Article details

Gareth Kiff, HMI
By Gareth Kiff, HMI
Postiadau blog |

Arolygu Gwerth Gwaith Ieuenctid

Share this page

Yn y blog diwethaf ‘Deall gwerth gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid’, fe drafodom ein hadroddiad thematig diweddar ar hyfforddiant gwaith ieuenctid.

Edrychom ni ar gyfraniad gweithwyr ieuenctid yn ystod y pandemig, ac amgyffrediadau o sectorau eraill tuag at werth gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid.

Ond sut bydd ein harolygwyr yn adlewyrchu ystod y gwaith sy’n cael ei wneud gan weithwyr ieuenctid? Gadewch i ni edrych…

Yn ystod ein fforwm rhanddeiliaid gwasanaethau gwaith ieuenctid diweddar, roedd yn bleser gennym groesawu amrywiaeth eang o sefydliadau o’r sectorau statudol a gwirfoddol i drafod ein cynlluniau arolygu yn y dyfodol. 

Ar hyn o bryd, rydym yn arolygu gwasanaethau gwaith ieuenctid fel rhan o’n harolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Mae’r arolygiadau hyn yn cwmpasu gwasanaeth ieuenctid yr awdurdod lleol a’r trefniadau partneriaeth sy’n cael eu harwain gan yr awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid (GCI).

Mae polisi cenedlaethol a’r ymdrech i wella gwasanaethau a bod yn fwy cost effeithiol yn golygu bod awdurdodau lleol yn gweithio’n gynyddol mewn partneriaeth ac yn integreiddio gwasanaethau. Hefyd, ceir cyfeiriadau penodol at wasanaethau cymorth ieuenctid yn fframwaith arolygu’r GALlL sy’n cwmpasu safonau a chynnydd yn gyffredinol, cymorth i ddysgwyr bregus; gwasanaethau cymorth addysg eraill a diogelu. Felly, mae’r arweiniad arolygu yn galluogi arolygwyr i graffu ar ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys y rhai y mae cyrff gwirfoddol yn ymgymryd â nhw, lle bo’n briodol.

Roedd nod y fforwm rhanddeiliaid yn rhan o’n gwaith ymgysylltu parhaus a helaeth â’r sector. Rydym ni eisiau sefydlu opsiynau posibl ar gyfer arolygu gwaith ieuenctid mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r datblygiadau diweddar a thebygol o fewn y sector yn y dyfodol. Roedd yr adborth gwerthfawr yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

  • Mae angen i’n dull arolygu adlewyrchu’r gwahanol ffyrdd y caiff gwaith ieuenctid ei drefnu a’i gyflwyno ar draws awdurdodau lleol 
  • Mae angen gwerthuso gweithio mewn partneriaeth, a dylid amlygu rôl bwysig y sector gwirfoddol yn glir 
  • Dylai arolygu adlewyrchu natur y ddarpariaeth, a chynnwys arsylwadau o sesiynau rhithwir a chorfforol, lle bo modd, yn ogystal ag ystod arferol y gweithgarwch arolygu 
  • Dylai gweithgarwch arolygu gynnwys gwaith ieuenctid mynediad agored, yn ogystal â’r gweithgareddau gwaith ieuenctid targedig 
  • Dylai arolygiadau ganolbwyntio ar ddeilliannau, ond ni ddylent gael eu gyrru’n ormodol gan ddata, o ystyried ei fod, yn aml, yn llai hawdd mesur deilliannau mewn gwaith ieuenctid nag ydyw mewn ysgolion / colegau.
  • Dylai arolygu ganolbwyntio ar bobl ifanc
  • Yn unol â sectorau eraill, dylai timau arolygu sy’n canolbwyntio ar waith ieuenctid gynnwys arolygwyr cymheiriaid

Yn y fforwm, fe drafodom hefyd pa mor bwysig yw’r cysylltiadau rhwng y cwricwlwm newydd a’r egwyddorion gwaith ieuenctid (fel yr amlygir yn y blog blaenorol) a sut i gofnodi effaith hydredol gwaith ieuenctid ar bobl ifanc. 

Mynegodd rhanddeiliaid wahanol safbwyntiau ynghylch p’un ai arolygu o fewn y fframwaith GALlL neu arolygiadau gwaith ieuenctid ar eu pennau eu hunain oedd y ffordd ymlaen. Fodd bynnag, croesawodd y rhan fwyaf ohonynt y cynllun i roi mwy o bwyslais ar arolygu gwaith ieuenctid yn y dyfodol. 
 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector trwy fynychu cyfarfodydd a fforymau allweddol, a chyfarfod â chyrff eraill fel Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) i werthuso ystod lawn y safbwyntiau, a’r farn o fewn y sector. 

Bydd y gweithgareddau hyn yn dylanwadu ar ein dull a’n gweithgarwch arolygu o fewn y fframwaith arolygu GALlL presennol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Hefyd, byddwn yn parhau i drafod ac ystyried p’un a oes rhesymeg ac angen am fframwaith arolygu gwaith ieuenctid sy’n benodol i sector, ac yn sicrhau bod y sector yn cael ei gynnwys yn llawn mewn unrhyw ddatblygiadau o’r fath. 

pdf, 1.98 MB Added 20/10/2020

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.