Erthyglau newyddion |

Mae’n rhaid i les barhau i fod yn flaenoriaeth meddai’r Prif Arolygydd wrth iddi gydnabod gwydnwch addysgwyr

Share this page

Mae ymarferwyr mewn ysgolion, colegau a lleoliadau ledled Cymru yn dangos gwydnwch a dyfalbarhad rhyfeddol yn ystod y pandemig, yn ôl y Prif Arolygydd addysg a hyfforddiant yn ei Hadroddiad Blynyddol 2020−21 a gyhoeddir heddiw. Mae arweinwyr, athrawon – addysgwyr i gyd – wedi bod yn hyblyg a chreadigol, gan addasu’n barhaus mewn ffyrdd arloesol. 

Dywed Claire Morgan, y Prif Arolygydd,

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn arall, ac mae pawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant wedi ymateb i’r heriau unwaith eto. 

Ni ellir pwysleisio effaith lles dysgwyr, staff ac arweinwyr ar addysg ddigon. Mae parhau i roi blaenoriaeth i’w lles yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru ddal ati i ddysgu.

Mae’r pandemig wedi gwneud i bawb feddwl o’r newydd am lawer o agweddau ar addysgu, darpariaeth a lles ar gyfer y presennol a’r dyfodol – gwella dysgu digidol, cryfhau cysylltiadau gyda chymunedau a rhieni, a gwerthuso cynnydd dysgwyr dros gyfnod. 

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gipio a nodi ein dysgu a’n dealltwriaeth gyfunol ac yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol.
 

Gwnaeth llawer o ddarparwyr benderfyniadau anodd yn ystod y pandemig a fydd yn eu helpu yn y dyfodol. Yn benodol, mae’r Adroddiad Blynyddol yn pwysleisio bod angen i ysgolion ddefnyddio’r un feddylfryd a roddodd yr egni iddynt feddwl o’r newydd am addysgu a dysgu, wrth iddynt gynllunio a pharatoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. 

Ond mae’r Prif Arolygydd yn dweud hefyd fod angen monitro rhai meysydd yn fanwl ar gyfer effeithiau tymor hwy. Bydd angen cymorth parhaus ar gyfer cynnydd dysgwyr mewn meysydd fel eu hannibyniaeth, a’u medrau cyfathrebu a medrau cymdeithasol. Amlygir medrau Cymraeg disgyblion fel pryder posibl hefyd, yn ogystal â heriau wrth asesu mewn ysgolion uwchradd, colegau AB a dysgu yn y gwaith.

Mae Ysgol Gyfun Y Strade, Sir Gaerfyrddin, yn un o’r cameos y mae’r adroddiad yn ei rannu o arfer ddiddorol a ddangoswyd gan ddarparwyr yn ystod y pandemig. Ychwanegodd ‘Botwm Becso’ at ei gwefan i ddisgyblion ei ddefnyddio unrhyw awr o’r dydd neu’r nos i roi gwybod am eu pryderon neu ofidiau. Mae’r wybodaeth yn gyfrinachol ac mae’n mynd yn syth at y pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am les, sydd wedyn yn cysylltu â’r disgybl ac yn penderfynu ar y ffordd orau i’w helpu.

Dywed Claire Morgan, PAEM, i gloi,

Ni ddylem danamcangyfrifi effaith y pandemig parhaus ar ein hathrawon ac addysgwyr eraill. Wrth i ni nesáu at dymor newydd ac wrth i mi drosglwyddo’r awenau i Brif Arolygydd newydd, byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau arolygu yn hyblyg ac yn cefnogi adnewyddu a diwygio.