysig. Helpodd hefyd i wella cyfathrebu â rhanddeiliaid yn ogystal â gydag arweinwyr eraill yn eu hardal neu eu hawdurdod lleol. Ceisiant gyngor wrth ei gilydd a rhannwyd arfer.

Rhannu arfer

Mae Stepping Stones Pre-School, Sir Fynwy, yn un o blith llawer o gameos yn yr adroddiad sy’n crisialu sut yr ymaddasodd darparwyr. Gweithiodd y rheolwr mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn oddeutu 20 o leoliadau eraill yn yr awdurdod lleol a grwpiau eraill a drefnwyd gan Athro Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar a sefydliadau ambarél, i gefnogi ei gilydd drwy gynnal cyfarfodydd rhithwir rheolaidd lle buont yn:
•    Trafod materion cyffredin
•    Helpu ei gilydd i ddilyn arweiniad lleol a chenedlaethol
•    Canfod ac efelychu arfer dda o leoliadau eraill 
•    Cael sicrwydd bod pawb yn dilyn y protocolau cywir

I weld cameos pellach ar arweinyddiaeth a meysydd darpariaeth eraill, porwch drwy’r crynodebau ar gyfer eich sector yn yr Adroddiad Blynyddol.

Crynodebau sector

Lleoliadau nad ydynt yn ysgolion i blant o dan bump oed
Ysgolion cynradd
Ysgolion uwchradd
Ysgolion pob oed a gynhelir
Ysgolion arbennig a gynhelir
Ysgolion arbennig annibynnol
Ysgolion prif ffrwd annibynnol 
Colegau arbenigol annibynnol 
Unedau cyfeirio disgyblion
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Category: Uncategorized


Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Gorfodwyd ysgolion a lleoliadau i feddwl o’r newydd nid yn unig am beth roeddent yn ei addysgu, ond sut a pham roeddent yn ei addysgu.

Wrth iddynt addasu eu harfer yn gyson, dangosant hyblygrwydd a chreadigrwydd. Bydd y meddylfryd a’r egni yma’n hanfodol ar gyfer rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith. 

Tyfodd pwysigrwydd dysgu digidol. Cafodd strategaethau ar gyfer dysgwyr ar draws pob sector eu cryfhau. Blaenoriaethodd llawer o arweinwyr ddysgu proffesiynol er mwyn cefnogi staff yn y maes hwn. Arweiniodd hyn at gynigion dysgu ar-lein llawer gwell mewn llawer o sectorau ar gyfer yr ail gyfnod clo cenedlaethol.
 

 

Arfer sy’n dod i’r amlwg

Mae Ysgol Gynradd Stacey, Caerdydd, yn un o blith llawer o gameos yn yr adroddiad sy’n crisialu sut yr addasodd darparwyr addysgu a dysgu. Defnyddiant offer digidol a dysgu ar-lein i symud medrau disgyblion mewn gwrando a siarad yn eu blaen, yn arbennig y rhai hynny yr oedd Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.

Am fewnwelediadau pellach ar addysgu a dysgu, porwch drwy’r crynodebau ar gyfer eich sector yn yr Adroddiad Blynyddol.

Lleoliadau nad ydynt yn ysgolion i blant o dan bump oed
Ysgolion cynradd
Ysgolion uwchradd
Ysgolion pob oed a gynhelir
Ysgolion arbennig a gynhelir
Ysgolion arbennig annibynnol
Ysgolion prif ffrwd annibynnol 
Colegau arbenigol annibynnol 
Unedau cyfeirio disgyblion
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Crynodebau sector

Lleoliadau nad ydynt yn ysgolion i blant o dan bump oed
Ysgolion cynradd
Ysgolion uwchradd
Ysgolion pob oed a gynhelir
Ysgolion arbennig a gynhelir
Ysgolion arbennig annibynnol
Ysgolion prif ffrwd annibynnol 
Colegau arbenigol annibynnol 
Unedau cyfeirio disgyblion
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Category: Uncategorized


Rhoi dysgwyr yn gyntaf

Nid yw’n syndod bod pob darparwr wedi blaenoriaethu lles dysgwyr yn 2020-21. Datblygwyd perthnasoedd dyfnach ganddynt â theuluoedd a threfnwyd ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad â dysgwyr. Roedd hyn yn golygu y gallent nodi anawsterau a mynd i’r afael â nhw’n gyflym – rhywbeth a oedd yn arbennig o bwysig i ddysgwyr bregus, a wynebodd yr anawsterau mwyaf yn ystod y cyfnod clo.

Mewn llawer o achosion, arweiniodd cysylltiad agosach â dysgwyr a’u teuluoedd at ddarparwyr addysg yn troi’n ffynonellau hanfodol o gymorth ac arweiniad i’w cymunedau.

Yn eu tro, roedd ysgolion a lleoliadau’n deall eu cymunedau’n well, ac roedd hyn o fudd i ddysgwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddatblygu hyder mewn darparwyr. 

Mae’r perthnasoedd hyn yn debygol o helpu gweledigaeth ysgolion a’u dyheadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Gall cyfraniadau gan deuluoedd a’r gymuned ehangach eu helpu i ddeall anghenion eu dysgwyr a sut gallant wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Cefnogi staff

Ni allwn danfesur effaith y flwyddyn academaidd ddiwethaf ar y rhai sy’n gweithio ym myd addysg. Ar yr adeg honno, tynnodd ein Prif Arolygydd sylw at ‘eu gwydnwch rhyfeddol’.

Roedd y pwysau ar staff yn ddigynsail. Aethant ati i reoli sefyllfaoedd heriol a gwneud eu hunain yn fwyfwy agored i ddysgwyr a’u teuluoedd.

Yn aml, gwelsom ni arweinwyr yn rhoi iechyd, lles a diogelwch eu staff uwchben eu lles eu hunain. Ac roedd hyn yn ogystal â blaenoriaethu lles eu dysgwyr a’u teuluoedd.
 

Addasu arfer

Rhannodd lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac UCDau gyda ni sut yr ymaddasant mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae’r animeiddiad byr yn y blog hwn yn crisialu rhai o’r strategaethau hyn.

I weld cameos pellach, porwch drwy’r crynodebau ar gyfer eich sector yn yr Adroddiad Blynyddol.
 

Crynodebau sector

Lleoliadau nad ydynt yn ysgolion i blant o dan bump oed
Ysgolion cynradd
Ysgolion uwchradd
Ysgolion pob oed a gynhelir
Ysgolion arbennig a gynhelir
Ysgolion arbennig annibynnol
Ysgolion prif ffrwd annibynnol 
Colegau arbenigol annibynnol 
Unedau cyfeirio disgyblion
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Category: Uncategorized


Effaith y pandemig

Teimlodd dysgwyr ôl-16 effaith y pandemig mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar beth roeddent yn ei astudio neu’n hyfforddi ynddo. Roedd hyn hefyd yn golygu bod deilliannau’n amlwg yn wahanol ar draws grwpiau o ddysgwyr.

Er enghraifft, parhaodd rhai prentisiaethau, ond cafodd rhai eraill eu heffeithio gan ffyrlo a diswyddiadau. Ac yn aml, symudodd dysgu oedolion, gan gynnwys Cymraeg i oedolion, ar-lein yn hytrach na’i gynnal mewn lleoliadau cymunedol. 

Rhannodd dysgwyr eu pryderon â ni am asesiadau diwedd cwrs a symud i’r cam nesaf yn eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu gwaith. 

Nodom rwystredigaeth hefyd oherwydd newidiadau ac oedi mewn trefniadau asesu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol – gan ddwysáu teimladau bod diffyg cydraddoldeb o hyd o gymharu â chymwysterau academaidd.

Yn y sectorau addysg bellach a dysgu yn y gwaith, roedd asesu at ddiben cymwysterau ac achredu yn flaenoriaeth o hyd. Ond roedd heriau’n bodoli, yn enwedig lle’r roedd angen i ddysgwyr ymgymryd ag asesiadau ymarferol. 

Profodd gweithwyr ieuenctid eu bod yn amhrisiadwy. Gwnaeth eu set eang ac ymaddasol o fedrau gyfraniad hanfodol i fywydau pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Darlun bras yn unig o rai o’r prif faterion yn y sectorau ôl-16 yw hyn. Darllenwch fwy yn yr adroddiad blynyddol llawn.

Goresgyn yr heriau

Gwelsom greadigrwydd, arloesedd a gwydnwch ar draws y sectorau ôl-16, gan ddarparwyr dysgu yn y gwaith yn cydweithio â’i gilydd, addysg gychwynnol athrawon yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu haddysgu ar-lein, a phlatfform newydd sydd wedi cynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU a thramor hefyd. 

Gwyliwch y graffig symudol i ddarganfod sut yr addasodd y sectorau ôl-16 a rhoi eu dysgwyr yn gyntaf bob tro. 

Os hoffech gael rhagor o ysbrydoliaeth, mae llawer mwy i’w ddarllen ar gyfer eich sector yn Adroddiad Blynyddol 2020-21.

Crynodebau sector

Colegau addysg bellach

Dysgu yn y gwaith

Dysgu oedolion yn y gymuned

Addysg gychwynnol athrawon

Cymraeg i Oedolion

Gyrfaoedd

Dysgu yn y sector cyfiawnder

Category: Uncategorized


Beth fyddwn yn ei newid…

  • Bydd ffocws cryfach ar werthuso’r diwylliant diogelu. Bydd hyn yn cymryd blaenoriaeth dros ddarparu tystiolaeth yn unig o roi polisïau priodol ar waith
  •  Bydd arolygwyr yn edrych ar ymddygiad dysgwyr a staff a sut mae hyn yn helpu hyrwyddo diwylliant diogelu cryf 
  • Bydd arolygwyr yn siarad ag ystod ehangach o ddysgwyr sy’n cynrychioli gwahanol grwpiau, mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol, i gael eu barn ar drefniadau diogelu’r darparwr 
  • Bydd yr adroddiad arolygu’n cynnwys mwy o fanylion am ddiogelu, yn cynnwys disgrifio pryd mae arferion diogelu yn arbennig o gryf neu ble mae achosion pryder 
  • Mae diwylliant diogelu effeithiol yn dechrau ag arweinwyr, a byddwn yn myfyrio ar drefniadau diogelu pan fyddwn yn adrodd ar arweinyddiaeth a rheolaeth. 

Beth fydd yn aros yr un fath…

Byddwn:

  • yn dechrau pob arolygiad trwy edrych ar hunanwerthusiad y darparwr o’i drefniadau diogelu 
  • yn ystyried gwybodaeth o’r holiaduron cyn-arolygiad gan staff, rhieni, dysgwyr a llywodraethwyr 
  • yn ystyried y trefniadau ar gyfer nodi a chynorthwyo plant mewn angen neu sydd mewn perygl o niwed sylweddol, a ph’un a yw pob un o’r staff yn gwybod beth i’w wneud ai peidio os bydd ganddynt bryderon am ddysgwr  
  • yn gwirio a yw pob un o’r staff wedi ymgymryd â lefel addas o hyfforddiant diogelu 
  • yn gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio, ac yn gwirio pa mor dda y mae darparwyr yn ymateb i unrhyw achosion honedig yn gysylltiedig â bwlio, yn eu cofnodi ac yn mynd i’r afael â nhw  
  • yn barnu pa mor dda y mae darparwr yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio a chamfanteisio
  • yn ystyried diogeledd cyffredinol yr adeiladau a’r safle, a sut mae arweinwyr yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o risgiau i les disgyblion 
  • yn gwirio gweithdrefnau’r darparwr i sicrhau addasrwydd staff a phobl eraill sydd mewn cysylltiad â dysgwyr 
  • yn parhau i gyfeirio unrhyw bryderon ynghylch diogelu at ein swyddogion diogelu mewnol 
  • yn parhau i gyflwyno llythyr lles i ddarparwr os oes pryderon sylweddol ynghylch agwedd ar iechyd a diogelwch neu ddiogelu.  

Bydd pob aelod o’r tîm arolygu’n casglu gwybodaeth i gefnogi’r farn ar ddiwylliant diogelu’r ysgol. Bydd diogelu’n cael ei drafod yn ystod pob cyfarfod tîm. 

Y camau nesaf

Yng ngwanwyn 2022, byddwn yn peilota’r trefniadau arolygu drafft newydd mewn ystod o wahanol ysgolion ac UCDau ledled Cymru. Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau o’r gwaith hwn i gwblhau’r fframwaith newydd. 

Mae Liz Counsell yn AEM sy’n arbengio mewn addysg gynradd, annibynnol ac awdurdodau lleol. Mae’n swyddog diogelu arweiniol hefyd. Mae wedi gweithio yn y byd addysg ers dros 35 mlynedd, a bu gynt yn bennaeth mewn tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd. Pan na fydd yn arolygu, bydd hi’n gwylio Dinas Caerdydd neu’n chwarae tennis. 

Diogelu ac arolygu

Ym mhob rhan o’n gwaith, rhown ddiogelu plant a phobl ifanc a’u lles uwchlaw’r holl anghenion a buddiannau eraill. 

Rydym wedi gweithio’n agos gydag arolygiaethau eraill ar ein ‘Harolygiad Ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant’, i beilota ffordd newydd ar y cyd o werthuso diogelu mewn ardal awdurdod lleol.

Hefyd, yn ddiweddar, cyhoeddom adroddiad ‘‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon” Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn edrych ar achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu amddiffyn a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Yn yr adnoddau ategol a gyhoeddom gyda’r adroddiad, mae dolenni at ganllawiau a gwaith ymchwil defnyddiol i gefnogi diwylliant effeithiol o ddiogelu. Dogfen arweiniad allweddol yw Cadw dysgwyr yn ddiogel gan Lywodraeth Cymru.

Mae dyletswyddau statudol gan yr holl ddarparwyr addysg, yn cynnwys ysgolion a cholegau annibynnol, i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Yn ystod ein harolygiadau, mae gennym rôl bwysig mewn gwerthuso trefniadau diogelu darparwr. 

Mae ein dull arolygu newydd yn sicrhau bod arolygwyr yn darganfod pa mor dda y mae staff a llywodraethwyr yn hyrwyddo diwylliant diogelu cryf yn eu cymuned, a pha mor dda y maent yn deall ac yn hyrwyddo dulliau diogelu’r ysgol.  

Category: Uncategorized


Nod rhannu’r canfyddiadau a’r profiadau hyn yw helpu datblygu athrawon ac arweinwyr ysgol i fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar eu dulliau wrth iddynt ddatblygu’u Cwricwlwm i Gymru.

I gael cipolwg pellach i’n hadroddiad thematig, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gweler ein blog diweddaraf ar flog Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru.

Category: Uncategorized


Beth rydym ni’n ei wneud yn ystod arolygiad

Rydym yn cymryd y materion hyn o ddifrif, a daw hyn i’r amlwg ym mhob agwedd ar ein gwaith. Wrth arolygu ysgolion, byddwn yn edrych yn ofalus ac yn sensitif ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, fel yr amlinellir yn ein dogfen arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’

Rydym yn arolygu pa mor dda y mae gwahanol grwpiau o ddisgyblion yn gwneud cynnydd ar draws yr ysgol trwy ddarganfod a yw disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn saff, ac yn rhydd rhag cam-drin corfforol a geiriol. Rhaid i ddisgyblion deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u trin yn deg, mae ein harolygwyr yn edrych ar ba mor dda y mae disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus. Rydym yn ystyried sut mae’r ysgol yn datblygu ei chwricwlwm i adlewyrchu natur ddiwylliannol, ieithyddol ac amrywiol Cymru a’r byd ehangach. Wedyn, mae ein harolygwyr yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn cynllunio ar gyfer addysgu disgyblion am hanes a phrofiadau cymunedau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDTC+ ac ar gyfer disgyblion â nodweddion gwarchodedig eraill.

Yn ystod ein harolygiadau, rydym yn adolygu pa mor dda y mae’r ysgol yn mynd i’r afael â bwlio, yn cynnwys digwyddiadau yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig, bwlio yn gysylltiedig â rhagfarn, aflonyddu a gwahaniaethu. Hefyd, rydym yn edrych ar drefniadau’r ysgol i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio. Rydym yn ystyried barn disgyblion trwy holiadur cyn-arolygiad a thrwy siarad â nhw yn ystod wythnos yr arolygiad, gofyn cwestiynau penodol ynghylch teimlo’n ddiogel ac achosion o fwlio. Hefyd, rydym wedi creu arweiniad defnyddiol ar arolygu cydraddoldeb, hawliau dynol a Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae hyn yn darparu mwy o gwestiynau ar gyfer arolygwyr, y gall arweinwyr eu defnyddio hefyd i werthuso a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu hysgolion.
 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn y meysydd hyn. 

Adroddiadau thematig

Rydym yn casglu gwybodaeth ac yn adrodd ar faterion cydraddoldeb yn ein hadroddiadau thematig. Rydym wedi cyhoeddi llawer o adroddiadau thematig dros y blynyddoedd sy’n cwmpasu testunau yn gysylltiedig â chydraddoldeb. Mae ein hadroddiadau diweddar yn cynnwys Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, Dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd.

Mae ein hadroddiadau’n amlygu meysydd y mae angen eu gwella ac arfer dda ym mhob agwedd ar gydraddoldeb. Er enghraifft, amlygodd ein hadroddiad ‘Gweithredu ar Fwlio’ enghreifftiau o arfer dda, a gwnaeth argymhellion ynghylch bwlio o ran y nodweddion gwarchodedig. Cyhoeddir arfer effeithiol yn rheolaidd ar ein gwefan

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn golygu bod rhaid i ysgolion roi ystyriaeth briodol i’r angen i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da ar sail nodweddion gwarchodedig fel hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Hefyd, mae ystod o ddyletswyddau penodol y dylai ysgolion yng Nghymru eu cwmpasu i helpu eu dyletswydd gyffredinol a chynorthwyo tryloywder.

Felly, beth allwch chi ei wneud i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth?

Os ydych chi’n ysgol neu’n ddarparwr addysg arall, gwnewch yn siŵr fod eich dysgwyr yn cydnabod ac yn parchu ystod eang yr amrywiaeth yng Nghymru a’r byd ehangach. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn eich sefydliad yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal (nid ‘yr un fath’). Defnyddiwch ein fframweithiau arolygu a’n hadroddiadau thematig i gael cymorth. 

Category: Uncategorized


Ymdrin â’r Cwricwlwm i Gymru

Ers cyhoeddi’r Cwricwlwm i Gymru 2022, mae’r proffesiwn addysgu ledled Cymru wedi cael cyfle i fyfyrio ar ei arfer bresennol ac ystyried sut gallai newid wrth gyflwyno cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion. Darparwyd rhagor o arweiniad i gefnogi ysgolion yn nogfen Llywodraeth Cymru, Y Daith i 2022.

Er bod ysgolion wedi wynebu amser heriol yn ystod pandemig COVID-19, yn gynyddol, mae ysgolion rydym ni’n siarad â nhw yn dechrau ailystyried eu cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn hefyd wedi cynnwys ystyried beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r cyfnod hwn y byddant efallai am ei ddatblygu ymhellach, er enghraifft defnyddio platfformau digidol. 

Nid ydym yn eiriol ymagwedd benodol at gynllunio neu gyflwyno’r cwricwlwm. Fodd bynnag, trwy arolygu a gwaith thematig, rydym yn gallu casglu a dwyn ynghyd amrywiaeth o ymagweddau sy’n dod i’r amlwg a welwn ledled Cymru.

Ym Mai 2018, cyhoeddom adroddiad thematig yn edrych ar Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd.

Mae’r adroddiad hwn yn darparu man cychwyn defnyddiol. Gallech ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn i weld ble mae eich ysgol ar daith y cwricwlwm neu archwilio’r dolenni i astudiaethau achos penodol.  

Lluniom adroddiad tebyg ar gyfer ysgolion uwchradd, pob oed ac arbennig ym mis Tachwedd 2020, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Cynhaliwyd ein holl ymweliadau ar gyfer yr adroddiad hwn cyn y pandemig. Roedd yn dda gweld pa mor gadarnhaol roedd staff am y cyfleoedd mae’r Cwricwlwm i Gymru’n eu darparu. Croesawodd staff y rhyddid i ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm wedi’i bersonoli ar gyfer eu dysgwyr a chawsant eu hysbrydoli gan y dull hwn.

Beth sy’n gweithio’n dda?

Yn ddiweddar, cynhaliom y cyntaf mewn cyfres o weminarau sy’n edrych ar yr adroddiad hwn yn fanwl. Ar y cyfan, mae ein hymgysylltiad ag ysgolion yn dangos bod arweinwyr a’u staff yn parhau’n frwdfrydig am y cyfleoedd mae’r Cwricwlwm i Gymru’n eu cyflwyno.  

Lle y mae cynlluniau sy’n dod i’r amlwg yn gweithio’n dda:

  • mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad clir i’r Cwricwlwm i Gymru a dealltwriaeth glir ohono 
  • mae ysgolion yn datblygu gweledigaeth gadarn, uchelgeisiol ar gyfer eu cwricwlwm, dysgu ac addysgu, a deilliannau i ddisgyblion 
  • mae ysgolion yn canolbwyntio ar wella dysgu ac addysgu, gan ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r agwedd ‘sut’ ar addysgu 
  • mae uwch arweinwyr yn annog staff i gymryd risgiau ystyriol i wella dylunio a chynllunio’r cwricwlwm; pan fydd hyn yn gweithio’n arbennig o dda, mae’r dull yn hyblyg ar draws disgyblaethau neu feysydd dysgu a phrofiad 
  • caiff cydweithredu rhwng ysgolion, er enghraifft rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, ei ddefnyddio’n effeithiol i ddeall sut olwg sydd ar ddilyniant disgyblion o 3 i 16 oed 

Sicrhau llwyddiant

Ond beth yw rhai o’r rhwystrau y mae angen eu goresgyn i sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru’n cael ei weithredu’n llwyddiannus?

  • Dod o hyd i amser i feddwl yn strategol 
  • Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i sicrhau bod yr holl staff yn deall proses ddylunio’r cwricwlwm 
  • Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y cwriwlwm ac addysgeg
  • Datblygu gweithio cryfach mewn partneriaeth rhwng ysgolion 

Y camau nesaf – Gwyliwch ein gweminar gyntaf a chofrestrwch ar gyfer ein gweminarau yn y dyfodol

Nod rhannu’r cryfderau hyn yw eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar eich arfer bresennol ac ystyried ‘sut gallwn i wneud pethau’n wahanol’.

Os gwnaethoch chi fethu’r weminar gyntaf, gallwch weld y recordiad ohoni yma.

Bydd y ddwy weminar nesaf yn edrych yn fanylach ar y themâu yn yr adroddiad hwn, a bydd ysgolion yn rhannu sut maent wedi mynd i’r afael â’u datblygiadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd manylion pellach am y rhain yn cael eu trafod yn ein cyfres o weminarau ar y Cwricwlwm i Gymru, felly cadwch eich lle nawr!

  • 7 Medi: Datblygu gweledigaeth ar gyfer addysgu 
  • 15 Rhagfyr: Treialu a gwerthuso profiadau dysgu dilys

Category: Uncategorized


Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector trwy fynychu cyfarfodydd a fforymau allweddol, a chyfarfod â chyrff eraill fel Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) i werthuso ystod lawn y safbwyntiau, a’r farn o fewn y sector. 

Bydd y gweithgareddau hyn yn dylanwadu ar ein dull a’n gweithgarwch arolygu o fewn y fframwaith arolygu GALlL presennol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Hefyd, byddwn yn parhau i drafod ac ystyried p’un a oes rhesymeg ac angen am fframwaith arolygu gwaith ieuenctid sy’n benodol i sector, ac yn sicrhau bod y sector yn cael ei gynnwys yn llawn mewn unrhyw ddatblygiadau o’r fath.