Mae wedi dod i’r amlwg bod y Ganolfan Les yn hyb hanfodol ar gyfer ymestyn ymgysylltu â’r gymuned a hyrwyddo lles cyffredinol disgyblion, rhieni a staff. Ymhlith ei gweithgareddau amrywiol, mae grŵp cyn-diagnosis rhieni a phlant bach ‘Little Rainbows’ yn cefnogi teuluoedd â phlant ifanc sy’n wynebu heriau datblygiadol. Mae hyn yn darparu gofod hanfodol i rieni rannu profiadau, cael gwybodaeth a manteisio ar adnoddau ymyrraeth gynnar.
Mae hyfforddiant a gweithdai wedi’u trefnu gan y Ganolfan Les yn chwarae rôl bwysig mewn arfogi rhieni â’r offer sydd eu hangen arnynt i ymdopi â’r cymhlethdodau wrth fagu plant ag anghenion penodol neu gymhleth. Mae’r sesiynau hyn yn cwmpasu ystod o destunau, o gynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd, mynd i’r toiled a chysgu, a rheoli ymddygiad. Mae’r sesiynau hyn yn darparu arweiniad ymarferol gyda’r nod o wella hyder a chymhwysedd rhieni.
Mae’r Ganolfan Les hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd addysgol i deuluoedd, sy’n anelu at eu grymuso â gwybodaeth a medrau. Er enghraifft, mae sesiynau’n canolbwyntio ar ddatblygu darllen, mathemateg, rhifedd a dysgu ar-lein.
Mae’r Ganolfan Les yn darparu ystod o gymorth ar gyfer disgyblion presennol, er enghraifft sesiynau trin gwallt, clybiau ar ôl yr ysgol a chyflwyno mentrau lles emosiynol.
Mae boreau coffi i rieni yn darparu fforwm hamddenol a gwerthfawr i rieni gyfarfod a rhannu eu profiadau. Mae anffurfioldeb y sesiynau hyn yn meithrin cyfathrebu agored ac yn galluogi rhieni i drafod heriau y gallent eu hwynebu, gan felly feithrin ymdeimlad cryf o gymuned.
Mae sesiynau lles staff yn rhan annatod o gynnal gweithlu cefnogol ac effeithiol, er enghraifft trwy gyfleoedd cymdeithasol dan arweiniad y Ganolfan Les a dathlu cyflawniadau staff.