Teimlodd dysgwyr ôl-16 effaith y pandemig mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar beth roeddent yn ei astudio neu’n hyfforddi ynddo. Roedd hyn hefyd yn golygu bod deilliannau’n amlwg yn wahanol ar draws grwpiau o ddysgwyr.
Er enghraifft, parhaodd rhai prentisiaethau, ond cafodd rhai eraill eu heffeithio gan ffyrlo a diswyddiadau. Ac yn aml, symudodd dysgu oedolion, gan gynnwys Cymraeg i oedolion, ar-lein yn hytrach na’i gynnal mewn lleoliadau cymunedol.
Rhannodd dysgwyr eu pryderon â ni am asesiadau diwedd cwrs a symud i’r cam nesaf yn eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu gwaith.
Nodom rwystredigaeth hefyd oherwydd newidiadau ac oedi mewn trefniadau asesu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol - gan ddwysáu teimladau bod diffyg cydraddoldeb o hyd o gymharu â chymwysterau academaidd.
Yn y sectorau addysg bellach a dysgu yn y gwaith, roedd asesu at ddiben cymwysterau ac achredu yn flaenoriaeth o hyd. Ond roedd heriau’n bodoli, yn enwedig lle’r roedd angen i ddysgwyr ymgymryd ag asesiadau ymarferol.
Profodd gweithwyr ieuenctid eu bod yn amhrisiadwy. Gwnaeth eu set eang ac ymaddasol o fedrau gyfraniad hanfodol i fywydau pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Darlun bras yn unig o rai o’r prif faterion yn y sectorau ôl-16 yw hyn. Darllenwch fwy yn yr adroddiad blynyddol llawn.
Ychwanegu sylw newydd